Opik: Angen arweinydd newydd

Nick Clegg Clegg: 'Noson anodd'

Dywed y cyn AS Lembit Opik na ddylai Nick Clegg barhau fel dirprwy brif Weinidog ac yn arweinydd ar ei blaid, y Democratiaid Rhyddfrydol.

Roedd Mr Opik, wnaeth golli ei sedd yn Sir Drefaldwyn yn yr etholiad cyffredinol, yn siarad ar raglen Radio Wales Sunday Supplement.

Dywedodd bod yn rhaid gwahanu'r ddwy swydd, ac y dylid ethol rhywun arall yn arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol.

Disgrifiodd perfformiad y blaid yn yr etholiadau lleol ddydd Iau diwethaf fel 'trychinebus'.

"Rydym angen arweinydd sy'n gwyro i'r chwith."

Ychwanegodd fod angen datrys y "broblem" cyn yr etholiad nesaf.

Cyn yr etholiadau lleol ddydd Iau roedd clymbleidiau dan arweinyddiaeth y Democratiaid Rhyddfrydol yn rheoli cynghorau Caerdydd, Abertawe a Wrecsam.

Ond Llafur sydd nawr yn rheoli Caerdydd ac Abertawe, a nhw yw'r blaid fwyaf ar Gyngor Wrecsam.

Dywedodd Mr Clegg fod nos Iau wedi bod yn noson anodd i'w blaid

"Mae'n amlwg fod Llafur wedi cael noson dda .

"Ond rwy'n credu dros gyfnod o amser mi fydd pobl yn cydnabod ein rôl arbennig yn y llywodraeth.

"Y ni yw'r unig blaid yng ngwleidyddiaeth Prydain sy'n cyfuno cyfrifoldeb am yr economi gyda chyfiawnder cymdeithasol. "

Mwy Am y Stori Hon

ETHOLIAD 2012

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.