NB: Charts or diagrams used in the full printed document do not display in this text-only version.

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon

2003/2004

Pwrpas, gweledigaeth a gwerthoedd

Pwrpas

Ein pwrpas yw cyfoethogi bywydau pobl gyda rhaglenni a gwasanaethau sy’n hysbysu, addysgu a diddanu

Gweledigaeth

Ein gweledigaeth yw bod y sefydliad mwyaf creadigol yn y byd

Gwerthoedd

Ymddiriedaeth yw sail y BBC: rydym yn annibynnol, diduedd ac onest

Mae cynulleidfaoedd wrth wraidd popeth a wnawn

Rydym yn ymfalchïo mewn darparu ansawdd a gwerth am arian

Creadigrwydd yw enaid ein sefydliad

Rydym yn parchu ein gilydd ac yn dathlu ein hamrywiaeth fel y gall pob un wneud ei orau

Un BBC ydym: mae pethau mawr yn digwydd wrth i ni weithio gyda’n gilydd

Cynnwys

2

Datganiad y Cadeirydd

4

Ymchwiliad Hutton

6

Sut caiff y BBC ei redeg

8

Bwrdd y Llywodraethwyr

10

Y Pwyllgor Gweithredol

12

Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau

24 Teledu

32 Radio

40

Cyfryngau newydd

42

Newyddion

46 Dysgu

48

Y Gwledydd a’r Rhanbarthau

54

BBC World Service & Global News

58

Perfformiad yn erbyn ymrwymiadau’r Datganiadau o Bolisi Rhaglenni 2003/2004

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gweithgareddau masnachol

68

BBC Worldwide Limited

70

BBC Ventures Group Limited

72

Pobl a thalent y BBC

74

Bod yn atebol ac yn gyfrifol

82

Cydymffurfiad

97

Arolwg ariannol

99

Datganiadau ariannol

136

Ffeithiau a ffigurau darlledu

147

Cysylltu â’r BBC

148

Gwybodaeth arall

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Dogfen drosiannol yw’r ddogfen hon. Yn draddodiadol bu’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon yn ffordd o farchnata’r BBC yn ogystal â sicrhau ei fod yn atebol – ac yn ffordd o nodi barn rheolwyr am eu perfformiad eu hunain yn ogystal â barn y Llywodraethwyr am berfformiad y rheolwyr.

Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn wahanol. Dyma’r cam cyntaf o’r broses o droi Adroddiad Blynyddol y BBC yn ddogfen sy’n eiddo i’r Llywodraethwyr, sy’n gwerthuso perfformiad rheolwyr y BBC yn erbyn amcanion ac ymrwymiadau a ddatganwyd yn gyhoeddus. Bwriadwn ddatblygu’r broses hon ymhellach yn y dyfodol.

Mae’r diwygiadau i system rheolaeth y BBC a amlinellwyd yn ein dogfen Cynyddu Gwerth Cyhoeddus yn egluro ein bod yn bwriadu symud yn gyflym i atgyfnerthu annibyniaeth glir y Llywodraethwyr ar y rheolwyr. Bydd y Llywodraethwyr yn darparu’r adnoddau sydd eu hangen arnynt i gomisiynu cyngor annibynnol er mwyn ein galluogi i graffu yn ofalus ac yn drwyadl ar raglenni a gwasanaethau’r BBC. Adroddiadau penodol y Llywodraethwyr fydd yr Adroddiadau Blynyddol a byddant yn canolbwyntio’n bennaf ar asesu perfformiad a sicrhau bod y rheolwyr yn atebol.

Mae’r Adroddiad Blynyddol hwn yn wahanol mewn ffordd arall hefyd. Nid oes adroddiad gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol gan nad oedd y Cyfarwyddwr Cyffredinol newydd, Mark Thompson, yn gweithio i’r BBC yn ystod y cyfnod dan sylw.

Wrth gwrs, nid oeddwn innau ychwaith. Gwyliais Ymchwiliad Hutton a’i sgîl-effeithiau yn datblygu fel un o dalwyr y drwydded. Ac ymhell cyn i mi gael fy mhenodi, roedd y BBC wedi dechrau dysgu’r gwersi ac – fel yr eglurir yn yr adran ar Hutton yn yr adroddiad hwn – wedi dechrau gwneud newidiadau i rai o brosesau golygyddol y BBC a’r ffordd y mae’n ymdrin â chwynion. Rwyf yn hyderus drwy weithredu’r newidiadau hyn y gallwn fwrw ymlaen.

Ond rwyf am egluro un peth. Nid yw’r BBC yn werth ei gael onid yw’n olygyddol annibynnol. Byddaf i a’r Llywodraethwyr eraill yn amddiffyn hawl y BBC i gyflwyno newyddiaduraeth anodd a dewr am bobl bwerus a sefydliadau pwerus. Rhaid i’r math hwnnw o newyddiaduraeth – wedi’i gosod o fewn fframwaith golygyddol cryfach – barhau yn un o nodweddion amlwg y BBC.

Un o sgîl-effeithiau Ymchwiliad Hutton oedd gwneud i bobl fyfyrio ar werth parhaus BBC cryf ac annibynnol i Brydain. Pan gollodd y BBC ei Gadeirydd a’i Gyfarwyddwr Cyffredinol o fewn cyfnod o 24 awr roedd ymdeimlad o drobwynt. Ar yr adeg honno nid yw’n syndod y bu i rai pobl ddechrau ystyried y posibilrwydd o Brydain heb y BBC.

A’r gwir amdani yw nad yw’r BBC yn anochel. Mae’n bodoli am ei fod yn ennill ei le yng nghalonnau ein cynulleidfaoedd drwy gyfoethogi bywydau drwy wybodaeth, addysg ac adloniant. Rhaid i’r BBC adfywio ac adnewyddu’r cysylltiadau â’r cynulleidfaoedd hynny yn gyson. Rhaid i ni wrando, dysgu ac ymateb – a gwneud hynny dro ar ôl tro. Fel Llywodraethwyr, rhaid i gyswllt effeithiol â’r cyhoedd ym Mhrydain a’r gallu i ymateb i’w pryderon fod yn rhan greiddiol o’n rôl fel ymddiriedolwyr er budd y cyhoedd.

Honnir weithiau nad yw’r BBC yn atebol a’i fod yn hunan-reoliadol i raddau helaeth. Ond un o’r pethau syfrdanol a ganfûm ers dechrau yn fy swydd fel Cadeirydd yw nifer uchel y rheoliadau y caiff y BBC eisoes ei fesur yn eu herbyn. Tan yn ddiweddar dim ond tri chwota allanol y bu’n rhaid i’r BBC ymdrin â hwy. O ganlyniad i Ddeddf Cysylltiadau 2003 mae gennym 52 cwota arall i’w bodloni bellach. A chaiff mwy eu cyflwyno y flwyddyn nesaf.

Mae’n briodol y dylem gyfiawnhau ein sefyllfa freintiedig. Ond mae’n bwysig bod y targedau cywir wedi’u pennu er mwyn sicrhau bod rhaglenni a gwasanaethau’r BBC yn adlewyrchu’r hyn sy’n wirioneddol bwysig – anghenion a diddordebau ein harianwyr, talwyr y drwydded.

Yn y dyfodol, bydd y Llywodraethwyr yn asesu perfformiad yn erbyn pedwar targed allweddol: cyrhaeddiad, effaith, gwerth am arian ac ansawdd. Wrth farnu’r canlyniadau byddwn yn eu hystyried o bersbectif cyffredinol.

Mae’r BBC yn cyflawni gwerth ymhell y tu hwnt i’w raglenni a’i wasanaethau. Ym mhroses yr Arolwg o’r Siarter nodwn fod y BBC yn werth ei gadw o ystyried y gwerth cyhoeddus enfawr a gyflwynir ganddo. Mae gwerth cyhoeddus nid yn unig yn golygu gwerth y BBC i bobl fel unigolion, ond hefyd ei werth i bobl fel dinasyddion, a thu hwnt i hynny, ei werth i’r diwydiant darlledu a’r diwydiant creadigol yn gyffredinol.

I’r unigolyn, gwerth y BBC yw’r wybodaeth, yr addysg a’r adloniant a ddarperir ganddo. I’r dinesydd, gwerth y BBC yw ei gyfraniad i iechyd cymdeithasol, democrataidd a diwylliannol ehangach y DU. Ac i’r diwydiant darlledu a’r diwydiant creadigol, mae gwerth y BBC yn deillio o’i fuddsoddiad mewn hyfforddiant a chynhyrchu creadigol.

2

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Nodau’r BBC yw ategu dinasyddiaeth, cyfoethogi bywyd diwylliannol, cyfrannu at addysg i bawb, sicrhau bod y DU yn gymdeithas fwy cynhwysol, a chefnogi rôl y DU yn y byd.

Dyma’r achos y byddwn yn ei gyflwyno yn ystod y misoedd nesaf wrth i’r ddadl dros adnewyddu Siarter y BBC ddatblygu.

Cryfder y BBC yw ei bobl. A hoffwn achub ar y cyfle hwn i dalu teyrnged i rai ohonynt.

Yn gyntaf, fy rhagflaenydd fel Cadeirydd, Gavyn Davies, a fu mor weithgar wrth gefnogi delfrydau’r BBC ac a ddangosodd ddewrder ac urddas mawr wrth ymadael. Mae’n eironig, o gofio hanes y BBC, bod Cadeirydd wedi ymddiswyddo ar ôl amddiffyn annibyniaeth y BBC.

Y nesaf yw Greg Dyke. Fel Cyfarwyddwr Cyffredinol, gwnaeth Greg ymdrech aruthrol i adfer a gwella morâl y staff. A diolch i’w benderfyniad hanfodol i hyrwyddo Freeview, mae’r uchelgais i ddatblygu Prydain gwbl ddigidol yn obaith realistig. Dangosodd Freeview weledigaeth ac arweinyddiaeth Greg ac roedd y Llywodraethwyr yn llygad eu lle yn ei gefnogi yn y fenter hon.

Ar ran y Llywodraethwyr hoffwn hefyd ddiolch i Richard Ryder am gamu i’r adwy fel Cadeirydd Dros Dro ar adeg heriol iawn. Ar ran y Llywodraethwyr, hefyd, hoffwn gofnodi ein diolch i Mark Byford. Fel Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro chwaraeodd ran allweddol wrth lywio’r BBC drwy un o’r cyfnodau mwyaf anodd yn ei hanes.

Un deyrnged olaf – i Alistair Cooke a fu farw yn gynharach eleni yn 95 oed, ychydig wythnosau yn unig ar ôl iddo gyflwyno ei Letter from America olaf ar BBC Radio 4 a BBC World Service. Roedd Cooke yn ohebydd o’r radd flaenaf ac yn ddarlledwr ardderchog – craff, ystyrlon a dyngar. Ysgrifennai fel angel a llwyddodd i ysgrifennu am amrywiaeth eithriadol o bynciau –gwleidyddiaeth, hanes, teithio i’r gofod, jazz, golff – gyda’r un ddealltwriaeth a manylder bywiog. Parchai ei wrandawyr, ac roedd gan ei wrandawyr feddwl y byd ohono. O ganlyniad, cyflwynodd y rhaglen radio llafar a gafodd ei darlledu am y cyfnod hiraf yn y byd. Gall y BBC ddysgu o’i esiampl.

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

3

Ymchwiliad Hutton

Cronoleg

Ar 29 Mai 2003, darlledodd Andrew Gilligan, Gohebydd Amddiffyn ar y rhaglen Today, nifer o adroddiadau am y goflen a gyhoeddwyd gan y Llywodraeth ym mis Medi 2002, yn dwyn y teitl Iraq’s Weapons of Mass Destruction.

Am 6.07am cyflwynodd eitem ‘ddeuffordd’ fyw (adroddiad ar ffurf cyfweliad gyda chyflwynydd) a gododd gwestiynau difrifol am y goflen, yn arbennig ei honiad bod gan Irac arfau dinistr a oedd yn barod i’w defnyddio ymhen 45 munud. Dywedodd Gilligan fod un o’r uwch swyddogion a oedd yn gyfrifol am lunio’r goflen honno (“one of the senior officials in charge of drawing up that dossier”) wedi dweud wrtho fwy na thebyg y gwyddai’r llywodraeth nad oedd y ffigur 45 munud yn gywir hyd yn oed cyn penderfynu y dylid ei gynnwys (“the government probably knew that the 45-minute figure was wrong even before it decided to put it in”).

Nododd Andrew Gilligan hefyd i’w ffynhonnell ddienw ddweud y bu i Downing Street orchymyn y dylid bywiogi fersiwn drafft gwreiddiol y goflen, i’w gwneud yn fwy cyffrous ac y bu iddynt hefyd orchymyn y dylid dod o hyd i fwy o ffeithiau (“Downing Street … ordered it [the original draft of the dossier] to be sexed up, to be made more exciting and ordered more facts to be discovered”). Dywedodd hefyd fod y goflen a gyhoeddwyd wedi achosi pryder i’r Gwasanaethau Cudd-wybodaeth am nad oedd yn adlewyrchu’r farn ystyriol yr oeddent yn ei chyflwyno (“it didn’t reflect the considered view they were putting forward”).

Y penwythnos hwnnw, cyhoeddodd y Mail on Sunday erthygl gan Andrew Gilligan yn enwi Alastair Campbell, Cyfarwyddwr Cysylltiadau’r Llywodraeth ar y pryd, fel y person a enwyd gan y ffynhonnell fel yr un a oedd yn gyfrifol am gynnwys yr honiad 45 munud yn y goflen.

4

Gwadodd y Llywodraeth y straeon hyn yn llym. Safodd y BBC wrth ei benderfyniad i ddarlledu’r eitem ar Today. Bu cyfnewid gohebiaeth breifat rhwng y Llywodraeth a’r BBC. Ddiwedd mis Mehefin, gofynnodd Alastair Campbell am ymddiheuriad gan y BBC yn ystod gwrandawiad gan Bwyllgor Materion Tramor Ty’r Cyffredin a ddangoswyd ar y teledu, a rhyddhaodd un o’i lythyrau cwyno i’r wasg. Unwaith eto, yn ei ymateb, safodd y BBC wrth ei benderfyniad i ddarlledu’r adroddiad.

Ddiwedd mis Mehefin, dywedodd ffynhonnell Andrew Gilligan, Dr David Kelly, un o wyddonwyr y Weinyddiaeth Amddiffyn, wrth ei reolwr ei fod wedi siarad ag Andrew Gilligan ac o bosibl mai ef oedd un o ffynonellau’r adroddiad ar Today.

Tra roedd y Weinyddiaeth Amddiffyn yn ymchwilio i hyn (a chyn cyhoeddi enw Dr Kelly) trefnodd Cadeirydd y BBC, Gavyn Davies, gyfarfod arbennig o’r Llywodraethwyr ar 6 Gorffennaf. Dywedodd datganiad wedi hynny bod y Bwrdd yn fodlon bod darlledu stori Mr Andrew Gilligan er budd y cyhoedd (“satisfied that it was in the public interest to broadcast Mr Andrew Gilligan’s story”). Beirniadodd y Llywodraethwyr ddwy agwedd ar y ffordd yr ymdriniodd Today â’r stori: nodwyd ganddynt y dylai’r tîm cynhyrchu fod wedi cadw cofnod cliriach o’i drafodaethau gyda’r Weinyddiaeth Amddiffyn (“should have kept a clearer account of its dealings with the MoD”); ac y gallai fod wedi gofyn i Swyddfa’r Wasg Rhif 10 am ymateb cyn darlledu’r stori (“could also have asked the No 10 Press Office for a response prior to broadcasting the story”). Dywedodd y Llywodraethwyr hefyd eu bod yn bwriadu ailedrych ar y rheolau ar gyfer gohebwyr a chyflwynwyr y BBC sy’n ysgrifennu ar ran papurau newydd.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Ar 9 Gorffennaf, cyhoeddodd y Weinyddiaeth Amddiffyn enw Dr Kelly. Ar 18 Gorffennaf, daethpwyd o hyd iddo’n farw ger ei gartref yn Swydd Rydychen. Gwnaeth y BBC ddatganiad yn mynegi edifarhad mawr am farwolaeth Dr Kelly ac yn cadarnhau mai ef oedd ffynhonnell Andrew Gilligan. Gofynnodd y Llywodraeth i’r Arglwydd Hutton ymchwilio i’r amgylchiadau a arweiniodd at y farwolaeth a chyhoeddodd ei adroddiad ym mis Ionawr 2004.

Yn ystod yr ymchwiliad derbyniodd y BBC ei fod wedi gwneud camgymeriadau a derbyniodd Andrew Gilligan nad oedd rhywfaint o’r hyn a ohebwyd ganddo yn gywir. Cyfaddefodd y BBC y pwyntiau canlynol: dylai’r darllediad am 6.07 fod wedi cael ei sgriptio roedd y darllediad am 6.07 yn cynnwys gwallau. Ni wahaniaethodd yn ddigonol rhwng yr hyn a ddywedodd Dr Kelly a dehongliad Andrew Gilligan o’r hyn a ddywedodd. Derbyniodd y BBC na ddywedodd Dr Kelly fod y Llywodraeth wedi cynnwys yr honiad 45 munud er ei bod fwy na thebyg yn gwybod ei fod yn anghywir, ac na ddywedodd fod Downing Street wedi gorchymyn y dylid dod o hyd i fwy o ffeithiau derbyniodd y BBC fod un o’i ymatebion i Alastair Campbell yn cynnwys dau wall ffeithiol derbyniodd y BBC y dylid bod wedi archwilio nodiadau Andrew Gilligan yn gynt nag y gwnaed derbyniodd y BBC, er na dderbyniodd Alastair Campbell wahoddiad i gyfeirio ei gwyn i ymchwiliad annibynnol, y dylai’r BBC ei hun fod wedi cyfeirio ei lythyr dyddiedig 26 Mehefin i Uned Cwynion am Raglenni’r BBC er mwyn iddynt gynnal ymchwiliad annibynnol

Yn ei gasgliadau, rhyddhaodd yr Arglwydd Hutton y Llywodraeth rhag unrhyw fai, fwy neu

 

canolog, barn yr Arglwydd Hutton oedd: roedd geiriad y goflen yn gyson â’r wybodaeth a oedd ar gael; nid oedd sail i’r cyhuddiad bod y Llywodraeth fwy na thebyg yn gwybod nad oedd yr honiad 45 munud yn gywir cyn iddo gael ei gynnwys yn y goflen; nid oedd sail ychwaith i’r cyhuddiad o ‘fywiogi’.

wraidd y naratif hwn. Nododd adroddiad yr Arglwydd Hutton yn glir na allai unrhyw un fod wedi rhagweld y byddai’n cyflawni hunanladdiad. Mae’r BBC wedi mynegi ei gydymdeimlad i deulu Dr Kelly, a hoffem wneud hynny eto yn awr.

Roedd prif ganfyddiadau’r Arglwydd Hutton o ran y BBC fel a ganlyn: roedd y system olygyddol a ganiatawyd gan y BBC yn ddiffygiol oherwydd caniatawyd i Andrew Gilligan ddarlledu ei adroddiad heb fod golygyddion wedi gweld sgript ac wedi ystyried pa un a ddylid ei chymeradwyo roedd bai ar reolwyr y BBC am fethu ag ymchwilio’n briodol i gwynion y Llywodraeth oherwydd dylid bod wedi archwilio nodiadau Andrew Gilligan yn gynharach, a phan gawsant eu harchwilio, methwyd â gwerthfawrogi nad oeddent yn ategu’r honiadau a wnaed am y darllediad am 6.07am yn llawn roedd system rheolwyr y BBC ar gyfer ystyried cwynion yn ddiffygiol am na throsglwyddwyd neges ebost yn beirniadu adroddiad Andrew Gilligan gan Kevin Marsh, sef Golygydd Today, i Stephen Mitchell, sef ei reolwr llinell, i reolwyr uwch dylai Llywodraethwyr y BBC fod wedi cynnal ymchwiliadau manylach i ganfod i ba raddau yr oedd nodiadau Andrew Gilligan yn ategu ei adroddiad

Yn ystod y 24 awr yn dilyn cyhoeddi’r canfyddiadau, ymddiswyddodd Gavyn Davies fel Cadeirydd a chynigiodd Greg Dyke, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, ei ymddiswyddiad i’r Llywodraethwyr a oedd yn weddill a chytunwyd y byddai’n gadael y BBC. Cytunodd yr Arglwydd Ryder i weithredu fel Cadeirydd Dros Dro tra’n ceisio dod o hyd i Gadeirydd parhaol, a phenododd

Ym mis Medi 2003 roedd y Llywodraethwyr wedi gofyn i Greg Dyke lunio cynigion ar gyfer diwygio meysydd allweddol gan gynnwys prosesau ymdrin â chwynion y BBC, a’r BBC Producers’ Guidelines sy’n cwmpasu darlledu straeon dadleuol wrth iddynt ddigwydd a defnyddio ffynonellau dienw. Cymerodd Mark Byford yr awenau gyda’r gwaith hwn a chomisiynodd Ronald Neil, cyn uwch swyddog gweithredol golygyddol gyda’r BBC, i arwain arolwg ar ran y Cyfarwyddwr Cyffredinol.

Yn fuan ar ôl i’r Arglwydd Hutton gyhoeddi ei adroddiad, gadawodd Andrew Gilligan y BBC o’i wirfodd. Cynhaliwyd proses ddisgyblu fewnol. Ni ddeilliodd unrhyw ddiswyddiadau o’r broses honno. Nododd datganiad ar ddiwedd y broses ym mis Mai 2004 ddau bwynt o eglurhad.

Yn gyntaf roedd sgript graidd wedi cael ei pharatoi’n briodol ar gyfer y rhaglen Today ar 29 Mai 2003. Fe’i cymeradwywyd yn unol â’r arferion cynhyrchu arferol a oedd ar waith ar y pryd, ond wedyn ni ddilynwyd y sgript honno gan Andrew Gilligan. Gallai tystiolaeth y BBC i Ymchwiliad Hutton fod wedi bod yn gliriach yn hyn o beth.

Yn ail, nid oedd angen bod y neges ebost a anfonwyd gan Olygydd Today, Kevin Marsh, at Bennaeth yr adran Newyddion Radio, Stephen Mitchell, wedi cael ei throsglwyddo i unrhyw berson uwch. Yr argraff a roddwyd gan dystiolaeth y BBC i Ymchwiliad Hutton oedd nad oedd y neges ebost hon yn adlewyrchu barn uwch reolwyr yr adran newyddion. Mewn gwirionedd, mi oedd, a bu’r farn honno yn destun trafodaethau diweddar. Felly nid oedd cyfiawnhad dros y feirniadaeth a awgrymwyd tuag at Stephen Mitchell a Kevin Marsh.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Nid oes gennym unrhyw amheuaeth bod honiadau Dr Kelly yn wybodaeth haeddiannol i’w darlledu gan y BBC fel mater o ddiddordeb amlwg i’r cyhoedd gan ffynhonnell gredadwy. Ond mae newyddiaduraeth y BBC yn seiliedig ar gywirdeb a bod yn ddiduedd. Nid oedd y gohebu yn ddigon cywir nac yn ddigon diduedd gan na ofynnwyd i’r Llywodraeth ymateb cyn darlledu.

Rydym ni, a’r rheolwyr, wedi ymddiheuro am y camgymeriadau a gyfaddefwyd gan y BBC cyn Ymchwiliad Hutton ac yn ystod yr ymchwiliad. Rydym wedi cymryd camau i wella rhai o brosesau’r BBC: Mae prosesau’r BBC ar gyfer ymdrin â chwynion wrthi’n cael eu diwygio er mwyn sicrhau eu bod yn gliriach, yn decach ac yn fwy ymatebol Mae’r rheolwyr yn gweithredu’r holl gynigion o Arolwg Neil, gan gynnwys canllawiau a gweithdrefnau golygyddol diwygiedig, a gwelliannau i’r broses o hyfforddi newyddiadurwyr y BBC

Rydym wedi sicrhau nad oes bellach gan staff y BBC, a newyddiadurwyr llawrydd rheolaidd y mae eu prif broffil neu incwm yn dod o’r BBC, hawl i ysgrifennu colofnau papur newydd neu gylchgrawn am faterion cyfoes neu faterion dadleuol eraill

Rydym yn hyderus bod y gwersi cywir wedi’u dysgu a bod camau priodol yn cael eu gweithredu. Gall y BBC, o dan ei arweinyddiaeth newydd, edrych i’r dyfodol yn awr.

5

 

Talwyr y drwydded

Talwyr y drwydded yw conglfaen y BBC. Gan gynnwys consesiynau, mae 24.5 miliwn ohonynt, a’r ffioedd a delir ganddynt sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r arian y mae’r BBC yn ei wario. Mae’r BBC yn ymgynghori’n rheolaidd â thalwyr y drwydded er mwyn sicrhau yr ystyrir eu barn.

Senedd

Y Senedd sy’n llunio’r fframwaith cyfreithiol y mae’r BBC yn gweithredu o’i fewn ac sy’n pennu lefel ffi’r drwydded. Mae’n craffu ar faterion y BBC drwy ddadleuon yn Nhy’r Cyffredin a Thy’r Arglwyddi a thrwy wrandawiadau pwyllgorau dethol, lle y gofynnir i Lywodraethwyr a rheolwyr y BBC fod yn atebol am berfformiad y BBC. Mae’r BBC hefyd yn darparu cymorth ysgrifenyddol i Grwp Seneddol Pob Plaid y BBC sy’n annog dadleuon a thrafodaethau o fewn y Senedd a’r tu allan iddi am ddyfodol darlledu cyhoeddus, gyda phwyslais arbennig ar y BBC.

Llywodraethwyr y BBC

Mae Llywodraethwyr y BBC yn gweithredu fel ymddiriedolwyr budd y cyhoedd. Maent yn goruchwylio’r BBC ac yn sicrhau ei fod yn annibynnol ar ymyrraeth wleidyddol a masnachol. Mae deuddeg ohonynt, a benodir gan y Frenhines ar gyngor gweinidogion yn unol ag egwyddorion Nolan y dylai penodiadau cyhoeddus gael eu gwneud ar sail teilyngdod. Maent oll yn gweithio’n rhan amser gan gynnig amrywiaeth eang o brofiad ac arbenigedd i Fwrdd y BBC.

Mae Bwrdd y Llywodraethwyr yn wahanol i fwrdd cwmni cyhoeddus sy’n bennaf atebol i’w gyfranddeiliaid. Mae Bwrdd y BBC yn atebol i dalwyr y drwydded a’r Senedd.

Nid yw Bwrdd y Llywodraethwyr yn rheoli gweithrediadau’r BBC o ddydd i ddydd (sef rôl y Pwyllgor Gweithredol). Yn hytrach, mae’n sicrhau bod y Pwyllgor Gweithredol yn rheoli’r BBC er budd y cyhoedd drwy: cymeradwyo strategaeth a pholisi pennu amcanion monitro perfformiad monitro cydymffurfiad â rhwymedigaethau cyfreithiol a chanllawiau polisi sicrhau atebolrwydd i’r cyhoedd penodi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol ac aelodau eraill y Pwyllgor Gweithredol penderfynu ar gydnabyddiaeth y Pwyllgor Gweithredol

Mae’r Llywodraethwyr cenedlaethol yng Nghymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn cadeirio Cynghorau Darlledu; ac mae’r Llywodraethwr sydd â chyfrifoldeb arbennig dros Ranbarthau Lloegr yn cadeirio Fforwm Cenedlaethol Lloegr. Cawn wybod barn pobl yn y gwledydd a’r rhanbarthau am raglenni a gwasanaethau’r BBC drwy’r cyrff hyn. Rhydd Grwp Ymgynghorol y World Service, o dan

gadeiryddiaeth y Llywodraethwr Rhyngwladol, arolwg annibynnol i’r Llywodraethwyr o amrywiaeth ac ansawdd darllediadau BBC World Service a BBC World.

Cynigiodd y BBC newidiadau yn ddiweddar i’w reolaeth. Yn eu plith roedd mesurau i gynyddu’r rhaniad rhwng Llywodraethwyr a rheolwyr. Caiff y cynigion, a amlinellir yn

Cynyddu Gwerth Cyhoeddus, eu gweithredu yn ystod y flwyddyn nesaf.

