Fleetwood 1-1 Wrecsam

Clwb Pêl-droed Wrecsam

Teithiodd Wrecsam i wynebu Fleetwood nos Fawrth, y tîm ar frig Uwchgynghriair Blue Square.

Fe wnaeth yr ymwelwyr sicrhau nad yw Fleetwood yn dathlu dyrchafiad i'r Gynghrair eto ar ôl gêm gyffrous rhwng y ddau sydd ar y brig.

Wrecsam aeth ar y blaen wedi i Jack Speight daro ergyd 15 llath llai na 10 munud ar ôl dechrau'r ail hanner.

Ond buan iawn y daeth y tîm cartref yn gyfartal wrth i amddiffynnwr Wrecsam, Marc Creighton, ergydio peniad Gareth Seddon i gefn y rhwyd.

Roedd Wrecsam i lawr i 10 dyn ar ôl i Joe Clarke gael dau gerdyn melyn.

Dyma oedd 28ain gêm Fleetwood heb golli.

Gallai Fleetwood ennill y gynghrair ac ennill dyrchafiad nos Wener yn erbyn Lincoln.

Dyma fyddai'r tro cyntaf i Fleetwood chwarae yn y gynghrair.

Canlyniad:

Fleetwood 1-1 Wrecsam

TABL UWCHGYNGHRAIR BLUE SQUARE BET

Gemau Gwahaniaeth Goliau Pwyntiau

1. Fleetwood

43

+58

102

2. WRECSAM

42

+49

91

3. Mansfield

43

+32

80

4. Caerefrog

42

+33

73

5. Kidderminster

43

+18

73

-----------------------------------------------------------------------------------------

18. Stockport

43

-19

44

19. CASNEWYDD

41

-10

42

20. Telford

42

-17

42

21. Hayes

43

-30

38

22. Kettering

43

-53

32

23. Darlington

42

-26

31

24.Caerfaddon

43

-47

27

Ebrill 10 2012

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.