Cymeradwyo cyffur canser i Gymru
Mae abiraterone wedi dangos y gall ymestyn bywydau pobl o fwy na thri mis
Mae cyffur all ymestyn bywydau dynion gyda chanser y prostad am gymaint â thri mis wedi cael ei gymeradwyo i'w ddefnyddio yng Nghymru.
Mae'r Gweinidog Iechyd, Lesley Griffiths, wedi ategu penderfyniad Grŵp Meddyginiaethau Strategol Cymru Gyfan (AWMSG) i ganiatáu'r defnydd o'r cyffur abiraterone.
Cafodd y defnydd o'r cyffur ei wrthod am y tro gan NICE, sy'n penderfynnu pa gyffuriau sy'n cael eu defnyddio gan y Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr, er nad oes penderfyniad terfynol hyd yma.
Dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'n ystyried canllawiau terfynol NICE pan fyddan nhw'n cael eu cyhoeddi.
CyffredinCanser y prostad yw'r mwyaf cyffredin ymhlith dynion yn y DU gyda thua 37,000 o ddynion yn cael diagnosis o'r canser bob blwyddyn.
Mae 10,000 yn marw o'r clefyd yn flynyddol sy'n ei wneud yr ail achos mwyaf cyffredin o farwolaeth drwy ganser mewn dynion.
Dangosodd profion y gall abiraterone ymestyn bywydau dynion o hyd at dri mis. Mae'n costio ychydig llai na £3,000 am gyflenwad mis o'r cyffur, ond mae'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol wedi cael cynnig ei brynu am bris llawer llai.
Yn gynharach ym mis Chwefror, dywedodd NICE nad oedd y budd ddaw o'r cyffur yn cyfiawnhau'r gost o'i brynu, ond roedd hynny wedi gwylltio elusennau canser.
'Cam sylweddol'Wrth glywed am y penderfyniad yng Nghymru, dywedodd yr Athro John Wagstaff o adran oncoleg Coleg Meddygaeth Prifysgol Abertawe ei fod yn gam sylweddol ymlaen i gleifion yng Nghymru.
"Tan yn ddiweddar," meddai, "ychydig iawn o driniaethau sydd wedi bod ar gael i'r cleifion yma, felly mae argaeledd y cyffur yma yn mynd yn llawer agosach at ateb y galw pwysig.
"Bydd fy uned yn ceisio defnyddio'r cyffur yma i gleifion perthnasol cyn gynted â phosib."
Cadarnhaodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru bod AWMSG wedi cymeradwyo'r defnydd o abiraterone yng Nghymru, ond ychwanegodd:
"Rydym yn ymwybodol nad yw NICE eto wedi cyhoeddi ei ganllawiau terfynol, ac fe fyddwn yn ystyried y dystiolaeth pan fydd yn cael ei chyhoeddi."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~08~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp