Ymgyrchoedd yfed yn 'aneffeithiol'
Dywed yr adroddiad mai codi prisiau yw'r ffordd orau o atal y camddefnydd o alcohol
Nid yw ymgyrchoedd y diwydiant alcohol i hybu 'yfed yn gyfrifol' yn cael fawr ddim effaith, a gallant hyd yn oed annog mwy o yfed.
Dyna un o brif gasgliadau adroddiad newydd gan Alcohol Concern sy'n cael ei gyhoeddi ddydd Mercher.
Cafodd yr adroddiad ei baratoi gan ymchwilwyr o Brifysgolion Glyndŵr a Bangor.
Mae ymchwilwyr o'r ddwy brifysgol wedi canfod fod negeseuon iechyd y diwydiant alcohol yn aml yn rhai amwys, ac yn aneglur am beth yw ymddygiad diogel o ran yfed alcohol.
Ychwanegodd yr ymchwilwyr fod negeseuon iechyd i'w cael yn aml yng nghyd-destun hysbysebion sy'n hyrwyddo diota fel dewis positif mewn bywyd.
Dywed awduron yr adroddiad bod ymgyrchoedd dan nawdd y diwydiant diodydd fel arfer yn dangos alcohol fel cynnyrch niwtral nad yw'n achosi problemau ond yn nwylo yfwyr anghyfrifol.
Ond mae tystiolaeth yn awgrymu ei fod yn sylwedd peryglus, a bod angen rheoli a rheoleiddio'n ofalus sut y caiff alcohol ei farchnata a'i ddosbarthu.
'Dim tystiolaeth'“Start Quote
End Quote Yr Athro Rob Pool Prifysgol Glyndŵr, WrecsamDoes dim tystiolaeth argyhoeddiadol bod ymgyrchoedd am yfed yn gyfrifol yn cael effaith bositif o gwbl”
Dywedodd arweinwyr yr ymchwil - yr Athro Rob Pool o Brifysgol Glyndŵr a'r Dr Catherine Robinson o Brifysgol Bangor - mai gwneud alcohol yn ddrytach ac yn fwy anodd ei gael oedd y dulliau mwyaf tebygol o leihau yfed a'r niwed sy'n deillio o alcohol.
Dywedodd yr Athro Iechyd Meddwl o Brifysgol Glyndŵr, Rob Poole:
"Mae nifer o ganfyddiadau allweddol cyson o ymchwil ryngwladol fodern ar leihau'n niwed y mae alcohol yn ei achosi.
"Yn benodol, codi prisiau a lleihau argaeledd yw'r dulliau mwyaf effeithiol.
"Mewn gwirionedd, nid oes dim tystiolaeth argyhoeddiadol bod ymgyrchoedd am yfed yn gyfrifol yn cael effaith bositif o gwbl.
"Mae'r gwrthdaro â buddiannau'r diwydiant alcohol mor nodedig nes bod nifer o gyrff iechyd annibynnol, gan gynnwys Sefydliad Iechyd y Byd, yn credu na ddylai fod gan y diwydiant ddim rôl mewn llunio polisïau na hybu iechyd mewn perthynas ag alcohol."
'Anghysondeb'Dywedodd Rheolwr Alcohol Concern Cymru, Andrew Misell:
"Mae anghysondeb amlwg rhwng honiadau'r diwydiant diodydd eu bod yn gweithio i hybu yfed yn synhwyrol, a'r angen iddynt werthu mwy o alcohol.
"Yn ôl un amcangyfrif, petai pawb yn y Deyrnas Unedig yn yfed o fewn y canllawiau, byddai elw'r diwydiant alcohol yn lleihau 40%.
“Start Quote
End Quote Andrew Misell Alcohol Concern CymruMae rhannau mawr o'r diwydiant diodydd wedi gwrthwynebu codi prisiau a lleihau argaeledd, sef y ddau beth sydd fwyaf tebygol o daclo'r arfer o yfed er mwyn meddwi”
"Does ryfedd, felly, fod y diwydiant yn canolbwyntio ei ymgyrchoedd hybu iechyd ar y tactegau sy'n lleiaf tebygol o wneud i ni gyd yfed llai, a'u bod yn awyddus iawn i basio'r cyfrifoldeb am unrhyw broblemau ymlaen i'w cwsmeriaid.
"Mae cwmnïau diodydd yn dweud wrthym am 'fwynhau' eu cynnyrch yn 'gyfrifol' - gan ein hannog i ddal i yfed ond gyda syniad niwlog am ei wneud mewn modd 'cyfrifol'.
"Ar yr un pryd, mae rhannau mawr o'r diwydiant diodydd wedi gwrthwynebu codi prisiau a lleihau argaeledd, sef y ddau beth sydd fwyaf tebygol o daclo'r arfer o yfed er mwyn meddwi."
'Partneriaeth'Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau, Carl Sargeant:
"Mae'r adroddiad hwn yn dangos y sylfaen o dystiolaeth sy'n cefnogi polisïau i reoli pris ac argaeledd alcohol, ac i gyfyngu ar ei hysbysebu a'i hyrwyddo er mwyn diogelu plant a phobl ifanc.
"Rwy'n croesawu'r adroddiad yma ac yn edrych ymlaen at barhau ein partneriaeth lwyddiannus gydag Alcohol Concern Cymru, gan weithio i wellau bywydau pobl yng Nghymru."
~RS~q~RS~~RS~z~RS~36~RS~)

AS 'yn gwadu pob honiad'
Hafan y Llewod ar bbc.co.uk/cymru
Hyrwyddo Maes B
'Enillydd teilwng'
Ymgynghori?