Mae Ofcom, y rheoleiddiwr cysylltiadau, a fu’n weithredol ers mis Rhagfyr 2003, yn rheoleiddio rhai agweddau ar y BBC. Er enghraifft, mae’n rhaid i’r BBC gydymffurfio â safonau a chodau tegwch Ofcom (ac eithrio mewn perthynas â chywirdeb a didueddrwydd priodol sy’n parhau yn gyfrifoldeb i’r Llywodraethwyr). Mae’n rhaid iddo gydymffurfio â chwotâu Ofcom ar gyfer amrywiol fathau o gynnwys teledu cyhoeddus – er enghraifft, bod yn rhaid i gyfran o’r rhaglenni gael eu gwneud y tu allan i’r M25. Fodd bynnag, nid oes gan Ofcom, yn wahanol i’r Llywodraethwyr, unrhyw ran i’w chwarae yng ngweithrediadau’r BBC.

Ceir manylion am y Llywodraethwyr unigol ar dudalennau 8 a 9.

Ceir manylion am yr amcanion a bennwyd ar gyfer 2003/2004 ac asesiad y Llywodraethwyr o berfformiad ar dudalennau 12 i 22, ac ar gyfer 2004/2005 ar dudalen 23.

6

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Y Pwyllgor Gweithredol

Ar hyn o bryd, mae’r Pwyllgor Gweithredol yn cynnwys cyfarwyddwyr 16 o isadrannau’r BBC. Caiff ei gadeirio gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, y mae cyfarwyddwr pob isadran yn atebol iddo. Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn atebol i Fwrdd y Llywodraethwyr.

Y Cyfarwyddwr Cyffredinol yw prif weithredwr a phrif olygydd y BBC ac mae’n gyfrifol am yr holl weithrediadau o ddydd i ddydd. Mae’r Cyfarwyddwr Cyffredinol yn gweithio gyda Bwrdd y Llywodraethwyr i benodi cyfarwyddwyr yr isadrannau unigol.

Caiff perfformiad pob isadran ei asesu’n rheolaidd gan Fwrdd y Llywodraethwyr. Mae blwyddyn perfformiad y BBC yn rhedeg o fis Ebrill, a chytunir ar amcanion blynyddol ym mis Mawrth. Cyflwynir adroddiad ar berfformiad yn eu herbyn yn adroddiad blynyddol y flwyddyn ganlynol ym mis Gorffennaf.

Ceir rhagor o fanylion am aelodau’r Pwyllgor Gweithredol ar dudalennau 10 ac 11.

Teledu, Radio, Ar-lein

Ar draws y DU, mae’r BBC yn gweithredu wyth sianel deledu a deg rhwydwaith radio, 46 o orsafoedd radio lleol a chenedlaethol, a’r safle ar-lein bbc.co.uk.

Yn rhyngwladol, mae BBC World Service yn darlledu ar y radio mewn 43 o ieithoedd; mae BBC World yn darlledu gwasanaeth newyddion byd-eang ar y teledu, ac mae’r safle ar-lein bbcnews.com yn cynnig newyddion a deunydd sain rhyngwladol. Ni chefnogir y gwasanaethau hyn gan ffi’r drwydded ond telir amdanynt naill ai gan ddefnyddio Grant-mewn-Cymorth gan y Llywodraeth neu drwy hysbysebu.

Yn ogystal â gwasanaethau darlledu ac ar-lein, mae’r BBC yn gweithio yn y gymuned mewn sawl gwahanol ffordd. Yn eu plith, mae Apêl Plant mewn Angen y BBC sy’n codi symiau mawr i helpu plant difreintiedig yn y DU.

BBC

16 o isadrannau’r BBC sy’n cynhyrchu neu’n comisiynu holl ddarllediadau’r BBC. Ceir naw isadran ddarlledu. Maent yn rheoli rhwydweithiau’r BBC a’u prosesau comisiynu a chynhyrchu rhaglenni. Yr isadrannau hyn yw: Teledu Radio a Cherddoriaeth Newyddion Y Gwledydd a’r Rhanbarthau Chwaraeon Ffeithiol a Dysgu Drama, Adloniant a CBBC

Cyfryngau Newydd a Thechnoleg BBC World Service & Global News

Yn ogystal, ceir pum isadran sy’n darparu cymorth proffesiynol: Pobl y BBC

Cyllid, Eiddo a Materion Busnes

Marchnata, Cysylltiadau a Chynulleidfaoedd Polisi a Chyfreithiol Strategaeth a Dosbarthu

Ceir dwy isadran fasnachol hefyd sy’n gwerthu nwyddau a gwasanaethau ledled y byd: BBC Worldwide Limited BBC Ventures Group Limited

Mae’r elw a gynhyrchir ganddynt yn helpu i gefnogi gweddill y BBC.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

7

Bwrdd y Llywodraethwyr

 

ag egwyddorion Nolan y dylai penodiadau cyhoeddus gael eu gwneud ar sail teilyngdod. Nid yw Bwrdd y Llywodraethwyr yn rheoli gweithrediad y BBC o ddydd i ddydd (sef rôl y Pwyllgor Gweithredol), ond mae’n sicrhau y caiff y BBC ei reoli er budd y cyhoedd. Mae’r Llywodraethwyr yn atebol i dalwyr y drwydded a’r Senedd.

8

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

1 Michael Grade CBE

Cadeirydd

Cadeirydd y BBC ers mis Mai 2004. Cadeirydd Pinewood Shepperton, a Chadeirydd Hemscott Group, y ddau ers 2000. Cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Charlton Athletic ers 1997. Cyn newyddiadurwr ac asiant theatrig. Yn LWT o 1973 i 1981, yn ddiweddaraf fel Cyfarwyddwr Rhaglenni; Llywydd, Embassy Television yn Hollywood o 1981 i 1984; yn y BBC o 1984 i 1987, yn ddiweddaraf fel darpar Reolwr Gyfarwyddwr Teledu; Prif Weithredwr Channel 4 o 1988 i 1997; yn First Leisure Corporation o 1997 i 2000, yn ddiweddaraf fel Prif Weithredwr; Cadeirydd Camelot o 2002 i 2004; Cyfarwyddwr SMG o 2003 i 2004; yn y Gorfforaeth Deledu, yn ddiweddaraf fel Cadeirydd interim o 2003 i 2004. Gwobr Guild Harvey Lee y Wasg Ddarlledu am gyfraniad eithriadol i ddarlledu ym 1997. Cymrawd o’r RTS a BAFTA ac Is-Lywydd BAFTA ers mis Mehefin 2004. Ganed ym 1943.

2 Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Ryder OBE

Is-Gadeirydd

Is-Gadeirydd ers mis Ionawr 2002 a Chadeirydd Dros Dro o fis Ionawr i fis Mai 2004. Cadeirydd y Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg ac aelod o’r Pwyllgor Eiddo a’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth. Cadeirydd Ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y BBC. Cyfrin Gynghorydd ers 1990. Fe’i gwnaed yn arglwydd am oes ym 1997. AS y blaid Geidwadol dros ganol Norfolk o 1983 i 1997. Is-Ysgrifennydd Seneddol yn MAFF; Ysgrifennydd Economaidd i’r Trysorlys; Tâl-feistr Cyffredinol ac yna’n Brif Chwip y Llywodraeth o 1988 i 1995. Ysgrifennydd Gwleidyddol i Margaret Thatcher o 1975 i 1981. Cyfarwyddwr Clwb Pêl-droed Ipswich Town ers 1999. Cadeirydd Eastern Counties Radio tan iddo gael ei benodi i’r BBC. Bydd Yr Arglwydd Ryder yn ymddeol o’r Bwrdd ar 1 Gorffennaf 2004. Ganed ym 1949.

3 Deborah Bull CBE

Llywodraethwr y BBC ers mis Awst 2003. Prif Ddawnsiwr y Balé Brenhinol o 1991 i 2001. Cyfarwyddwr, Menter Datblygu Artistiaid y Ty Opera Brenhinol o 1999 i 2001. Cyfarwyddwr Artistig ROH2 ers 2002. Aelod o Gyngor Celfyddydau Lloegr ers 1998. Ysgrifennodd a chyflwynodd raglenni a chyfresi ar gyfer Teledu’r BBC a Radio’r BBC, gan gynnwys The Dancer’s Body yn 2002, a chyhoeddodd lyfrau yn ymwneud â’r celfyddydau a maeth. Ganed ym 1963.

4 Y Fonesig Ruth Deech DBE

Llywodraethwr y BBC ers mis Hydref 2002. Aelod o’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg. Dyfarnwr Annibynnol Addysg Uwch ers mis Mawrth 2004. Pennaeth Coleg St Anne, Rhydychen o 1991 i 2004, ar ôl bod yn Gymrawd ac yn Diwtor y Gyfraith yno ers 1970. Meinciwr Anrhydeddus o’r Deml Fewnol, Ymddiriedolwr Mandela Rhodes, a Chymrawd y Gymdeithas Feddygaeth Frenhinol. Cyn Gadeirydd yr Awdurdod Ffrwythloni Dynol ac Embryoleg. Ganed ym 1943.

5 Dermot Gleeson

Llywodraethwr y BBC ers mis Tachwedd 2000. Aelod o’r Pwyllgor Archwilio a’r Pwyllgor Eiddo. Ymddiriedolwr Eilyddol o Gynllun Pensiwn y BBC. Cadeirydd M J Gleeson Group plc. Cadeirydd Major Contractors Group o 2003. Un o gyfarwyddwyr y Gorfforaeth Dai o 1990 i 1995 ac o Fwrdd Hyfforddi’r Diwydiant Adeiladu o 1995 i 2002. Cyn Bennaeth Isadran Materion Cartref Adran Ymchwil y Blaid Geidwadol ac aelod o gabinet Christopher Tugendhat yn y Comisiwn Ewropeaidd o 1977 i 1979. Ganed ym 1949.

6 Yr Athro Merfyn Jones

Llywodraethwr Cenedlaethol y BBC yng Nghymru ers mis Ionawr 2003. Aelod o Bwyllgor y Cynghorau a’r Cyrff Ymgynghorol. Hanesydd a darlledwr. Athro Hanes Cymru ym Mhrifysgol Cymru, Bangor, yn arbenigo ym maes hanes modern a chyfoes cymdeithas a gwleidyddiaeth yng Nghymru. O 1998 roedd yn Ddirprwy Is-Ganghellor y Brifysgol. Ym mis Mehefin 2004, fe’i penodwyd yn Is-Ganghellor a bydd yn dechrau yn ei swydd ym mis Awst. Mae hefyd yn awdur nifer o lyfrau ac erthyglau. Ganed ym 1948.

7 Yr Athro Fabian Monds CBE

Llywodraethwr Cenedlaethol y BBC yng Ngogledd Iwerddon ers mis Awst 1999 (penodwyd am ail dymor o bedair blynedd o fis Gorffennaf 2003 ymlaen). Aelod o’r Pwyllgor Cwynion am Raglenni, y Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg a Phwyllgor y Cynghorau a’r Cyrff Ymgynghorol. Arbenigwr mewn systemau gwybodaeth a chyfathrebu. Cadeirydd Invest Northern Ireland, sef yr asiantaeth datblygu economaidd a Chanolfan Trawma a Thrawsnewid Gogledd Iwerddon yn Omagh. Cyn Ddirprwy Is-Ganghellor Prifysgol Ulster. Un o sylfaenwyr Medical and Scientific Computer Services Limited a WesternConnect Limited.

Ganed ym 1940.

8 Y Fonesig Pauline Neville-Jones DCMG Llywodraethwr Rhyngwladol y BBC ers mis Ionawr 1998. Ailbenodwyd ym mis Ionawr 2001 a mis Rhagfyr 2003 am ddwy flynedd arall. Yn cadeirio’r Pwyllgor Archwilio a Grwp Ymgynghorol World Service y Llywodraethwyr. Aelod o’r Pwyllgor Cwynion am Raglenni a’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth. Cadeirydd QinetiQ Group plc a Chadeirydd y Cyngor Ymgynghorol ar Sicrwydd Gwybodaeth. O 1996 i 2000 gweithiodd i Farchnadoedd NatWest ac yn dilyn hynny i gangen ymgynghorol gorfforaethol NatWest, sef Hawkpoint Partners. Yn aelod gyrfa o’r Gwasanaeth Llysgenhadol o 1963 i 1996, yn cynnwys secondiad pum mlynedd ym Mrwsel, cadeiryddiaeth y Cydbwyllgor Gwybodaeth yn Swyddfa’r Cabinet a thair blynedd fel Cyfarwyddwr Gwleidyddol yn y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad. Ganed ym 1939.

9 Angela Sarkis CBE

Llywodraethwr y BBC ers mis Hydref 2002. Aelod o’r Pwyllgor Cwynion am Raglenni. Ymgynghorydd annibynnol; cyfarwyddwr anweithredol Bwrdd Gwasanaethau Cywirol y Swyddfa Gartref; aelod o Gomisiwn Penodiadau Interim Ty’r Arglwyddi, a Chynghorydd i’r Adran Addysg a Sgiliau ar reoli baich gwaith athrawon. Prif Weithredwr Cronfa Drefol yr Eglwysi o 1996 i fis Ionawr 2002. Cadeirydd Prosiect Amrywiaeth yr NCVO ac Is-Lywydd y Gynghrair Efengylaidd Garibïaidd Affricanaidd. Cyn ymddiriedolwr Plant mewn Angen y BBC. Ganed ym 1955.

10 Syr Robert Smith

Llywodraethwr Cenedlaethol y BBC yn yr Alban ers mis Awst 1999 (penodwyd am ail dymor o bedair blynedd ym mis Gorffennaf 2003). Cadeirydd y Pwyllgor Cwynion am Raglenni ac aelod o’r Pwyllgor Archwilio, y Pwyllgor Eiddo, y Pwyllgor Cydnabyddiaeth, a Phwyllgor y Cynghorau a’r Cyrff Ymgynghorol. Cadeirydd Ymddiriedolwyr Plant mewn Angen y BBC. Cadeirydd Weir Group plc a Dirprwy Gadeirydd Scottish and Southern Energy plc. Aelod o Fwrdd Penodiadau Barnwrol yr Alban a Bwrdd Ymddiriedolwyr y Cyngor Prydeinig. Cyn Lywydd Sefydliad Cyfrifwyr Siartredig yr Alban. Ym mis Ionawr 2003, cyhoeddodd Adroddiad Smith ar Bwyllgorau Archwilio ar ran y Cyngor Adroddiadau Ariannol. Ganed ym 1944.

11 Ranjit Sondhi CBE

Llywodraethwr y BBC ers mis Awst 1998 (penodwyd am ail dymor o bedair blynedd ym mis Gorffennaf 2002) gyda chyfrifoldeb arbennig dros Ranbarthau Lloegr. Cadeirydd Fforwm Cenedlaethol Lloegr a Phwyllgor y Cynghorau a’r Cyrff Ymgynghorol ac aelod o’r Pwyllgor Cwynion am Raglenni. Uwch Ddarlithydd yng Ngholeg Westhill, Prifysgol Birmingham. Un o ymddiriedolwyr yr Oriel Genedlaethol a Chadeirydd Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol Heart of Birmingham. Ymhlith ei swyddi blaenorol bu’n Ddirprwy Gadeirydd y Comisiwn Cydraddoldeb Hiliol ac aelod o’r Awdurdod Darlledu Annibynnol a’r Awdurdod Radio. Ganed ym 1950.

Gavyn Davies OBE

Gwasanaethodd fel Cadeirydd o fis Hydref 2001 nes iddo ymddiswyddo ym mis Ionawr 2004.

Syr Richard Eyre CBE

Gwasanaethodd fel un o Lywodraethwyr y BBC o fis Tachwedd 1995 nes iddo ymddiswyddo ym mis Mai 2003.

Y Farwnes Hogg

Gwasanaethodd fel un o Lywodraethwyr y BBC o fis Chwefror 2000 tan y daeth ei chyfnod yn ei swydd i ben ym mis Chwefror 2004.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

9

Y Pwyllgor Gweithredol

 

Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn rheoli busnes y BBC o ddydd i ddydd. Mae’n cynnwys penaethiaid 16 o isadrannau’r BBC, sy’n cynhyrchu neu’n comisiynu holl ddarllediadau’r BBC, ac fe’i cadeirir gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol. Mae’r Pwyllgor Gweithredol yn atebol i Fwrdd y Llywodraethwyr sy’n penodi’r Cyfarwyddwr Cyffredinol a thrwy ymgynghori ag ef, holl aelodau eraill y Pwyllgor Gweithredol.

10 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 BBC Annual Report and Accounts 2003/2004

1 Mark Thompson

Darpar Gyfarwyddwr Cyffredinol o fis Mai 2004. Cyn Brif Weithredwr, Channel 4 o 2002. Swyddi blaenorol yn y BBC yn cynnwys Cyfarwyddwr Teledu; Cyfarwyddwr Darlledu Cenedlaethol a Rhanbarthol; Rheolwr BBC Two; Pennaeth Rhaglenni Ffeithiol; Pennaeth Rhaglenni Nodwedd; Golygydd, Panorama, a Chyfarwyddwr,

Nine O’Clock News.

2 Mark Byford

Cyfarwyddwr Cyffredinol Dros Dro a Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol ers mis Ionawr 2004. Mae hefyd yn arwain yr Isadran Global News, gyda chyfrifoldeb cyffredinol dros BBC World Service a BBC World. Un o ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y BBC. Swyddi blaenorol yn y BBC yn cynnwys Cyfarwyddwr Darlledu Rhanbarthol; Pennaeth y Ganolfan, Leeds a Golygydd Cartref, Newyddion Teledu.

3 Jenny Abramsky CBE

Cyfarwyddwr Radio a Cherddoriaeth ers mis Ebrill 2000. Yn gyfrifol am BBC Radio 1,

2, 3, 4, Five Live, BBC Asian Network, 6 Music,1Xtra, Five Live Sports Extra, BBC 7, cerddoriaeth glasurol ar y teledu, Music Live, Proms y BBC a thair cerddorfa’r BBC a leolir yn Lloegr. Swyddi blaenorol yn y BBC yn cynnwys Cyfarwyddwr Newyddion Parhaus; Cyfarwyddwr Radio; Rheolwr BBC Radio Five Live; Golygydd, Newyddion a Materion Cyfoes Radio, a Golygydd y rhaglen Today.

4 Jana Bennett OBE

Cyfarwyddwr Teledu ers mis Ebrill 2002. Yn gyfrifol am sianelau teledu’r BBC: BBC One, BBC Two, BBC Three a BBC Four; rhaglennu rhyngweithiol cysylltiedig; ac am oruchwylio cynnwys ar sianelau cyd-fenter UKTV a BBC America a BBC Prime. Swyddi blaenorol yn cynnwys Rheolwr Cyffredinol ac Is-Lywydd Gweithredol yn Discovery Communications Inc yn UDA; Cyfarwyddwr Cynhyrchu yn y BBC; Pennaeth adran Wyddoniaeth y BBC; Golygydd, Horizon, ac Uwch Gynhyrchydd ar Newsnight a Panorama.

5 Stephen Dando

Cyfarwyddwr adran Pobl y BBC (Adnoddau Dynol a Chysylltiadau Mewnol yn flaenorol) ers mis Mehefin 2001. Yn gyfrifol am holl faterion pobl a materion sefydliadol y BBC, yn cynnwys cysylltiadau staff. Un o ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y BBC. Cyn Gyfarwyddwr Adnoddau Dynol Byd-eang Guinness Limited. Swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Datblygu Rheolaeth Grwp, Diageo, a chyfnodau gyda UDV Europe, United Distillers, Ferranti International ac Austin Rover.

6 Andy Duncan

Cyfarwyddwr Marchnata, Cysylltiadau a Chynulleidfaoedd ers mis Mehefin 2001. Yn gyfrifol am holl weithgareddau marchnata, cyhoeddusrwydd, y wasg a chysylltiadau cyhoeddus, gwasanaethau cynulleidfaoedd a gweithgareddau ymchwil cynulleidfaoedd y BBC. Cadeirydd Freeview. Un o ymddiriedolwyr Plant mewn Angen.

‘Marchnatwr y Flwyddyn’ y Sefydliad

Marchnata Siartredig 2003. Swyddi blaenorol yn cynnwys Rheolwr Cyffredinol Ewropeaidd, aelod y Bwrdd Byd-eang a Chyfarwyddwr Marchnata Ewropeaidd – isadran Bwyd a Diod Unilever, Cyfarwyddwr Marchnata’r DU – Unilever UK, a Chadeirydd Cyngor Te y DU.

7 Carolyn Fairbairn

Cyfarwyddwr Strategaeth a Dosbarthu ers mis Ebrill 2001. Yn gyfrifol am gynllunio strategol a dosbarthu gwasanaethau’r BBC. Cyn Gyfarwyddwr Strategaeth. Swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Strategaeth, BBC Worldwide Limited, gweithio yn Uned Bolisi Downing Street, ac i McKinsey and Company.

8 Rupert Gavin

Prif Weithredwr, BBC Worldwide Limited ers mis Gorffennaf 1998. Yn gyfrifol am holl weithgareddau masnachol defnyddwyr y BBC yn y marchnadoedd cartref ac o amgylch y byd. Cyn Reolwr Gyfarwyddwr Adran Defnyddwyr BT. Swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Gwybodaeth, Cyfathrebu ac Adloniant BT a Dirprwy Reolwr Gyfarwyddwr Grwp Dixons Stores.

9 Ashley Highfield

Cyfarwyddwr Cyfryngau Newydd a Thechnoleg ers mis Hydref 2000. Yn gyfrifol am bbc.co.uk, gwasanaethau teledu rhyngweithiol, llwyfannau newydd y BBC (band eang, symudol, ac ati), portffolio technoleg y BBC, dyfeisgarwch technegol, ac ymchwil a datblygu. Cyn Reolwr Gyfarwyddwr Flextech Interactive, adran cyfryngau newydd y cwmni teledu tâl. Swyddi blaenorol yn cynnwys Pennaeth TG a Chyfryngau Newydd Sianelau NBC yn Ewrop.

10 Pat Loughrey

Cyfarwyddwr y Gwledydd a’r Rhanbarthau ers mis Mai 2000. Yn gyfrifol am raglenni a gwasanaethau’r BBC yng Nghymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Rhanbarthau Lloegr. Cyn Reolwr, BBC Northern Ireland. Swyddi blaenorol yn cynnwys Pennaeth Rhaglenni a Phennaeth Darlledu Addysgol BBC Northern Ireland, a swyddi addysgu a darlledu yn Iwerddon a Chanada.

11 Peter Salmon

Cyfarwyddwr Chwaraeon ers mis Tachwedd 2000. Yn gyfrifol am holl weithgaredd Chwaraeon y BBC ar gyfer teledu, radio a’r cyfryngau newydd. Cyn Reolwr, BBC One. Swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Rhaglenni yn Granada TV, Rheolwr Rhaglenni Ffeithiol yn Channel 4, a Phennaeth Rhaglenni Nodwedd yn BBC Bristol.

12 Richard Sambrook

Cyfarwyddwr Newyddion ers mis Mawrth 2001. Yn gyfrifol am weithrediadau darlledu newyddion a’r ddarpariaeth rhaglennu newyddion a materion cyfoes dyddiol ar gyfer teledu, radio a gwasanaethau ar-lein y BBC ledled y DU. Cyn Ddirprwy Gyfarwyddwr, Newyddion. Swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Dros Dro Chwaraeon; Pennaeth Casglu

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Newyddion; Golygydd Newyddion a Dirprwy Olygydd, Nine O’Clock News.

13 John Smith

Cyfarwyddwr Cyllid, Eiddo a Materion Busnes ers mis Ebrill 2000. Yn gyfrifol am holl gyllid y BBC yn cynnwys casglu trwyddedau teledu, caffael a’r strategaeth eiddo, ac am oruchwylio BBC Ventures Group ers ymddiswyddiad Roger Flynn. Un o ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y BBC. Cyfarwyddwr Ariannol y Flwyddyn AccountancyAge yn 2001. Cyfarwyddwr anweithredol Severn Trent Plc a Chadeirydd eu Pwyllgor Archwilio. Yn flaenorol gyda British Rail Group, yn goruchwylio dad-gyfuniadau. Aelod o’r Bwrdd Safonau Cyfrifo.

14 Caroline Thompson

Cyfarwyddwr, Polisi a Chyfreithiol (Polisi Cyhoeddus yn flaenorol) ers mis Mai 2000. Yn gyfrifol am yr Arolwg o’r Siarter, materion cyfreithiol, cysylltiadau llywodraethol a chyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol. Un o ymddiriedolwyr Cynllun Pensiwn y BBC. Swyddi blaenorol yn cynnwys Cyfarwyddwr Strategaeth a Materion Corfforaethol, BBC World Service; Golygydd Comisiynu, Gwyddoniaeth a Busnes yn Channel 4 a chynorthwy-ydd gwleidyddol i Roy Jenkins.

15 John Willis

Cyfarwyddwr Ffeithiol a Dysgu ers mis Mehefin 2003. Cyn Is-Lywydd yng ngofal rhaglennu cenedlaethol yn WGBH Boston. Swyddi blaenorol yn cynnwys Rheolwr Gyfarwyddwr, LWT a United Productions; Cyfarwyddwr Rhaglenni, Channel 4; Rheolwr Rhaglenni Dogfen a Materion Cyfoes, a Golygydd First Tuesday, Yorkshire Television.

16 Alan Yentob

Cyfarwyddwr Drama, Adloniant a CBBC ers mis Ebrill 2000. Yn gyfrifol am yr holl ddarllediadau creadigol yn y meysydd hyn, yn cynnwys Ffilmiau’r BBC, ac am reoli talent ar draws y BBC. Cyflwynydd y rhaglen gelfyddydol ar BBC One, Imagine. Cadeirydd Sefydliad y Celfyddydau Cyfoes. Cyn Gyfarwyddwr Teledu’r BBC; Rheolwr BBC One a BBC Two; Pennaeth Cerddoriaeth a’r Celfyddydau, a Golygydd cyntaf, Arena.

Greg Dyke

Greg Dyke oedd y Cyfarwyddwr Cyffredinol o fis Ionawr 2000 nes iddo ymddiswyddo ym mis Ionawr 2004.

Glenwyn Benson

Glenwyn Benson oedd y Cyfarwyddwr Ffeithiol a Dysgu tan fis Mehefin 2003 pan gafodd ei phenodi i swydd newydd sef Rheolwr, Teledu Ffeithiol.

Roger Flynn

Roger Flynn oedd Prif Weithredwr BBC Ventures Group Limited o fis Mehefin 2001 nes iddo ymddiswyddo ym mis Mawrth 2004.

11

Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion

Trosolwg

Fel Llywodraethwyr, rydym yn gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn gweithredu er budd gwylwyr a gwrandawyr. Ar eu rhan, rydym yn asesu effeithiolrwydd y BBC wrth gyflawni ei bwrpas cyhoeddus: cyfoethogi bywydau pobl gyda rhaglenni a gwasanaethau sy’n hysbysu, addysgu a diddanu. Er mwyn sicrhau bod y rheolwyr yn canolbwyntio ar gyflawni’r pwrpas cyhoeddus hwnnw, rydym yn pennu amcanion bob blwyddyn ac yn monitro perfformiad yn eu herbyn.

Mae’r amcanion hyn yn darparu fframwaith strategol ar gyfer y BBC, ond nid dyma’r unig fesur a ddefnyddir gennym i asesu perfformiad. Bob gwanwyn byddwn hefyd yn cyhoeddi Datganiadau o Bolisi Rhaglenni’r BBC sy’n nodi’r cylch gwaith ar gyfer pob gwasanaeth, ac yn ymrwymo’r BBC i ddarparu amrywiaeth eang o ddarllediadau cyhoeddus. Yn Adroddiad Blynyddol y BBC, yn ogystal ag asesu perfformiad yn erbyn amcanion, rydym hefyd yn gwerthuso perfformiad y BBC yn erbyn y cylchoedd gwaith hyn ac wrth gyflawni ymrwymiadau darlledu (gweler tudalennau 24 i 53 a 58 i 67).

Yn yr adran hon cyflwynwn adroddiad ar berfformiad yn erbyn ein hamcanion ar gyfer 2003/2004. Er mwyn llywio ein barn, ymgynghorwn yn rheolaidd â thalwyr y drwydded. Mae’r adran hon yn cynnwys dwy astudiaeth achos fel enghreifftiau o’r gwaith a wnaed gennym. Nodir ein hamcanion ar gyfer 2004/2005 ar dudalen 23.

