Arestio ar ôl damwain ffordd yng nghanol Caerdydd

Roedd y digwyddiad gerllaw'r orsaf ganolog ar bont Stryd Wood tua 7:00pm. Roedd y digwyddiad gerllaw'r orsaf ganolog ar bont Stryd Wood tua 7:00pm.

Mae gyrrwr tacsi wedi cael ei arestio ar ôl damwain ffordd yng nghanol Caerdydd.

Credir bod hyd at saith o bobl wedi eu hanafu yn y digwyddiad nos Lun.

Yn ôl yr heddlu, mae gan rai o'r bobl anafiadau difrifol wedi'r digwyddiad gerllaw Gorsaf Ganolog Caerdydd ar bont Stryd Wood tua 7pm.

Ychwanegodd yr heddlu nad yw eu bywydau yn y fantol.

Cafodd y bont ger Stadiwm y Mileniwm ei chau i draffig nos Lun wrth i'r heddlu gynnal ymchwiliad.

Roedd modd i gerddwyr basio heibio.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.