Mark Hughes yw'r olynydd i Neil Warnock yn QPR

Mark Hughes Mark Hughes yw'r rheolwr newydd

Daeth cadarnhad mai Mark Hughes, cyn reolwr tîm pêl-droed Cymru, fydd rheolwr newydd Queens Park Rangers.

Fe wnaeth Rangers, sydd heb ennill mewn wyth gêm, ddiswyddo eu rheolwr Neil Warnock ddydd Sul.

Mae Hughes wedi arwyddo cytundeb dwy flynedd a hanner i gymryd yr awenau.

Wrth dderbyn y swydd, dywedodd Hughes: "Rwy'n ymwybodol iawn o'r her yn y tymor byr a'r tymor hir, ond rwy'n gyffrous iawn am uchelgais y perchnogion.

GYRFA MARK HUGHES

  • Chwarae i Man Utd (ddwywaith), Chelsea, Everton, Barcelona, Bayern Munich, Blackburn, Southampton a Chymru
  • 163 o goliau mewn 606 o gemau clwb, ac 16 gôl mewn 72 gêm i Gymru
  • Rheolwr Cymru o 1999-2004
  • Rheolwr Blackburn 2004-2008
  • Rheolwr Man City 2008-2009
  • Rheolwr Fulham 2010-2011

"Y flaenoriaeth yw cadw'n lle yn yr Uwchgynghrair. Mae'r dyfodol yn ddisglair iawn yma."

Mae QPR yn 17eg yn yr Uwchgynghrair, a heb ennill gêm ers Tachwedd 19 pan enillon nhw o 3-2 yn Stoke.

Bydd yr her gyntaf i'r rheolwr newydd a'i dîm brynhawn Sul pan fydd QPR yn ymweld â Newcastle.

Cafodd QPR eu dyrchafu i'r uwchgynghrair y llynedd, ynghyd â Norwich ac Abertawe.

Mae Hughes yn gyn reolwr ar Blackburn Rovers, Manchester City a Fulham.

Fe ymddiswyddodd fel rheolwr Fulham ym Mehefin 2011 ar ôl llai nag 11 mis wrth y llyw yn Craven Cottage.

Mwy Am y Stori Hon

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.

Gwleidyddiaeth

Pigion

Help / Cymorth

BBC © 2013 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.