Colli cyn bêl-droediwr rhyngwladol

Syd Thomas Enillodd Syd Thomas bedwar cap i Gymru

Straeon Perthnasol

Mae teyrngedau wedi eu rhoi i gyn chwaraewr pêl-droed rhyngwladol sydd wedi marw yn 92 oed.

Roedd Syd Thomas yn byw ym Machynlleth, lle cafodd ei eni a'i fagu.

Chwaraeodd i Fulham rhwng 1939 a 1950 ac enillodd bedwar cap i Gymru rhwng 1947 a 1948.

Cafodd rhai o'i atgofion eu cyhoeddi mewn llyfr gan yr hanesydd lleol, David Wyn Davies.

Dywedodd Mr Wyn Davies: "Roedd yn ddyn hynod ddymunol.

"Roedd yn eithaf anodd i gael manylion am ei fywyd pêl-droed allan ohono oherwydd roedd yn ddyn mor ddiymhongar".

Fe gafodd Syd ei eni yn 1919 ac arwyddodd i Fulham yn 1938 ar ôl i reolwr y clwb, Jack Peart, ei wylio yn chwarae gêm gartref i Fachynlleth.

Pencampwriaeth

Ond amharwyd ar ei yrfa fel pêl-droediwr oherwydd yr Ail Ryfel Byd.

Syd Thomas Bu'n rhaid i Mr Thomas ymddeol oherwydd y diciáu yn 1951

Ond ar ôl iddo adael yr Awyrlu ar ddiwedd y rhyfel chwaraeodd ei gêm gyntaf i Fulham yn 1946 a bu'n aelod o'r tîm enillodd bencampwriaeth yr ail adran yn 1948-49.

Arwyddodd Syd i Bristol City am £9,000 yn 1950, yr un tymor ag y chwalodd y Cymro, Trevor Ford, y record am daliad trosglwyddo ym Mhrydain - pan symudodd o Aston Villa i Sunderland am £30,000.

Enillodd ei gap cyntaf dros ei wlad yn erbyn Lloegr ym mis Hydref 1947.

Yn y gêm honno chwaraeodd yn erbyn rhai o'r blaenwyr mwyaf enwog fu'n chwarae i Loegr erioed, Stanley Matthews, Tommy Lawton, Stan Mortenson, Wilf Mannion, a Tom Finney.

Syr Stanley Matthews Chwaraeodd Syd Thomas yn erbyn Stanley Matthews
'Cyflym iawn'

Pan gafodd ei gofiant ei gyhoeddi ym mis Ebrill 2011, dywedodd mab Mr Thomas, Clive: "Mae fy nhad wedi dweud wrtha i i'r gêm yn erbyn Lloegr ym Mharc Ninian o flaen 60,000 fynd heibio mewn fflach a dyw e ddim yn cofio llawer am wynebu chwaraewyr fel Stanley Matthews a Billy Wright.

"Ond mae e wastad yn chwerthin pan mae pobl yn sôn am ddulliau ymarfer chwaraewyr modern.

"Mae fy nhad yn cofio mai'r unig ymarfer wnaeth tîm Cymru cyn y gêm yn erbyn Lloegr oedd loncian o amgylch eu gwesty ym Mhorthcawl.

"Does dim rhyfedd fod Cymru wedi colli 3-0.

"Er mai dim ond pum troedfedd a phum modfedd ydyw o ran taldra, yn ôl pob sôn, roedd e'n gyflym iawn ac rwy'n siŵr mai dyna un o'r rhesymau pam y cafodd ei ddewis i chwarae dros Gymru," meddai ei fab y llynedd.

Yn 1951 bu'n rhaid i Syd ymddeol o'r gêm oherwydd y diciáu.

Ar ôl gwella dychwelodd i Fachynlleth lle bu'n gweithio fel pobydd tan ei ymddeoliad yn 1987.

Bu farw yn gynharach y mis hwn ac roedd ei angladd ddydd Iau.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Marc Evans a Minnie DriverTalent yn cyffroi cyfarwyddwr

    Y cyfarwyddwr Marc Evans, sy'n sôn am y cyfoeth o dalent sydd ar gael yng Nghymru


  • Welsh flag with .wales and .cymruGam yn nes

    Hawl i bobl Cymru ddefnyddio Cymru neu Wales ar eu cyfeiriad rhyngrwyd gam yn nes.


  • Aled Lewis EvansHybu diddordeb

    Lansio prosiect newydd i hybu diddordeb plant yn y celfyddydau


  • Yr hofrenfad yn Sir FflintCynnig cymorth

    Tîm o wirfoddolwyr sy'n cynnal gwasanaeth hofrenfadau


Help / Cymorth

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.