12 BBC Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 Annual Report and Accounts 2003/2004

 

Amcan 1

Ategu cylch gwaith cyhoeddus y BBC drwy ehangu amrywiaeth ac ansawdd ei wasanaethau radio a theledu, gyda ffocws ar ddarlledu mwy o raglenni cofiadwy, effaith uchel, yn arbennig ym maes y celfyddydau a materion cyfoes.

Ehangwyd amrywiaeth y darllediadau ar radio a theledu, yn arbennig yn ein genres blaenoriaeth sef y celfyddydau a materion cyfoes a llwyddodd y BBC i ddarlledu rhaglenni cofiadwy, effaith uchel. Fodd bynnag, bu gostyngiad yng nghanfyddiad y gynulleidfa o ansawdd y BBC ac mae angen gwneud gwaith i ddeall hyn.

Mae perfformiad radio yn parhau yn gryf, gan gynnal ei ymrwymiad i amrywiaeth eang o ddarllediadau na chlywir gan y sector masnachol. Adlewyrchir hyn yng nghyrhaeddiad 15+ oed Radio’r BBC a barhaodd yn gymharol sefydlog, gan ostwng dim ond 0.3 pwynt i 66.4% yn 2003/2004, er gwaethaf cystadleuaeth gynyddol. O ganlyniad i’r pum rhwydwaith radio digidol newydd, rhoddwyd mwy o oriau o ddrama, rhaglenni ffeithiol a chrefydd i wrandawyr. O ran analog, nodwn ansawdd ac uchelgais cyson cyfresi hirsefydledig fel

Face the Facts, File on 4 a Beyond Belief.

Ceir tystiolaeth o amrywiaeth cynyddol o ddarllediadau ar y teledu yn 2003/2004 gyda mwy o oriau a buddsoddi mewn genres allweddol fel hanes, gwyddoniaeth, y celfyddydau a materion cyfoes. Rydym yn falch o nodi ei bod yn ymddangos bod

cynulleidfaoedd wedi cydnabod yr amrywiaeth cynyddol hwn, gyda chynnydd yng nghyrhaeddiad Teledu’r BBC. Dengys ymchwil hefyd fod cynulleidfaoedd yn nodi mai sianelau’r BBC yw’r “gorau o ran amrywiaeth” mewn 17 allan o 22 o genres.

Bu’r celfyddydau a materion cyfoes ar y teledu yn flaenoriaethau yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae canlyniadau strategaethau newydd bellach i’w gweld ar y sgrîn (gweler tudalen 14). Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth uchel i’r strategaethau hyn. Mae’r ffaith mai BBC One yw’r sianel a ystyrir fel y sianel orau ar gyfer newyddion a materion cyfoes, felly hefyd BBC Two ar gyfer y celfyddydau, yn galonogol. Croesawn hefyd y ffaith bod y gyfres gelfyddydol newydd ar BBC Two, The Culture Show, y bwriedir ei lansio yn ddiweddarach eleni, wedi’i hamserlennu yn ystod oriau brig.

Ar y teledu, ceir tystiolaeth gryf bod y BBC wedi cyflwyno nifer uchel o raglenni cofiadwy ar draws amrywiaeth o genres. Yn 2003, roedd 47% o’r rhaglenni y gallai cynulleidfaoedd eu cofio yn ddigymell mewn gwaith ymchwil yn rhaglenni a ddarlledwyd ar Deledu’r BBC, sy’n gyfran llawer uwch nag unrhyw sianel arall. Cafodd rhai o’r darllediadau hyn hefyd effaith wleidyddol neu gymdeithasol ehangach, fel The Secret Policeman a The Big Read.

Fodd bynnag, rydym yn poeni am ddirywiad o ran canfyddiadau pobl o ansawdd darllediadau’r BBC dros y blynyddoedd diwethaf, gyda phobl ychydig yn llai tueddol o gytuno â’r datganiad: “bod y BBC yn cynnal safonau ansawdd uchel” a’i fod: “yn pennu’r safon ar gyfer gwneud rhaglenni yn y DU”. Mae’r canfyddiad hwn yn groes i gyrhaeddiad cynyddol Teledu’r BBC a chytundeb y gynulleidfa mai’r BBC sy’n cynnig yr ansawdd gorau yn y mwyafrif o genres. Cynhelir

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

gwaith yn ystod y flwyddyn nesaf i ddeall canfyddiadau’r gynulleidfa o ansawdd yn well ac yn benodol i ganfod p’un a yw’r gostyngiad canfyddedig mewn ansawdd yn ymwneud â’r BBC yn benodol neu’r byd darlledu yn gyffredinol.

13

Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion

Amcan 2

Atgyfnerthu gwasanaethau digidol y BBC, gyda’r nod o ddarparu rhywbeth o werth i bob cynulleidfa ddigidol. Yn arbennig, darparu amrywiaeth eang o gyfleoedd dysgu rhyngweithiol a helpu i gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar wasanaethau digidol drwy ehangu argaeledd y gwasanaethau hynny a chanolbwyntio ar gomisiynu ac amserlennu traws-sianel.

Gwnaed cynnydd cadarn wrth helpu i gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar wasanaethau digidol a cheir tystiolaeth bod darllediadau’r gwasanaethau digidol wedi’u hatgyfnerthu, ond bydd angen craffu parhaus er mwyn i ni sicrhau bod y gwasanaethau newydd yn cynnig gwerth da am arian.

Mae’r BBC wedi parhau â’i ran bwysig wrth gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar wasanaethau digidol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Gwellwyd amrywiaeth y gwasanaethau a’u cynnwys a chyfeiriwyd yr ymdrech farchnata tuag at godi ymwybyddiaeth o lwyfannau digidol a sut i fanteisio arnynt. Ym mis Mawrth 2004, 18 mis ar ôl ei lansio, cyrhaeddodd gwerthiannau Freeview 3.5 miliwn, sy’n golygu mai dyma yw’r ddyfais electronig i ddefnyddwyr sy’n tyfu fwyaf yn y DU.

Rhaglennu celfyddydol y BBC

Deilliodd Amcan 1 yn rhannol o’n pryder bod nifer y darllediadau celfyddydol wedi gostwng ar Deledu’r BBC. O ganlyniad rhoddwyd strategaeth newydd ar waith. Darlledwyd llawer o’r cynyrchiadau newydd a ddeilliodd ohoni gyntaf yn 2003 ac yn ystod y flwyddyn aethom ati i asesu eu llwyddiant.

Roedd ein harolwg yn cynnwys sesiynau gweithdy ym Mryste, Birmingham a Manceinion lle y cyfarfuom â phobl broffesiynol leol sy’n gweithio ym maes y celfyddydau. Yn ogystal, comisiynwyd prosiect ymchwil y gynulleidfa gennym a gynhaliwyd ym Mae Colwyn, Glasgow, Newcastle, Caerlyr, Gillingham a Llundain.

Canfuwyd cytundeb cyffredinol bod cynulleidfaoedd yn disgwyl mwy gan y BBC na chan ddarlledwyr eraill. Teimlai cynulleidfaoedd nad oedd y celfyddydau yn cael blaenoriaeth uchel gan y BBC, fel yr adlewyrchwyd gan ei amserlennu a’i ddarllediadau a oedd yn aml yn anodd eu rhagweld ac yn hwyr yn y nos. Teimlai cynulleidfaoedd fod angen i’r BBC hyrwyddo ei raglenni celfyddydol yn well. Creodd rhaglennu digwyddiadau fel The Big Read effaith uchel – ond am gyfnod cyfyngedig. Yr hyn yr oedd ei angen oedd ymrwymiad i gyfresi parhaus yn ogystal â rhaglenni unigol, effaith uchel.

Roedd y rhan fwyaf o bobl yn cytuno bod BBC One wedi dangos rhai rhaglenni celfyddydol llwyddiannus iawn a oedd yn

apelio i gynulleidfa eang fel Rolf On Art a Leonardo. Fodd bynnag, tybiwyd bod y BBC yn llai arloesol na darlledwyr eraill gyda thuedd i anelu at gynulleidfa prif ffrwd. Roedd cynulleidfaoedd am i’r BBC ddangos rhaglenni lefel mynediad a darllediadau a oedd yn mynd y tu hwnt i chwaeth boblogaidd ac yn pennu’r agenda. Yn arbennig, ystyriwyd bod angen rhaglen gylchgrawn gelfyddydol heriol ar BBC Two.

Ystyriwyd bod Imagine, y rhaglen newydd ar BBC One, yn llwyddiannus wrth ymdrin ag amrywiaeth o bynciau mewn ffordd ddiddorol ac addysgiadol. Ond roedd y rhaglen yn rhy newydd i fod wedi ymsefydlu ym meddwl cynulleidfaoedd. Roedd defnyddwyr celfyddydol yn rhoi gwerth uchel ar ddarllediadau Radio’r BBC. Yn arbennig, gwerthfawrogwyd yr ymrwymiad i sylwebaeth, arbenigedd a newyddion o’r byd celfyddydol.

Rydym yn falch o nodi yn dilyn yr ymgynghoriad hwn bod y Cyfarwyddwr Teledu a Rheolwr, BBC Two wedi cyhoeddi uned newyddiaduraeth gelfyddydol newydd i gynhyrchu rhaglenni ar gyfer BBC Two a BBC Four. Caiff rhaglen oriau brig wythnosol newydd ar BBC Two a fydd yn canolbwyntio’n benodol ar y celfyddydau a diwylliant yn y DU ei lansio yn ddiweddarach eleni.

14

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Mae mwy na 10 miliwn o bobl bellach yn defnyddio tudalennau rhyngrwyd y BBC bob mis

Amcan 3

Mae llwyddiant Freeview a phenderfyniad y BBC i ddarlledu gwasanaethau heb eu seiffro ar loeren yn ffactorau allweddol sy’n sail i obaith cynyddol y diwydiant y bydd yn bosibl dod â gwasanaethau analog i ben erbyn 2010. O ran radio, mae rhwydwaith darlledu DAB y BBC wedi ehangu ei allu i ddarlledu o 65% i 75% o’r DU yn ystod y flwyddyn. Dengys ymchwil y bu gwasanaethau’r BBC yn hanfodol o ran annog pobl i brynu derbynwyr radio digidol, gyda BBC 7 ar ei ben ei hun yn gyfrifol am gyfran arwyddocaol o’r pryniadau. Parhaodd bbc.co.uk i chwarae rhan arwyddocaol wrth annog y defnydd o wasanaethau ar-lein.

Mae data cyrhaeddiad wythnosol bellach ar gael ar gyfer y rhwydweithiau radio digidol, gan ddynodi bod cyfartaledd o 1.4 miliwn o wrandawyr yn gwrando. Nodwn y gymeradwyaeth arbennig o uchel i’r rhwydweithiau hyn.

Mae cyrhaeddiad ac ymwybyddiaeth o holl wasanaethau teledu digidol y BBC wedi cynyddu yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, gyda thwf arbennig o gadarn gan CBBC. Fodd bynnag, erys y canfyddiad o werth BBC Three a BBC Four yn rhy isel. Rydym wedi adolygu’r sianelau digidol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a chymerwyd camau i’w hatgyfnerthu, gan gynnwys newidiadau sylweddol i amserlen BBC Three yn ystod y flwyddyn wedi’u hanelu at wella ei natur arbennig. Cymeradwywyd cynnydd bach yng nghyllideb BBC Four gennym hefyd er mwyn iddi fuddsoddi mewn drama a chomedi gwreiddiol i helpu i ehangu ei hapêl.

Mae cynnydd yn nifer y cyd-gomisiynau rhwng y sianelau digidol ac analog eleni yn helpu i gyflawni gwerth am arian ac yn rhoi cyfle i wylwyr analog fanteisio ar fuddsoddiad digidol y BBC. Caiff goreuon BBC Three a BBC Four eu darlledu’n rheolaidd ar BBC One a BBC Two, gyda BBC Four Zone ar BBC Two yn llwyddiant arbennig. Yr her yn awr yw lleihau dibyniaeth y sianelau teledu digidol ar gynnwys analog, yn arbennig ar BBC Three.

Buddsoddwyd mwy mewn gwasanaethau teledu rhyngweithiol yn ystod y flwyddyn. Roedd perfformiad cryf y gwasanaethau hyn yn seiliedig ar ddarllediadau ffeithiol nodedig fel Human Senses ac mae arlwy unigol fel Bitesize, sydd hefyd ar gael ar bbc.co.uk, yn dynodi eu potensial i gyflwyno darllediadau dysgu i gynulleidfa newydd.

Bydd y gwaith o graffu ar y strategaethau a pherfformiad yr holl wasanaethau digidol yn parhau yn flaenoriaeth i ni. Yn ystod y flwyddyn nesaf byddwn yn comisiynu ein gwaith ymchwil ansoddol a meintiol ein hunain i farnu effeithiolrwydd a natur arbennig y gwasanaethau newydd hyn ac i lywio barn am y gwerth am arian a gynigir ganddynt i dalwyr y drwydded. Erys ehangu argaeledd gwasanaethau digidol y BBC yn flaenoriaeth ac fe’i hadlewyrchir yn y ffaith ein bod wedi’i gynnwys fel amcan ar gyfer 2004/2005 (gweler tudalen 23).

Denu cynulleidfaoedd iau i wasanaethau’r BBC drwy ddatblygu rhaglenni a chynnwys mentrus ac arloesol, gyda ffocws penodol ar wneud newyddion a materion cyfoes y BBC yn fwy perthnasol a diddorol i’r grwp hwn heb gyfaddawdu ymrwymiad y BBC i ohebu seneddol.

Mae gwasanaethau a rhaglennu newydd yn helpu i gynyddu cyrhaeddiad y BBC ymhlith cynulleidfaoedd iau ond mae angen ymdrech ac arbrofi parhaus i ennyn diddordeb y gynulleidfa hon mewn amrywiaeth o ddarllediadau.

Llwyddodd y BBC i ddenu cynulleidfaoedd iau yn 2003/2004 gyda chyfanswm cyrhaeddiad y BBC yn cynyddu 1.5 pwynt i 90.5% ymhlith y grwp oedran 16-34.

Ar y teledu, bu drama ac operâu sebon yn arbennig o lwyddiannus wrth ddenu cynulleidfaoedd iau i BBC One a BBC Three. Croesawn ymdrechion parhaus i’w denu i amrywiaeth ehangach o ddarllediadau, fel rhaglenni ffeithiol a chelfyddydol.

Rydym yn siomedig bod cyrhaeddiad Radio’r BBC wedi gostwng ymhlith pobl ifanc 15-34 mlwydd oed, gan adlewyrchu gostyngiad yng nghyrhaeddiad Radio 1 yn bennaf. Cymeradwywyd strategaeth newydd gennym ar gyfer BBC Radio 1 ym mis Mai 2003 er mwyn sicrhau bod yr orsaf yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth gyrraedd y gynulleidfa hon (gweler tudalen 33).

15

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion

Amcan 4

Parhau i chwilio am ffyrdd newydd o ddenu cynulleidfaoedd o leiafrifoedd ethnig y DU, drwy wasanaethau prif ffrwd a gwasanaethau wedi’u targedu.

Ceir rhywfaint o dystiolaeth bod y BBC yn llwyddo i ddenu cynulleidfaoedd o leiafrifoedd ethnig i’w ddarllediadau. Mae angen i’r ymdrech yn awr ganolbwyntio ar sicrhau bod y broses comisiynu a datblygu yn adlewyrchu anghenion y cynulleidfaoedd hyn yn well.

Dengys ymchwil y bu gwelliant mewn cymeradwyaeth i’r BBC ymhlith cynulleidfaoedd o leiafrifoedd ethnig, a chynnydd ym mherfformiad ei wasanaethau ar bob llwyfan. Mae cymeradwyaeth i’r BBC ymhlith lleiafrifoedd ethnig bellach ar yr un lefel â’r boblogaeth gyffredinol, sef 6.7 allan o 10, a cheir canfyddiad cynyddol bod y BBC yn darparu’n briodol ar gyfer buddiannau lleiafrifol. Fodd bynnag, erys cyrhaeddiad teledu a radio ymhlith lleiafrifoedd ethnig yn sylweddol is na’r cyrhaeddiad ymhlith y boblogaeth gyffredinol o hyd, ac yn arbennig felly ar y rhwydweithiau radio analog.

Nod y Prosiect Cysylltu â Lleiafrifoedd Ethnig oedd darparu dealltwriaeth well o fuddiannau a ffyrdd o fyw y cynulleidfaoedd hyn. Bellach fe’i cyflëwyd i bob un o adrannau’r BBC a dechreuodd ddylanwadu ar benderfyniadau comisiynu a chynhyrchu. Ymhlith y llwyddiannau nodedig mae’r gyfres The Canterbury Tales ar BBC One a wnaeth ddefnydd helaeth o actorion o leiafrifoedd ethnig a Top Gear sy’n adlewyrchu’r diddordeb uchel iawn mewn ceir ymhlith cynulleidfaoedd Asiaidd.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Parhaodd yr ymdrechion i ddenu cynulleidfaoedd iau gyda newyddion a materion cyfoes, gyda gwasanaethau ar-lein yn arbennig o lwyddiannus. Mae mwy na 10% o bobl ifanc 15-34 mlwydd oed yn defnyddio bbc.co.uk/news, i fyny o 8% flwyddyn yn ôl. Cafodd BBC Three lwyddiant beirniadol gyda’i darllediadau materion cyfoes ac mae ei bwletin byr bob awr, 60 Seconds, yn parhau i berfformio’n dda. Disodlwyd Liquid News a oedd yn canolbwyntio ar fyd y sêr â phrif raglen newyddion min nos hwy ym mis Mai 2004 er mwyn manteisio ar y diddordeb amlwg mewn materion cyfoes dadansoddol ar ffurf hwy ymhlith gwylwyr BBC Three.

Bu ymdrechion newydd i ddenu cynulleidfaoedd iau i wleidyddiaeth, yn arbennig gyda’r slot 9am ar ddydd Sadwrn ar BBC Two. Fodd bynnag, dim ond cynulleidfaoedd bach a ddenwyd gan y ddau fformat a ddarlledwyd fel rhaglenni peilot – a’r cynulleidfaoedd hynny yn hyn na’r gobaith. Bydd strategaethau yn y dyfodol yn canolbwyntio ar gyrraedd cynulleidfaoedd iau drwy fwletinau prif ffrwd a’r we. Cafwyd canlyniadau cynnar calonogol gan y prosiect ar-lein a theledu rhyngweithiol iCan a lansiwyd fel prosiect peilot ym mis Tachwedd i gynnwys pobl yn y materion gwleidyddol sy’n bwysig iddynt hwy. Cynyddodd y defnydd ohono yn gyflym, gyda’r rhan fwyaf o’r defnyddwyr o dan 45 oed. Nid yw’r newidiadau a gyflwynwyd i’r darllediadau gwleidyddol yn ystod y ddwy flynedd diwethaf wedi cyfaddawdu ymrwymiad y BBC i ohebu seneddol sy’n parhau i gael ei ategu gan uned seneddol ymroddedig y BBC ym Millbank.

Erys denu cynulleidfaoedd iau ar draws teledu, radio ac ar-lein yn flaenoriaeth barhaus i ni. Sefydlwyd prosiect ar draws y BBC cyfan yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ddeall anghenion y gynulleidfa hon yn well a sut y gall y BBC eu diwallu.

16

Ceir arwyddion cynnar bod 1Xtra a BBC Asian Network, a lansiwyd i lenwi bylchau yn arlwy’r BBC, yn hybu cyrhaeddiad cynyddol Radio’r BBC ymhlith y gynulleidfa hon. Mae BBC Asian Network eisoes yn cyrraedd mwy o leiafrifoedd ethnig nag unrhyw rwydwaith radio arall y BBC ac eithrio BBC Radio 1. Mae 1Xtra yn apelio i holl ddilynwyr cerddoriaeth ddu gyfoes, nid yn unig gwrandawyr du.

Cafodd y BBC rywfaint o lwyddiant cyfyngedig gyda mentrau ysgrifennu i annog awduron o leiafrifoedd ethnig. Croesawn fuddsoddiad BBC Asian Network mewn talent ysgrifennu newydd i gynorthwyo â’i opera sebon Asiaidd newydd. Fodd bynnag, mae beirniadaeth i’r comedi sefyllfa Affricanaidd-Caribïaidd The Crouches wedi amlygu pwysigrwydd deall anghenion lleiafrifoedd ethnig drwy bob cam o’r broses comisiynu, y broses datblygu a’r broses greadigol.

Erys y gwaith o oresgyn ymwybyddiaeth is ymhlith lleiafrifoedd ethnig o’r hyn a gynigir gan y rhwydweithiau radio prif ffrwd yn her allweddol. Er gwaethaf yr ymdrechion i ddenu mwy o gyflwynwyr o leiafrifoedd ethnig i’r tonnau awyr a chynnig mwy o ddarllediadau llafar i apelio i leiafrifoedd ethnig, mae cyrhaeddiad rhwydweithiau radio analog, yn arbennig radio lleol, wedi parhau i ostwng, ac ar gyfradd gyflymach na’r boblogaeth gyffredinol.

Rydym yn cydnabod y cynnydd a wneir tuag at yr amcan hwn ond nodwn fod yn rhaid cyflawni mwy er mwyn i’r BBC sicrhau bod ei raglenni yr un mor berthnasol ac apelgar i leiafrifoedd ethnig amrywiol Prydain â’r boblogaeth gyffredinol gan felly adlewyrchu cymdeithas heddiw. Byddwn yn rhoi sylw penodol i’r maes angen hwn wrth adolygu cynlluniau ar gyfer rhaglenni a gwasanaethau yn y dyfodol.

 

Amcan 5

Sicrhau bod y BBC yn diwallu anghenion cynulleidfaoedd ymhob un o wledydd a rhanbarthau’r DU.

Yn dilyn ymgynghori â Chynghorau Darlledu Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon a Fforwm Cenedlaethol Lloegr, rydym yn fodlon â’r cynnydd tuag at ddiwallu anghenion y gynulleidfa â darllediadau a gwasanaethau lleol. Ond mae angen ymdrech i gynyddu nifer cynyrchiadau Gwledydd y BBC ar gyfer y rhwydweithiau ymhellach er mwyn adlewyrchu amrywiaeth cynulleidfaoedd ledled y DU yn well.

Mae’r BBC bellach yn ei flwyddyn olaf o strategaeth tair blynedd i fuddsoddi £50miliwn ychwanegol y flwyddyn mewn amrywiaeth ehangach o gynyrchiadau lleol, yn arbennig ar y teledu ar draws y gwledydd, ac ar-lein yn Lloegr. Ers dechrau’r fenter, dengys ymchwil gynnydd cyson o ran cymeradwyaeth ar draws yr holl wledydd – sy’n ategu’r datganiad: “mae’r BBC yn chwarae rhan bwysig yn y gymuned leol.”

Mae’r arian ychwanegol wedi galluogi Gwledydd y BBC i fuddsoddi mewn amrywiaeth ehangach o genres ochr yn ochr â newyddion a materion cyfoes, gan gynnwys adloniant a chwaraeon, gyda’r ffocws yn ystod y flwyddyn ddiwethaf ar ddarllediadau ffeithiol. Mae rhan sylweddol o’r darllediadau hyn yn rhaglennu na fyddai ar gael pe na byddai’r BBC yn ei ddarparu neu yn ei drefnu, fel darllediadau ieithoedd brodorol, neu cynulleidfaoedd i ddatblygu eu cynnwys eu hunain, fel y prosiectau Adrodd Straeon Digidol a ddechreuodd yng Nghymru ac a gyflwynir yn Lloegr.

Yn Lloegr, targedwyd yr arian ychwanegol tuag at ddatblygu safleoedd Lleol i Mi

Amcan 6

Gweithredu argymhellion ‘Making it Happen’, yn arbennig o ran gwerthoedd ac arweinyddiaeth, er mwyn sicrhau bod y BBC yn sefydliad mwy creadigol, cydweithredol a chyffrous, lle y mae pob aelod o’r staff yn deall ei bwrpas a’i werthoedd cyffredin yn llawn.

Gwneir cynnydd da wrth weithredu argymhellion y rhaglen newid ‘Making it Happen’, a cheir arwyddion cynnar o ganlyniadau cadarnhaol. Mae gwireddu potensial staff y BBC fel adnodd creadigol yn parhau yn flaenoriaeth, yn arbennig drwy wella’r cydweithredu rhwng isadrannau.

Lansiwyd y fenter ‘Making it Happen’ ym mis Chwefror 2002 er mwyn cyflwyno newid diwylliannol yn y BBC gyda’r nod o sicrhau ei statws fel y sefydliad mwyaf creadigol yn y byd. Ar ôl dwy flynedd, mae’r rhaglen wedi ymsefydlu’n dda gydag amrywiaeth o brosiectau yn mynd rhagddynt. Yr arolwg staff blynyddol, a gynhelir gan MORI, sy’n darparu’r dystiolaeth orau o’i heffaith. Y prif ganfyddiadau ar gyfer 2003 oedd bod bron dwy ran o dair o staff y BBC (lefel uchel iawn ar gyfer y math hwn o fenter) yn cefnogi ‘Making it Happen’ a bod mwyafrif helaeth staff y BBC (85%) o’r farn eu bod yn deall diben y BBC, gyda 60% ohonynt yn honni eu bod yn gweithredu yn unol â’i werthoedd.

ar-lein lleol gan gynnig newyddion, tywydd a gwybodaeth leol. Ar draws y DU, mae cyfartaledd yr ymweliadau misol â thudalennau’r safleoedd Lleol i Mi bron wedi dyblu rhwng 2002/2003 a 2003/2004, gan gyrraedd uchafbwynt o 100 miliwn ym mis Mawrth 2004.

Mae presenoldeb ffisegol y BBC mewn dinasoedd a threfi ledled y DU yn lledaenu budd economaidd yn ogystal â rhoi cyfle i’r BBC gysylltu’n uniongyrchol â charfanau o’r gynulleidfa a danwasanaethir naill ai gan arlwy’r rhwydwaith neu ddarllediadau lleol ar hyn o bryd. Drwy’r strategaeth cysylltu â chymunedau, lansiwyd pedwar bws newydd yn 2003/2004, gan ddod â’r cyfanswm i 14 bws, pedair Canolfan Agored a phedair stiwdio gymunedol. Mae’r rhain wedi creu cyswllt rhwng y BBC a chynulleidfaoedd newydd, fel pobl o dan 45 oed a lleiafrifoedd ethnig.

Er y gwnaed cynnydd sylweddol wrth ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd ledled y DU drwy’r darllediadau a’r gweithgareddau lleol hyn, rydym yn pryderu bod angen cyflawni mwy o ran darllediadau rhwydwaith. Mae’r potensial gan ddarllediadau rhwydwaith y DU a gynhyrchir yng Ngwledydd a Rhanbarthau’r BBC i adlewyrchu amrywiaeth cynulleidfaoedd ledled y DU yn fwy cywir, ac i ategu sail cynhyrchu iach, datganoledig. Er gwaethaf llwyddiannau nodedig fel darllediadau i blant yn yr Alban, darllediadau ffeithiol yng Nghymru a drama yng Ngogledd Iwerddon, mae gwariant teledu rhwydwaith yng Ngwledydd y BBC yn dal yn rhy isel fel cyfran o gyfanswm gwariant teledu rhwydwaith. Mae gwell cydweithredu a chynllunio strategol rhwng comisiynwyr rhwydwaith a Gwledydd a Rhanbarthau’r BBC yn allweddol i wella’r sefyllfa hon a byddwn yn disgwyl gweld tystiolaeth o hyn yn ystod y flwyddyn nesaf.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

17

Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion

Amcan 7

Sicrhau bod y BBC yn fwy cynrychioliadol o’r cynulleidfaoedd a wasanaethir ganddo. Yn arbennig: cyflawni’r targed o sicrhau bod 10% o’i weithlu cyfan a 4% o’r uwch reolwyr yn dod o leiafrifoedd ethnig erbyn mis Rhagfyr 2003 cynyddu cyfran y bobl ag anableddau sy’n gweithio i’r BBC

Mae’r BBC wedi cyflawni’r targedau ar gyfer cynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig yn ei weithlu, gan gynnwys cynrychiolaeth ymhlith yr uwch reolwyr. Mae wedi gwella’r prosesau ar gyfer monitro anabledd ymhlith y staff ac mae ar lefel sy’n gyson â gweddill diwydiant y cyfryngau o ran cyflogi pobl anabl.

