Ymchwiliad seneddol: Sylw i gyn-filwyr
Bydd y gwasanaethau meddygol ac iechyd meddwl sydd ar gael yn cael eu hystyried gan yr ymchwiliad
Bydd ymchwiliad seneddol yn ystyried yr help sydd ar gael i'r 250,000 o gyn-aelodau'r lluoedd arfog.
Bydd Pwyllgor Materion Cymreig San Steffan yn trafod y gefnogaeth sydd ar gael i'r cyn-filwyr ac fe fyddan nhw'n gofyn a yw adrannau'r llywodraeth yn cyd-lynu eu gweithgaredd.
Dywedodd cadeirydd y pwyllgor, David Davies AS Mynwy, fod cyn-filwyr angen y gefnogaeth orau bosib pan maen nhw'n gadael y lluoedd arfog.
Bydd y gwasanaethau meddygol ac iechyd meddwl sydd ar gael hefyd yn cael eu hystyried gan yr ymchwiliad.
Rhaglen lywodraethuBydd Aelodau Seneddol yn derbyn tystiolaeth ynghylch y gwasanaethau cymorth sydd ar gael i gyn-aelodau'r lluoedd arfog a'u teuluoedd gan gynnwys y ddarpariaeth ar gyfer cyn staff milwrol i ailgyfanheddu.
Llywodraeth Cymru sy'n gyfrifol am rai o'r gwasanaethau fydd o dan y chwyddwydr.
Bydd y pwyllgor yn ystyried a yw Llywodraeth Cymru yn cyd-weithio â'r Weinyddiaeth Amddiffyn a'r Swyddfa Gymreig ac yn gofyn a yw'r gwasanaethau yng Nghymru a Lloegr yn cael eu gweithredu'n effeithiol.
Yn eu rhaglen lywodraethu, dywed Llywodraeth Cymru y bydden nhw'n sicrhau y byddai cyllid ar gael i wasanaeth iechyd meddwl a lles ar gyfer cyn-filwyr.
Bydd tocynnau mantais bws - sydd eisoes ar gael i'r henoed a theithwyr anabl - ar gael i gyn-filwyr ag anafiadau difrifol ac aelodau o'r lluoedd arfog yng Nghymru.
Ym mis Chwefror eleni galwodd pwyllgor iechyd y Cynulliad am welliannau i driniaeth cyn-filwyr sy'n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma.
'Cyfraniad enfawr'Clywodd Aelodau'r Cynulliad am y problemau mae cyn-filwyr yn dioddef pan maen nhw'n ceisio addasu i fywyd wedi iddynt frwydro yn y lluoedd arfog.
Dywedodd David Davies: "Mae gan Gymru perthynas hir a balch â'r lluoedd arfog.
"Mae aelodau Cymreig o'r lluoedd arfog wedi gwneud cyfraniad enfawr i warchod y Deyrnas Unedig ac mewn brwydrau cyfredol ar draws y byd.
"Mae'n bwysig i ni sicrhau fod cyn-filwyr a'u teuluoedd yn cael y gefnogaeth orau bosib pan maen nhw'n gadael y lluoedd arfog ac yn dychwelyd i fywyd sifil."
Bydd yr ymchwiliad hefyd yn cynnwys effaith cyfamod milwrol ar gyn-filwyr Cymreig.
Mae Llywodraeth y DU wedi datgan eu bod yn bwriadu pasio deddf ynghylch y cyfamod.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~07~RS~)

Pryder am gost gwasanaethau cymdeithasol
Damwain awyren: Un wedi marw
Golwg gyntaf ar gadair a choron
Enillwyr cystadlaethau celf Yr Urdd
Beth yw'r ots am ramadeg y Gymraeg?
Tipyn o gamp