Cais i ddatblygu parc paneli solar enfawr yn Sir Benfro
Y llynedd fe wnaeth parc solar cyntaf Cymru ddechrau cynhyrchu trydan ar stad Rhosygilwen yn Sir Benfro
Mae cwmni o'r Almaen wedi gwneud cais i ddatblygu parc paneli solar gwerth tua £20m yn Sir Benfro.
Petai cais Kronos Solar yn cael ei dderbyn, y parc yn Cosheston fydd un o'r rhai mwyaf o'i fath ym Mhrydain.
Fe fydd y safle 25 hectar yn cynhyrchu 13 megawat o drydan.
Dywedodd un o gyfarwyddwyr Kronos, Dr Alexander Arcache, wrth y BBC bod y safle yn West Farm "wedi ei ddewis yn ofalus."
"Mae'n bwysig bod pobl yn cefnogi ynni adnewyddol a'n bod ni'n lleddfu unrhyw ofnau".
Parc solar cyntafY llynedd fe wnaeth parc solar cyntaf Cymru ddechrau cynhyrchu trydan ar stad Rhosygilwen yn Sir Benfro.
Cafodd bron 10,000 o baneli solar eu mewnforio o'r Unol Daleithiau a'u gosod mewn 12 rhes ar gae chwe erw.
Mae Llywodraeth y DU wedi lleihau cymhorthdal i fuddsoddwyr mawr mewn ynni haul.
Penderfynodd Adran Ynni a Newid Hinsawdd y llywodraeth leihau'r cymhorthdal i ffermydd solar mawr o Awst 1 y llynedd.
Mae ffermydd dros 250 cilowat hyd at 5 megawat yn cael hawlio 8.5 ceiniog am bob cw/awr.
Yn achos cynlluniau rhwng 150 a 250 cw, y tâl yw 15c ac i rai rhwng 50 a 150 cw, 19c.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~51~RS~)

Pryder am gost newidiadau landlordiaid
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp