Pryder am doriad o £3m i fysus

Bws Express motors Bydd y cymhorthdal ar draws Cymru yn cael ei gwtogi o £11m i £8m yn 2012/13

Straeon Perthnasol

Mae cwmnïau bysus a chynghorau ar draws Cymru wedi mynegi pryder wedi i Lywodraeth Cymru dorri'r cymhorthdal i drafnidiaeth leol o £3 miliwn.

Dywedod Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru bod y toriadau - o £11m i £8m - yn llawer llymach na'r disgwyl.

Dywed cwmnïau bysus y gallai'r newidiadau olygu bod teithiau sy'n cael eu defnyddio'n llai aml gael eu diddymu.

Dywedodd Llywodraeth Cymru bod y penderfyniad wedi ei wneud oherwydd cynlluniau gwario cyfyng ei chyllideb.

Rhy hwyr

Yn ôl Kevin Wyn Jones o gwmni Express Motor ym Mhenygroes, Gwynedd, mae'r toriad yn llawer mwy nag yr oedd wedi ei ddisgwyl, a hefyd ei fod wedi ei gyhoeddi'n rhy hwyr gan bod y cwmni eisoes wedi cynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf.

Rhybuddiodd mai'r gwasanaethau fyddai'n dioddef yw'r rhai lle mae'r cyngor yn cyfrannu tuag atynt fel teithiau gyda'r nos, neu deithiau sy'n gwasanaethu ardaloedd anghysbell mewn pentrefi cefn gwlad.

"Dyw cael gwared â un bws bob chwarter awr mewn tref ddim yn mynd i wneud gwahaniaeth mawr, ond pan mae gwasanaeth bob awr neu ddwy awr i bentref bychan yn diflannu, mae'n golygu llawer i bobl leol," meddai.

Rhybuddiodd hefyd y bydd yn debyg o olygu na fydd cwmnïau yn buddsoddi mewn technoleg megis amserlenni ar gyfer ffonau symudol.

25% ymhen tri mis

Daeth ymateb ar ran holl gynghorau Cymru gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.

Disgrifiodd y newid fel "siomedig" gan ychwanegu bod "y toriadau yn llymach na'r disgwyl ac mae awdurdodau lleol nawr yn rhybuddio y bydd yr effaith ar wasanaethau yn debyg o fod yn ddifrifol".

"Mae cwmnïau bysus a chynghorau yn Lloegr wedi cael 18 mis i baratoi am doriad o 20% gan ddechrau ym mis Ebrill.

"Bydd cynghorau Cymru yn gweld toriad o 25% gydag ond tri mis o rybudd."

'Dyfeisgar'

Dywedodd Llywodraeth Cymru eu bod yn deall y pryderon am y bydd llai o gymhorthdal ar gael.

Meddai llefarydd: "Mae'r gweinidog sydd â chyfrifoldeb am drafnidiaeth wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn yn yr holl raglenni trafnidiaeth er mwyn aros o fewn cynlluniau gwario llym iawn a amlinellwyd yng nghyllideb Llywodraeth Cymru.

"Byddwn yn annog cwmnïau bysus ac awdurdodau lleol i weithio'n agos gyda'i gilydd er mwyn lliniaru effaith unrhyw doriadau mewn gwasanaethau ar deithwyr, ac i chwilio am gynlluniau dyfeisgar er mwyn darparu gwasanaethau sy'n cwrdd â gofynion cymunedau lleol."

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.