BBC HomeExplore the BBC
This page has been archived and is no longer updated. Find out more about page archiving.

MERCHER
18fed Mehefin 2014
Hygyrchedd
Geiriau Yn Unig
Legacies - De Orllewin Cymru

BBC Homepage
 Legacies
 UK Index
 De Orllewin Cymru
 Erthygl
Digwyddiadau
Eich straeon
 Archif
 Gwybodaeth Safle
 BBC Hanes
 Lleol i Mi

Ymateb

Cymorth

Wedi mwynhau'r ddalen hon?
Anfonwch hyn at gyfaill!

 
Immigration and Emigration
Ymsefydlwyr Fflandrysaidd yng Nghymru

Milwyr

Ar y Fflandrysiaid:
‘Roedd trigolion y rhanbarth hon â’u gwreiddiau yn Fflandrys, ac fe’u hanfonwyd gan y Brenin Harri’r I i fyw yn yr ardaloedd hyn; yn bobl ddewr a chadarn, yn fwyfwy gelyniaethus tuag at y Cymry; pobl, ddywedwn i, oedd yn gyfarwydd â masnach a diwydiannau gwlân; pobl a oedd yn awyddus i ennill tir trwy fôr neu dros dir, er gwaethaf blinder a pherygl; yn hil eofn, yn gyfarwydd â defnyddio aradr neu gleddyf fel ei gilydd; pobl ddewr a hapus’. Geraldus Cambrensis, Itinerary Through Wales, 1188
Cyrhaeddodd un o’r tonnau cyntaf o bobl Fflandrysaidd i gyrraedd Ynysoedd Prydain adeg y Goresgyniad Normanaidd yn 1066. Yn ystod y 11eg Ganrif, roedd Fflandrys yn cael ei gorboblogi’n ddifrifol a gorfodwyd y bobl Fflandrysaidd, yn yr ardal a gaiff ei hadnabod nawr fel Gwlad Belg, i symud. Symudodd nifer i’r Almaen, tra ymunodd eraill â’r fyddin Normanaidd, gan ddatblygu’n elfen bwysig yn eu lluoedd. Gwobrwyodd y brenhinoedd Normanaidd y rhai fu’n ymladd â thir yn y gwledydd a goncrwyd, gan roi tir iddyn nhw fyw arno, ar yr amod eu bod yn ei amddiffyn ar ran y goresgynwyr Normanaidd.

Cyn y Goresgyniad Normanaidd, roedd llawer o ymladd mewnol yng Nghymru, ac nid oedd mewn unrhyw sefyllfa i amddiffyn ei hun gyda rheng unedig. Sefydlodd William I ei ieirll ar hyd ffin Cymru yng Nghaer, yr Amwythig a Henffordd, ac yn fuan iawn fe symudon nhw i mewn i Gymru. Aeth Iarll Amwythig â’i luoedd i’r de orllewin, trwy Bowys a Cheredigion i Ddyfed, lle y sefydlon nhw gastell ym Mhenfro.

Ceiswyr Lloches

Dioddefodd Fflandrys yn enbyd ar ôl nifer o stormydd ym 1106. Ysgrifennodd Samuel Lewis “Yn ystod storm erchyll ar arfordir Fflandrys, fe gariwyd nifer o’r twyni tywod a’r argloddiau i ffwrdd, a fe foddodd y môr ddarn anferth o’r wlad.”

Achosodd hyn i nifer fawr o Fflandrysiaid geisio lloches yn Lloegr, lle croesawyd hwy gan Harri I. Fe ymgartrefon nhw mewn nifer o drefedigaethau ar draws Lloegr, ond cyn hir ysgrifennodd Samuel Lewis “ fe ddaethon nhw’n atgas i’r boblogaeth brodorol ac fe symudodd Harri I y Fflandrysiaid i’r anheddau ffermio anghysbell yn y ‘cantref’, ardal o Rhôs, yn ne Sir Benfro.

Achosodd y sefydlu systemig hwn o ymsefydlwyr Fflandrysaidd gan Harri I, ac, yn fwy diweddar, Harri II, ganlyniadau sylweddol i bobl de Sir Benfro. Mae’r Athro Hanes, Harold Carter, yn edrych ar yr effeithiau, “Os edrychwch chi ar ‘Brut y Tywysogion’ – Cronicl y Tywysogion Cymreig – mae’n cofnodi ‘Pobl arbennig o darddiad ac arferion rhyfedd yn byw yn y cantref cyfan yn Rhôs ger aber afon Cleddau, gan yrru holl drigolion yr ardal i ffwrdd. Mewn ffordd gallech bron iawn â’i alw’n broses o lanhau ethnig.”


Tudalennau: [ 1, 2, 3, 4 ] Nesaf


Eich sylwadau




Argraffu tudalen
English
Archive
Look back into the past using the Legacies' archives. Find nearly 200 tales from around the country in our collection.

Read more >
Internet Links
Tafodiaith Sir Benfro
BBC Cymru – Hanes y Gymraeg
Castell Hwlffordd
St Florence
Amgueddfa Dinbych y Pysgod
Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd gwe allanol.
Devon
Fishing station in 17th Century
Related Stories
Norman and Flemish Influence in the Borders
Roger De Montgomery
6 stages of place names




About the BBC | Help | Terms of Use | Privacy & Cookies Policy