Ymchwilio i lofruddiaeth wedi tân ym Mhentyrch, Caerdydd

Pentyrch Yr heddlu yn ymchwilio ym Mhentyrch, Caerdydd

Mae'r heddlu yn parhau i holi dyn 18 oed gafodd ei arestio ar amheuaeth o lofruddiaeth ar ôl i unigolyn farw mewn tŷ ym Mhentyrch, Caerdydd.

Dywed Heddlu De Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r tŷ yng Nghefn Bychan gan y gwasanaeth tân am 3.02am ddydd Gwener.

Mae ystafell ymchwilio wedi'i sefydlu yng ngorsaf Heddlu Canolog Caerdydd.

Dywed yr heddlu nad oed mwy o wybodaeth am yr unigolyn fu farw ar hyn o bryd.

Cafodd diffoddwyr eu galw o'r Eglwys Newydd a Phontypridd i ddiffodd y fflamau yn y byngalo yn y pentref am 2.37am ddydd Gwener.

Dylai unrhyw un â gwybodaeth ffonio'r heddlu ar 101 neu Taclo'r Tacle ar 0800 555 111.

More on This Story

The BBC is not responsible for the content of external Internet sites

Gwleidyddiaeth

Pigion

  • Marc Evans a Minnie DriverTalent yn cyffroi cyfarwyddwr

    Y cyfarwyddwr Marc Evans, sy'n sôn am y cyfoeth o dalent sydd ar gael yng Nghymru


  • Welsh flag with .wales and .cymruGam yn nes

    Hawl i bobl Cymru ddefnyddio Cymru neu Wales ar eu cyfeiriad rhyngrwyd gam yn nes.


  • Aled Lewis EvansHybu diddordeb

    Lansio prosiect newydd i hybu diddordeb plant yn y celfyddydau


  • Yr hofrenfad yn Sir FflintCynnig cymorth

    Tîm o wirfoddolwyr sy'n cynnal gwasanaeth hofrenfadau


Help / Cymorth

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.