Wrecsam 2-1 Luton
Roedd siom arall i Andy Morrel er gwaethaf ei gôl hwyr
Wrecsam 2-1 Luton
Digon di-fflach oedd perfformiad Wrecsam yn y cymal cyntaf yn Luton nos Wener, a doedd fawr o welliant yn yr hanner cyntaf ar y Cae Ras brynhawn Llun.
Gyda Wrecsam 2-0 ar ei hôl hi wedi'r cymal cyntaf, roedd angen iddyn nhw sgorio gyntaf er mwyn rhoi pwysau ar yr ymwelwyr.
Ond i Luton y daeth y gôl gyntaf - trosedd gan Mark Creighton ar Alex Lawless yn arwain at gic o'r smotyn i Luton, a George Pilkington yn sgorio.
Wedi hynny fe ddechreuodd Wrecsam wneud yr hyn ddylai fod wedi digwydd o'r gic gyntaf. Daeth cyfres o giciau cornel wrth i'r Dreigiau bwyso'n ddi-baid ar gôl Luton yn ail chwarter y gêm.
Ond doedd dim yn tycio cyn yr egwyl, ac fe wnaeth y rheolwr Andy Morrell sawl newid yn yr ail gyfnod i geisio newid pethau.
Newid awyrgylchAm gyfnod wedyn doedd dim newid, ond fe newidiodd yr awyrgylch yn llwyr wedi 63 munud pan sgoriodd Wrecsam.
Roedd y gôl yn un fler, ac wedi peth dyfalu, Adrian Cieslewicz gafodd y clod.
Roedd y gôl yn sicr yn sbardun i Wrecsam, ac am gyfnod roedd gôl yr ymwelwyr dan warchae. Ond roedd angen dwy arall ar Wrecsam i orfodi amser ychwanegol.
Roedd drama i ddod!
Deuddeg munud oedd yn weddill pan sgoriodd y chwaraewr-reolwr Andy Morrell un arall i Wrecsam. 2-1 ar y diwrnod, ac er bod Luton yn dal ar y blaen o 3-2 dros y ddau gymal, dim ond un tîm oedd yn bygwth bellach.
Collodd Wrecsam yn yr un cyfnod y tymor diwethaf - hynny hefyd yn erbyn Luton - a siom arall oedd yna i gefnogwyr y Dreigiau ddydd Llun.
Roedd y Dreigiau wedi gadael mynydd rhy uchel i'w ddringo yn yr ail hanner, ac fe orffennodd hi'n 2-1 ar y diwrnod, gyda Luton yn ennill o 3-2 dros y ddau gymal.
Roedd y siom cymaint yn fwy y tro hwn gan i Wrecsam orffen ymhell ar y blaen i'r gweddill yn yr ail safle yn Uwchgynghrair Blue Square Bet.
Ond yn wahanol i bob adran arall, dim ond un tîm sy'n esgyn yn awtomatig i fewn i'r Cynghrair Bêl-droed, a Fleetwood gipiodd yr un lle yna.
Luton fydd yn mynd ymlaen i Wembley felly, ac yn wynebu Efrog yn y rownd derfynol.
Dyma fydd ail ymddangosiad Efrog yn Wembley y tymor hwn - fe fyddan nhw'n herio Casnewydd yn rownd derfynol Tlws yr FA ddydd Sadwrn nesaf, Mai 12.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~06~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp