Etholiad: Ynni gwynt ar agenda pobl Powys

Protestwyr yn erbyn y cynlluniau ynni yn y canolbarth Mae'r gwrthwynebiad i'r cynlluniau yn yr ardal yn amlwg

Yn y chweched o saith erthygl am rai o awdurdodau allweddol yr etholiadau lleol ar Fai 3, Craig Duggan sy'n bwrw golwg ar fater sy'n bwysig i etholwyr ym Mhowys.

Fel trwy'r wlad, mae swyddi a'r economi yn faterion etholiadol ym Mhowys. Mae ad-drefnu addysg yn destun trafod poeth hefyd.

Ond un mater sydd wedi cael y prif sylw uwchlaw popeth yn ystod y misoedd yn arwain at yr etholiadau lleol - ynni gwynt a'r isadeiledd cysylltiedig.

Mae'n bwnc sydd wedi mynnu cryn dipyn o amser y cyngor sir, a hynny er nad y cyngor sydd a'r hawl ym mhob achos i wneud penderfyniadau terfynol yn y maes.

A hefyd er nad yw'n effeithio'n fawr ar hanner y sir - yn wahanol i siroedd Trefaldwyn a Maesyfed, dyw Sir Frycheiniog ddim yn cynnwys ardal sy wedi'i chlustnodi ar gyfer datblygu ynni gwynt.

Ychydig dros flwyddyn yn ôl, bach iawn o son oedd ym Mhowys ynglŷn ag ynni gwynt.

Ond ym mis Mawrth 2001 cyhoeddodd y Grid Cenedlaethol ei fod yn ystyried dau safle yn Sir Drefaldwyn ar gyfer gorsaf bŵer newydd - Cefn Coch ar ucheldir ger Llanfair Caereinion neu Aber-miwl yn Nyffryn Hafren ger Y Drenewydd.

Baneri a phosteri
Un o'r posteri sydd i'w weld ar ochr strydoedd yn y canolbarth Mae nifer o bosteri ac arwyddion o gwmpas yr ardal

Ers hynny mae'r mater wedi tyfu'n bwnc llosg ac mae disgwyl i'r Grid Cenedlaethol gyhoeddi pa un o'r ddau safle maen nhw'n ei ffafrio ym mis Mai - ar ôl yr etholiadau.

Nawr, mae'n anodd gyrru'n bell yn y sir heb weld baneri a phosteri yn datgan gwrthwynebiad i'r 'cynlluniau ynni'.

Bydd yr orsaf bŵer, fydd yn llenwi 19 erw o dir, yn trosglwyddo pŵer o ffermydd gwynt ac ymlaen i'r grid.

Bydd angen rhwydwaith o beilonau i gario'r pŵer ac mae 'na bosibilrwydd y bydd cannoedd yn rhagor o drybini gwynt yn cael eu hychwanegu at y cannoedd sydd eisoes ar fryniau Powys.

Mae'r gofid ynglŷn ag effaith y rhain ar y tirwedd ac ar y diwydiant twristiaeth yn y canolbarth wedi ysgogi ymgyrchu brwd gan garfan sylweddol.

Prin yw'r lleisiau o blaid datblygu ynni gwynt yn y sir - ond mae rhai ymhlith y cyhoedd yn gyffredinol ac o fewn y cyngor sir.

Camau anarferol

Eu dadl nhw yw bod angen 'ynni glan' er mwyn lleihau'r defnydd o garbon, ac y byddai datblygu mwy o ffermydd gwynt yn cynyddu'r cyfleoedd i greu swyddi newydd i bobl leol.

Ond o bell, lleisiau'r gwrthwynebwyr yw'r mwyaf croch, ac mae ei hymgyrchu wedi targedu cynghorwyr ers y dechrau.

Mae protestwyr wedi lobio tu allan i Neuadd y Sir yn Llandrindod yn ogystal â chynnal protest o 1,500 tu allan i'r Senedd ym Mae Caerdydd.

Mae cynghorwyr Powys wedi ymateb i'r diddordeb cyhoeddus trwy gymryd camau anarferol.

Cafwyd cyfarfod o'r cyngor llawn ym mart Y Trallwng haf 2011 er mwyn caniatáu cynulleidfa gyhoeddus - roedd 1,500 yn bresennol.

Mae cyfarfodydd diweddar yn Llandrindod wedi cael eu darlledu'n fyw ar y we.

Ceisiadau cynllunio

Yn y cyfarfodydd hyn mae'r cynghorwyr wedi cymeradwyo cynigion yn son am yr effaith ddwys y byddai datblygiadau ynni gwynt yn eu cael ar 'gymeriad, tirwedd a chymunedau Powys'.

Ac mae'r cynghorwyr wedi galw ar Lywodraeth Cymru i adolygu TAN 8 - y nodyn cyngor sy'n clustnodi dwy ran o Bowys fel ardaloedd lle gellir datblygu ynni adnewyddol.

Wedyn, ym mis Mawrth eleni, gwrthwynebodd Cyngor Powys dri chais cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt.

Gwrthododd y Pwyllgor Cynllunio gais am 11 tyrbin ar Waun Garno ger Llanidloes, wythnos yn ddiweddarach cafodd dau gais mwy eu gwrthwynebu gan Gabinet y Cyngor: fferm wynt 17 tyrbin ger Llanbadarn Fynydd yn Sir Faesyfed a 50 tyrbin ar fynydd Carnedd Wen ger Llanbrynmair.

Gan fod potensial gan y ddwy olaf i gynhyrchu dros 50 megawat o drydan, mae'r gair olaf yn nwylo'r Adran Ynni a Newid Hinsawdd yn Llundain - ond mae argymhelliad Cyngor Powys i'w gwrthod yn glir.

Ac nid rhain oedd yr olaf, mae gan Gyngor Powys bedwar cais arall i'w hystyried cyn mis Medi a'u trosglwyddo i'r adran ynni am y gair olaf.

Felly, bydd ynni gwynt yn mynd a chryn amser y cynghorwyr newydd ym Mhowys ar ôl yr etholiadau, fel cynt.

Mwy Am y Stori Hon

ETHOLIAD 2012

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.