Etholiad 2012: Democratiaid Rhyddfrydol wedi 'cyflawni mewn llywodraeth leol'

Kirsty Williams Mae arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, wedi lansio'r maniffesto yng Nghaerdydd

Mae'r Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi ceisio tynnu sylw at eu record mewn llywodraeth leol wrth lansio eu hymgyrch etholiadau lleol.

Dywedodd y blaid eu bod wedi llwyddo yn y siroedd lle maen nhw'n rheoli.

Mae'r blaid yn gobeithio dal eu gafael ar gynghorau Caerdydd, Abertawe a Wrecsam pan fydd yr etholiad ar Fai 3.

Ond mae gostyngiad mawr wedi bod yn nifer ymgeiswyr y blaid o'i gymharu â'r etholiadau lleol bedair blynedd yn ôl, 25% yn llai nag yn 2008.

Fe fydd yn ceisio amddiffyn tua 140 o seddi yn yr etholiad mewn 21 o'r 22 awdurdod lleol.

Does 'na ddim etholiad yn Ynys Môn gan fod yr etholiadau yno wedi eu gohirio am flwyddyn. Mae'r cyngor yn cael ei redeg gan gomisiynwyr.

Mae eu maniffesto yn sôn am "genedl o gymunedau", gan alw am fwy o rym o Lywodraeth Cymru i awdurdodau lleol.

Ar ei hennill

Lansiodd arweinydd Democratiaid Rhyddfrydol Cymru, Kirsty Williams, y maniffesto yng Nghaerdydd ddydd Llun.

Yn ôl y blaid roedd ei hymweliad â chanolfan siopa Dewi Sant yn arwydd o sut mae economi'r ddinas ar ei hennill dan gyngor y mae'r Democratiaid Rhyddfrydol yn ei reoli.

Dywedodd Ms Williams ei bod hi'n hynod falch o record y blaid mewn awdurdodau lleol.

"Mae Democratiaid Rhyddfrydol Cymru yn gwybod ei bod hi'n adeg anodd.

"Mae cyllideb y teulu o dan bwysau a dyna pam, wrth ddarparu gwasanaethau o'r radd flaenaf, mae cynghorau o dan arweiniad Democratiaid Rhyddfrydol Cymru wedi cadw treth gyngor yn isel yn gyson."

Tynnodd sylw at gytundeb ei phlaid gyda Llywodraeth Cymru y llynedd sy'n darparu £450 ychwanegol ar gyfer pob plentyn sy'n cael prydau bwyd ysgol am ddim.

Mwy Am y Stori Hon

ETHOLIAD 2012

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.