Pennwyd y targed o sicrhau bod 10% o’r holl staff yn dod o leiafrifoedd ethnig yn 2000. Mae’r targed yn uwch na chynrychiolaeth lleiafrifoedd ethnig ymhlith poblogaeth y DU yn gyffredinol, sef 7.9%, gan ei fod yn ystyried y ffaith bod y BBC wedi’i leoli’n bennaf mewn ardaloedd trefol, fel Llundain, lle y mae cyfran helaeth o gymunedau lleiafrifol wedi’u lleoli.

Yn ystod 2003, aeth y gyfran a gofnodwyd o staff o leiafrifoedd ethnig y tu hwnt i 10% am y tro cyntaf gyda’r gyfran o uwch staff yn parhau yn uwch na 4%. Cyflawnwyd hyn drwy ymdrechion recriwtio parhaus yn ogystal â phrosesau monitro gwell. Rydym bellach wedi sefydlu targedau tymor hwy, mwy ymestynnol o 12.5% o’r holl staff a 7% ar gyfer uwch staff erbyn diwedd 2007.

Fodd bynnag, dangosodd yr arolwg hefyd na chaiff gwerthoedd y BBC bob amser eu dangos yn y ffordd y mae’r staff yn ymddwyn. Cododd pryderon arbennig o ran cydweithredu ac ymddiriedaeth rhwng staff mewn gwahanol isadrannau. Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf cafodd y fenter Un BBC, a gynlluniwyd i fynd i’r afael â rhai o’r problemau hyn, lwyddiannau nodedig fel yr ymgyrch Un BBC i Un Filiwn draws-adrannol lle y llwyddodd staff i godi bron i £1filiwn ar gyfer Apêl Plant mewn Angen y BBC.

Roedd teimlad cyffredinol hefyd nad yw potensial creadigol y staff yn cael ei wireddu’n llawn. Nodwyd y broses gomisiynu fel ffactor cyfrannol posibl. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd i gynnwys mwy o bobl wrth ddatblygu syniadau a byddwn am weld tystiolaeth yn ystod y flwyddyn nesaf i ddangos bod y canlyniadau dymunol yn cael eu cyflawni.

Un o ganfyddiadau cynnar ‘Making it Happen’ oedd bod angen gwella arweinyddiaeth ar bob lefel. Lansiwyd Rhaglen Arweinyddiaeth y BBC i ymdrin â hyn ym mis Medi 2003 (gweler tudalen 72), a cheir arwyddion cynnar calonogol bod canfyddiadau’r staff yn newid er gwell. Erys adborth yn faes allweddol o wendid a rhoddir mwy o sylw iddo yn ystod y flwyddyn nesaf.

O ystyried ei botensial o ran cyflwyno buddiannau i’r gynulleidfa, rydym wedi cytuno y dylai ‘Making it Happen’ barhau yn ffocws i amcanion y BBC yn 2004/2005, gan newid y geiriad i “Adeiladu ar y mentrau ‘Making it Happen’ diweddar i sicrhau bod y BBC yn sefydliad mwy creadigol, cydweithredol sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa sy’n gynhwysol ac yn adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol a wasanaethir ganddo.”

Mae’r BBC wedi gwella ei brosesau ar gyfer monitro anabledd – yn y gorffennol nid oedd llawer o’r staff yn datgan cyflyrau a allai gyfrif fel anableddau. Bellach mae cyfran y staff ag anableddau yn 2.7%, sy’n agos at y 3% a gofnodwyd ar gyfer diwydiant y cyfryngau yn gyffredinol gan Skillset, sef corff hyfforddi’r diwydiant. Fodd bynnag, rhaid i’r BBC anelu at ragori ar y ffigur ar gyfer y diwydiant cyfan yn y dyfodol.

Mae’r BBC hefyd yn anelu at adlewyrchu’r cynulleidfaoedd a wasanaethir ganddo o ran oed a rhyw y staff. Mae cynrychiolaeth rhyw yn haeddu canmoliaeth. Mae tua 50% o’r staff a 37% o’r uwch reolwyr yn ferched. Fodd bynnag, mae’r sefyllfa yn amrywio’n sylweddol rhwng isadrannau, gyda chynrychiolaeth llawer is o ferched yn Chwaraeon, Cyfryngau Newydd a Thechnoleg a BBC Technology a BBC Resources (BBC Ventures).

Mae gan staff y BBC broffil oed iau na’r gynulleidfa a wasanaethir ganddynt a gweithlu’r DU yn gyffredinol: mae 79% o’r staff o dan 45 oed ac mae 96% o dan 55 oed. O gofio hyn, cynhaliodd y BBC brosiect ymchwil yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i wella ei ddealltwriaeth o gynulleidfaoedd hyn. Mae’r canfyddiadau bellach yn cael eu cyfleu i wneuthurwyr rhaglenni i’w helpu i ddiwallu anghenion y gynulleidfa hon yn well. Wrth anelu at y nod cyffredinol o sicrhau gweithlu sy’n fwy cynrychioliadol o’r gynulleidfa a wasanaethir ganddo, rhaid i’r BBC anelu at greu amgylchedd gwaith sy’n galluogi pawb i gyflawni eu llawn botensial a chanlyniadau o ran lefelau uwch o gadw staff.

18

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Amcan 8

Parhau i gynyddu swm yr arian sydd ar gael i’w wario ar wasanaethau cyhoeddus y BBC drwy wella effeithlonrwydd ac effeithiolrwydd gweithrediadau’r BBC.

Mae’r BBC yn gwneud cynnydd cyson tuag at y targed o fuddsoddi £3.3biliwn ychwanegol mewn gwasanaethau drwy fentrau hunan-gymorth rhwng 1999/2000 a 2006/2007. Fodd bynnag, credwn y gellir cyflawni llawer mwy, yn arbennig o ran gwell effeithlonrwydd. Gwnaed cynnydd hefyd eleni wrth greu fframwaith ar gyfer deall effeithiolrwydd buddsoddiad y BBC mewn rhaglenni a gwasanaethau.

Parhaodd effeithlonrwydd y broses o gasglu ffi’r drwydded i wella eleni. Mae’r gyfradd osgoi talu bellach yn 5.7% o’i gymharu â ffigur diwygiedig o 6.7% y llynedd. Yr amcangyfrif blaenorol ar gyfer osgoi talu ym mis Mawrth 2003 oedd 7.2% ac fe’i diwygiwyd i adlewyrchu amcangyfrifon cartrefi newydd a gyhoeddwyd. Mae’r gostyngiad parhaus yn y gyfradd osgoi talu yn gyflawniad sylweddol.

Cafwyd prif lif arian parod o £135miliwn o’r is-gwmnïau masnachol, sef cynnydd o £124miliwn y llynedd. Mae benthyca masnachol wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y flwyddyn o ychydig dros £31miliwn i £172miliwn. Mae hyn yn adlewyrchu buddsoddiad cynyddol yn BBC Worldwide er mwyn sicrhau’r hawliau ar gyfer defnydd yn y dyfodol a systemau chwarae allan newydd BBC Broadcast y rhagwelir y byddant yn cynhyrchu arbedion gwerth £20miliwn

erbyn 2005/2006, yn ogystal â gwaith ailstrwythuro parhaus o ran sail cyfalaf y Cwmni er mwyn sicrhau cymysgedd mwy priodol o ddyledion ac ecwiti.

Gwnaed arbedion ychwanegol o £29.3miliwn mewn costau cynnal, gan adeiladu ar berfformiad da yn y gorffennol. Bellach cytunwyd ar raglen newydd o arbedion effeithlonrwydd a ddylai, ynghyd â gwerthu BBC Technology ac effeithlonrwydd cysylltiedig, alluogi’r BBC i ragori ar ei darged hunan-gymorth cronedig o £3.3biliwn erbyn 2006/2007. Credwn fod angen i’r BBC yn awr bennu targedau effeithlonrwydd mwy ymestynnol iddo’i hun er mwyn sicrhau’r gwerth gorau posibl am arian i dalwyr y drwydded.

Yr her allweddol yw gwella effeithlonrwydd prosesau cynhyrchu, ac ni fu’r cynnydd yn hyn o beth – yn arbennig o ran meincnodi costau cynhyrchu – cystal â’r disgwyl. Penodwyd Pennaeth Gwerth am Arian newydd yn ddiweddar a fydd yn arwain arolwg trwyadl o’r costau hyn a chostau mewnol eraill. Wrth asesu’r cynigion sy’n deillio o’r arolwg hwn byddwn yn awyddus iawn i sicrhau y caiff ansawdd ei gynnal neu ei wella ac nad oes unrhyw newid yng nghymysgedd cyffredinol y rhaglenni o blaid rhaglennu cost is.

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

19

Arolwg y Llywodraethwyr o’r amcanion

Amcan 9

Ennill mwy o werthfawrogiad gan gynulleidfaoedd y DU i’r BBC fel sefydliad cyhoeddus agored, creadigol, y gellir ymddiried ynddo.

Arhosodd barn y cyhoedd o’r BBC yn gymharol gadarnhaol, er gwaethaf y digwyddiadau a oedd ynghlwm ag Ymchwiliad Hutton, ond mae angen gwneud mwy o waith i wella canfyddiadau o’r BBC fel sefydliad creadigol ac agored. Er mwyn sicrhau bod y BBC yn cadw lefel uchel o ymddiriedaeth y cyhoedd rydym wedi goruchwylio arolygon o brosesau golygyddol y BBC, ei allu i fod yn ddiduedd a’i system rheolaeth.

Cynyddodd cyfran y cyhoedd sydd o’r farn y gellir ymddiried yn y BBC yn sylweddol yn ystod y flwyddyn, gan godi o 59% i 72%. Fodd bynnag, nododd 18% o’r cyhoedd bod eu canfyddiad o’r BBC wedi gwaethygu o ganlyniad i Ymchwiliad Hutton, ac ymhlith llunwyr barn, gan gynnwys ASau, 38% oedd y ffigur hwn.

O ystyried pwysigrwydd ymddiriedaeth i enw da’r BBC, rydym wedi canolbwyntio ar ddau fater allweddol yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Yn gyntaf, rydym wedi adolygu prosesau a gweithdrefnau golygyddol o ganlyniad i Ymchwiliad Hutton ac wedi gweithredu newidiadau (gweler tudalennau 4 a 5). Yn ail, rydym wedi gwella ein prosesau ar gyfer monitro gallu’r BBC i fod yn ddiduedd drwy gyflwyno dau ddull newydd. Un yw

Gwnaed cynnydd cadarn wrth ddatblygu dulliau ar gyfer barnu effeithiolrwydd rhaglenni a gwasanaethau’r BBC. Cynhaliwyd darn cynhwysfawr o waith ymchwil defnyddwyr er mwyn asesu’r gwerth ariannol a rydd defnyddwyr ar yr hyn a ddarperir gan y BBC. Noda’r canlyniadau bod y gwerth a rydd talwyr y drwydded ar wasanaethau’r BBC yn sylweddol uwch na’u costau.

Yn ogystal â hyn, mae cyfres newydd o fesurau bellach yn cael eu rhoi ar waith sy’n adlewyrchu dibenion cyhoeddus y BBC ac a fydd yn anelu, am y tro cyntaf, at ddisgrifio’r gwerth a gaiff talwyr y drwydded o’r BBC fel dinasyddion ac nid fel defnyddwyr yn unig. Mae’r ‘gwerth i ddinasyddion’ hwn yn anodd i’w asesu, ond nod cyffredinol y gwaith hwn fydd llunio prawf gwerth cyhoeddus hawdd ei ddeall y gellir ei gymhwyso i holl wasanaethau’r BBC er mwyn dangos y gwerth a gyflwyna’r BBC i wylwyr a gwrandawyr drwy gyfrwng ei drefniadau ariannu unigryw.

Cymeradwyaeth y gynulleidfa i’r BBC

 

20

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Gohebydd newydd yn gwella darllediadau materion gwledig y BBC

5 BBC World

Cadeiriodd y cyflwynydd Nik Gowing ddadleuon BBC World o Davos

arolwg olrhain MORI o ganfyddiadau’r cyhoedd o’n gallu i fod yn ddiduedd –gwelwn y canlyniadau cyntaf yn 2004/2005. Yr ail yw cyfres o arolygon rheolaidd o bynciau dethol gan ddefnyddio panelau o arbenigwyr annibynnol a grwpiau ffocws. Byddwn yn comisiynu’r arolygon hyn ddwywaith y flwyddyn. Y pynciau ar gyfer 2004/2005 yw crefydd a materion cyfansoddiadol yn Ewrop.

O ran bod yn agored, mae’r BBC wedi gweithio’n galed yn ystod y blynyddoedd diwethaf i wella ei hygyrchedd a’i atebolrwydd i’r cyhoedd, ond mae angen gwneud mwy. Mae’r system ar gyfer ymdrin â chwynion wrthi’n cael ei diwygio a’i hatgyfnerthu gyda chod ymarfer clir. Hefyd, cynhaliwyd arolwg gennym o system rheolaeth y BBC gan gynnig newidiadau arwyddocaol, fel yr amlinellir yn ein dogfen ddiweddar Cynyddu Gwerth Cyhoeddus. Fe’u cynlluniwyd i atgyfnerthu gallu’r BBC i fod yn agored ac yn atebol.

Mae gan y BBC lawer i’w wneud o hyd i argyhoeddi cynulleidfaoedd o’i greadigrwydd. Dengys ymchwil y BBC fod cynulleidfaoedd yn fwy tebygol o gredu bod gwasanaethau’r BBC “yn ddiogel a/neu’n rhagweladwy” nac “yn arloesol â syniadau newydd”. Gallai hyn adlewyrchu beirniadaeth gyffredinol o’r teledu yn hytrach na’r BBC yn benodol, ond mae angen i’r BBC ddod o hyd i ffyrdd o newid canfyddiadau yn y maes hwn. Disgwyliwn i’r rhaglen newid mewnol ‘Making it Happen’ sicrhau bod y BBC yn gwasanaethu talwyr y drwydded yn well gyda rhaglennu mwy arloesol.

Gallur BBC i fod yn ddiduedd wrth ohebu ar faterion gwledig

Mae tua 25% o gynulleidfaoedd y BBC yn byw mewn ardaloedd gwledig a bu rhywfaint o feirniadaeth na chaiff eu pryderon eu cynrychiolin ddigonol nac yn gywir gan y BBC. O ganlyniad, ym mis Mehefin 2003 comisiynwyd arolwg o ddarllediadau materion gwledig y BBC gennym.

Cynhaliwyd yr arolwg mewn tair rhan: panel arbenigol annibynnol; ymchwil grwp ffocws gyda chynulleidfaoedd; a dadansoddiad o gynnwys a gynhaliwyd gan y BBC. Cyflwynwyd adroddiad ar yr arolwg ym mis Hydref 2003.

Canfu llawer o bethau cadarnhaol: maer BBC yn cymryd materion gwledig o ddifrif; maer darllediadau yn aml o ansawdd uchel; a chroesawyd y ffaith ein bod wedi penodi Gohebydd Materion Gwledig. Fodd bynnag, nid oedd yr amrywiaeth enfawr a geir mewn ardaloedd gwledig bob amser yn cael ei ddeall yn iawn gan ddarlledwyr metropolitanaidd, a gallai hyn arwain at gyffredinoli llib a thuedd anfwriadol.

Un enghraifft a nodwyd yn yr arolwg oedd nad yw pryderon y bobl syn byw mewn ardaloedd gwledig hygyrch bob amser yr un peth â’r rheini syn byw mewn ardaloedd anghysbell, ond eu bod weithiau yn cael eu trin yr un peth. Enghraifft arall ywr ddadl ynghylch hela llwynogod, lle yr oedd yn gamarweiniol rhoir argraff bod pawb yng nghefn gwlad o blaid hela neu gyfleu bod pawb syn hela yn rhan or bonedd tirfeddiannol.

Er mwyn trechu hyn, argymhellodd yr arolwg y dylai adran Newyddion y BBC fanteisio ar arbenigedd presennol i gynyddu ei hawdurdod. Argymhellodd yr arolwg hefyd y dylid ystyried o ddifrif pa un a ellid creu safle materion gwledig penodedig ar bbc.co.uk/news.

Ystyriodd yr arolwg hefyd gynrychiolaeth materion gwledig yn nramâur BBC. Canmolwyd rhai dramâu The Archers yn arbennig am adrodd straeon gwledig cadarn a chywir. Ond ni fu pob drama mor llwyddiannus. Teimlwyd bod rhywfaint o ystrydebu yn dderbyniol, yn arbennig mewn comedï au fel The Vicar of Dibley, ond teimlwyd bod cyfleoedd yn cael eu colli. Argymhellodd yr arolwg y dylai dramâu teledu archwilior posibiliadau sydd ynghlwm yn ochr fwy gwrol bywyd gwledig cyfoes.

Cyflwynwyd canfyddiadaur arolwg i wneuthurwyr rhaglenni ar draws y BBC ac feu dosbarthwyd i olygyddion adran Newyddion y BBC. Bu cynnydd wrth weithredu ei argymhellion, er bod mwy iw wneud o hyd. Cafodd y penderfyniad i benodi Gohebydd Materion Gwledig newydd effaith gadarnhaol wrth godi proffil materion gwledig o fewn rhaglenni adran Newyddion y BBC. Mae BBC News 24 yn cydweithion agosach â Gwledydd a Rhanbarthaur BBC i sicrhau y caiff arbenigedd lleol ar faterion gwledig ei gynnwys mewn darllediadau cenedlaethol. A gwneir gwell defnydd o arbenigedd yr Uned Materion Gwledig yn Birmingham. Maer posibilrwydd o sefydlu gwefan materion gwledig yn cael ei adolygu o hyd.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

21

Arolwg y Llywodraethwyr or amcanion

Amcan 10

Adeiladu ar effaith gwasanaethau newyddion byd-eang y BBC drwy strategaeth newyddion fyd-eang wedii chydlynu ar draws radio, teledu a chyfryngau newydd.

Sefydlwyd BBC World Service & Global News ar ddiwedd 2002 er mwyn cynyddu perfformiad ac effaith gwasanaethau radio, teledu ac ar-lein rhyngwladol y BBC ir eithaf. Gwnaed cynnydd da tuag at well cydlyniad golygyddol. Ar y cyfan, mae arolygon ymchwil yn awgrymu mai cyfyngedig fu effaith Adroddiad Hutton ar enw dar BBC yn rhyngwladol.

Yn ystod ei blwyddyn weithredu gyntaf llwyddodd yr Isadran Newyddion Byd-eang i gyflwyno mentrau golygyddol effaith uchel ar draws y cyfryngau, gan gynnwys y tymor Aids yn 2003 a gafodd ymateb cadarnhaol helaeth. Ymhlith yr uchafbwyntiau eraill roedd Dadl tri-chyfrwng y Byd yn Davos a chydweithredu rhwng yr Isadran Newyddion Byd-eang ac adran Newyddion y BBC ar y prosiect Islam a’r Gorllewin. Edrychwn ymlaen at fwy o gydweithredu rhwng gwahanol feysydd yr Isadran Newyddion Byd-eang yn ogystal â chyda rhannau eraill o’r BBC.

Er gwaethaf cystadleuaeth gynyddol ledled y byd, mae gwasanaethau’r BBC yn parhau i berfformio’n dda. Gostyngodd cyrhaeddiad BBC World Service ychydig eleni o 150 miliwn i 146 miliwn o wrandawyr, ond gellir priodoli’r gostyngiad hwn i anawsterau wrth sicrhau darlledu neu bartneriaethau FM i ddisodli cyflwyniadau tonfedd fer. Bydd yr

Adlewyrchir pwysigrwydd rôl ryngwladol y BBC yn y ffaith ein bod wedi cynnwys amcan ar gyfer 2004/2005 i’r BBC wella effaith ei wasanaethau newyddion byd-eang ymhellach, gyda ffocws penodol ar eu henw da o ran annibyniaeth, bod yn ddiduedd a gonestrwydd.

ymdrechion i oresgyn y broblem hon ac i ehangu cyrhaeddiad FM lle bynnag y bo’n bosibl yn parhau yn 2004/2005. Ar y teledu, mae cyrhaeddiad BBC World yn cynyddu mewn marchnadoedd allweddol fel UDA ac Ewrop. Mae safleoedd ar-lein yr Isadran Newyddion Byd-eang hefyd yn parhau i dyfu, gan gofnodi cynnydd o 99% mewn ymweliadau â thudalennau flwyddyn ar flwyddyn ym mis Ionawr 2004. Edrychwn ymlaen at ymdrechion cynyddol i fanteisio ar botensial rhyngweithedd i hyrwyddo trafodaeth a dadl ryngwladol ymhlith grwpiau gwahanol o gynulleidfaoedd.

Ceir tystiolaeth dda hefyd bod yr Isadran Newyddion Byd-eang yn effeithiol wrth gyrraedd llunwyr barn a gwneuthurwyr penderfyniadau. Yn UDA mae tua 40% o’r grwp hwn yn defnyddio un o dri gwasanaeth y BBC bob wythnos, ac yn Nigeria mae mwy na 60% o’r grwp hwn naill ai’n defnyddio gwasanaethau teledu neu radio’r BBC.

Rydym yn falch o nodi, er mai cymysg fu’r ymateb i Ymchwiliad Hutton ledled y byd, mai cyfyngedig fu’r effaith gyffredinol ar enw da’r BBC. Er bod cyfraddau ymddiriedaeth wedi gostwng mewn rhai marchnadoedd, ymddiriedir yn fwy yn BBC World Service o hyd na’i gystadleuwyr mwyaf blaenllaw ymhob marchnad. Ar hyn o bryd, nid ymddiriedir cymaint yn BBC World o’i gymharu â CNN mewn rhai marchnadoedd, ond mae ei gyfradd ymddiriedaeth yn uwch mewn sawl gwlad Islamaidd a chaiff sgôr da o ran gwrthrychedd.

22

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Amcanion y Llywodraethwyr ar gyfer 2004/2005

Mae Siarter y BBC yn ei gwneud yn ofynnol i ni bennu amcanion blynyddol a chyflwyno adroddiadau arnynt. O dan Ddeddf Cysylltiadau 2003 a Chytundeb diwygiedig y BBC rydym bellach yn gyfrifol hefyd am sicrhau bod y BBC yn cyflawni ei gylch gwaith cyhoeddus cyffredinol drwy werthuso perfformiad yn erbyn cylch gwaith pob sianel a gwasanaeth a gyhoeddir yn y ddogfen

Datganiadau o Bolisi Rhaglenni’r BBC.

Er mwyn osgoi dyblygu, caiff amcanion blynyddol yn y dyfodol eu cyfyngu i’r meysydd hynny nas cwmpesir gan y ddogfen

Datganiadau o Bolisi Rhaglenni’r BBC a gyhoeddir gennym bob gwanwyn ac sy’n ymdrin yn benodol â chynnwys. Mae’r amcanion ar gyfer 2004/2005 yn canolbwyntio naill ai ar flaenoriaethau pwysig i’r BBC cyfan; materion isadrannol ag effaith ehangach ar weddill y sefydliad neu fuddiannau byd-eang a masnachol y BBC. Dylid eu hystyried o fewn cyd-destun ein prif flaenoriaeth – sef darparu rhaglenni a gwasanaethau sy’n diwallu anghenion y gynulleidfa.

Mae’r Pwyllgor Gweithredol wedi cymryd cyfrifoldeb cyfun dros gyflawni’r amcanion hyn a byddwn yn cyflwyno adroddiad ar eu perfformiad yn eu herbyn yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC y flwyddyn nesaf.

1. Newyddiaduraeth a bod yn ddiduedd

Sicrhau bod y BBC yn cyflawni’r safonau uchaf o ran annibyniaeth, bod yn ddiduedd a gonestrwydd yn ei newyddiaduraeth a’i fod yn gweithredu argymhellion o ran hyfforddiant, rheolaeth olygyddol ac ymdrin â chwynion.

2. Creadigrwydd ac uchelgais

Adeiladu ar y mentrau ‘Making it Happen’ diweddar i sicrhau bod y BBC yn sefydliad mwy creadigol, cydweithredol, sy’n canolbwyntio ar y gynulleidfa sy’n gynhwysol ac yn adlewyrchu’r gymdeithas amrywiol a wasanaethir ganddo.

3. Arolwg or Siarter

Cyfrannu’n effeithiol at y ddadl gyhoeddus ar yr Arolwg o’r Siarter gan sicrhau ei bod yn adlewyrchu buddiannau talwyr y drwydded yn gyffredinol ac yn adeiladu ar y syniad o werth cyhoeddus.

4. Datblygu digidol

Datblygu’r farchnad ar gyfer teledu digidol am ddim, radio digidol a’r cyfryngau newydd, gan ganolbwyntio ar welliannau i ymwybyddiaeth, argaeledd a nifer y bobl sy’n manteisio arnynt.

5. Gwerth am arian

Sicrhau bod y BBC yn cyflawni gwerth am arian ar draws amrywiaeth llawn ei weithgareddau, gan gynnwys prosesau cynhyrchu, casglu ffi’r drwydded a’i swyddogaethau canolog.

6. Rôl fyd-eang y BBC

Gwella effaith gwasanaethau newyddion byd-eang y BBC ymhellach, gyda ffocws penodol ar eu henw da o ran annibyniaeth, bod yn ddiduedd a gonestrwydd.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

23

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau Teledu

Trosolwg

Yn ystod y blynyddoedd diwethaf cymerwyd camau gennym i egluro ac atgyfnerthu dibenion gwasanaeth cyhoeddus arbennig Teledu’r BBC. Mae’r camau hyn, un o ganlyniadau ein hymgynghoriad â thalwyr y drwydded, wedi arwain at amrywiaeth ehangach o ddarllediadau, buddsoddiad cynyddol mewn genres cyhoeddus arbennig fel y celfyddydau, materion cyfoes, hanes a gwyddoniaeth, a gwelwyd gostyngiad cyfatebol mewn genres llai penodol fel rhaglenni gweddnewid a straeon am y sêr. Nodwn fod yr ymchwil i’r gynulleidfa a oedd yn sail i arolwg diweddar Ofcom o deledu cyhoeddus yn cefnogi’r newid pwyslais hwn.

Eleni oedd blwyddyn lawn gyntaf sianelau teledu digidol y BBC a bu’r cynnydd hyd yma yn galonogol. Mae’r ddwy sianel i blant wedi ymsefydlu’n gadarn bellach; mae ymagwedd cymryd risgiau BBC Three yn helpu i adfywio genres fel comedi, ffeithiol a materion cyfoes mewn amserlen sydd wedi’i hailffocysu i gynyddu ei natur arbennig, a chefnogwyd llwyddiant cynnar BBC Four gennym drwy gymeradwyo ychydig mwy o arian i ddrama a chomedi.

Yn erbyn y cefndir hwn, rydym yn siomedig nad yw pobl yn gyffredinol o’r farn bod ansawdd darllediadau’r BBC cystal, a bod y canfyddiad o’r gwerth a roddir ar BBC Three a BBC Four yn parhau yn isel. Gwneir gwaith yn ystod y flwyddyn nesaf i ddeall y canfyddiadau hyn yn well.

 

BBC One

396

o filoedd o oriau o deledu a radio’r BBC yn 2003/2004

4.7c

cost fesul awr fesul cartref a dreulir gyda’r BBC

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Cylch gwaith

Nod BBC One yw sicrhau mai hi yw’r sianel deledu a werthfawrogir fwyaf yn y DU, gyda’r amrywiaeth ehangaf o raglenni o ansawdd o blith unrhyw rwydwaith yn y DU. Mae’r sianel yn ymrwymedig i ehangu apêl pob genre drwy gynnig y cwmpas a’r dyfnder gorau o’u mewn. Mae BBC One yn ymrwymedig i ddarlledu digwyddiadau a materion cenedlaethol, gan ddarparu llwyfan ar gyfer rhaglenni nodedig ac archwilio ffyrdd newydd o gyflwyno pynciau arbenigol.

Mae gan BBC One arwyddocâd unigryw gan ei bod yn gyfrifol am tua traean gwariant y BBC ar raglenni, hi sydd â’r cyrhaeddiad ehangaf o blith holl wasanaethau’r BBC, ac mae llawer o bobl yn ei defnyddio fel mesur ar gyfer holl wasanaethau’r BBC. Ei rôl gyhoeddus yw cyflwyno cwmpas a dyfnder ar draws pob genre ac, fel y nodwyd gennym yn ein harolwg o’r amcanion (tudalennau 12 i 22), anogwyd y rheolwyr i ail-lunio’r sianel er mwyn sicrhau bod y diben cyhoeddus hwn yn gliriach.

