Cameron yn ymosod ar record Llafur yng Nghymru

David Cameron Roedd David Cameron yn ymgyrchu yng Nghymru ddydd Iau

Mae'r Prif Weinidog, David Cameron, wedi ymosod ar record Llafur ym meysydd addysg ac iechyd yng Nghymru.

Roedd yn ymgyrchu yng Nghymru ar gyfer yr etholiadau lleol ym mis Mai.

Yng Nghaerdydd dywedodd wrth BBC Cymru ei fod, serch hynny, yn "parchu" Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, a Llywodraeth Cymru.

"Ond dwi ddim yn ymddiheuro am ddod i Gymru heddiw a dweud, yn achos addysg a gofal iechyd, mae yna beryg go iawn y bydd Cymru ar ei hôl hi.

'Agenda fwy radical'

"Nid yw'n rhan o'm swydd i ddod yma a dweud bod popeth yn iawn.

"Os byddaf yn gweld problem - ac mae yna broblem gyda chyrhaeddiad addysgiadol - dwi'n credu ei bod yn ddyletswydd arna i ddweud hynny ac annog gwleidyddion, gan gynnwys y Ceidwadwyr Cymreig, i wneud mwy ac i fod ag agenda fwy radical."

Dywedodd ei fod o blaid cyhoeddi tablau sy'n asesu perfformiad ysgolion a chynnal profion cyson.

Dyw tablau o'r fath ddim wedi eu cyhoeddi yng Nghymru ers 2001.

Y llynedd dechreuodd Llywodraeth Cymru asesu ysgolion mewn bandiau, a chyhoeddi'r canlyniadau.

Trydaneiddio

Dywedodd Mr Cameron fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig am trydaneiddio rheilffyrdd yng nghymoedd y de.

"Rhaid i ni benderfynu'r union gyllid a gweddill y manylion ond, heb os, mae hwn yn rhywbeth rydym am ei wneud."

Yn ogystal â thrydaneiddio Rheilffyrdd y Cymoedd mae Llywodraeth Cymru o blaid trydaneiddio lein y Great Western hyd at Abertawe.

Wrth ymateb i sylwadau Mr Cameron fe wnaeth Llafur feirniadu "obsesiwn y Torïaid gyda model ar gyfer y system addysg sydd wedi ei seilio ar gystadleuaeth a gelyniaeth".

Dywedodd Lynne Neagle, AC Llafur: "Yn wahanol i'r Torïaid yn Lloegr, mae Llafur Cymru wedi gweithio'n galed mewn llywodraeth gan gydweithio gydag athrawon i sicrhau newid llwyddiannus.

"Dyna pam nad oes yna dablau ysgolion. Dyna pam i ni gael gwared ar Sats a chyflwyno'r cyfnod sail a chreu cwricwlwm sy'n canolbwyntio ar sgiliau.

"Mae Llafur Cymru wedi parhau yn driw i'r model o addysg gyfun oherwydd ein bod yn rhoi cyfle teg i bob un o'n plant."

Yn yr etholiadau ar Fai 3 fe fydd y Ceidwadwyr yn amddiffyn 160 o seddi.

Bydd yna etholiadau mewn 21 o'r 22 cynghorau - gyda chyngor Ynys Môn yn cael ei ethol yn 2013.

Mwy Am y Stori Hon

ETHOLIAD 2012

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Catrin BeardAdolygiad y wasg a'r blogiau Cymraeg

    Dyfodol yr Eisteddfod Genedlaethol, enwau Americanwyr enwog o dras Gymreig a dysgu Cymraeg i oedolion yw rhai o'r pynciau dan sylw.


  • Coron Blaenau FfestiniogPrynu Coron Blaenau ar eBay

    Mae Coron a Chadair Eisteddfod Genedlaethol o Oes Fictoria yn ôl hefo'i gilydd ym Mlaenau Ffestiniog.


  • Dewi PwsGormod o Saesneg ar Radio Cymru?

    Mae Dewi Pws yn gwrthod cyfrannu at Radio Cymru nes bod polisi caneuon Saesneg yn cael ei newid.


  • banciau bwydArchesgob yn ymgyrchu

    Dr Barry Morgan ac esgobion yn ymuno ag ymgyrch y banciau bwyd wrth i ffigyrau ddangos bod dwywaith gymaint o bobl yn defnyddio banciau bwyd nag yn 2012-13.


Help / Cymorth

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.