Rhybudd ysgrifenedig i bum swyddog

heddlu Mae'r pum swyddog wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig

Straeon Perthnasol

Mae ymchwiliad gan Gomisiwn Cwynion Annibynnol yr Heddlu wedi darganfod bod pump o swyddogion wedi cyflawni troseddau disgyblu ar ôl peidio dilyn gorchymyn i roi'r gorau i erlid car.

Arweiniodd hynny at farwolaeth Lee Lewis oedd yn teithio yn y car hwnnw yn ardal Port Talbot bron i bedair blynedd yn ôl.

Mae'r pum swyddog wedi derbyn rhybudd ysgrifenedig.

Fe wnaeth y Comisiwn ymchwilio i farwolaeth Lee Lewis, 22 oed, ar ôl y ddamwain ym Mhort Talbot ar Fai 18, 2008.

Chwarter awr wedi i'r heddlu ei weld yn gyrru heb oleuadau fe darodd Mr Lewis yn erbyn wal ger Parc Margam.

Fe gafodd anafiadau difrifol i'w ben a bu farw yn yr ysbyty ar Fai 30.

'Camau sylweddol'

Dywedodd Heddlu'r De eu bod wedi cymryd "camau sylweddol" i sicrhau bod eu staff yn ymwybodol o ddisgwyliadau wrth erlid ceir.

Roedd Mr Lewis yn gyrru Ford Fiesta yr oedd wedi ei gymryd heb ganiatâd y perchennog.

Roedd y crwner Phillip Rogers wedi clywed nad oedd gan Mr Lewis drwydded yrru.

Dywedodd y comisiwn fod adroddiadau bod plismyn wedi gweld Mr Lewis yn gyrru Ford Fiesta Fusion arian heb oleuadau yn Heol Margam am 00.45am ar Fai 18.

Chwarter awr yn ddiweddarach fe darodd ei gar yn erbyn wal gerrig ar yr A48.

Ar ôl bod yn Ysbyty Tywysoges Cymru, Pen-y-bont, fe gafodd ei symud i Ysbyty Treforys, Abertawe lle bu farw.

Mwy Am y Stori Hon

Straeon Perthnasol

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

System lywio bbc.co.uk

BBC © 2012 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.