Ceir tystiolaeth bod y strategaeth yn llwyddo. Eleni cyrhaeddodd BBC One fwy o’i chynulleidfa bosibl na’r llynedd ac, yn ôl ymchwil, roedd cynulleidfaoedd o’r farn mai dyma’r sianel a oedd yn cynnig y darllediadau o’r ansawdd gorau mewn 12 allan o 22 genre, gan gynnwys genres allweddol fel newyddion, materion cyfoes, comedi a drama gyfnod. Fodd bynnag, mae’r ffaith bod barn cynulleidfaoedd am ansawdd Teledu’r BBC yn gostwng yn peri pryder, ac mae angen i ni wneud mwy i ddeall hyn yn well.

Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf gwelwyd buddsoddiad cynyddol mewn darllediadau ffeithiol difrifol – gan gynnwys hanes, gwyddoniaeth, hanes naturiol a busnes. Gwelwyd hyn ar y sgrîn o ran nifer uwch o oriau yn y genres hyn a darllediadau proffil uwch.

Gwnaed ymdrech hefyd gan BBC One i sicrhau bod pynciau difrifol yn hygyrch i amrywiaeth eang o gynulleidfaoedd. Gwnaed hyn drwy dechnolegau newydd, er enghraifft, dod â Rhufain hynafol yn fyw mewn rhaglenni fel Pompeii: The Last Day a Colosseum, Rome’s Arena of Death; a thrwy amserlennu ategol, er enghraifft, drwy ddarlledu rhaglen ddogfen am Charles II yn ystod yr un wythnos â’r ddrama gyfnod Charles II: The Power and the Passion.

Yn ogystal â chynnig amrywiaeth o genres, mae BBC One yn anelu at gynnig amrywiaeth o ddarllediadau o fewn genres er mwyn darparu ar gyfer gwahanol lefelau o wybodaeth a diddordeb y gynulleidfa. Er enghraifft, lansiwyd cyfres gelfyddydol mwy heriol, Imagine, yn 2003 i ategu rhaglen Rolf Harris ar nos Sul a rhaglenni unigol fel The Divine Michelangelo. Dynododd ein gwaith atebolrwydd cychwynnol gyda chynulleidfaoedd ar ddarllediadau celfyddydol bod y datblygiadau hyn wedi cael eu croesawu (gweler tudalen 14).

Rydym yn falch o nodi yn ystod 2003/2004 mai dramâu mwy uchelgeisiol BBC One, fel

State of Play a The Canterbury Tales a gafodd yr effaith fwyaf. Nododd cynulleidfaoedd eu bod yr un mor gofiadwy â digwyddiadau chwaraeon cenedlaethol fel Wimbledon.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

25

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau Teledu

Mewn blwyddyn lle y bu newyddiaduraeth y BBC o dan bwysau aruthrol, gan arwain at bryderon y byddai’n osgoi mynd i’r afael â phynciau anodd, roedd yn arbennig o galonogol nodi’r effaith a gafodd The Secret Policeman. Ymosododd yr Ysgrifennydd Cartref yn hallt ar yr ymchwiliad cudd hwn o hiliaeth ymhlith heddweision newydd o Fanceinion Fwyaf, Swydd Gaerllion a Gogledd Cymru cyn ei ddarlledu. Ond ar ôl ei ddarlledu, derbyniodd bod cyfiawnhad dros ddulliau’r BBC o weithredu. O ganlyniad i’r rhaglen, newidiwyd dulliau hyfforddi’r heddlu ac ymddiswyddodd nifer o heddweision.

Yn ystod y flwyddyn darparodd y sianel ddarllediadau estynedig a dadansoddiadau o Irac, canlyniad arweinyddiaeth y Blaid Geidwadol ac Ymchwiliad Hutton. Ymchwiliodd pedair rhaglen Panorama arbennig a ddarlledwyd yn ystod oriau brig i faterion llosg, a darlledwyd tri ‘diwrnod digwyddiadau’ yn cynnig amrywiaeth o ddarllediadau ar geiswyr lloches, dyled defnyddwyr a’r GIG. Ym mis Rhagfyr, newidiodd BBC One ei hamserlen amser cinio er mwyn darlledu gorymdaith fuddugoliaethus tîm rygbi Lloegr drwy Lundain.

Mewn blwyddyn gymharol dawel i ddarllediadau chwaraeon, roedd darllediadau cofiadwy yn cynnwys Athletau’r Byd, Rygbi’r Chwe Gwlad a Wimbledon. Ail-lansiwyd Grandstand gyda fformat modern ar ddechrau 2004. Bu’n flwyddyn brysur a chymharol lwyddiannus i hawliau chwaraeon teledu: bydd Match of the Day yn dychwelyd ar nos Sadwrn a llofnodwyd contractau hirdymor ar gyfer Rygbi’r Chwe Gwlad, Wimbledon, rasio ceffylau a Chwpan yr FA. Fodd bynnag, roedd colli hawliau’r Ras Gychod yn siom.

Parhaodd BBC One i greu digwyddiadau adloniant sy’n dod â’r DU ynghyd fel Plant mewn Angen a’r cwis rhyngweithiol Test the Nation. Fformat nodedig newydd oedd Born to Win a fu’n chwilio am y genhedlaeth nesaf o dalent chwaraeon Prydeinig. Rhoddwyd bwrsarïau chwaraeon i’r enillwyr a chrëwyd argraff cystal ar yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) fel y penderfynodd ychwanegu bwrsari ei hun. Un o sgîl-effeithiau gwerthfawr y prosiect oedd annog cyfranogiad mewn chwaraeon –cymerodd mwy na 25,000 o ddisgyblion ran yn un o weithgareddau Born to Win.

Er gwaethaf y llwyddiannau hyn, erys adloniant yn her i BBC One wrth iddi gydbwyso blaenoriaethau rhwng sicrhau cynyrchiadau arbennig sy’n awgrymu arloesi a chymryd risgiau, a’r angen i ddiwallu anghenion cynulleidfa prif ffrwd sy’n awgrymu cynyrchiadau cyfarwydd, yr ymddiriedir ynddynt. Erys dod o hyd i fformatau gwreiddiol llwyddiannus ar gyfer rhaglenni nos Sadwrn yn her arbennig.

Croesawn yn arbennig yr amrywiaeth newydd o raglenni comedi a lansiwyd gan BBC One yn ystod oriau brig eleni. Er na lwyddodd y comisiynau newydd i’r un graddau, y sianel oedd buddsoddwr mwyaf y DU yn y genre hwn sy’n nodweddiadol o anodd, buddsoddiad y mae’n rhaid iddo barhau er mwyn i BBC One barhau â’i llwyddiant ym maes comedi. At hynny, er mwyn llwyddo, mae angen i’r sianel fagu’r hyder i roi amser i’w chomisiynau ddatblygu pan fydd y cyfraddau gwylio cychwynnol yn siomedig.

Er i BBC One lwyddo i fodloni’r holl ymrwymiadau yn y Datganiadau o Bolisi Rhaglenni, mae dyletswydd arnom i sicrhau bod amserlen y sianel, yn ogystal â’i rhaglenni, yn diwallu anghenion y gynulleidfa yn y ffordd orau bosibl. Rydym wedi gofyn i’n tîm o ymgynghorwyr gynnal astudiaeth annibynnol i asesu pa un a yw’r sianel yn darparu’r cydbwysedd gorau o ddarllediadau yn ystod oriau brig. Byddwn yn cyflwyno adroddiad ar y canlyniad y flwyddyn nesaf.

Mae ymgynghori gyda’n corff ymgynghorol annibynnol, y Pwyllgor Ymgynghorol Canolog ar Grefydd (gweler tudalennau 76 i 77), eisoes wedi amlygu rhywfaint o bryder o ran y pwyslais a roddir ar grefydd yn amserlen BBC One. Gwneir gwaith yn ystod y flwyddyn nesaf i asesu effeithiolrwydd y strategaeth crefydd a gymeradwywyd gennym yn 2002 a addawodd raglennu crefyddol effaith uchel ar BBC One ochr yn ochr â Songs of Praise a The Heaven and Earth Show. Er bod ymchwil yn nodi mai’r BBC yw’r dewis sianel o hyd ar gyfer crefydd, rydym yn poeni efallai nad oes digon o ddarllediadau nodedig yn ystod oriau brig i ddenu sylw rheolaidd gan y gwylwyr.

26

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

BBC Two

Cylch gwaith

Nod BBC Two yw bod yn sianel genre cymysg sy’n cyfuno pynciau ffeithiol difrifol â chomedi a drama i gyflwyno teledu heriol a deallus i gynulleidfa eang. Noda’r sianel uchelgais ac arloesedd fel ei phrif werthoedd. Nod BBC Two yw creu rhaglenni sy’n ysbrydoli ac yn cyffroi cynulleidfaoedd.

Cymeradwywyd strategaeth newydd gennym ar gyfer BBC Two ym mis Mawrth 2003 ac mae’r canlyniadau wedi dechrau dod i’r amlwg ar y sgrîn eleni.

Nod y strategaeth newydd yw tanlinellu swyddogaeth gyhoeddus arbennig BBC Two fel sianel sy’n cynnig cymysgedd mwy heriol o ddarllediadau na BBC One. Mae amrywiaeth eang BBC Two o genres, gyda chraidd ffeithiol arbennig a chryf, yn apelio at gynulleidfa ehangach na rhwydweithiau digidol BBC Three a BBC Four.

Mae’r strategaeth yn ymrwymo’r sianel i gynnig mwy o amrywiaeth i gynulleidfaoedd ar draws y sianelau analog drwy leihau nifer y rhaglenni ffordd o fyw – yn arbennig rhaglenni gweddnewid – rhwng 8pm a 9pm, a chynyddu presenoldeb genres fel y celfyddydau a materion cyfoes yn ystod oriau brig, gyda darllediadau dogfen mwy difrifol am 9pm.

O ganlyniad i’r strategaeth, dargyfeiriwyd arian o faes adloniant, a chafwyd cynnydd yn nifer yr oriau o raglennu ffeithiol ar y sianel, gan gynnwys hanes, gwyddoniaeth, busnes, materion cyfoes, dysgu ac adloniant deallus fel Mastermind.

Mae’r gwaith a wnaed gennym gyda chynulleidfaoedd a chyda phobl sy’n gweithio yn y celfyddydau (gweler tudalen 14) wedi amlygu canfyddiad nad yw’r celfyddydau yn flaenoriaeth uchel i’r BBC ac mai un ffactor yn hyn o beth fu diffyg rhaglen gelfyddydol reolaidd ar y teledu. Felly croesawn y bwriad i lansio rhaglen celfyddydau a diwylliant wythnosol newydd yn ystod oriau brig ar BBC Two.

Er gwaethaf cystadleuaeth gynyddol, mae BBC Two wedi llwyddo i gynnal ei chyrhaeddiad yn ystod y flwyddyn ddiwethaf a gwelwyd cynnydd bach o ran cyfraddau cymeradwyaeth y sianel hefyd o’u cymharu â’r llynedd gyda chyfran uwch o’r gynulleidfa o’r farn bod y sianel yn “gyfredol”. Mae ymchwil hefyd yn awgrymu bod cynulleidfaoedd o’r farn mai BBC Two sy’n cynnig yr amrywiaeth gorau mewn saith genre a’r ansawdd gorau mewn chwe genre.

Fodd bynnag, mae’r strategaeth yn dal yn gymharol newydd a byddwn yn parhau i fonitro’r ffordd y caiff ei gweithredu a llwyddiant y rhaglenni newydd wrth gyflwyno gwasanaeth arbennig sy’n diwallu anghenion y gynulleidfa.

Gwnaed ymdrech i ddenu cynulleidfaoedd newydd i ddarllediadau nad ydynt yn adloniant drwy ddatblygu ffyrdd newydd o gyflwyno genres traddodiadol. Mewn hanes, er enghraifft, edrychodd Seven Wonders of the Industrial World ar y Chwyldro Diwydiannol drwy saith o gyflawniadau peirianneg yr oes; llwyddodd Restoration i ennyn diddordeb y gynulleidfa mewn adeiladau hanesyddol lleol drwy bleidlais genedlaethol a lwyddodd, ar y cyd â Chronfa Treftadaeth y Loteri, i godi £3.5miliwn i adfer yr adeilad buddugol, sef y baddonau Twrceg ym Manceinion.

Yn ogystal, daeth BBC Two o hyd i ffyrdd o ailddyfeisio agweddau ar ei darllediadau cerddoriaeth, y celfyddydau a ffeithiol drwy ddefnyddio drama. Ymhlith y canlyniadau ym maes darllediadau celfyddydol, roedd hanesion cofiadwy am fywydau artistiaid enwog gan gynnwys Beethoven a’r bardd Philip Larkin. Ym maes darllediadau ffeithiol, darparodd The Day Britain Stopped hanes ‘beth os?’ arloesol am ddiwrnod pan safodd system drafnidiaeth Prydain yn stond â chanlyniadau catastroffig.

Mae drama hefyd yn greiddiol i gyfres materion cyfoes oriau brig newydd BBC Two If… a lansiwyd ym mis Mawrth. Croesawn ymrwymiad BBC Two i’r rhaglen ddadansoddi newydd hon sy’n seiliedig ar sefyllfaoedd sy’n archwilio amrywiaeth eang o faterion ac yn helpu i ysgogi a llywio dadleuon gwleidyddol.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

27

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau Teledu

BBC Three

Cylch gwaith

Nod BBC Three yw cynnig cymysgedd deallus, uchelgeisiol o raglenni sy’n adlewyrchu’r hyn sy’n bwysig i oedolion ifanc ym Mhrydain. Mae’r sianel yn ymrwymedig i amserlen gymysg o newyddion, materion cyfoes, addysg, cerddoriaeth, y celfyddydau, gwyddoniaeth a darlledu materion rhyngwladol, yn ogystal â drama, comedi ac adloniant arloesol, o ansawdd uchel.

Lansiwyd BBC Three ym mis Chwefror 2003 fel sianel ddigidol genre cymysg wedi’i hanelu at oedolion ifanc – grwp a oedd wedi’i danwasanaethu i raddau gan ddarlledu cyhoeddus traddodiadol. Gwelodd beth llwyddiant cynnar ac mae bellach yn cyrraedd dros un rhan o bump o’i chynulleidfa graidd, sef pobl ifanc 25-34 mlwydd oed, yn rheolaidd bob wythnos. Ymhlith y genres a gafodd effaith gynnar mae materion cyfoes (The Third Degree), comedi (3 Non-Blondes, Little Britain a Nighty Night), animeiddio (Monkey Dust) a gwyddoniaeth (Body Hits). Gwnaeth detholiad o raglennu yn ymwneud â magu plant (Little Angels a Who Rules the Roost?) hefyd argraff dda. Mae rhai o’r cynyrchiadau arloesol hyn eisoes wedi trosglwyddo’n llwyddiannus i’r sianelau analog, er mwyn i’w gwylwyr elwa arnynt hefyd.

Bu gan gynnwys am fywydau’r sêr, cydberthnasau a ffordd o fyw le amlwg iawn o fewn darllediadau ffeithiol y sianel, ac roedd hynny yn gwrthdaro â chynnwys ein cystadleuwyr. Rydym yn ymdrin â’r broblem hon – er enghraifft, nid yw’r rhaglen am fywydau’r sêr Liquid News bellach yn rhan o’r amserlen.

Nod y sianel oedd bod yn arloesol, yn arbrofol a chymryd risgiau. Cafodd ei beirniadu am fod rhai o’i darllediadau yn ddadleuol. Ond mae hyn yn anochel, o gofio uchelgais y sianel i gyflwyno agweddau allweddol ar ddarlledu cyhoeddus mewn

28

 

BBC Four

Cylch gwaith

Nod BBC Four yw gwasanaethu cynulleidfaoedd sy’n chwilio am fwy o ddyfnder ac amrywiaeth yn yr hyn y maent yn ei wylio. Ei huchelgais yw mai hi fydd y sianel deledu orau o ran cyfoeth deallusol a diwylliannol ym Mhrydain. Mae BBC Four yn cynnig cymysgedd arbennig o raglenni dogfen, perfformiad, cerddoriaeth, ffilm a rhaglenni nodwedd cyfoes fel dewis amgen boddhaol i raglennu mwy prif ffrwd.

Ers ei lansio ym mis Mawrth 2002, llwyddodd BBC Four i ennill ei phlwyf fel y sianel deledu o’i math a gaiff ei gwylio fwyaf. Denodd The Alan Clark Diaries, a gyd-gomisiynwyd gyda BBC Two, gyfartaledd o 856,000 o wylwyr yn ystod ei rhifyn cyntaf – un o’r cynulleidfaoedd uchaf a gofnodwyd erioed ar gyfer drama wreiddiol ar sianel ddigidol yn y DU. Mae’r sianel wedi llwyddo i ddenu cynulleidfa arbennig – sy’n tueddu i fod ychydig yn iau na’r sianelau ffeithiol sy’n gystadleuwyr agos iddi. Mae darllediadau’r sianel yn derbyn sylw cadarnhaol iawn yn y wasg ac mae ymchwil gan grwpiau ffocws yn ategu’r gwerth a rydd gwylwyr arni.

Bu’r sianel yn llwyddiant ac mae’n haeddu mwy o fuddsoddiad. Rydym wedi cymeradwyo cynnydd penodol yng nghyllideb BBC Four i wella cynyrchiadau drama digwyddiadau a chomedi deallus y sianel. Ceir tystiolaeth dda y bydd hyn yn galluogi BBC Four i apelio i gynulleidfa ehangach.

Mae arlwy cyhoeddus arbennig y sianel yn deillio’n rhannol o’i safbwynt rhyngwladol a’i huchelgais deallusol, yn rhannol o amrywiaeth ei hamserlen (mae sianelau cystadleuol yn cynnig rhaglennu niche hynod arbenigol) ac yn rhannol o’r gyfran uchel o’r cynyrchiadau gwreiddiol a wneir yn y DU a gomisiynir ganddi.

42%

o raglenni BBC Four yn gerddoriaeth a’r celfyddydau

1,293

awr o raglenni ffeithiol ar BBC Two

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Yn ogystal, mae’r sianel yn cymryd ei gweledigaeth o gael ei gwerthfawrogi’n fawr am ei chyfraniad i fywyd diwylliannol y DU, yn ogystal â’r tirlun darlledu, o ddifrif. I’r perwyl hwn mae wedi cydweithio ag orielau pwysig i sicrhau bod arddangosiadau ar gael i gynulleidfa genedlaethol, cynnig cefnogaeth frwd i’r sector dosbarthu ffilmiau ieithoedd tramor yn y DU, gweithio gyda chynhyrchwyr theatr i gyflwyno cynyrchiadau masnachol a chymorthdaledig ar y sgrîn, a pharhau i noddi Gwobr Samuel Johnson ar gyfer Cyfansoddiadau Ffeithiol. Mae llunio partneriaethau gyda sefydliadau eraill yn ffordd gynhyrchiol i’r sianel gynyddu ei heffaith, hyrwyddo ei phresenoldeb, a chyflwyno gwerth cyhoeddus i’r gymuned gelfyddydol ehangach.

Mae gan BBC Four botensial gwirioneddol i dyfu. Nid yw llawer o bobl a fyddai’n gwerthfawrogi ei darllediadau wedi newid i deledu digidol eto. Mae angen i’r sianel wneud cynnydd pellach wrth apelio i’r gynulleidfa ehangach honno. Mae’r sianel wedi manteisio’n helaeth ar botensial rhyngweithedd i godi ymwybyddiaeth, er enghraifft ysgogodd y bleidlais ar-lein Black Flash i ddod o hyd i’r peldroediwr du gorau o Brydain ddadl ar BBC Radio Five Live ac 1Xtra gan gyflwyno’r sianel i gynulleidfaoedd newydd ac ehangach.

Ond rydym yn benderfynol o fanteisio ar botensial y sianel i dyfu heb leihau elfennau allweddol ei harlwy unigryw – na lleihau’r ymrwymiad i raglennu mwy ystyrlon a heriol ar y sianelau analog, yn arbennig BBC Two.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 29

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau Teledu

Sianel CBBC

Cylch gwaith

Mae Sianel CBBC yn cynnig amserlen gymysg arbennig i blant 6-12 oed, gan eu hannog i ganfod mwy am ddiddordebau sydd ganddynt eisoes neu eu hysbrydoli i ddatblygu rhai newydd a’u helpu i ddeall a manteisio ar y byd o’u hamgylch. Rhydd y sianel bwyslais ar annog cyfranogiad.

Lansiwyd Sianel CBBC ym mis Chwefror 2002 fel sianel ddigidol yn benodol ar gyfer plant. Mae ei natur arbennig yn seiliedig ar ansawdd ei chynyrchiadau, amrywiaeth ei hamserlen (gydag ymrwymiadau clir o ran newyddion, addysg a drama), y lefel isel o ailddarlledu, a’r gyfran uchel o ddeunydd gwreiddiol a gynhyrchwyd yn y DU mewn marchnad lle y mae sianelau i blant yn bennaf yn dangos rhaglennu a gaffaelwyd ac yn aml a fewnforiwyd.

Athroniaeth Sianel CBBC yw “dysgu drwy hwyl”. Mae hyn yn golygu cyflwyno elfen o ddysgu a datblygu sgiliau bywyd ar draws rhan fawr o’i darllediadau gan gynnwys drama a ffeithiol. Mae’r amserlen hefyd yn cynnwys Class TV, sef bloc pedair awr o raglenni i ysgolion a ddarlledir bob dydd yn ystod y tymor. Cynlluniwyd y rhaglenni hyn yn bennaf i’w defnyddio yn yr ystafell ddosbarth ac maent yn canolbwyntio ar y cwricwlwm i ysgolion.

Mae’r ystod oedran targed yn anodd i’w gyrraedd. Yn nodweddiadol nid oes ganddynt ddigon o amser ac maent am ddod o hyd i sianel sy’n cynnig rhywbeth ar eu cyfer hwy yn benodol. I ddechrau cafodd y sianel broblemau wrth gyfleu ei harlwy genre cymysg, ond yn ystod y flwyddyn mae wedi gwella ei pherfformiad ac mae bellach yn cyrraedd bron i filiwn o wylwyr bob wythnos.

Mae gwaith arbrofol wedi dangos mai bwletinau newyddion amlach ond byrrach sydd fwyaf effeithiol wrth gyrraedd a denu’r gynulleidfa hon i ddarllediadau newyddion. Er y cynyddwyd nifer y bwletinau o ddau yn 2002/2003 i saith y diwrnod yn 2003/2004, methodd y sianel â chyflawni ei hymrwymiad i 85 awr o newyddion yn 2003/2004.

Y strategaeth yw cynyddu swm cyffredinol y newyddion o fewn yr amserlen yn raddol.

Hyrwyddwyd rhyngweithedd drwy osod cynnwys byw wrth wraidd yr amserlen a thrwy gysylltu â’r gynulleidfa drwy’r post, dros y ffôn, drwy ebost, negeseuon testun ac ar-lein.

Yr her wrth symud ymlaen yw parhau i fodloni cynulleidfa heriol, ac weithiau anwadal, y sianel drwy ddatblygu cynnwys arloesol ar draws pob genre.

Un

filiwn yn gwylio CBeebies bob wythnos

777

awr o raglenni i blant ar BBC One

30

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

CBeebies

Cylch gwaith

Mae CBeebies yn cynnig rhaglenni newydd, o ansawdd uchel a gynhyrchir yn bennaf yn y DU i addysgu a diddanu cynulleidfa ieuengaf y BBC. Mae’r gwasanaeth yn darparu amrywiaeth o raglennu i blant cyn oed ysgol wedi’u cynllunio i annog dysgu drwy chwarae i blant pump oed neu’n iau, mewn amgylchedd cyson ddiogel.

Lansiwyd CBeebies ym mis Chwefror 2002 fel sianel ddigidol benodol ar gyfer plant cyn oed ysgol. Ei hathroniaeth yw “dysgu drwy chwarae”. Mae’r holl raglennu wedi’i gysylltu â Chwricwlwm Cam Sylfaen y Llywodraeth.

Bu’r sianel yn llwyddiant o’r cychwyn cyntaf. Y sianel hon bellach yw’r sianel i blant a gaiff ei gwylio fwyaf. Derbyniodd sylw cadarnhaol iawn yn y wasg a chanmoliaeth uchel gan y gwylwyr sy’n rhoi gwerth uchel ar ei hamgylchedd cyfeillgar, diniwed a diogel, ei chynnwys addysgol, a’i helfen uchel o raglennu o’r DU. Bu gwefan CBeebies yn adnodd gwerthfawr iawn ac mae’n un o safleoedd mwyaf poblogaidd y BBC.

Un her sy’n wynebu’r sianel yw datblygu rhaglenni newydd wedi’u hanimeiddio o ansawdd uchel, wedi’u cynhyrchu yn y DU sy’n addas ar gyfer cynulleidfa CBeebies. Bu’r uchelgais gwreiddiol i fuddsoddi’n uniongyrchol mewn cydgynyrchiadau wedi’u hanimeiddio yn anodd i’w wireddu o ganlyniad i gostau uwch na’r disgwyl.

966

awr o ddrama ar Sianel CBBC

Chwe

menter talent newydd gan BBC Three

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Cyrhaeddiad wythnosol gwasanaethau Teledu’r BBC 2003/2004 (% pob cartref)

Fodd bynnag, mabwysiadwyd model amgen lle y mae’r sianel yn rhagbrynu teitlau wedi’u hanimeiddio gyda thrydydd partïon – fel arfer nid yw buddsoddiad y sianel yn uwch na 25%. Defnyddiwyd yr un model ar gyfer Sianel CBBC lle y wynebwyd problemau tebyg. Bu’n ffordd gwerth am arian o brynu cyfranogiad golygyddol cynnar i’r sianel yn y cynnwys er mwyn sicrhau ei fod yn addas ar gyfer cynulleidfa CBeebies.

88.2

 

Teledu’r BBC BBC One BBC Two BBC Three BBC Four Sianel CBBC CBeebies BBC News 24 BBC Parliament

Ffynhonnell: BARB, TNS/Infosys, 4+ oed, cyrhaeddiad wythnosol 15 munud ar gyfartaledd ar gyfer y flwyddyn. *Dim ond ers mis Medi 2003 y mae BBC Parliament wedi cael ei mesur Noder: Nodir y ffigurau ar gyfer 2002/2003 mewn cromfachau

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 31

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Radio

Trosolwg

Mae sylfeinir tirlun radio ym Mhrydain yn newid. Ceir gorsafoedd digidol cenedlaethol newydd cryf. Mae pobl yn gwrando mewn ffyrdd newydd drwyr teledu, y rhyngrwyd neu ffonau symudol. Mae rhai pobl ifanc syn hoff o gerddoriaeth yn troi eu cefn ar y radio ac yn llwytho cerddoriaeth ar-lein.

Yn erbyn y tirlun o newid, sut mae Radior BBC yn parhau i gyflwynor achos o blaid ei rôl gyhoeddus? Yr ateb yw y gall y BBC wneud gwahaniaeth: i unigolion drwy roi mynediad unigryw iddynt ir pethau y maent yn eu gwerthfawrogi; i ddinasyddiaeth a democratiaeth drwy ddarparu gwybodaeth annibynnol; ac i gymdeithas drwy fuddsoddi ym mywyd diwylliannol a chreadigol y DU. Mae hyn yr un mor wir am ddarllediadau cerddoriaeth Radior BBC â’i ddarllediadau llafar. Maer BBC yn cefnogi cerddoriaeth ar lawr gwlad ac mae wedi helpu i ehangu dewisiadaur cyhoedd yn gyffredinol gan gyflwyno gwerth i wrandawyr unigol ac ir diwydiant cerddoriaeth ehangach, ym maes cerddoriaeth boblogaidd a chlasurol. Yn yr un modd, mae elfen lafar ein gorsafoedd cerddoriaeth yn helpu i wthio ffiniau drwy fynd ir afael â materion anodd.

Mae gwasanaethau radio cenedlaethol y BBC yn llwyddo i ddal eu tir. Mae gwasanaethau digidol newydd y BBC yn ymsefydlu fel gwasanaethau niche arbennig a werthfawrogir. Llwyddodd BBC Radio 2, 3, 4 a Five Live i atgyfnerthu eu statws. Rhoddwyd strategaeth newydd ar waith i hybu statws hirdymor BBC Radio 1.

