Ward cyngor heb ymgeiswyr
Mae Arwel Pierce yn rhoi'r gorau i fod yn gynghorydd
Mae cyngor yn dweud bod un o'i wardiau heb ddenu unrhyw ymgeiswyr ar gyfer yr etholiadau lleol.
Daw hyn yn dilyn penderfyniad y cynghorydd annibynnol Arwel Pierce i beidio ag amddiffyn ei sedd yn ward Bryncrug/Llanfihangel yn ardal Meirionnydd, Gwynedd.
Cadarnhaodd y cyngor na dderbyniwyd unrhyw enwebiadau ar gyfer y ward ac y bydd isetholiad yn cael ei gynnal yn y man.
Mr Pierce oedd arweinydd y portffolio priffyrdd ar Gyngor Gwynedd.
Dywedodd llefarydd ar ran cyngor Gwynedd: "Daeth y cyfnod enwebu ar gyfer yr etholiadau lleol i ben am hanner dydd, 4 Ebrill.
"Gallwn gadarnhau na dderbyniwyd unrhyw enwebiadau ar gyfer ward Bryncrug / Llanfihangel.
"Yn unol â Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, bydd isetholiad yn cael ei gynnal yn y man i lenwi'r sedd wag."
Mae'r ward yn cynnwys ardal wledig yn ne-orllewin Eryri, gan gynnwys pentrefi Bryncrug, ger Tywyn, a Llanfihangel-y-Pennant wrth droed Cadair Idris.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~35~RS~)

Ynys Môn: Comisiynwyr yn gadael
MMR a gofal brys yn flaenoriaethau
Sioe myfyrwyr yn delio â dementia
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith