![]() |
CroesoWrth i mi ysgrifennu hwn, mae ein ffrind a’n cydweithiwr Alan Johnston ar goll o hyd yn Gaza. Efallai y bydd y sefyllfa wedi newid erbyn i chi ddarllen hwn, ond am y tro, mae teulu Alan a’r rhai sy’n ei adnabod yn y BBC yn dal i bryderu ac yn ansicr yn ei gylch. Mewn ffotograffau ac ar gamera – nad yw’n syndod o gofio’r straeon y mae’n ymdrin â hwy – mae gan Alan olwg ddifrifol ar ei wyneb, yr union ddarlun o ohebydd tramor y BBC y byddech yn ei ddisgwyl. Pan nad yw’n wynebu’r camera mae iddo ochr wahanol iawn – rhywun deallus tu hwnt sy’n hoff o drafod, ond gyda golwg ddireidus ar ei wyneb. Yn fwy nag unrhyw beth arall talent, dewrder a hygrededd y dynion a’r merched sy’n gweithio iddo sy’n sail i’r BBC. Mae’r rhinweddau hyn yn bwysig ym mhopeth a wnawn, ond yn arbennig felly yn ein newyddiaduraeth.Yn Irac,Affganistan, Gaza ac mewn llawer o wledydd a rhanbarthau eraill, mae newyddiadurwyr y BBC yn aros pan fydd sefydliadau newyddion eraill wedi gadael. Gwyddant nad yw deunydd na darluniau asiantaethau – waeth pa mor dda ydynt – yn well nag uniongyrchedd, cywirdeb ac empathi dynol gohebwyr sy’n llygad-dystion i’r digwyddiadau. Rydym yn cymryd diogelwch ein newyddiadurwyr a phawb arall sy’n gweithio i’r BBC a chyda’r BBC, yn wirioneddol o ddifrif. Rhaid i ni hefyd gydnabod bod gorchwylion a straeon hollbwysig i’w hadrodd na allant byth fod heb risg. Bu’n flwyddyn anhygoel i’r BBC mewn ffyrdd eraill – Siarter newydd gref, setliad ffi’r drwydded heriol a Dyfodol Creadigol, ein gweledigaeth o’r hyn y gallai’r BBC fod pe bai’n cyflawni ei botensial creadigol llawn yn yr amgylchedd digidol newydd. Gyda rhaglenni The Street, Life on Mars a How Do You Solve A Problem Like Maria?, bu’n flwyddyn dda i ddrama ac adloniant ar y teledu, a chyfunodd Planet Earth arloesedd technegol gwych â chelfyddyd ysbrydoledig. Ddwy flynedd yn ôl, roedd y canfyddiad o ansawdd yn achos pryder mawr i Lywodraethwyr y BBC: yn 2006/2007, cynyddodd llawer o’r mesurau allweddol yn y maes hwn. Profodd BBC Radio ei bod yn bosibl meithrin cynulleidfaoedd tra’n gwella enw da am greadigrwydd a rhagoriaeth.Torrodd ein gwasanaethau ar-lein a rhyngweithiol un record ar ôl y llall. Ond cafwyd problemau hefyd. Roedd y camgymeriadau golygyddol ar Blue Peter a Saturday Kitchen mor ddifrifol oherwydd, er nad oeddent yn fwriadol, aethant at wraidd ein contract gyda’n cynulleidfaoedd – contract yn seiliedig ar ymddiriedaeth. Rydym yn cymryd pob cam y gallwn i leihau’r posibilrwydd y bydd camgymeriadau o’r fath yn digwydd eto. Roedd ein hymateb i’r sefyllfa o ran llinellau ffôn yn rhan o ymdrech ehangach gan y BBC i fod yn fwy agored ac yn fwy parod i ddysgu o’i gamgymeriadau. Mae Ymddiriedolaeth newydd y BBC wedi dechrau trafodaeth eang ac ymchwiliol ynghylch natur ddiduedd, ansawdd a natur nodedig gwasanaethau’r BBC. Mae’n drafodaeth a groesewir gennym. Credwn y bydd BBC mwy agored yn BBC cryfach ac yn un sy’n gwasanaethu’r cyhoedd yn well. Yn y cefndir, sicrhaodd BBC Worldwide dair gwaith yr elw a wnaed dair blynedd yn ôl i’r gwasanaethau cyhoeddus. Cyflymodd y broses o drawsffurfio’r BBC, gan ryddhau arian ac adnoddau ar gyfer buddsoddiadau newydd ond ni nodwyd unrhyw ddirywiad yn ansawdd y gwasanaethau presennol ar ran ein cynulleidfaoedd. Ein tasg bresennol yw datblygu cynlluniau manwl ar gyfer y dyfodol y gallwn eu cyflwyno i Ymddiriedolaeth y BBC. Bydd rhai – fel y BBC iPlayer a theledu manylder uwch – yn dibynnu ar dechnolegau digidol newydd. Ond gwyddom fod llwyddiant i’r BBC yn dibynnu yn y pen draw ar greadigrwydd a phroffesiynoldeb ein pobl yn hytrach nag ar dechnoleg. Fel y gwyr y cyhoedd o’r dechrau, ein pobl yw ein hadnodd mwyaf gwerthfawr. Dyna pam mae stori Alan Johnston mor bwysig. Mark Thompson |