32

 

BBC Radio 1

Cylch gwaith

Nod BBC Radio 1 yw cynnig gwasanaeth cyffrous, o ansawdd uchel i gynulleidfa ifanc yn y DU. Maen ymrwymedig i chwaraer gerddoriaeth newydd orau a chyflwyno amrywiaeth cynhwysfawr o sesiynau stiwdio byw, cyngherddau a darllediadau o wyliau. Nod y rhwydwaith yw cwmpasu pob genre o gerddoriaeth ifanc gyda rhestr chwarae eang a chymysgedd cryf o DJs arbenigol. Ategir y rhaglennu cerddoriaeth gan ddarllediadau llafar wediu teilwra gan gynnwys newyddion, rhaglenni dogfen ac ymgyrchoedd cynghori.

Mae Radio 1 yn hanfodol i ymrwymiad y BBC i gyrraedd cynulleidfaoedd ifanc – ac mae ei iechyd yn ganolog i lwyddiant Radio’r BBC yn gyffredinol. Ym mis Rhagfyr 2002 gwnaed cais gennym am arolwg o strategaeth Radio 1, gan gydnabod er bod Radio 1 eisoes yn gweithredu mewn marchnad gystadleuol iawn, bod newidiadau technolegol a rheoliadol yn debygol o gynyddu’r gystadleuaeth ymhellach. Datblygwyd strategaeth newydd ac fe’i cymeradwywyd gennym ym mis Mai 2003.

Roedd gan ymgynghori â’r gynulleidfa ran bwysig i’w chwarae. Dangosodd ymchwil bod rhai o’r agweddau ar arlwy Radio 1 yn annymunol. Er enghraifft, er bod gan bron i hanner y bobl ifanc 25 i 30 oed blant, roedd y rhwydwaith yn cyfleu delwedd ‘bythol sengl’. Roedd tystiolaeth bod y gwrandawyr am i’r rhwydwaith ymlacio fwy a bod yn llai dwys am ei gerddoriaeth – ac roeddent hefyd am glywed rhywfaint o gerddoriaeth hyn.

Fodd bynnag, roedd sawl peth yr oeddent yn ei hoffi, a bu ymateb y BBC yn esblygol yn hytrach na chwyldroadol.

Yn ei raglennu prif ffrwd, mae’r rhwydwaith bellach yn canolbwyntio’n fwy amlwg ar ei gynulleidfa darged, sef pobl ifanc rhwng 10 a 30 oed. O ganlyniad cyflwynwyd cynnwys mwy diddorol yn ystod y dydd heb gyfaddawdu ymrwymiad cyhoeddus y rhwydwaith i newyddion a cherddoriaeth newydd. Ym maes rhaglennu arbenigol, y nod yw cyflwyno talent a genres newydd i’r gwrandawyr gan ddiwallu gofynion gwrandawyr selog a hyddysg, ond mewn ffordd sy’n croesawu cynulleidfa ehangach y rhwydwaith.

Yn 2003/2004, dechreuodd Radio 1 gyflwyno elfen prif ffrwd y strategaeth hon gan gynnwys newid rhai o’r cyflwynwyr allweddol. Cymerodd Chris Moyles yr awenau ar y sioe frecwast yn ystod yr wythnos ym mis Ionawr 2004 pan symudodd Sara Cox i sioe brynhawn yn ystod yr wythnos, a dechreuodd Colin & Edith ar y slot 1-3pm yn ystod yr wythnos. Gwnaed gwaith hefyd i sicrhau y gall pobl uniaethu fwy â’r DJs. Bodlonwyd y galw am gerddoriaeth hyn.

Bydd yn cymryd amser i adfywio’r amserlen gyfan ac ar hyn o bryd mae’n rhy gynnar i wneud asesiad hyddysg o lwyddiant y broses. Rydym yn cydnabod bod cystadleuaeth gynyddol yn debygol o effeithio ar gyfran ond rydym yn awyddus i sicrhau bod Radio 1 yn parhau i gyflawni ei gyrhaeddiad unigryw.

Caiff natur arbennig Radio 1 ei herio weithiau gan feirniaid. Mewn ymateb i hyn, mae’r BBC wedi sefydlu rhaglen ymchwil feintiol annibynnol i ddarparu data ar natur arbennig cymysgedd y gerddoriaeth, gan gynnwys swm y gerddoriaeth newydd. Dangosodd y dadansoddiad a gynhaliwyd yn 2003/2004 fod Radio 1 yn chwarae nifer uwch o wahanol ganeuon yn ystod yr wythnos nag unrhyw rai o’i gystadleuwyr agosaf. Chwaraewyd mwy na 460 o draciau ar Radio 1 nad oeddent wedi’u clywed ar unrhyw gystadleuwr a fesurwyd yn ystod wythnos sampl ym mis Mai a mis Hydref 2003. Chwaraeodd Radio 1 hefyd fwy o gerddoriaeth fyw na’i gystadleuwyr. Mae’r rhwydwaith bellach yn ymrwymedig i neilltuo o leiaf 40% o’i raglennu prif ffrwd i gerddoriaeth newydd – a ddiffinnir fel cerddoriaeth nas rhyddhawyd, neu a ryddhawyd ers llai na mis.

Ar draws Radio 1 bydd yr ymrwymiad i gylch gwaith cyhoeddus arbennig yn parhau, gan gynnwys newyddion wedi’i deilwra’n arbennig (drwy’r rhaglen Newsbeat), rhaglenni dogfen, rhaglennu gweithredu cymdeithasol a digwyddiadau cerddoriaeth fyw.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 33

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Radio

BBC Radio 2

Cylch gwaith

Nod BBC Radio 2 yw cyflwyno amrywiaeth eang o gerddoriaeth boblogaidd ac arbenigol, gyda chefnogaeth benodol i artistiaid newydd a sefydledig o Brydain; cerddoriaeth fyw, drwy gyngherddau a sesiynau stiwdio; a chyfansoddi caneuon. Maer rhwydwaith hefyd yn cynnig newyddion, materion cyfoes, rhaglenni dogfen, comedi, darlleniadau, darllediadau crefyddol a gweithredu cymdeithasol, wediu cynllunio i apelio at gynulleidfa eang.

Mewn marchnad orlawn, mae Radio 2 wedi llwyddo i gynnal ei gynulleidfa, gan gadw ei statws fel yr orsaf radio y gwrandewir arni fwyaf yn y DU gyda chyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol yn 2003/2004 o 12.9 miliwn (13.0 miliwn yn 2002/2003).

Mae’r gerddoriaeth a chwaraeir – gan gynnwys cerddoriaeth fyw – yn parhau i gwmpasu amrywiaeth eang iawn. Fel gyda Radio 1, mae’r BBC bellach yn casglu data meintiol i fonitro natur arbennig cynnwys cerddoriaeth y rhwydwaith. Cynhaliwyd y dadansoddiad ddwywaith yn ystod 2003/2004 a dangosodd na chlywyd ymhell dros 1,000 o’r caneuon a chwaraewyd ar Radio 2 ar unrhyw gystadleuwr arall a fesurwyd. Yn ogystal, chwaraeodd Radio 2 amrywiaeth ehangach o genres a mwy o gerddoriaeth fyw na’i gystadleuwyr.

BBC Radio 3

Cylch gwaith

Nod BBC Radio 3 yw darparu sbectrwm eang o gerddoriaeth glasurol, jazz, cerddoriaeth y byd, drama a thrafodaethau celfyddydol. Maen canolbwyntio ar gyflwyno cerddoriaeth fyw a cherddoriaeth wedii recordion arbennig o bob cwr or DU a thu hwnt, gan gynnwys cyfraniadau gan grwpiau perfformior BBC ei hun.

Mae cynulleidfa Radio 3 wedi cynyddu ychydig, gyda chyfartaledd cyrhaeddiad wythnosol yn 2003/2004 o 2.2 miliwn (2.1 miliwn yn 2002/2003). Llwyddodd tymor Proms yr haf i ddenu cynulleidfa arbennig o uchel ac – yn dilyn newidiadau i’r amserlen yn ystod yr hydref yn seiliedig ar ymgynghori ac ymchwil i’r gynulleidfa – cyflawnodd y rhwydwaith ei gyrhaeddiad uchaf erioed yn ystod chwarter cyntaf 2004.

Ymhlith y darllediadau nodedig roedd diwrnod Berlioz – diwrnod cyfan ar Radio 3 a neilltuwyd i fywyd a dylanwadau’r cyfansoddwr; darllediadau o Wobrau Cerddoriaeth y Byd Radio 3, a gynhaliwyd y tu allan i Lundain am y tro cyntaf; a noson Arabaidd, noson arbennig yn sôn am fywyd diwylliannol a gwleidyddol Penrhyn Arabia.

Nodwn fod cerddoriaeth glasurol yn parhau wrth wraidd yr amserlen ac mae’r cylch gwaith presennol yn ei gwneud yn ofynnol i’r rhwydwaith ategu’r craidd hwnnw â genres cerddoriaeth difrifol eraill, gan gynnwys jazz a cherddoriaeth y byd. Rydym yn ymwybodol bod rhai gwrandawyr yn anfodlon ar gyfran y darllediadau a neilltuir ar gyfer cerddoriaeth nad yw’n glasurol ar Radio 3 a byddwn yn parhau i ystyried hyn wrth asesu perfformiad y rhwydwaith.

Cyflawnwyd ymrwymiad Radio 2 i annog pobl i ysgrifennu caneuon yn y DU drwy Sold on Song. Nod y fenter llawn dychymyg hon yw darparu dealltwriaeth hyddysg i grefft y gân boblogaidd drwy ddigwyddiadau gan gynnwys meistr ddosbarthiadau gydag awduron caneuon sefydledig fel Syr Paul McCartney ac Elvis Costello, a chystadleuaeth i awduron caneuon newydd. Ategir Sold on Song gan wefan sy’n cynnwys gwybodaeth gynhwysfawr am bynciau sy’n amrywio o hanes y prif genres cerddoriaeth boblogaidd i gyngor ar sut i ddechrau arni wrth ysgrifennu caneuon.

Mae’r rhwydwaith wedi cynnal ei ymrwymiad i sicrhau bod newyddion a materion cyfoes yn rhan allweddol o’r cymysgedd. Mae The Jeremy Vine Show, a lansiwyd yn 2003, yn parhau i ddatblygu’n llwyddiannus. Bu’r ail awr ryngweithiol (1-2pm) ar bynciau llosg yn llwyddiannus wrth ddenu lefel uchel o ryngweithedd gan wrandawyr. Ymhlith y darllediadau llafar nodedig eraill roedd y rhaglen ddogfen gerddorol ar Stevie Wonder,

40 Years of Wonder, a The JFK Generation, i gofnodi 40 mlynedd ers lladd yr Arlywydd Kennedy. Ail-lansiwyd rhaglen gelfyddydol y rhwydwaith fel The Green Room ac fe’i hestynnwyd o 90 munud i ddwy awr.

34

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

BBC Radio 4

Cylch gwaith

Cylch gwaith BBC Radio 4 yw defnyddio grym y gair llafar i gynnig rhaglenni sylweddol syn synnu, yn ymchwilgar, yn ddadlennol ac yn diddanu. Nod y rhwydwaith yw cynnig newyddion a materion cyfoes manwl ac ystyrlon ac maen ceisio denu ac ysbrydoli ei gynulleidfa gyda chymysgedd cyfoethog o raglenni ffeithiol, drama, darlleniadau a chomedi.

Mae cynulleidfaoedd Radio 4 wedi gostwng ychydig, gyda chyrhaeddiad o 9.6 miliwn yn 2003/2004 (9.8 miliwn yn 2002/2003). Yn Llundain, y farchnad radio fwyaf cystadleuol, erys y rhwydwaith ar y brig o ran cyrhaeddiad a chyfran.

Newyddion a materion cyfoes yw asgwrn cefn Radio 4 ac mae’r rhwydwaith wedi llwyddo i gadw ei statws cryf yn y genre hwn. Dengys ymchwil i gynulleidfaoedd fod chwech allan o bob deg o wrandawyr radio o’r farn mai Radio’r BBC yw’r ffynhonnell orau o newyddion ar y radio – ac mae Radio 4 ar y brig o’i chymharu â gorsafoedd radio eraill y BBC o ran cael ei hystyried fel y darparwr newyddion gorau. Nid effeithiwyd yn sylweddol ar y ffigurau hyn gan Ymchwiliad Hutton, a ddeilliodd o adroddiad ar Today ar Radio 4.

Ymhlith y darnau nodedig o newyddiaduraeth roedd y rhifyn arbennig awr o hyd i ddathlu diwedd y rhyfel yn Irac, cyfres Edward Stourton ar hanes a dyfodol y Cenhedloedd Unedig, a’r cyfweliad gyda ‘Witness Bromley’, y plentyn 12 mlwydd oed a ymddangosodd fel y prif dyst yn nhreial y bechgyn a gyhuddwyd o ladd Damilola Taylor.

45%

o restr chwarae Radio 1 y llynedd yn artistiaid or DU

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Mae’r rhwydwaith yn parhau i gyflawni ar draws amrywiaeth eang o genres, gan gynnwys drama, comedi a chrefydd. Llwyddodd The Archers i ddal ei gafael cadarn ar ei chynulleidfa gyda straeon – dadleuol weithiau – sydd, fel y dengys ein hastudiaeth ddiweddar o natur ddiduedd (gweler tudalen 21), yn darparu cynrychiolaeth deg o amrywiaeth o faterion gwledig cyfoes.

 

BBC Radio Five Live

Cylch gwaith

Mae BBC Radio Five Live yn darlledu newyddion a chwaraeon byw 24 awr y dydd, gan anelu at gyflwyno digwyddiadau wrth iddynt ddigwydd mewn arddull fodern, deinamig a hygyrch. Maen anelu at gwmpasu pynciau cenedlaethol a rhyngwladol yn drylwyr, gan ddefnyddio dadansoddiadau a dadleuon eang eu cwmpas i lywio, diddanu a chynnwys dilynwyr newyddion a chwaraeon o bob oed, gyda phwyslais penodol ar bobl 25-44 mlwydd oed. Maer rhwydwaith hefyd yn darparu darllediadau cynhwysfawr o ddigwyddiadau byw, wediu cefnogi gan weithrediadau casglu newyddion byd-eang y BBC ai bortffolio o hawliau chwaraeon.

Dathlodd Five Live ei ddengmlwyddiant yn 2004. Erys cynulleidfaoedd yn gymharol sefydlog, gyda gostyngiad bach o ran cyfartaledd cyrhaeddiad i 6.1 miliwn yn 2003/2004 (o 6.3 miliwn yn 2002/2003 – a oedd yn cynnwys Cwpan Pêl-droed y Byd). Cyrhaeddodd 6.5 miliwn yn chwarter cyntaf 2004, ac mae sgoriau cymeradwyaeth y gynulleidfa yn parhau yn llawer uwch na chyfartaledd y BBC.

Bu darllediadau’r rhwydwaith ym maes newyddion a chwaraeon yn gryf. Ym mis Tachwedd, llwyddwyd i ategu sylwebaeth fywiog ar fuddugoliaeth Lloegr yn erbyn Awstralia yng Nghwpan Rygbi’r Byd yn Sydney â darllediadau allanol cofiadwy o’r tîm yn dychwelyd adref a’r orymdaith fuddugoliaethus yr wythnos ganlynol lle y rhoddwyd mynediad unigryw i Five Live i fws y chwaraewyr. O ran newyddion, gwnaed cynnydd da wrth adfywio Breakfast, Morning, a rhaglen Julian Worricker ar fore dydd Sul. Bu’r rhwydwaith yn llwyddiannus wrth ddarlledu straeon a oedd yn datblygu fel dal Saddam Hussein.

Rydym yn falch o nodi bod Five Live wedi ennill hawliau pêl-droed yr Uwch Gynghrair hyd at ddiwedd tymor 2006/2007.

36

BBC Five Live Sports Extra

Cylch gwaith

Estyniad rhan amser o BBC Radio Five Live yw BBC Five Live Sports Extra, sydd wedii anelu at roi gwell dewis i ddilynwyr chwaraeon. Maen darparu gwerth uwch am arian i dalwyr y drwydded o hawliau chwaraeon sydd eisoes yn eiddo ir BBC drwy gynnig sylwebaethau amgen ir rhai a ddarperir ar Five Live.

Lansiwyd Five Live Sports Extra ym mis Chwefror 2002 fel rhan o bortffolio’r BBC o sianelau digidol ac mae wedi ymsefydlu’n gyflym fel chwaer orsaf werthfawr i Five Live, gan gyflwyno gwerth ychwanegol i dalwyr y drwydded o hawliau chwaraeon presennol y BBC.

Mae wedi galluogi’r BBC i barhau i ddarlledu sylwebaethau chwaraeon ar y radio pan gaiff darllediadau chwaraeon ar Five Live eu cwtogi – fel y digwyddodd yn ystod y rhyfel yn Irac –er mwyn gallu darlledu straeon newyddion mawr sy’n datblygu yn llawn. Mae hefyd yn galluogi’r BBC i gynnig mwy o ddewis gemau a digwyddiadau i ddilynwyr chwaraeon. Cafwyd enghraifft dda ym mis Awst pan fu Five Live yn canolbwyntio ar bêl-droed wrth i Five Live Sports Extra gynnig darllediadau di-dor o Bencampwriaethau Athletau’r Byd ym Mharis.

38%

o Radio 2 wedii neilltuo i eitemau llafar

60

o ddarnau cerddoriaeth glasurol newydd wediu comisiynu ar gyfer Radio 3

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

IXtra

Cylch gwaith

Nod 1Xtra yw chwaraer goreuon o blith cerddoriaeth ddu gyfoes, gyda phwyslais cryf ar gyflwyno cerddoriaeth fyw o ansawdd uchel a chefnogi artistiaid newydd o Brydain. Daw 1Xtra hefyd â gwasanaeth newyddion wedii deilwran arbennig, rhaglenni trafod rheolaidd a rhaglenni dogfen wediu comisiynun arbennig i wrandawyr, ynghyd

â gwybodaeth a chyngor syn berthnasol ir gynulleidfa darged ifanc, yn arbennig er nad yn unigryw y rheini o leiafrifoedd ethnig.

Lansiwyd 1Xtra ym mis Awst 2002 fel rhan o bortffolio’r BBC o sianelau digidol. Mae’r orsaf yn llwyddo i ddenu dilynwyr o blith cynulleidfa ifanc nad oedd yn teimlo ei bod yn cael dim gan y BBC. Mae’n cynnig gwasanaeth nad oes mo’i debyg unrhyw le arall ar radio rhwydwaith yn y DU gan roi cefnogaeth gref i’r diwydiant cerddoriaeth ddu gyfoes yn y DU ar draws yr amrywiaeth llawn o genres. Mae’n darparu llwyfan ar gyfer digwyddiadau cerddoriaeth ddu pwysig fel Carnifal Notting Hill a Southport Weekender. Mae hefyd yn dod o hyd i dalent ddarlledu Affricanaidd/ Caribïaidd ddu newydd ar yr awyr a’r tu ôl i’r llenni ac yn ei datblygu.

Y prif her sy’n ein hwynebu yw denu’r gynulleidfa darged gyda rhaglennu llafar. Daw gwrandawyr i glywed y gerddoriaeth ac mae’n rhaid i’r orsaf ddod o hyd i ffyrdd arloesol o’u denu at eitemau llafar o ansawdd. Yn 2003/2004, methodd 1Xtra â chyflawni ei ymrwymiad y dylai tua 10% o’i ddarllediadau fod yn newyddion, rhaglenni dogfen a rhaglennu gweithredu cymdeithasol. Fodd bynnag, fe’i cyflawnir y flwyddyn nesaf.

Rydym wedi tanlinellu pwysigrwydd ansawdd darllediadau llafar, yn hytrach na dim ond eu nifer, a byddwn yn rhoi sylw penodol i hyn wrth gynnal asesiadau yn y dyfodol.

BBC 6 Music

Cylch gwaith

Mae BBC 6 Music yn cynnig cerddoriaeth gyfredol nad ywn gerddoriaeth brif ffrwd, traciau cyngerdd a sesiwn newydd, a mynediad unigryw i waith artistiaid or 40 mlynedd diwethaf drwy Archif Sain y BBC i ddilynwyr cerddoriaeth boblogaidd. Ei nod yw darparu cyd-destun cymdeithasol a diwylliannol drwy newyddion, rhaglenni dogfen a thrafodaethau am gerddoriaeth, ac maen ymrwymedig i ddarparu cynnwys rhyngweithiol.

Lansiwyd BBC 6 Music ym mis Mawrth 2002 fel rhan o bortffolio’r BBC o sianelau digidol. Mae’n targedu dilynwyr cerddoriaeth 25-44 mlwydd oed, sef carfan a danwasanaethwyd yn y gorffennol gan y BBC.

Mewn marchnad gerddoriaeth radio orlawn llwyddodd i ymsefydlu fel gwasanaeth arbennig a werthfawrogir gan wrandawyr. Ategir y darllediadau cerddoriaeth gan fwletinau newyddion gan dîm ymroddedig o newyddiadurwyr sy’n canolbwyntio ar faterion sy’n berthnasol i’r cynulleidfaoedd targed a sefydlwyd tîm casglu newyddion cerddoriaeth.

Y cam nesaf yw cynyddu lefel y rhyngweithedd, datblygu’r defnydd o’r archif ac atgyfnerthu cydberthynas yr orsaf â’i chynulleidfa. Bydd mentrau yn cynnwys darllediadau allanol a digwyddiadau proffil uchel.

2,123

awr o faterion cyfoes, busnes a gwleidyddiaeth ar Radio 4

2,106

awr o chwaraeon ar Five Live

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 37

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Radio

BBC 7

Cylch gwaith

Gwasanaeth llafar yw BBC 7 syn darparu adloniant pur er mwyn denu cynulleidfa newydd i radio llafar. Maer rhwydwaith yn cynnig comedi, drama a darlleniadau, o archif y BBC yn bennaf. Ei nod hefyd yw bod yn gartref i radio llafar i blant, gyda rhaglennu dyddiol byw i bobl ifanc.

Lansiwyd BBC 7 ym mis Rhagfyr 2002 fel rhan o bortffolio’r BBC o wasanaethau digidol. Llwyddodd i gyflawni ei ymrwymiadau a daeth o hyd i gynulleidfa werthfawrogol, yn bennaf drwy fanteisio ar adnoddau archif llafar y BBC. Ym mis Rhagfyr 2003, mewn ymateb i lawer o geisiadau gan wrandawyr, dechreuodd BBC 7 ddarlledu 24 awr y dydd.

Darparodd y rhwydwaith hefyd wasanaeth gwerthfawr drwy ddarlledu pedair awr y dydd o raglennu llafar i blant o fath na fu ar gael yn ystod y degawd diwethaf.

Chwaraeodd BBC 7 ran arwyddocaol yn y broses o ddatblygu’r farchnad ar gyfer radio digidol DAB. Dangosodd ymchwil yn rhan olaf 2003 fod 68% o’r bobl a oedd wedi prynu radio digidol DAB wedi gwneud hynny er mwyn derbyn gwasanaethau newydd, a phan ofynnwyd iddynt pa wasanaeth penodol yr oeddent am ei dderbyn, soniodd 26% ohonynt am BBC 7 – mwy nag ar gyfer unrhyw wasanaeth arall.

Un o amodau caniatâd y DCMS oedd na ddylid datblygu’r gwasanaeth ar draul rhaglennu ar Radio 4. Bodlonwyd yr amod hon drwy benodi Rheolwr Radio 4 fel Rheolwr BBC 7. Mae’r amserlennu yn ategu Radio 4 er mwyn osgoi unrhyw wrthdaro golygyddol a, lle y bo’n bosibl, caiff digwyddiadau ar y cyd eu hyrwyddo ar y ddwy orsaf. Mae gan y ddau rwydwaith gyllidebau cwbl ar wahân.

Y cam nesaf yw mireinio’r arlwy ymhellach er mwyn sicrhau ei bod yn fwy deniadol i’r gynulleidfa darged a dod o hyd i fwy o ffyrdd o ddarparu gwybodaeth a chyd-destun yn seiliedig ar yr archif.

2,852

awr o gomedi ar BBC 7

73

o gyngherddaur Proms ar Radio 3

38

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

BBC Asian Network

Cylch gwaith

Mae BBC Asian Network yn cynnig cerddoriaeth, newyddion, chwaraeon, trafodaethau, adloniant a drama ar gyfer Asiaid Prydeinig. Maen darlledu yn Saesneg yn bennaf ond hefyd mewn amrywiaeth o ieithoedd a siaredir gan Asiaid yn y DU. Ei nod yw bod y prif fforwm ar gyfer trafod materion sydd o bwys i gymunedau o Asiaid Prydeinig.

Fel rhan o’r broses o lansio ei bortffolio o wasanaethau digidol, ail-lansiwyd BBC Asian Network fel rhwydwaith cenedlaethol ym mis Hydref 2002. Roedd ymchwil wedi dangos bod y gymuned Asiaidd yn fwy tebygol o wrando ar radio llafar na gweddill y boblogaeth, ond nad oedd unrhyw wasanaeth llafar cenedlaethol a oedd yn ymdrin yn rheolaidd â materion o ddiddordeb penodol i Asiaid Prydeinig.

Cyfiawnhawyd ymrwymiad y BBC i gynulleidfa a danwasanaethwyd yn flaenorol. Mae’r rhwydwaith wedi treblu ei gynulleidfa drwy ddarlledu’n genedlaethol ac mae bellach yn cyrraedd un o bob pum person Asiaidd Prydeinig.

Dangoswyd ymrwymiad parhaus y BBC drwy fuddsoddi mwy na £1filiwn mewn drama ddyddiol newydd ar gyfer y rhwydwaith,

Silver Street.

Diwellir anghenion Asiaid cenhedlaeth gyntaf drwy 2,730 o oriau o raglennu yn Pwnjabi, Mirpuri, Bengali, Gwjarati a Hindi-Wrdw.

163

awr o grefydd ar Radio 2 yn ystod oriau brig

66%

o ddarllediadau BBC Asian Network yn eitemau llafar

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Buddsoddwyd yn sylweddol eisoes mewn gwasanaeth newyddion penodol – mae gan y rhwydwaith 45 o newyddiadurwyr a’i staff ei hun o newyddiadurwyr chwaraeon. Darparodd y rhwydwaith lwyfan gwerthfawr yn ystod y rhyfel yn Irac i gymunedau Moslem drafod y materion cysylltiedig. Nodwn y bwriad i ehangu agenda newyddion y rhwydwaith er mwyn rhoi gwell ymdeimlad o bwysigrwydd a chyfranogiad y gymuned Asiaidd mewn busnes, er enghraifft.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 39

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Cyfryngau newydd

Trosolwg

Maer BBC yn sefydliad tri-chyfrwng. Caiff llawer oi ddarllediadau teledu a radio eu hategu au hymestyn gan ddarpariaeth ar-lein a rhyngweithiol, a chyflwynir adroddiad am hynny yn adrannau eraill y ddogfen hon.

 

Mae gennym ymrwymiad cadarn i sicrhau y gall pawb yn y DU fwynhau manteision technolegau digidol, boed drwyr rhyngrwyd, radio, teledu neu ddyfeisiau symudol.

Mae rôl y BBC wrth ddatblygu DU ddigidol yn uniongyrchol drwy annog pobl i ddod yn gyfarwydd â’r cyfryngau, ac yn anuniongyrchol drwy annog pobl i fanteisio ar wasanaethau digidol drwy ddarparu cynnwys deniadol.

Mae gwasanaethau cyfryngau newydd y BBC yn ategu ac yn cyfoethogi ein gwasanaethau darlledu, yn ehangu ein cyrhaeddiad addysgol, ac yn cyflwyno gwerth ir cyhoedd drwy alluogi pobl i gyfathrebu â’i gilydd o fewn cymunedau wediu llunio yn seiliedig ar frwdfrydedd, diddordebau a chymdogaethau cyffredin. Rydym yn gweithio i sicrhau bod y cymunedau hyn yn arbennig lle y maent yn berthnasol i bobl ifanc neu ddiamddiffyn

  yn gweithredu mewn amgylchedd diogel.

 

40 Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 BBC Annual Report and Accounts 2003/2004

 

bbc.co.uk

Cylch gwaith bbc.co.uk: defnyddior rhyngrwyd i ategu amrywiaeth llawn darllediadaur BBC, gan ehangu dyfnder, rhyngweithedd a rhwyddineb mynediad ir wybodaeth, yr addysg ar adloniant a gynigir; ac annog cyfranogiad yn y byd digidol a darparu hafan ddiogel ar y rhyngrwyd.

