Rhybuddion tywydd wedi glaw a gwynt

Mae gwyntoedd cryfion a glaw trwm wedi achosi trafferthion i yrwyr ar draws rhannau o dde Cymru gyda llifogydd yn effeithio ar rai ffyrdd.

Mae Gwylwyr y Glannau yn gwirio angorfeydd cychod yn Dale, Sir Benfro, wedi adroddiadau bod un cwch wedi torri'n rhydd mewn tywydd garw.

Yn Nhrefforest ger Pontypridd mae un lôn o'r A470 i'r gogledd ar gau oherwydd llifogydd ger yr A4054.

Mae rhybudd melyn am law trwm wedi ei gyhoeddi ar draws de a dwyrain Cymru.

Mae disgwyl gwyntoedd i hyrddio ar tua 50 m.y.a. yn ogystal.

Dros nos mae disgwyl i'r cawodydd a gwyntoedd ostegu, ond ar gyfer dydd Iau mae rhagolygon am gawodydd trwm gyda chenllysg a tharanau mewn mannau.

Mae Trafnidiaeth Cymru yn dweud bod cyfyngu ar gyflymder ar bontydd oherwydd gwyntoedd cryfion.

Hefyd mae amodau gyrru yng Nghaerdydd - ar yr A470 ger cyfnewidfa Coryton - yn anodd oherwydd glaw ar y ffordd.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.