Cwpan LV

Cwpan LV

GWEILCH 26-21 DREIGIAU

Bu bron i ddiffyg disgyblaeth gostio'n ddrud i'r Gweilch yn eu gêm yn erbyn y Dreigiau yng Nghwpan LV nos Wener.

Sgoriodd y tîm cartref bedwar cais i ddau yr ymwelwyr, ond fe wnaethon nhw ildio pwyntiau o giciau cosb, ac fe dreuliodd un chwaraewr ddeng munud yn y cell cosb ar ôl gweld y cerdyn melyn.

Roedd hi'n gyfartal ar yr egwyl 14-14. Daeth dau gais yn yr hanner cyntaf i'r Gweilch - gan RossJones a Hanno Dirksen gyda Matthew Morgan yn trosi'r ddau - gyda chais Pat Leach a thair cic gosb gan Steffan Jones yn ateb gan y Dreigiau.

Llwyddodd y tîm cartref i fynd ymhellach ar y blaen yn fuan yn yr ail hanner gyda chais Eli Walker - Morgan yn ychwanegu dau arall eto.

Ond pan welodd Chauncey O'Toole gerdyn melyn, fe welodd y Dreigiau eu cyfle.

Er hynny daliodd y Gweilch eu gafael tan i O'Toole ddychwelyd ac yn wir fe ddaeth pedwerydd cais i Stefan Watermeyer i ymestyn y fantais.

Daeth cais i Luke Williams gyda Lewis Robling yn trosi yn y funud olaf i'r Dreigiau, ond does dim gobaith bron iddyn nhw aros yn y gystadleuaeth bellach.

Scarlets 27-19 Gwyddelod Llundain

Iongi yn sgorio cais yn y gornel dde Iongi yn sgorio cais yn y gornel dde

Fe wnaeth y Scarlets gadw eu gobeithion yn fyw o gyrraedd rownd gynderfynol Cwpan LV= gyda'u trydedd fuddugoliaeth yn olynol sy'n eu cadw ar frig eu grŵp.

Vili Iongi seliodd y fuddugoliaeth gyda'i ail gais ym munud ola'r gêm.

Roedd Deacon Manu eisoes wedi palu ei ffordd i'r llinell gais, gyda'r cefnwr Dan Newton yn trosi'r tri chais gan hefyd gicio dwy gic gosb.

Roedd y Gwyddelod yn gystadleuol iawn trwy'r 80 munud, diolch i gais unigolyddol Topsy Ojo ac 14 pwynt o droed Tom Homer.

Scarlets: Dan Newton, Viliami Iongi Nort,; Gareth Maule (c), Adam Warren, Andy Fenby, Aled Thomas, Rhodri Williams; Iestyn Thomas, Emyr Phillips , Peter Edwards, Adam Powell, Dominic Day, Mat Gilbert, Johnathan Edwards, Kieran Murphy

Gwyddelod Llundain: Tom Homer; Topsy Ojo, Jonathan Joseph, Steven Shingler, Marland Yarde, Daniel Bowden, Darren Allinson; Clarke Dermody (c), Brian Blaney, Paulica Ion, Nick Kennedy, Bryn Evans, Kieran Low, David Sisi, Richard Thorpe

Caerloyw 40-3 Gleision Caerdydd

Simpson-Daniel yn brwydro heibio tri o'r Gleision i sgorio ei gais cyntaf Simpson-Daniel yn brwydro heibio tri o'r Gleision i sgorio ei gais cyntaf

Fe wnaeth tîm ifanc y Gleision golli am y trydydd tro yn olynol yn y gystadleuaeth hon wrth i'r deiliaid brofi'n rhy gryf.

Sgoriodd James Simpson-Daniel ddau gais yn yr ail hanner, gyda Ryan Mills yn ychwanegu 15 pwynt o'i droed.

Fe wnaeth cais hwyr Andy Hazell bwysleisio goruchafiaeth Caerloyw, oedd wedi arwain 21-3 ar yr egwyl yn dilyn ceisiau Peter Buxton a Tim Molenaar.

Ben Blair, oedd yn chwarae am y tro cyntaf ers 15 mis, sgoriodd unig bwyntiau'r Gleision gyda chic gosb yn yr ail funud.

Caerloyw: Boyce; Simpson-Daniel, Molenaar, Fuimaono-Sapolu, Trinder; Mills, Lewis; Murphy, Cortese, Knight, James, Brown, Buxton, Hazell, Deacon.

Gleision: Blair; Mustoe, James, Allen, Czekaj, G. Davies, L. Jones, Yapp, Breeze, Hobbs, Hill, Cook, Navidi, Young, Hamilton.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.