Carwyn: 'Angen rhedeg maes awyr yn iawn'
Teithiodd 13% yn llai o bobl o Faes Awyr Caerdydd y llynedd
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi dweud bod angen rhedeg Maes Awyr Caerdydd yn iawn neu ei werthu.
Dywedodd na fyddai am groesawu ymwelwyr i Gymru drwy'r maes awyr oherwydd yr argraff yr y safle'n ei chreu.
Roedd ei sylwadau wedi iddi ddod i'r amlwg bod nifer y rhai sy'n defnyddio'r maes awyr yn llai eto'r llynedd.
Dywedodd perchnogion y maes awyr - cwmni Abertis o Sbaen - eu bod am gydweithio gyda Llywodraeth Cymru.
Disgynnodd nifer y teithwyr ddefnyddiodd y maes awyr y llynedd o 13% i ychydig dros 1.2 miliwn.
Dros yr un cyfnod roedd cynnydd o 1% yn nifer y teithwyr aeth drwy Faes Awyr Bryste - i fyny i fwy na 5.7 miliwn.
StrategaethGofynnwyd i'r Prif Weinidog a fyddai Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi strategaeth diwydiant awyrennau yn ystod sesiwn holi Aelodau Cynulliad ddydd Mawrth.
Ei ateb oedd: "Rhaid i mi ddweud o ystyried cyflwr y maes awyr ar hyn o bryd, fyddwn i ddim am ddod â phobl drwy Faes Awyr Caerdydd oherwydd yr argraff y mae'n ei rhoi o Gymru.
“Start Quote
End Quote Peter Phillips Rhwydwaith Awyr CymruAllwch chi gymharu'r maes awyr nid â rhai dinesig fel Caeredin neu Belffast ond â maes awyr rhanbarthol fel Newquay neu Bournemouth. Mae hynny'n drist iawn”
"Mae'n rhywbeth sydd wedi cael ei ddweud wrthyf dro ar ôl tro gan deithwyr sydd wedi defnyddio'r lle.
"Rhaid dweud hefyd ei bod yn bryd i'r perchnogion redeg y maes awyr yn iawn neu ei werthu."
'Yn weithgar'Wrth roi tystiolaeth i Aelodau Cynulliad yr wythnos ddiwethaf, dywedodd y perchnogion eu bod yn "weithgar iawn" wrth farchnata i gwmnïau awyrennau yn y DU, Ewrop, yr Unol Daleithiau a gweddill y byd.
Mae'r maes awyr yn ateb tua 45% o'r galw am deithiau awyr o dde Cymru, gyda'r gweddill yn defnyddio meysydd awyr Bryste a Heathrow yn bennaf.
Ychwanegodd Abertis fod Bryste yn gwasanaethu "ardal fwy a mwy llewyrchus".
Dywedodd y cwmni hefyd y gallai trosglwyddo rheoli'r doll teithiau awyr i Lywodraeth Cymru leihau costau hedfan.
Ychwanegodd llefarydd ar ran y cwmni na fyddai gwell mynediad i'r maes awyr yn ddigon ynddo'i hun i helpu'r maes awyr i ddatblygu.
"Yn y pen draw," meddai, "rhwydwaith o deithiau a phrisiau cystadleuol sy'n caniatáu i faes awyr ddatblygu a thyfu, gyda'r holl fuddion ddaw o hynny."
Galwodd hefyd am "gefnogaeth bendant sy'n gysylltiedig â pholisïau economaidd a blaenoriaethau" er mwyn lleihau'r risg i gwmnïau sy'n ystyried trefnu teithiau o Gaerdydd.
'Trist iawn'Yn y cyfamser, dywedodd Peter Phillips, Cadeirydd Rhwydwaith Awyr Cymru a chyn bennaeth marchnata a chyfathrebu ym Maes Awyr Caerdydd, bod nifer y teithwyr yno wedi disgyn o bron 50% dros bedair blynedd.
Dywedodd: "Y dyddiau hyn allwch chi gymharu'r maes awyr nid â rhai dinesig fel Caeredin neu Belffast ond â maes awyr rhanbarthol fel Newquay neu Bournemouth. Mae hynny'n drist iawn."
Cytunodd gyda'r Prif Weinidog y dylai'r perchnogion werthu'r maes awyr os nad oedden nhw'n gallu buddsoddi yno.
"Mae Caerdydd ei hun yn un o'r lleoedd mwyaf cyffrous yn Ewrop gyda phroffil anferth.
"Dydw i ddim yn gweld Maes Awyr Caerdydd yn yr un gynghrair â'r ddinas y mae'n gwasanaethu. Mae'r un sydd yn yr un gynghrair dros y bont ym Mryste."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~03~RS~)

Llywodraeth o dan y lach
Bradley'n arwain y daith i Japan
Gwrthod cais
'Mi glywish i'r awyren yn dod lawr'
Achub Y Cyfnod