Tri wedi eu hanafu mewn pwll glo arall
Credir bod dros 230 o bobl yn gweithio yn Aberpergwm
Mae tri dyn wedi eu cludo i'r ysbyty yn dilyn digwyddiad mewn glofa yng Nglyn-nedd.
Credir fod to'r pwll glo wedi dymchwel.
Cafodd un dyn anafiadau i'w gefn yn y digwyddiad ym mhwll Aberpergwm nid nepell o lofa'r Gleision lle cafodd pedwar o lowyr eu lladd ym mis Medi.
Dywedodd Gwasanaeth Ambiwlans Canolbarth a De Cymru eu bod wedi cael eu galw i'r pwll am 3:06am fore Iau, a'u bod wedi cludo'r tri dyn i'r ysbyty.
Digwyddodd y cwymp rhyw dair neu bedair milltir o dan ddaear, ac fe gafodd y dynion eu tynnu o'r pwll gan ddefnyddio lifft arbennig.
Fe gymrodd hi awr i gael y dynion oddi yno.
Mae un o'r dynion wedi diodde' anaf i'w gefn, ac mae dau arall yn diodde' o sioc.
Mae archwilydd pyllau glo ar y safle ar hyn o bryd.
Yna ym mis Hydref cafodd y gwasanaethau brys eu galw i lofa Unity yng Nghwmgwrach i ryddhau gweithiwr.
Credir fod Aberpergwm yn cyflogi tua 230 o bobl.
Cafodd y lofa ei hagor yn y deunawfed ganrif.
Ar ei anterth yn y 1930au roedd yn cyflogi dros 1,500.
Fe gaeoedd yn 1985, ond cafodd ei ailagor gan gwmni preifat flwyddyn yn ddiweddarach.
Cwmni o America Walter Energy sy'n berchen ar y safle.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~33~RS~)

Ysbyty Morgannwg: Lansio ymgyrch
Dyn wedi ei ladd mewn ymosodiad 'terfysgol'
Llwyfan i dalent y sir
Guggenheim i Gymru?
Bradley'n arwain y daith
Cân y babis