Plaid Cymru dair sedd yn brin o reolaeth lawn o Geredigion
Ceredigion
Roedd canlyniad cynta'r canolbarth, yng Ngheredigion, yn newyddion drwg i'r Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.
Yn wahanol i weddill Cymru, doedd dim enillion i'r Blaid Lafur ond mae gan aelodau Annibynnol dair sedd ychwanegol.
Ond collodd cyn-arweinydd Annibynnol yr awdurdod, Keith Evans, ei sedd.
Collodd Plaid Cymru un sedd, a'r Democratiaid Rhyddfrydol ddwy gyda Llafur yn cadw eu sedd.
Mae'r canlyniad yn golygu bod Plaid Cymru dair sedd yn brin o sicrhau mwyafrif:
Canlyniad Ceredigion
Plaid Cymru - 19
Annibynnol - 15
Democratiaid Rhyddfrydol - 7
Llafur - 1
PowysBydd trafodaeth ynglŷn â phwy fydd yn rheoli Powys wedi canlyniadau'r etholiadau lleol.
Er bod yr Annibynnwyr wedi cipio 49 o 73 sedd mae'r grŵp yn cynnwys Cynghrair Powys a Phlaid Annibynnol y Siroedd.
Enillodd y Ceidwadwyr 10 sedd, un yn fwy na 2008.
Cafodd y Democratiaid Rhyddfrydol noson wael, gan ennill wyth sedd, dair yn llai na 2008.
Cipiodd y Blaid Lafur chwe sedd, un yn fwy na phedair blynedd yn ôl:
- Annibynwyr - 49
- Ceidwadwyr - 10
- Democratiaid Rhyddfrydol - 8
- Llafur - 6
~RS~q~RS~~RS~z~RS~30~RS~)

ASau yn trafod y mesur priodas
Llys: 'April erioed wedi bod yn y tŷ'
Ysbrydoliaeth
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg?
Tipyn o gamp