Dim gwrthwynebiad i 93 ymgeisydd
Mae mwy na 90 o ymgeiswyr yn yr etholiadau lleol ym mis Mai yn sefyll yn ddiwrthwynebiad yn ôl dadansoddiad o niferoedd ymgeiswyr.
Mae rhai ymgeiswyr eisoes wedi eu cadarnhau cyn diwrnod y bleidlais ar Fai 3.
Bydd cynghorwyr yn cael eu hethol mewn 1,200 o seddi mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol yng Nghymru.
Nid oes etholiad ar Ynys Môn lle mae Llywodraeth Cymru wedi penodi comisiynwyr i redeg y cyngor wedi blynyddoedd o frwydro gwleidyddol mewnol.
Mae dadansoddiad gan y Press Association yn dangos y bydd 93 o ymgeiswyr yn cael eu hethol yn ddiwrthwynebiad: 22 i Blaid Cymru, 18 i Lafur, 16 i'r Ceidwadwyr, 6 Democrat Rhyddfrydol a 31 arall.
Roedd gan y boblogaeth tan nos Fawrth i ymuno â'r gofrestr etholiadol.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~54~RS~)

Addysg: 'llai o awdurdodau lleol'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?