Arestio tri wedi lladrad
Mae tri dyn wedi cael eu harestio yn dilyn lladrad mewn banc ym Mhrestatyn fore Mawrth.
Cafodd heddlu eu galw i fanc Santander ar Stryd Fawr y dref am 5:42am.
Aeth hofrennydd a chŵn yr heddlu ynghyd â nifer o blismyn i'r digwyddiad, ac yn dilyn cyrch fe gafodd tri dyn eu harestio.
Mae'r tri - sy'n 30, 31 a 34 oed - i gyd yn byw yn lleol, ac wedi cael eu harestio ar amheuaeth o fwrgleriaeth.
Maen nhw'n disgwyl i gael eu holi yng ngorsaf heddlu Llanelwy.
~RS~q~RS~~RS~z~RS~21~RS~)

Cyngor sir o dan y lach
Seren gymnasteg yn dod i Ruthun
Tu mewn i gartrefi Cymru
'Ar flaen eich bysedd'
Gwarchod adar