Ym mis Mawrth 2004, am y tro cyntaf, roedd hanner poblogaeth Prydain sy’n dros 15 oed yn defnyddio’r rhyngrwyd. Roedd tua 45% ohonynt – mwy na 10 miliwn – yn ymweld â bbc.co.uk. Mae’r ystadegyn hwn wedi ychwanegu at y dystiolaeth bod twf cyflym y rhyngrwyd yn y DU yn deillio’n rhannol o argaeledd cynnwys y BBC a’r ymdrechion a wnaed gan y BBC i gyflwyno’r byd digidol i ddefnyddwyr newydd. Enghraifft dda yw safle’r Ail Ryfel Byd, People’s War, a gynlluniwyd mewn partneriaeth â Chyngor yr Henoed i gyflwyno pobl dros 60 oed i’r rhyngrwyd. Mae’n denu hyd at 140,000 o ddefnyddwyr bob mis. Cyflawnwyd y twf cyffredinol hwn mewn defnydd er gwaethaf newid mewn blaenoriaethau buddsoddi a ddargyfeiriodd gyllid o’r rhyngrwyd tuag at deledu rhyngweithiol.

Yn 2003, fel rhan o’n harolwg o bbc.co.uk, cymeradwywyd meini prawf gennym y mae’n rhaid i safleoedd newydd ar bbc.co.uk eu bodloni. Yn eu plith mae: cyfrannu at bwrpas y BBC ac ymgorffori gwerthoedd y BBC; dangos gwerth am arian; darparu cynnwys arbennig; ac asesiad o’r effaith bosibl ar y farchnad. Aseswyd safleoedd a oedd yn bodoli eisoes hefyd. Dadgomisiynwyd neu lleihawyd rhai safleoedd, fel Legacies, Spy Watch a Science and Nature yn ystod y flwyddyn. Gofynnwyd i eraill, fel safle Ffilmiau’r BBC, ddod yn fwy neilltuol yn olygyddol.

BBCi  

Cylch gwaith

BBCi: cynnig y diweddaraf ym maes newyddion, tywydd, addysg, adloniant a gwybodaeth arall drwy gydol y dydd i bob cynulleidfa deledu ddigidol drwyr botwm coch ar y rheolydd; a chynyddu gwerth arlwy teledur BBC i bob cynulleidfa ddigidol drwy fideo, sain, lluniau a thestun.

Mae cynulleidfaoedd gwasanaethau rhyngweithiol y BBC wedi cynyddu’n sylweddol yn ystod y flwyddyn ac maent bellach yn cyrraedd hanner y boblogaeth ddigidol bob mis. Ail-lansiwyd gwasanaeth teledu rhyngweithiol 24/7 y BBC gyda rhyngwyneb symlach i ddefnyddwyr a bu bron i nifer y gwasanaethau teledu estynedig (eTV) newydd ddyblu, i 190. Er enghraifft, llwyddwyd i ategu rhaglen ddrama ddogfen The Genius of Mozart gyda chymhwysiad rhyngweithiol – enghraifft amlwg o’r ffordd y gall teledu estynedig wella a chyfoethogi’r profiad i gynulleidfaoedd.

Fodd bynnag, nodwn nad yw’r twf o ran nifer y bobl sy’n defnyddio rhyngweithedd yn cynyddu ar yr un raddfa a’i argaeledd. Mae angen i’r BBC ddeall a newid y duedd hon er mwyn sicrhau bod teledu estynedig yn cyrraedd ei lawn botensial.

Cyrhaeddiad misol bbc.co.uk a BBCi 2003/2004 (miliynau)

Dechreuodd y BBC gynnal rhaglen beilot o’i wasanaeth, iCan, sy’n ceisio denu pobl sy’n teimlo nad ydynt yn rhan o brosesau gwleidyddol presennol ond sy’n awyddus i wneud gwahaniaeth i fywyd dinesig. Mae iCan yn cysylltu pobl ac yn rhoi’r adnoddau iddynt i gynyddu eu dylanwad i’r eithaf drwy gydweithio ac ymgyrchu gyda’i gilydd. Gallai’r fenter hon ddatblygu yn fenter gymunedol arwyddocaol iawn ond mae risgiau golygyddol ynghlwm wrth hyn ac rydym yn monitro datblygiadau er mwyn sicrhau bod systemau cadarn ar waith i wneud yn siwr na chaiff natur ddiduedd y BBC ei rhoi yn y fantol.

Rydym hefyd yn adolygu’r ffordd y caiff safleoedd cymunedol y BBC eu safoni. Yn draddodiadol, defnyddiai’r BBC brosesau safoni ymlaen llaw (gwirio negeseuon cyn eu cyhoeddi) a phrosesau ôl-safoni (gwirio negeseuon yn fuan ar ôl eu cyhoeddi). Eleni, mewn ymateb i’r twf cyflym yn nifer y bobl sy’n defnyddio negesfyrddau ac ystafelloedd sgwrsio, cyflwynwyd safoni adweithiol. Yma caiff negeseuon ond eu gwirio yn dilyn rhybudd i’r BBC gan ddefnyddwyr. Mae’r broses yn cynyddu amserau ymateb i ddefnyddwyr ac yn lleihau costau ond mae risgiau golygyddol ynghlwm ac rydym wedi gofyn i’r rheolwyr sicrhau bod systemau rheoli risg cadarn ar waith.

Rydym yn benderfynol y dylai negesfyrddau’r BBC ar gyfer plant neu grwpiau diamddiffyn fod yn destun prosesau safoni ymlaen llaw bob amser. Mae’r BBC yn parhau i gydweithio’n agos â Thasglu’r Swyddfa Gartref i ddrafftio arweiniad ar safoni i’r diwydiant. Yn 2003, lansiodd y BBC ‘Chatguide’, sy’n rhoi arweiniad ar ddefnyddio ystafelloedd sgwrsio.

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

41

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Newyddion

Trosolwg

Bob awr, bob dydd, maer BBC yn darlledu tua thair awr o newyddion ar 14 oi rwydweithiau radio a theledu cenedlaethol. Mae bbc.co.uk/news hefyd yn cyflwyno cannoedd o straeon bob dydd.

Ar bob cyfrwng, ac ar gyfer pob allfa, caiff y newyddion ei deilwra ar gyfer ei gynulleidfa benodol: plant syn gwylio Newsround ar Sianel CBBC; Asiaid Prydeinig syn gwrando ar BBC Asian Network; defnyddwyr bbc.co.uk sydd am weld y straeon diweddaraf or byd chwaraeon ar eu cyfrifiaduron personol; gwrandawyr oriau cymudo syn cael y wybodaeth ddiweddaraf ar PM Radio 4 ar y radio yn y car, neu wylwyr min nos syn gwylior Ten O’Clock News neu Newsnight.

Er bod nifer y darllediadau newyddion hyn yn enfawr, ac yn amrywiol tu hwnt, mae cyswllt rhyngddynt ac elfen syn eu gwneud yn unigryw ir BBC, sef eu bod oll yn rhannur un gwerthoedd craidd sylfaenol, sef annibyniaeth, natur ddiduedd a gonestrwydd.

Rhoddir sylw manwl iawn ir gwerthoedd hyn bob amser, ond yn fwy nag erioed yn ystod y flwyddyn dan sylw gydag Ymchwiliad Hutton. Dysgwyd gwersi pwysig er mwyn sicrhau statws parhaol newyddiaduraeth fel un o gryfderau allweddol y BBC. Ac fel y dengys yr arolwg hwn, dangosodd Newyddion y BBC sawl cryfder, gan gynnwys y ffordd y bu i newyddiadurwyr y BBC gyflwyno adroddiadau ar Ymchwiliad Hutton ei hun.

 

42

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Cylch gwaith

Nod Newyddion y BBC yw mai ef fydd y sefydliad newyddion yr ymddiriedir ynddo fwyaf yn y byd: yn annibynnol, yn ddiduedd ac yn onest. Mae hefyd yn anelu at fod yn deg a dweud y gwir, gan gynnig newyddiaduraeth syn archwilio safbwyntiau amrywiol ac yn rhoi llais i amrywiaeth eang o farnau. Ceisia Newyddion y BBC weithredu er budd y cyhoedd ac ymwrthod â phwysau gan bleidiau gwleidyddol, grwpiau lobï o neu fuddiannau masnachol.

Cyflwynodd prif stori gartref y flwyddyn – sef Ymchwiliad Hutton – broblemau penodol i’r BBC. Ddydd ar ôl dydd, bu’n rhaid i newyddiadurwyr y BBC gyflwyno adroddiadau – yn annibynnol, yn ddiduedd ac yn onest – ar ymddygiad newyddiadurwyr eraill y BBC, eu rheolwyr eu hunain, y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Cadeirydd y BBC ac yn wir, ni ein hunain fel Llywodraethwyr. Comisiynwyd rhifyn o Panorama ac er mwyn sicrhau nad oedd unrhyw amheuon o ran y cynnwys, newidiwyd y llinell arferol o reolaeth olygyddol (drwy’r Cyfarwyddwr Newyddion i’r Cyfarwyddwr Cyffredinol) gan bennu’r Dirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol – na fu ganddo unrhyw ran yn naratif Hutton – fel y canolwr terfynol wrth benderfynu pa un a oedd y rhaglen yn cydymffurfio â chanllawiau golygyddol y BBC.

Mae’n amlwg – yn arbennig o’r sylwadau ffafriol cyffredinol a gafwyd yn y wasg – y llwyddwyd i ymdrin yn effeithiol ar draws holl lwyfannau’r BBC â’r problemau dwys a allai fod wedi deillio o’r ffaith bod y BBC yn gohebu’n ddiduedd arno’i hun.

423

miliwn o ymweliadau â thudalennau bbc.co.uk/news ym mis Mawrth

44

swyddfa newyddion y BBC dramor

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Roedd rhywfaint o bryder y gallai Ymchwiliad Hutton fod wedi lleihau ymddiriedaeth y gynulleidfa yn y BBC, ond dengys tystiolaeth o arolygon mewn gwirionedd bod ymddiriedaeth y cyhoedd yn y BBC wedi cynyddu ers yr Ymchwiliad. Cafwyd gostyngiad bach yng nghymeradwyaeth y cyhoedd i newyddion a materion cyfoes y BBC yn benodol, yn ystod haf a hydref 2003 ond adferwyd y sefyllfa erbyn diwedd y flwyddyn.

Prif stori ryngwladol y flwyddyn oedd y rhyfel yn Irac a’r digwyddiadau yn deillio o hynny. Unwaith eto, o ganlyniad i ddiffyg consensws cenedlaethol amlwg craffwyd yn ddwys ar natur ddiduedd y BBC. Ond llwyddo a wnaeth Newyddion y BBC. Nododd arolwg barn gan ICM ym mis Ebrill 2003 ei fod wedi cynnal ei statws fel y darparwr newyddion gorau yr ymddiriedir ynddo fwyaf.

Roedd rhywfaint o gyfyngiadau ynghlwm â’r darllediadau o’r rhyfel ei hun. Roedd adegau pan na fwrwyd digon o amheuaeth ar ffynonellau milwrol (yn rhagweld cwymp arfaethedig Basra, er enghraifft); roedd sefydliadau eraill wedi cyflwyno datblygiadau technolegol a lwyddodd weithiau i ddarparu darllediadau teledu mwy byw, ac ni lwyddodd y rhaglenni materion cyfoes arbennig i gyflawni’r effaith ddisgwyliedig. Ond roedd llawer i ymfalchïo ynddo hefyd, o ran cwmpas a dyfnder y darllediadau. Llwyddodd y BBC i ehangu’r safbwyntiau a gyflwynwyd er mwyn cynnwys amrywiaeth da o farn Arabiaid a Moslemiaid, a chafwyd dadansoddiad amddiffyn eithriadol ar Newsnight a

The World at One gan Mark Urban.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 43

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Newyddion

Yn ystod y cyfnod yn dilyn y rhyfel, cafwyd darllediadau a dadansoddiadau cryf, gyda’r BBC yn llwyddo i ddefnyddio ei adnodd cyfoethog o swyddfeydd tramor i ymateb i’r sgîl-effeithiau rhyngwladol a ddatblygodd. Enillodd rhaglen Panorama John Simpson, ‘In the Line of Fire’, un o wobrau’r Gymdeithas Deledu Frenhinol, a hynny’n haeddiannol, ac ymchwiliodd cyfres Peter Taylor, Third World War: Al Qaeda, a Pipeline Politics gan Maurice Walsh ar BBC Radio 4 yn werthfawr i frwydr ddaearyddol-wleidyddol ehangach.

Gan symud o Hutton ac Irac, bu rhai datblygiadau arloesol nodedig. Defnyddiwyd drama mewn ffordd drawiadol i ategu dadansoddiadau (yn If… ar BBC Two) ac i ennyn diddordeb cynulleidfaoedd mewn materion polisi cyhoeddus (er enghraifft, yn

The Day Britain Stopped, a oedd yn seiliedig ar argyfwng trafnidiaeth ffuglennol yn y DU).

Ar BBC One, cynyddodd y gyfres materion cyfoes boblogaidd, Real Story, gyda Fiona Bruce, ei chynulleidfa yn gyson drwy’r tair cyfres a bydd yn ehangu nifer y rhaglenni eleni; a llwyddodd This World ar BBC Two i ddenu cynulleidfa uwch na’r cyfartaledd ar gyfer materion tramor na’i rhagflaenydd,

Correspondent.

Cafwyd enghreifftiau o newyddiaduraeth ymchwiliol gadarn gan gynnwys rhifyn ‘Seroxat: Emails from the Edge’ Panorama, rhaglen yn ymhelaethu ar yr ymchwiliad cychwynnol i sgîl-effeithiau posibl y cyffur gwrth-iselder a ddefnyddir yn helaeth yn seiliedig ar ymateb y gynulleidfa i’r rhaglen gynharach; cafodd File on 4 gyfres gryf arall, ac mae rhaglenni dogfen BBC Radio Five Live wedi ymsefydlu fel presenoldeb amlwg ar y rhwydwaith.

BBC News 24

Gwelwyd ffrwyth llafur gwaith i wella ansawdd BBC News 24 wrth i’r sianel gael ei hail-lansio ym mis Rhagfyr 2003. Roeddem am weld natur arbennig y sianel yn cael ei hatgyfnerthu drwy gynnig agenda sy’n fwy dadansoddol, yn fwy rhyngwladol ac yn fwy amrywiol na’i chystadleuwyr, ac sy’n rhoi blaenoriaeth uwch i newyddiaduraeth gymhellol a difrifol nag arwain y farchnad. Mae’n rhy gynnar i ni wneud asesiad pendant o lwyddiant ail-lansio’r sianel, ond mae’r arwyddion cynnar yn galonogol.

Atgyfnerthwyd dadansoddiadau ar y sianel, yn rhannol drwy gyflwyno rhaglen nodwedd newydd, Fact File, wedi’i hategu gan dîm Dadansoddi ac Ymchwilio Newyddion y BBC a’i chyflwyno gan Nick Higham, ac yn rhannol drwy roi gwell mynediad i BBC News 24 i uwch ohebwyr y BBC sydd bellach yn ymddangos yn rheolaidd ar y sianel i rannu eu harbenigedd.

Gartref, cynyddwyd cwmpas ac amrywiaeth darllediadau drwy lunio cydberthynas agosach ag ystafelloedd newyddion y BBC y tu allan i Lundain. O ganlyniad, cyflwynwyd straeon cryf i gynulleidfa genedlaethol a oedd ond yn cael eu darlledu yn lleol yn flaenorol. Mae proses debyg ar waith i gynyddu cwmpas darllediadau rhyngwladol gan fanteisio ar rwydwaith y BBC o 44 o swyddfeydd tramor – er bod mwy o waith i’w wneud yn hyn o beth. Rhoddwyd mwy o amser ac amlygrwydd i newyddion busnes.

Mae newyddion sy’n datblygu yn parhau i gyflwyno heriau anodd. Un o nodau pwysig unrhyw sianel 24 awr yw mai hi fydd y cyntaf i gyflwyno’r newyddion, ac ni all BBC News 24, o gofio bod ganddi fynediad i adnodd casglu newyddion mwyaf y byd, osgoi’r ddyletswydd i wella ei gallu i ymateb i straeon sy’n datblygu dros amser. Ond mae’n amlwg bod yn rhaid iddi wneud hyn heb roi ei hymrwymiad i gywirdeb yn y fantol ac rydym yn cydnabod weithiau y gallai proses wirio fanylach olygu nad BBC News 24 yw’r cyntaf bob tro i gyflwyno newyddion sy’n datblygu. Mae cyfres newydd o ganllawiau a phrosesau golygyddol yn cydnabod yr her hon ac yn ceisio cynorthwyo’r sianel i gyflawni ei hymrwymiad i gyflymder a chywirdeb.

Er nad arwain y farchnad yw’r flaenoriaeth allweddol i BBC News 24, ceir arwyddion cynnar bod cynulleidfaoedd yn ymateb yn dda i’r newidiadau. Ym mis Ionawr 2004, y mis llawn cyntaf ers gweithredu’r newidiadau, roedd perfformiad BBC News 24 yn well na pherfformiad Sky News o ran cyrhaeddiad wythnosol a misol mewn cartrefi aml-sianel, ac am y tro cyntaf ers dwy flynedd, rhoddwyd statws uwch i BBC News 24 na Sky News o ran y sianel newyddion orau.

44

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

5.1

miliwn yn gwylio

Ten O’Clock News

BBC One

2,072

awr o newyddion ar BBC One a BBC Two

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

BBC Parliament

Daeth BBC Parliament yn wasanaeth llawn amser ym mis Mehefin 2003, gan ddarlledu 24 awr y dydd (cyn hynny dim ond mewn amgylchiadau eithriadol y byddai’r sianel yn darlledu yn ystod toriadau’r senedd a gyda’r nos). Mae’r amser ychwanegol ar yr awyr wedi galluogi’r sianel i gynnig darllediadau ychwanegol o ddadleuon a phwyllgorau, yn ogystal â mwy o gyfleoedd i weld rhaglenni dadansoddi. Gwellwyd ymwybyddiaeth o’r sianel drwy bytiau rhagflas ar BBC One, BBC Two a BBC News 24, a bu hyn yn effeithiol wrth gyfeirio gwylwyr i ddarllediadau byw o ddadleuon allweddol – ymhlith yr enghreifftiau diweddar mae’r Gyllideb, a dadleuon ar ffioedd dysgu ac Ymchwiliad Hutton.

Rydym yn siomedig na dderbyniodd gwylwyr Freeview y gwasanaeth ar sgrîn lawn a byddwn yn parhau i sicrhau bod hyn yn flaenoriaeth er ein bod yn cydnabod y cyfyngiadau o ran capasiti a chyfrifoldebau’r Bwrdd Freeview.

bbc.co.uk/news

Parhaodd nifer defnyddwyr bbc.co.uk/news a’r gwasanaethau newyddion ar deledu rhyngweithiol i gynyddu’n gyson. bbc.co.uk/news yw’r maes a ddefnyddir fwyaf ar bbc.co.uk yn rheolaidd (gan gyrraedd 26% o’r boblogaeth ar-lein) ac yn y maes hwn y ceir y gyfran uchaf o ymweliadau â thudalennau.

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 45

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Dysgu

Trosolwg

Sefydlwyd y BBC i hysbysu, addysgu a diddanu, ac erys addysg yn greiddiol i bwrpas cyhoeddus y BBC.

Mae addysg ei hun yn destun chwyldro. Mae technoleg yn trawsnewid gallu pobl i ddysgu pryd a sut bynnag y dymunant. Ar yr un pryd ceir awydd cynyddol i gyflawni a sicrhau hunan-foddhad. Rhoddodd setliad diwethaf ffi’r drwydded bwyslais arbennig ar ymrwymiad y BBC i addysg yn arbennig darparu cymorth dysgu i ysgolion ac annog dysgu gydol oes ar broses o fanteisio ar y posibiliadau dysgu newydd a gyflwynir gan ryngweithedd.

Fel y dengys yr arolwg hwn, gwnaed cynnydd eisoes yn y maes hwn, ac yn 2005 cymerir cam arall pwysig iawn drwy gyflwynor Cwricwlwm Digidol peilot, sef gwasanaeth ar-lein am ddim yn cwmpasu elfennau allweddol y cwricwlwm i ysgolion.

46

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

69%

o bobl ifanc 15-16 mlwydd oed yn defnyddio

GCSE Bitesize

575%

oedd y cynnydd o ran gwerthiannau teitlau mwyaf poblogaidd The Big Read

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Mae’r BBC yn parhau i ddarparu cynnwys a chefnogaeth yn seiliedig ar y cwricwlwm i blant, rhieni ac athrawon drwy radio, teledu ac ar-lein. Y gwasanaeth adolygu Bitesize fu’r llwyddiant mwyaf gan gyrraedd 69% o’i gynulleidfa darged o bobl ifanc 15-16 mlwydd oed yn 2003. Defnyddiodd tua 400,000 o ddefnyddwyr y gwasanaeth drwy deledu rhyngweithiol yn ystod cyfnod arholiadau 2003. Mae BBC Two yn parhau i ddarlledu’r BBC Learning Zone dros nos, ac mae partneriaeth hir y BBC gyda’r Brifysgol Agored yn esblygu’n gynhyrchiol, gyda’r Brifysgol Agored bellach yn cyd-gynhyrchu darllediadau ffeithiol prif ffrwd y BBC fel Leonardo.

Y cam mawr nesaf fydd y Cwricwlwm Digidol – gwasanaeth ar-lein am ddim a fydd yn darparu adnoddau rhyngweithiol o ansawdd uchel i’w defnyddio yn yr ysgol, gartref neu yn y gymuned, ac sy’n cwmpasu elfennau allweddol o’r cwricwla i ysgolion yng Nghymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i blant pedair i 16 oed. Bydd yn cynnig amrywiaeth o adnoddau gan gynnwys fideo, animeiddio, gemau rhyngweithiol, taflenni gwaith y gellir eu hargraffu, tudalennau testun a lluniau, gan alluogi athrawon i addasu’r deunydd i gyfateb ag anghenion eu disgyblion. Bellach bodlonwyd yr holl ofynion rheoliadol a oedd yn weddill. Caiff y deunydd ei gyflwyno ar ffurf peilot mewn ysgolion yn 2005, a bwriedir ei lansio’n llawn ar ddechrau 2006.

Mae bbc.co.uk/skillswise yn darparu adnodd gwerthfawr i bobl sydd am wella eu sgiliau llythrennedd a rhifedd. Anfonir newyddlen Skillswise at 9,000 o diwtoriaid sgiliau sylfaenol a denodd y safle 2.8 miliwn o ymweliadau â’i dudalennau ym mis Tachwedd 2003. Wrth i allu TG ennill ei blwyf fel y trydydd sgil sylfaenol ochr yn ochr â llythrennedd a rhifedd, bydd y gwasanaeth a ddarperir gan bbc.co.uk/webwise yn gynyddol bwysig.

Mae Webwise yn addysgu sgiliau rhyngrwyd sylfaenol ac yn denu tua 225,000 o ddefnyddwyr unigol bob mis.

Mae darllediadau addysgol y BBC yn llawer ehangach na darparu deunyddiau dysgu ffurfiol. Ategir llawer o’r darllediadau ffeithiol gan ddeunydd ar-lein a rhyngweithiol sy’n ehangu’r dysgu. Mae’r BBC hefyd yn cynnal nifer o ddigwyddiadau dysgu traws-lwyfan mawr yn ystod y flwyddyn. Cafodd The Big Read – pleidlais i ddod o hyd i hoff nofel y DU – effaith wirioneddol yn 2003 drwy raglennu ar y teledu a radio a thrwy ei gwefan. Ond – yr un mor bwysig – llwyddodd i ennyn brwdfrydedd tuag at ddarllen.

Gweithiodd y BBC gyda thri phartner: Yr Asiantaeth Darllen, Yr Ymddiriedolaeth Llythrennedd Genedlaethol a’r Ymddiriedolaeth Llyfrau. Roedd yr adborth yn gadarnhaol iawn: cynyddodd benthyciadau llyfrgell o’r hoff deitlau 56%; cynyddodd gwerthiannau o’r hoff deitlau 575%; cofrestrodd dros 2,000 o grwpiau darllen, a defnyddiwyd y gyfres gan lawer o ysgolion i annog darllen.

Rhan arwyddocaol o ddarllediadau addysg y BBC yw ei ymgyrchoedd gweithredu cymdeithasol rheolaidd. Eleni, y prif ymgyrch oedd Taking Care. Ei nod oedd codi ymwybyddiaeth am blant mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal a herio canfyddiadau am y materion cysylltiedig. Darlledwyd yr ymgyrch ar y teledu (gan gynnwys teledu rhyngweithiol), radio ac ar-lein, a llwyddodd i godi ymwybyddiaeth a denu lefel dda o ymateb. Ond o ran newid canfyddiadau, ni chafodd yr un effaith â’r ymgyrch flaenorol, Hitting Home, a ymdriniodd â thrais yn y cartref. Bydd yr ymgyrch nesaf yn ymdrin â gordewdra, a byddwn am weld tystiolaeth ei bod yn cyflawni effaith barhaus ar gyfer y fenter bwysig hon.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 47

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Y Gwledydd ar Rhanbarthau

Trosolwg

Maer strategaeth i fuddsoddi £50miliwn ychwanegol y flwyddyn dros dair blynedd mewn amrywiaeth ehangach o ddarllediadau wediu cynhyrchun lleol wedi helpu i godi cymeradwyaeth cynulleidfaoedd yn y gwledydd. Yn 2003/2004, cynyddodd cyrhaeddiad Teledur BBC ymhob man heblaw Gogledd Iwerddon (lle y maer ffigur yn parhau yn uwch nar ffigur ddwy flynedd yn ôl). Mae gwefannau Lleol i Mi y BBC yn diwallu anghenion lleol, fel y dengys y twf cyflym iawn yn eu defnydd. Mae mentrau eraill fel y prosiect Lleisiau hefyd yn helpu i atgyfnerthur ymdeimlad bod y BBC yn cymryd pryderon lleol o ddifrif.

Rydym yn pryderu nad oes digon o ddeunydd o Wledydd y BBC yn cael ei ddangos ar deledu rhwydwaith. Nid ywn amlwg ai problem cyflenwad neu alw ydyw. Rydym am weld mwy o gydweithredu strategol rhwng comisiynwyr y rhwydwaith a Gwledydd a Rhanbarthaur BBC er mwyn cynhyrchu mwy o gomisiynau syn adlewyrchur genedl lle yu gwnaed.

Bydd y ffaith ein bod wedi colli rhai hawliau chwaraeon yn cyflwyno heriau anodd yn ystod y blynyddoedd nesaf.

48

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Cylch gwaith

Nod Rhanbarthau Lloegr y BBC yw sicrhau mai ef ywr darlledwr lleol mwyaf creadigol yr ymddiriedir ynddo fwyaf yn Lloegr, gan wasanaethu amrywiaeth eang o gymunedau trefol a gwledig. Maen anelu at ddarparu gwasanaeth newyddion, materion cyfoes, gwleidyddiaeth, celfyddydau a cherddoriaeth, crefydd, chwaraeon a thywydd hygyrch ond awdurdodol ar deledu rhanbarthol, radio lleol ac ar-lein.

Mae gan 40 o orsafoedd Radio Lleol y BBC ran allweddol i’w chwarae yn Rhanbarthau Lloegr, gan alluogi’r BBC i ddiwallu anghenion cynulleidfaoedd mawr na fyddai ein darllediadau radio yn eu cyrraedd fel arall. Ni fydd 3 miliwn o wrandawyr Radio Lleol y BBC yn gwrando ar unrhyw orsafoedd eraill Radio’r BBC ac nid yw 1.7 miliwn ohonynt yn gwrando ar unrhyw radio arall o gwbl.

Mae’r gorsafoedd yn darparu mwy na 228,000 o oriau o raglenni bob blwyddyn, y rhan fwyaf ohonynt yn wreiddiol. Mae’r ffaith bod pwyslais mawr ar eitemau llafar yn y rhaglennu (60% llafar, 40% cerddoriaeth, gydag eitemau llafar ar adegau allweddol yn ystod y dydd fel amser brecwast ac oriau cymudo) yn golygu bod eu darllediadau yn arbennig mewn marchnad gystadleuol iawn lle y mae mwyafrif y gorsafoedd radio lleol annibynnol yn cynnig gwasanaeth sy’n seiliedig ar gerddoriaeth.

