Etholiad: Her i'n hawdurdodau lleol
Fe fydd pobl Cymru, ac eithrio etholwyr Ynys Môn, yn dewis eu cynghorwyr lleol, mewn etholiadau ar Fai 3.
Dyma'ch cyfle chi i ddweud pwy ydach chi eisiau i redeg eich gwasanaethau lleol, o addysg i hamdden.
Ers 12pm ddydd Mawrth mae cynghorau Cymru wedi cyhoeddi enwau pawb fydd yn ymgeisio.
Ond faint ohonon ni sy'n gwybod pa fath o her fydd yn wynebu'r rhai sy'n ennill?
Mewn cyfnod o gynni ariannol, pa fath o wasanaethau y bydd hi'n rhaid i gynghorwyr dorri, neu warchod?
Carl Roberts sy'n bwrw golwg ar yr ymgyrch, a'r her sy'n wynebu ein hawdurdodau lleol.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~41~RS~)
