Arestio wedi 'ystum' yn ystod gêm

Dyma'r tro cyntaf i'r ddau dîm gwrdd ers y digwyddiad hiliol rhwng Patrice Evra a Luis Suarez Dyma'r tro cyntaf i'r ddau dîm gwrdd ers y digwyddiad hiliol rhwng Patrice Evra a Luis Suarez

Straeon Perthnasol

Mae dyn 59 oed o Abermo, Gwynedd wedi ei arestio wedi honiadau iddo wneud 'ystum' hiliol yn ystod y gêm gwpan rhwng Lerpwl a Manchester United ddydd Sadwrn.

Mae ditectifs o uned arbenigol Heddlu Merseyside sy'n edrych ar droseddau yn ymwneud â hiliaeth a chasineb yn ymchwilio ar ôl i lun gael ei roi ar wefan gymdeithasol Twitter.

Lerpwl enillodd y gêm yn Anfield 2-1.

Roedd tensiynau yn uchel yn y stadiwm oherwydd yn gefnlen i'r gêm hon roedd y sylwadau hiliol wnaed gan Luis Suarez am amddiffynnwr United Patrice Evra yn ystod ymweliad United ag Anfield dri mis yn ôl.

Arweiniodd y digwyddiad hwnnw at Suarez yn cael ei wahardd am wyth gêm gan Gymdeithas Bêl-Droed Lloegr.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth am y digwyddiad honedig gysylltu â'r heddlu.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Marc Evans a Minnie DriverTalent yn cyffroi cyfarwyddwr

    Y cyfarwyddwr Marc Evans, sy'n sôn am y cyfoeth o dalent sydd ar gael yng Nghymru


  • Welsh flag with .wales and .cymruGam yn nes

    Hawl i bobl Cymru ddefnyddio Cymru neu Wales ar eu cyfeiriad rhyngrwyd gam yn nes.


  • Aled Lewis EvansHybu diddordeb

    Lansio prosiect newydd i hybu diddordeb plant yn y celfyddydau


  • Yr hofrenfad yn Sir FflintCynnig cymorth

    Tîm o wirfoddolwyr sy'n cynnal gwasanaeth hofrenfadau


Help / Cymorth

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.