Llafur yn cryfhau yng Nghastell-nedd
Mae Llafur wedi cipio rheolaeth dinas Abertawe.
Roedd y ddinas yn arfer cael ei rhedeg gan glymblaid dan arweniad y Democratiaid Rhyddfrydol.
Cryfhaodd pleidlais Llafur yng Nghastell-nedd Port Talbot wrth ddal eu gafael ar y cyngor yno.
Enillodd Llafur 52 o'r 64 o seddau yn erbyn y Democratiaid Rhyddfrydol a Phlaid Cymru.
Collodd y Democratiaid Rhyddfrydol eu tair sedd ac fe gollodd Plaid Cymru dair o'r 11 oedd ganddyn nhw.
Dywedodd llefarydd ar ran y Democratiaid Rhyddfrydol yng Nghymru wrth y BBC "ei bod yn edrych yn ddu iawn ymhob man i ni".
Canlyniad Castell-nedd Port TalbotLlafur - 52
Plaid Cymru - 8
Annibynnol - 3
Democratiaid Cymdeithasol 1
AbertaweMae Llafur wedi ennill rheolaeth o'r cyngor a'r canlyniad yn ergyd i'r Democratiaid Rhyddfrydol. Fe wnaeth Llafur gipio 49 ward o'i gymharu a'u cyfanswm blaenorol o 26.
Llafur - 49
Democratiaid Rhyddfrydol - 12
Ceidwadwyr - 4
Sir BenfroCynghorwyr Annibynnol enillodd y nifer fwyaf o seddi yn Sir Benfro wedi i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi brynhawn Gwener:
- Annibynnol- 33
- Llafur - 9
- Plaid Cymru - 5
- Ceidwadwyr - 3
- Democratiaid Rhyddfrydol -1
- Gweddill- 9
Cryfhaodd pleidlais Llafur yn Sir Gaerfyrddin wrth iddyn nhw gynyddu nifer eu seddi o 10 yn 2008 i 23.
Roedd clymblaid rhwng y Blaid Lafur a chynghorwyr Annibynnol yn 2008 yn rheoli'r cyngor sir a bydd trafodaethau'n dechrau i benderfynu pwy fydd yn rheoli'r awdurdod lleol.
Dywedodd Peter Hughes-Griffiths ar ran Plaid Cymru eu bod am drafod gyda'r cynghorwyr Annibynnol a Llafur i geisio trefnu clymblaid fyddai'n "adlewyrchu dymuniadau'r etholwyr".
Cipiodd cynghorwyr Annibynnol 22 sedd, chwech yn llai na phedair blynedd yn ôl.
Er hynny, Plaid Cymru sydd â'r nifer fwyaf o seddi, 28:
- Plaid Cymru - 28
- Cynghorwyr Annibynnol - 22
- Llafur - 23
- Eraill - 1
~RS~q~RS~~RS~z~RS~55~RS~)

Disgwyl cyhoeddi cynlluniau iechyd
Llys yn clywed am gefndir diffynnydd
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith
Cân y babis