Gareth Thomas yn drydydd yn Celebrity Big Brother
Fe aeth Gareth Thomas i mewn i dŷ Big Brother dair wythnos yn ôl
Fe ddaeth cyn gapten tîm rygbi Cymru, Gareth Thomas, yn drydydd ar ddiwedd y gyfres ddiweddaraf o Celebrity Big Brother, ar ôl bod yn rhan ohoni am dair wythnos.
Yr actores a'r gyflwynwraig Denise Welsh enillodd y gystadleuaeth.
Frankie Cocozza - un o gyn-gystadleuwyr yr X Factor - oedd yn ail.
Darlledwyd cyfres Celebrity Big Brother ar Channel 5.
Ymhlith y rhai oedd yn rhannu'r tŷ gyda Thomas yr oedd yr actor o Hollywood Michael Madsen, yr actores Natalie Cassidy, y canwr Andrew Stone a modelau Playboy yr efeilliaid Kristina a Karissa Shannon.
'Gwneud ffrindiau'Yno hefyd yr oedd chwaer-yng-nghyfraith y pêl-droediwr Ryan Giggs, Natasha Giggs.
Cyn mynd i'r tŷ dywedodd Thomas ei fod yn gystadleuol iawn ac y byddai'n "gwneud popeth er mwyn ennill".
Cyfaddefodd fod ganddo dymer ymfflamychol ond ei fod yn gobeithio gwneud ffrindiau yno mewn awyrgylch da.
Enillodd Thomas, 37 oed, 100 o gapiau dros Gymru.
Gadawodd 'Alfie', fel y mae'n cael ei adnabod, rygbi'r undeb am rygbi'r gynghrair dair blynedd yn ôl.
Ymddeolodd o'r gamp ym mis Hydref.
Yn 2009 cyhoeddodd ei fod yn hoyw.
Mae ei fywyd wedi ennyn sylw'r actor o Hollywood, Mickey Rouke, sy'n awyddus i chwarae Thomas mewn ffilm am ei fywyd.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~16~RS~)

Rhewi cyflogau llywodraeth leol
Carcharu dyn am fygwth yr heddlu
Talent yn cyffroi cyfarwyddwr
Gam yn nes
Hybu diddordeb
Cynnig cymorth