'Angen newidiadau radical i'r GIG'

Ysbyty Bronglais, Aberystwyth Mae nifer o brotestiadau yn gwrthwynebu newidiadau i ybytai fel Ysbyty Bronglais yn Aberystwyth wedi cael eu cynnal

Straeon Perthnasol

Mae rhai gwasanaethau iechyd mewn ysbytai yng Nghymru mewn peryg o "ddymchwel" os na fydd y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn derbyn newidiadau radical, yn ôl adroddiad.

Mae'r adroddiad yn awgrymu y gallai canoli arbenigwyr clinigol wella gwasanaethau mewn rhai achosion.

Mae'r adroddiad - Y Ddadl Dros Newid - gan Yr Athro Marcus Longley ar ran Cydffederasiwn y GIG yng Nghymru yn amlinellu pa wasanaethau allai cael eu canoli er lles arbenigedd ac effeithiolrwydd.

Bydd Byrddau Iechyd Lleol yn lansio eu cynlluniau unigol yn ddiweddarach ym mis Mai.

Mae rheolwyr o dan bwysau i beidio â gwario mwy na'u cyllidebau ond mae ymgyrchwyr yn poeni na allai rhai ysbytai fod yn ddichonadwy.

'Darparu gwell gofal'

Yr wythnos diwethaf adroddodd BBC Cymru fod Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r ddadl i ganoli gwasanaethau iechyd a'u bod yn paratoi ymgyrch cyhoeddusrwydd i amddiffyn y newidiadau yn wyneb gwrthwynebiad gan y cyhoedd a rhai staff iechyd.

Cafodd yr ymchwil gan Yr Athro Longley, cyfarwyddwr Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg, ei gomisiynu gan Gydffederasiwn y GIG yng Nghymru, sy'n cynrychioli byrddau iechyd lleol.

Dywed yr adroddiad: "Mae'r ddadl yn eithaf cryf y dylai rhai gwasanaethau dwys mewn ysbytai gael eu hailstrwythuro yng Nghymru fel ardaloedd eraill yn y DU...ond gallai ysbytai Cymru ddarparu gwell gofal mewn rhai meysydd gan leihau'r peryg o anabledd diangen neu hyd yn oed marwolaeth.

"Ond mae'r pwysau ar staff meddygol allweddol mewn nifer bychan o feysydd mor fawr mae'n debygol mae rhai gwasanaethau yn debygol o ddymchwel."

Mae'r ymchwil yn amlygu prinder o feddygon iau a meddygon gradd canolog ac mae'n dangos y gallai canoli meysydd fel gwasanaethau brys ostwng cyfradd marwolaethau.

Y Ddadl Dros Newid

Comisynodd Byrddau Iechyd Lleol Athrofa Iechyd a Gofal Cymdeithasol Cymru ym Mhrifysgol Morgannwg i lunio Dadl Dros Newid o ran y GIG. Canfu'r ymchwil:

  • Mae cyfraddau marwolaeth yn dilyn llawdriniaeth cyffredinol, trawma ac orthopaedig, meddygaeth cyffredinol, a gwasanaethau strôc, yn uwch yng Nghymru na Lloegr.
  • Fel yn Lloegr, mae cleifion yn fwy agored i beryg pan maent yn cael eu derbyn i'r ysbyty dros y Sul.
  • Mae 'na dystiolaeth fod canoli llawdriniaeth frys yn newid y gyfradd mawrwolaethau i fod yn debyg i'r cyfartaledd ar gyfer Lloegr.
  • Mae'r gyfradd marwolaethau ar gyfer trawiad y galon, strôc a thrawma difrifol yn gostwng pan mae gwasanaethau yn cael eu canoli.
  • Mae 'r broblem o ddenu meddygon iau a chanolig yn "her ddifrifol i wasanaethau clinigol cynnaliadwy".
  • Mae canlyniadau yn gwella'n arwyddocaol pan y mae cleifion yn derbyn y triniaeth a gofal cywir o fewn yr "awr aur" wedi iddynt gael eu hanafu neu ddechrau bod yn sâl.

Mae'r adroddiad yn awgrymu y bydd llai o unedau obstetreg ac unedau pediatrig ar gyfer cleifion preswyl yn y dyfodol.

Yn ôl yr adroddiad gallai gwasanaethau trawma wella cyfraddau goroesi.

Mae byrddau iechyd yn debygol o amlinellu eu cynlluniau i'r cyhoedd yn ddiweddarach ym mis Mai.

Bydd ymgynghoriad ffurfiol yn digwydd dros yr haf a disgwylir i gynlluniau terfynol gael eu cymeradwyo a'u gweithredu erbyn mis Awst.

Cabinet

Mae grwpiau ymgyrchu eisoes wedi protestio gan honni y bydd eu hysbytai lleol yn cael eu hisraddio.

Maen nhw'n dweud y byddai symud gwasanaethau damweiniau ac achosion brys i drefi eraill yn peryglu bywydau pobl.

Dywed crynodeb gan Weinidog Iechyd Llywodraeth Cymru, Lesley Griffiths, fod yn rhaid i GIG Cymru "newid i sicrhau ei bod yn parhau i wella gan fod yn un o'r gwasanaethau iechyd gorau yn y byd".

Cafodd yr adroddiad ei gyflwyno i'r cabinet a'i gefnogi gan Brif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, ym mis Mawrth eleni.

Ond dywedodd nad oedd ysbytai dan fygythiad o gau wedi iddo gael ei herio ynghylch cynlluniau'r llywodraeth yn y Senedd yr wythnos diwethaf.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi wynebu gwrthwynebiad i'r posibilrwydd o newid wrth i brotestwyr ymgyrchu ar garreg ddrws y Senedd ym Mae Caerdydd.

Yn ôl arolwg barn YouGov gafodd ei gomisiynu gan Gydffederasiwn y GIG yng Nghymru yn ddiweddar, dywedodd bron i 60% o'r rheiny a ofynnwyd eu bod yn gwrthwynebu canoli gwasanaethau mewn llai o ysbytai fyddai'n fwy o faint.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.