Llawdriniaeth ar galon prop Cymru a'r Scarlets

Rhys Thomas Mae Thomas wedi ennill saith cap dros Gymru ers ei ymddangosiad cyntaf yn erbyn Ariannin yn 2006

Mae prop rhyngwladol Cymru, Rhys Thomas, wedi cael llawdriniaeth ar ei galon wedi iddo fynd yn sal wrth ymarfer gyda'i glwb, Y Scarlets.

Cludwyd y chwaraewr 29 oed i Ysbyty Treforys yn Abertawe fore Iau. Cafodd "lawdriniaeth lwyddiannus" ac mae mewn cyflwr cyffyrddus.

Enillodd Thomas ei seithfed cap i Gymru yn 2009 ar ôl ennill y cyntaf yn erbyn Ariannin yn 2006.

Dywedodd prif weithredwr y Scarlets, Mark Davies: "Mae'n meddyliau a'n dymuniadau gorau gyda Rhys, ei wraig Paula a'u teulu.

"Bydd y rhanbarth yn cadw mewn cysylltiad agos gyda'r timau meddygol yn Ysbyty Treforys, ond rydym yn deall ar hyn o bryd ei fod yn gyffyrddus ac yn gwneud yn dda.

"Rwy'n siwr y bydd y gymuned rygbi yng Nghymru gyfan yn ymuno â ni wrth ddymuno gwellhad buan i Rhys."

Ffeithiau Rhys Thomas

Rhys Thomas
  • Ganwyd: Gorffennaf 31 1982 yn Johannesburg
  • Safle: Prop pen tynn
  • Taldra: 6ft
  • Pwysau: 18st 12pwys
  • Capiau: 7
  • Clybiau: Casnewydd, Dreigiau, Scarlets
  • Oeddech chi'n gwybod?: Aeth Rhys i King Edward VII School yn Johannesburg gyda chwaraewyr De Affrica Joe van Niekerk a Bryan Habana

Aeth Thomas yn sal wrth ymarfer ym Mharc y Scarlets ddydd Iau, a chafodd driniaeth gan dîm meddygol y Scarlets cyn cael ei gludo i'r ysbyty mewn ambiwlans.

Cafodd ei eni yn Ne Affrica, ond dechreuodd ei yrfa broffesiynnol yng Nghymru gan ddechrau yng Nghasnewydd - cartref ei dad - yn 2003.

Ymunodd â'r Scarlets yn 2009 yn dilyn cyfnod llwyddiannus gyda'r Dreigiau.

Sgoriodd naw cais mewn 52 ymddangosiad i'r Scarlets gan gynnwys pedwar y tymor hwn, a'i gêm ddiwethaf o'r rhanbarth oedd y fuddugoliaeth o 16-14 yn erbyn Glasgow ar Ionawr 7 eleni.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.