Cynnig cosb parcio yn Gymraeg
Dywed Dyfed Edwards ei fod yn falch fod y tocynnau cosb parcio ar gael yn y Gymraeg bellach
Mae arweinydd Cyngor Gwynedd, Dyfed Edwards, wedi croesawu cyhoeddiad cwmni parcio NCP y byddan nhw'n cynnig tocynnau cosb parcio yn Gymraeg o hyn ymlaen.
Fe wnaeth Mr Edwards wrthod talu dirwy am dros flwyddyn am ei fod wedi derbyn rhybudd uniaith Saesneg.
Fe dderbyniodd ddirwy ar ôl parcio yng ngorsaf drenau Bangor fis Tachwedd y llynedd.
Dywedodd ei fod nawr wedi derbyn llythyr yn dweud y bydd y cwmni yn cynnig gwasanaeth Cymraeg.
"Dwi'n awyddus i gwmnïau preifat, sy'n gweithredu yng Ngwynedd, i ddangos parch tuag at siaradwyr Cymraeg gan gynnig gwasanaeth dwyieithog i'w cwsmeriaid.
Blwyddyn gron"Dwi wedi derbyn cyfrifoldeb llwyr am y tocyn parcio wrth i mi ddal y trên yng Ngorsaf Drenau Bangor ar y 5 o Dachwedd 2010.
“Start Quote
End Quote Llefarydd ar ran NCPydym nawr wrthi'n cwblhau'r manylion terfynol ar feddalwedd fydd yn ein caniatáu i anfon hysbysiad o gosb yn y Gymraeg”
"Dwi'n teimlo'n gryf, fodd bynnag, y dylai'r hysbysiad fod wedi ei anfon atai'n Gymraeg neu'n ddwyieithog," meddai.
"Er ei bod hi wedi cymryd blwyddyn gron i'r achos hwn gael ei ddatrys, dwi'n hynod falch y bydd NCP, bellach, yn cynnig gwasanaeth Cymraeg i'w cwsmeriaid," ychwanegodd.
Yn ôl Mr Edwards, fe dderbyniodd lythyr yn nodi'r ddirwy.
Roedd y llythyr hefyd yn dweud fod modd cael yr hysbysiad o gosb mewn nifer o ieithoedd.
Roedd modd, meddai, gofyn am ohebiaeth mewn Pwyleg a Mandarin, ond nid y Gymraeg.
Mewn llythyr at Mr Edwards dywed cwmni NCP: "O ganlyniad i chi danlinellu'r mater hwn rydym nawr wrthi'n cwblhau'r manylion terfynol ar feddalwedd fydd yn ein caniatáu i anfon hysbysiad o gosb yn y Gymraeg."
Bydd rhybuddion sy'n cael eu dosbarthu ym meysydd parcio Trenau Arriva Cymru bellach yn nodi bod copïau o'r Rhybuddion Parcio'n Anghyfreithlon ar gael yn Gymraeg wrth holi amdanyn nhw.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~17~RS~)

Rhewi cyflogau llywodraeth leol
Carcharu dyn am fygwth yr heddlu
Talent yn cyffroi cyfarwyddwr
Gam yn nes
Hybu diddordeb
Cynnig cymorth