Gwelwyd gostyngiad bach yng nghyfartaledd cyrhaeddiad Radio Lleol y BBC yn Lloegr am yr ail flwyddyn yn olynol i 20.9% yn chwarter cyntaf 2004 (o 21.4% yn chwarter cyntaf 2003) er y gwelwyd cynnydd yn yr amser yr oedd gwrandawyr yn ei dreulio gyda Radio Lleol y BBC. Mae’r rhaglennu yn darparu ar gyfer cynulleidfa hyn yn bennaf (dros 50 oed) ac rydym wedi annog y rheolwyr i ddenu cynulleidfa ychydig yn iau. Gallai gwasanaethau fel newyddion a gwybodaeth teithio amser

5.7

miliwn o bobl yn gwylio newyddion min nos rhanbarthol y BBC ledled y DU

228

o filoedd o oriau o Radio Lleol y BBC

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

brecwast weithredu fel pwyntiau mynediad ar gyfer gwrandawyr iau.

Yn gyffredinol, llwyddodd newyddion teledu rhanbarthol min nos i gynnal ei ragoriaeth dros ITV yn Lloegr yn 2003/2004, gan ddenu cyfartaledd o 4.8 miliwn o wylwyr fesul rhaglen (ITV 3 miliwn) a chyrhaeddiad wythnosol o 21.4% ar gyfartaledd. Fodd bynnag, mae’r darlun cyffredinol hwn yn cuddio amrywiadau mawr o fewn gwahanol ranbarthau. O’r 12 o Ranbarthau Lloegr y BBC, denodd newyddion min nos y BBC gynulleidfaoedd uwch nag ITV mewn deg rhanbarth, ond yn rhanbarth cymharol newydd De Ddwyrain Lloegr, denodd ITV gyfran o 30% o’i chymharu â 23% i’r BBC; ac yn rhanbarth Gogledd Ddwyrain Lloegr, roedd perfformiad y BBC ac ITV yn gymharol debyg, gydag ITV ar y blaen ychydig ar ddiwedd y flwyddyn.

Perfformiodd rhaglen materion cyfoes Rhanbarthau Lloegr y BBC, Inside Out, yn dda yn ystod y flwyddyn. Mae gan bob rhanbarth teledu ei rifyn ei hun a denwyd cynulleidfa gyfun o 3.1 miliwn ar gyfartaledd. Darlledodd Inside Out Extra oreuon y gyfres ar gyfer cynulleidfa genedlaethol.

Parhaodd darllediadau gwleidyddol lleol Rhanbarthau Lloegr y BBC i elwa ar y symudiad o BBC Two i BBC One. Llwyddodd adran wleidyddiaeth leol The Politics Show, sy’n cynnwys gohebu cenedlaethol a lleol, i ddenu cynulleidfa o 1 filiwn ar gyfartaledd yn ystod y flwyddyn – mwy na dwywaith, ac weithiau, deirgwaith y gynulleidfa a arferai ei gwylio ar BBC Two.

Ceir pwyslais cryf ar newyddion, materion cyfoes a gwleidyddiaeth o hyd yn narllediadau Rhanbarthau Lloegr y BBC, yn arbennig darllediadau teledu. Mae ehangu amrywiaeth y genres a gynigir – er enghraifft, o ran chwaraeon, y celfyddydau a digwyddiadau rhanbarthol – yn fater pwysig i’r dyfodol.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 49

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Y Gwledydd ar Rhanbarthau

BBC Scotland

Cylch gwaith

Nod BBC Scotland yw cynhyrchu amrywiaeth cyfoethog ac eang o raglenni teledu a radio arbennig o ansawdd uchel ar gyfer pob grwp oedran, gan adlewyrchu natur amrywiol yr Alban yn briodol a dathlu pob agwedd ar ddiwylliant a threftadaeth yr Alban.

Cynhaliodd BBC Scotland arolwg helaeth o’i newyddiaduraeth yn 2003, gan ymgynghori â thalwyr y drwydded, llunwyr barn, grwpiau diddordeb arbennig, Aelodau Senedd yr Alban ac ASau. Archwiliwyd pa un a ddylid sefydlu ‘Scottish Six’ – awr integredig o newyddion o’r Alban, y DU a newyddion rhyngwladol, wedi’i chynhyrchu yn yr Alban, ar BBC One o 6-7pm. Er bod lleiafrif sylweddol o blaid, y farn gyffredinol oedd na ddylid newid yr amserlen bresennol – sef y

Six O’Clock News, wedi’i ddilyn gan Reporting Scotland. O ganlyniad penderfynodd BBC Scotland i beidio ag argymell unrhyw newidiadau i’r amserlen bresennol.

Reporting Scotland yw’r rhaglen newyddion a gaiff ei gwylio fwyaf yn yr Alban o hyd a llwyddodd i gynyddu ei chynulleidfa yn ystod y flwyddyn. Ar gyfartaledd, ei chyrhaeddiad wythnosol yn 2003/2004 oedd 24.1%. Cyflwynodd y rhaglen ddarllediadau a dadansoddiadau cryf yn ystod ymgyrch etholiad yr Alban.

Un o brif ganfyddiadau’r arolwg newyddiaduraeth oedd bod rhai cynulleidfaoedd yn awyddus i’r BBC ddarparu darllediadau gwell o newyddion lleol, a rhywfaint o bryder bod pwyslais amlwg ar goridor yr M8 a Glasgow a Chaeredin yn agenda newyddion yr Alban ar draul rhannau arbennig, eraill o’r Alban. Mae BBC Scotland yn archwilio ffyrdd o ymateb, o bosibl drwy gyfuniad o radio ac ar-lein.

Gostyngodd cyrhaeddiad BBC Radio Scotland ychydig i 23.4% yn ystod chwarter cyntaf 2004 (o 23.8% yn ystod chwarter cyntaf 2003). Nododd yr arolwg newyddiaduraeth lefelau isel o ymwybyddiaeth o BBC Radio Scotland, ond lefelau uchel iawn o werthfawrogiad ymhlith y rhai a oedd yn gwrando – gan awgrymu y gellid denu mwy o wrandawyr drwy ddulliau hyrwyddo cryfach. Mae hyn yn flaenoriaeth i’r orsaf.

Roedd colli’r hawliau teledu ar gyfer gemau pêl-droed Uwch Gynghrair yr Alban yn ergyd ddifrifol, er y llwyddwyd i gadw’r hawliau radio ac ar-lein. Roedd gan ddarllediadau pêl-droed ran sylweddol i’w chwarae wrth gynyddu cymeradwyaeth ac mae BBC Scotland yn wynebu her anodd wrth ddatblygu darllediadau priodol yn eu lle.

Mae’r ddrama deledu a ddarlledir ddwywaith yr wythnos River City, a gafodd ddechrau araf, wedi dechrau ymsefydlu yn ystod ei hail flwyddyn, gyda straeon a chymeriadau cryfach. Mae River City yn cynrychioli buddsoddiad sylweddol i feithrin talent ysgrifennu, perfformio a chrefft yn yr Alban, ac erys y gwaith o sicrhau gwelliant parhaus yn ei pherfformiad yn flaenoriaeth.

Cyflwynodd BBC Scotland ddarllediadau cryf ar gyfer y rhwydwaith gan gynnwys

Monarch of the Glen a Two Thousand Acres of Sky ar gyfer BBC One, Restoration ar gyfer BBC Two, a Restoration Secrets ar gyfer BBC Four. Cynhyrchodd CBBC Scotland ddarllediadau ar gyfer CBBC gyfan, gan gynnwys rhaglennu allweddol fel Balamory a Byker Grove.

Ymhlith y darllediadau Gaeleg gan BBC Scotland roedd Air Ais air an Ran Dan – y comedi Gaeleg cyntaf i gael ei ddarlledu ers chwe blynedd a’r prosiect Lleisiau llwyddiannus gyda Choleg Lews Castle yn Stornoway ar BBC Radio nan Gaidheal.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

50

Lleol i Mi

Lleol i Mi ywr enw ar gyfres o wefannau lleol a grëwyd gan Wledydd a Rhanbarthaur BBC i ddarparu dimensiwn lleol ar gyfer bbc.co.uk. Mae dros 50 o safleoedd bellach yn weithredol, gyda mwy yn yr arfaeth, yn cynnig newyddion, crefydd, chwaraeon, tywydd, gwybodaeth teithio, gwe-gamerâu, canllawiau digwyddiadau a gwasanaethau rhyngweithiol lleol. Mae gwefan Cymrur Byd yn cynnig gwasanaeth newyddion a gwybodaeth ar-lein unigryw yn Gymraeg. Mae pyrth lleol hefyd yn cynnig newyddion, gwybodaeth a rhyngweithedd wedii deilwra i bobl mewn saith gwahanol ranbarth yn yr Alban.

 

BBC Cymru

Cylch gwaith

Nod BBC Cymru yw cynhyrchu rhaglennu arbennig o ansawdd uchel syn adlewyrchu diwylliant a hanes unigryw Cymru ai thirlun cymdeithasol a gwleidyddol. Ei huchelgais allweddol yw meithrin cyfranogiad cynhwysol a chyfranogol gyda chynulleidfaoedd yng Nghymru ar draws amrywiaeth ei gwasanaethau.

Parhaodd perfformiad uchel darllediadau newyddion BBC Cymru, yn arbennig Wales Today gyda chyrhaeddiad wythnosol yn 2003/2004 o 25.8% ar gyfartaledd. Ymhlith y darllediadau gwleidyddol roedd y rhaglenni gwleidyddol rheolaidd Dragon’s Eye, The Politics Show a Maniffesto; a chafwyd adroddiadau a dadansoddiadau cynhwysfawr o etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol, yn ogystal â darllediadau o weithrediadau’r Cynulliad Cenedlaethol ar S4C2.

Gwelwyd ffrwyth llafur strategaeth BBC Cymru o ddatblygu llai o frandiau, ond brandiau cryfach, ar gyfer teledu lleol yn ystod y flwyddyn gyda’r dystiolaeth yn amlwg i’w gweld yn y gyfres ddrama Belonging; y gyfres ddogfen arsylwadol, Hospital, ar waith Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd; a’r gyfres hanes ar ôl y rhyfel, Wales in Our Time gyda John Humphrys.

Darparodd BBC Cymru ddarllediadau i’r rhwydwaith ar draws amrywiaeth o genres, gan gynnwys Stalin: Inside the Terror a Carrie’s War. Fodd bynnag, nid oedd llawer o’r comisiynau hyn yn adlewyrchu Cymru gyfoes. Mae hyn yn flaenoriaeth i BBC Cymru a’r rhwydwaith ymdrin â hi gyda’i gilydd.

662

awr o ddarllediadau Cymraeg wediu gwneud ar gyfer S4C

976

awr o deledu yn arbennig ir Alban

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Un o’r amcanion a bennwyd ar gyfer BBC Cymru y llynedd oedd cynyddu ymwybyddiaeth o BBC 2W a gwnaed cynnydd yn hyn o beth. Mae’r ffigurau gwylio wedi cynyddu ac, yn arwyddocaol, dengys ymchwil fod mwy na 50% o’r gwylwyr o dan 45 oed – proffil llawer iau na BBC One neu BBC Two. Lansiwyd amserlen newydd ym mis Hydref, a denodd darllediadau fel

I Love Wales a Combat Pilot wylwyr newydd i’r gwasanaeth. Darlledodd BBC 2W ddigwyddiadau pwysig drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Canwr y Byd y BBC yng Nghaerdydd a Jazz Aberhonddu.

Erys BBC Cymru yn ddarparwr arwyddocaol iawn o ran rhaglennu ar gyfer S4C. Denodd cyfraniadau gan y BBC gan gynnwys chwaraeon, newyddion a drama gyfran o 40%, cyfran sylweddol uwch na’u cyfraniad o ran oriau, ac mae Pobol y Cwm a Newyddion yn gonglfeini i amserlen S4C.

Gostyngodd cyrhaeddiad BBC Radio Wales ychydig i 20.8% yn ystod chwarter cyntaf 2004 (o 21.8% yn ystod chwarter cyntaf 2003), ond cynyddodd cyrhaeddiad BBC Radio Cymru yn sylweddol i 8.9% yn ystod chwarter cyntaf 2004 (o 6.0% yn ystod chwarter cyntaf 2003).

Mae heriau yn wynebu BBC Cymru. Yn arbennig, mae’r ffaith iddynt golli hawliau Rygbi Cwpan Heineken a gemau Cymdeithas Pêl-droed Cymru yn ergyd.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 51

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau Y Gwledydd ar Rhanbarthau

BBC Northern Ireland

Cylch gwaith

Nod BBC Northern Ireland yw darparu rhywbeth o werth i bawb yn y gymuned drwy amrywiaeth eang o raglenni a gwasanaethau syn hysbysu ac yn ysgogi dadl, yn dathlu ac yn cefnogi bywyd diwylliannol a chwaraeon, ac yn adlewyrchu diddordebau a phrofiadau lleol i gynulleidfaoedd yng Ngogledd Iwerddon ac ar draws gweddill y DU.

Rhan o natur arbennig BBC Northern Ireland yw amrywiaeth y genres a gwmpesir ganddo, yn wahanol i ddarlledwyr cystadleuol. Ef yw’r unig gynhyrchwr drama teledu a radio yng Ngogledd Iwerddon, yr unig wasanaeth sy’n darlledu rhaglenni Gwyddeleg ac Albanwyr Ulster yn rheolaidd, a’r unig ddarparwr rhaglennu i ysgolion ar gyfer cwricwlwm Gogledd Iwerddon. Mae ei ddarllediadau gwleidyddol yn fwy eang ac yn fwy amrywiol na’r gystadleuaeth, ac mae BBC Northern Ireland yn darparu llwyfan ar gyfer digwyddiadau celfyddydol a chwaraeon sydd o arwyddocâd arbennig i’w gynulleidfaoedd.

Llwyddodd rhaglen newyddion min nos BBC Northern Ireland Newsline i gynnal ei chyfran ar lefel gyson, sef 24% yn 2003/2004. Ar gyfartaledd, roedd ei chyrhaeddiad wythnosol yn 19.8%. Gwellwyd y rhaglen yn ystod y flwyddyn: penodwyd gohebwyr ychwanegol i ymchwilio i faterion sy’n effeithio ar gymunedau yn Armagh a South Down; a datblygwyd y rhaglen nodwedd ryngweithiol Newsline Listens. Enillodd y rhaglen materion cyfoes Spotlight ei phedwaredd wobr gan y Gymdeithas Deledu Frenhinol mewn pum mlynedd am ei hadroddiad ‘Loyalists at War’. Llwyddodd rhaglenni gwleidyddol BBC Northern Ireland hefyd i ddenu cynulleidfaoedd cadarn. Cafwyd

canmoliaeth eang i ddarllediadau etholiad BBC Northern Ireland a lwyddodd i ddenu cynulleidfaoedd mawr.

Un rhaglen arloesol nodedig oedd

Would You Pass the 11 Plus?, sef rhaglen gwbl ryngweithiol gyntaf Gwledydd a Rhanbarthau’r BBC lle y cymerodd y gynulleidfa ran mewn prawf tebyg i’r 11-plus. Denodd gyfran o 29% o’r gynulleidfa, a chyflawnodd adrannau’r canlyniadau, a ddarlledwyd yn yr hwyrnos, gyfran o 38%.

Roedd swm y ddrama a gynhyrchwyd ar gyfer y rhwydweithiau yn siomedig ac mae gwella hyn yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer y flwyddyn nesaf. Wedi dweud hynny, cafwyd rhai darllediadau cofiadwy. Gwnaed argraff gan Holy Cross, yn adrodd hanes dau deulu ffuglennol a oedd yn rhan o’r digwyddiadau go iawn yn 2001 ar Ardoyne Road yn Belfast, felly hefyd Murphy’s Law, Messiah, a Gunpowder Treason and Plot.

100

miliwn o ymweliadau â thudalennau safleoedd Lleol i Mi ym mis Mawrth 2004

52

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

39%

o bobl yng Ngogledd Iwerddon yn gwrandon rheolaidd ar Radio Ulster

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Ymhlith y rhaglenni ffeithiol cofiadwy ar gyfer y rhwydwaith roedd Dinner with Portillo a

Charles II: The Boy Who Would be King.

O ran adloniant, perfformiodd Just for Laughs yn dda mewn slot nos Sadwrn anodd, a llwyddodd y rhaglen ddychan wleidyddol, Folks on the Hill, cyfres wedi’i hanimeiddio a gynhyrchwyd yn wreiddiol fel cyfres ar gyfer BBC Radio Ulster, i dorri tir newydd. Ond mae rhai rhaglenni adloniant yn formiwlaig a bwriedir sefydlu uned gomedi newydd i ddatblygu cynnwys comedi arbennig ac arloesol.

O ran radio, BBC Radio Ulster yw arweinydd y farchnad o bell ffordd o hyd gyda chyrhaeddiad o 39.6% yn chwarter cyntaf 2004. Gwnaed cynnydd wrth adfywio’r amserlenni. Mae BBC Radio Foyle yn parhau i berfformio’n dda, gyda chyrhaeddiad o 23.5%.

Lleisiau

Ymdrech i roi mynegiant ir rheini na chlywir eu lleisiau yn aml ywr prosiect Lleisiau. Cydweithiodd cynhyrchwyr o Wledydd a Rhanbarthaur BBC â chymunedau lleol ledled y DU yn ystod 2003/2004, llawer ohonynt mewn ardaloedd difreintiedig neu anghysbell, gan roir adnoddau ar sgiliau cyfryngol i bobl allu adrodd eu straeon ac i weithredu fel catalydd ar gyfer prosiectau ymarferol. Yn Burnley, cyfnewidiodd Imam a ficer Anglicanaidd eu swyddi er mwyn ceisio cynyddu dealltwriaeth rhwng credoau gan gofnodi dyddiaduron sain am eu profiadau; yn Jersey, bu staff y BBC yn helpu pobl â Saesneg fel ail iaith i wella eu sgiliau iaith gan roi hyfforddiant cyfrifiadurol sylfaenol iddynt er mwyn iddynt allu defnyddio gwefan BBC Radio Jersey fel adnodd i wella eu Saesneg; yng Nghaint, cofnododd y gymuned Sipsiwn eu profiad o ragfarn.

Cynulleidfa ar gyfartaledd ar gyfer bwletinau newyddion rhanbarthol ledled y DU 2003/2004 (miliynau)

5.7

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 53

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau BBC World Service & Global News

Trosolwg

Mae BBC World Service & Global News, syn dod

â radio BBC World Service, teledu BBC World a gwasanaethau newyddion ar-lein rhyngwladol y BBC ynghyd, bellach yn cyrraedd 185 miliwn o gartrefi bob wythnos. Noda arolygon annibynnol a gynhaliwyd ledled y byd yn 2003 fod enw dar BBC yn parhau yn gadarn ar y cyfan, gan atgyfnerthu ei statws fel y ffynhonnell wybodaeth yr ymddiriedir ynddi fwyaf yn y byd.

 

Talodd y gallu i gydlynu gweithrediadau newyddion rhyngwladol ar draws radio, teledu ac ar-lein ar ei ganfed yn olygyddol, gan arwain at ddarllediadau mwy cydlynus ag effaith uwch. Un enghraifft oedd y gyfres o gyfweliadau gydag arweinwyr y byd ar HIV/Aids, gan gynnwys Colin Powell a Kofi Annan, a ddarlledwyd ar y tri chyfrwng.

54

 

BBC World Service

Mae cynulleidfaoedd tonfedd fer pob darlledwr rhyngwladol wedi bod yn gostwng ers amser, ac nid yw cynulleidfaoedd y BBC yn eithriad. Collodd BBC World Service amcangyfrif o 14 miliwn o wrandawyr tonfedd fer yn ystod y flwyddyn ddiwethaf. Dim ond yn rhannol y gwrthbwyswyd y golled honno gan gynnydd mewn gwrandawyr FM, yn arbennig yn yr Aifft ac yn Affrica. Ond ar y cyfan, gostyngodd cynulleidfa radio fyd-eang BBC World Service ychydig i 146 miliwn o wrandawyr bob wythnos (o 150 miliwn yn y flwyddyn flaenorol). Digwyddodd y gostyngiad lle na fu’n bosibl sefydlu presenoldeb FM am resymau rheoliadol neu ariannol. Nodwyd gostyngiad sylweddol mewn cynulleidfaoedd yng Ngorllewin Ewrop, Saudi Arabia a’r Wcráin. Mae ymdrechion i oresgyn y gostyngiad hwn ac i ehangu cyrhaeddiad FM lle bynnag y bo’n bosibl yn flaenoriaeth ar gyfer 2004/2005.

Yn Rwsia, o ganlyniad i anawsterau dosbarthu wedi’u cyfuno â diddordeb gostyngol mewn newyddion rhyngwladol, gwelwyd gostyngiad pellach mewn cynulleidfaoedd. Rhoddwyd strategaeth ar waith i ymdrin â hyn, a disgwyliwn iddi gael ei gweithredu yn gyflym ac yn effeithiol.

Cofnododd BBC World Service nifer glodwiw o wrandawyr yn Irac, sef 1.8 miliwn, yn arolwg cyntaf y BBC yno, a chyrhaeddiad o 60% yn Kabul. Yn Affrica y mae cynulleidfaoedd mwyaf BBC World Service o hyd. Yn Ghana, y BBC yw prif orsaf y wlad. Yn Tanzania, mae chwech o bob deg o bobl yn gwrando’n rheolaidd.

139

o brifddinasoedd yn derbyn BBC World Service ar FM

1.8

miliwn o bobl yn gwrando ar BBC World Service yn Irac

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Ond mae cynulleidfaoedd hefyd wedi cyrraedd 4.7 miliwn ym marchnad cyfryngau mwyaf datblygedig y byd – yr Unol Daleithiau. Mae mwy nag un o bob pump o lunwyr barn yn Efrog Newydd a Washington yn gwrando bob wythnos, ac un o bob pedwar yn Boston. Ym Mhrydain hefyd, mae argaeledd BBC World Service ar Radio Digidol DAB, teledu digidol Freeview, lloeren ddigidol a chebl wedi helpu i gynyddu’r gynulleidfa hyd at 1.3 miliwn o bobl, sef y nifer uchaf erioed.

Mae argaeledd cynyddol rhaglenni radio BBC World Service ar FM wedi helpu i ymateb i gystadleuaeth gynyddol gan orsafoedd lleol a chenedlaethol. Erbyn diwedd y flwyddyn, roedd cynyrchiadau BBC World Service yn cael eu darlledu ar FM mewn 139 o brifddinasoedd.

Yn olygyddol, darparodd BBC World Service ohebu a dadansoddiadau cadarn o ddigwyddiadau byd-eang. Yn Irac, bu gohebwyr adran Newyddion y BBC yn manteisio ar arbenigedd gohebwyr y Gwasanaeth Arabeg a oedd wedi’u lleoli mewn dinasoedd allweddol. Agorodd y Gwasanaeth Arabeg swyddfa gynhyrchu yn Baghdad a chanolfan gynhyrchu newydd fawr yng Nghairo. Roedd y tymor HIV/Aids mis o hyd a ddarlledwyd ar draws pob un o’r 34 o wasanaethau iaith ym mis Rhagfyr 2003 yn gyflawniad golygyddol nodedig.

Gan edrych i’r dyfodol, rydym wedi pwysleisio pa mor bwysig yw i BBC World Service gael setliad cadarn yn yr arolwg gwariant yn 2004 er mwyn cyflawni buddsoddiad digonol i gyflawni targedau FM y dyfodol a datblygu mentrau cyfryngau newydd.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 55

Arolwg y Llywodraethwyr or gwasanaethau BBC World Service & Global News

BBC World

Gwnaeth BBC World, sianel deledu newyddion a gwybodaeth ryngwladol y BBC a ariennir yn fasnachol, welliannau parhaus o ran ei henw da a’i chyrhaeddiad yn ystod y flwyddyn.

Bu darllediadau uchelgeisiol o’r rhyfel yn Irac a’r digwyddiadau dilynol yn hwb i’r broses o atgyfnerthu ei henw golygyddol da. Yn ystod y flwyddyn, darlledodd y sianel raglenni ar y gwrthdaro o Baghdad, Amman, Kuwait a Qatar, yn ogystal â Llundain a Washington. Noda arolygon cynulleidfaoedd fod gwylwyr wedi ymateb yn gadarnhaol. Yn Ewrop, er enghraifft, roedd ymatebwyr o’r farn mai BBC World oedd y sianel newyddion rhyngwladol yr ymddiriedwyd ynddi fwyaf yn ystod y rhyfel yn Irac, ac mewn arolwg o arweinwyr barn yn Ewrop disgrifiwyd BBC World fel mwy “awdurdodol” a “pherthnasol” na’i phrif gystadleuwyr. Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae rhai marchnadoedd yn ymddiried mwy yn CNN na BBC World - gan adlewyrchu effaith ehangach CNN ar y gynulleidfa.

Cynyddodd y sianel ei sail ddosbarthu 24 awr 10% yn ystod y flwyddyn. Bellach caiff y sianel ei dosbarthu’n llawn amser i 112 miliwn o gartrefi (gweler y graff). Gan gynnwys dosbarthu rhan amser, mae BBC World ar gael mewn tua 260 miliwn o gartrefi (255 miliwn yn 2002/2003). Mae mwy nag 1 filiwn o ystafelloedd mewn gwestai, 20 o gwmnïau awyrennau a 21 o gwmnïau llongau hwylio hefyd yn darlledu’r sianel. O nifer o astudiaethau a gynhaliwyd yn ystod y flwyddyn gellir amcangyfrif bod BBC World yn cyrraedd 53 miliwn o wylwyr byd-eang unigol bob wythnos.

56

 

Mae safleoedd ar-lein BBC World Service & Global News yn parhau i ddangos twf cadarn o ran defnydd y gynulleidfa. Cynyddodd ymweliadau misol â thudalennau i 279 miliwn ym mis Mawrth 2004 (228 miliwn ym mis Mawrth 2003). Mae hyn yn cyfateb â mwy nag 16 miliwn o ddefnyddwyr misol unigol.

Cynyddodd yr ymwelwyr â phob safle iaith yn sylweddol yn ystod y flwyddyn, ac mae bron pob un ohonynt wedi llwyddo i gyflawni neu ragori ar eu targedau. Cynyddodd ymweliadau â thudalennau’r safleoedd rhyngweithiol Perseg ac Wrdw fwy na phum gwaith, ac mae ymweliadau â’r safleoedd rhyngweithiol Rwsieg a Sbaeneg wedi mwy na dyblu. Fodd bynnag, ceir pryderon o ran effaith y safle newyddion Tsieinëeg yn dilyn camau gan yr awdurdodau yn Nhsieina i atal mynediad iddi.

Mae safleoedd a rhaglenni rhyngweithiol yr isadran wedi dangos cadernid parhaus, er enghraifft, cynnal dadleuon byd-eang gyda phobl allweddol gan gynnwys Arlywydd Pervez Musharraf o Bacistan, Prif Weinidog Malaysia Dr Mahathir Mohamad, Arlywydd Hamid Karzai o Affganistan a Thywysog El Hassan bin Talal o Jordan.

Lansiwyd safleoedd rhyngweithiol newydd i roi llais i bobl yn y byd Islamaidd ac i hyrwyddo trafodaeth rhwng cymunedau byd-eang sy’n rhannu iaith neu bryder cyffredin. Llwyddodd gwefannau yn seiliedig ar faterion penodol ar y ddadl am Aids, ac ar Islam a’r Gorllewin i gyflawni cydnabyddiaeth gref. Mae’r holl brif wefannau iaith bellach yn cynnal fforymau trafod rheolaidd - er enghraifft, cynhaliwyd cyfartaledd o ddau bob wythnos ym mis Rhagfyr 2003.

Roedd y gwefannau hefyd yn gweithredu fel lleoliad lle y gall pobl fynegi eu barn ar adegau o argyfwng neu ar straeon allweddol yn y newyddion.

BBC Monitoring

Mae BBC Monitoring, sydd wedi’i leoli yn Caversham, yn darparu newyddion, gwybodaeth a sylwebaeth wedi’i gasglu o’r cyfryngau cyfun ledled y byd. Mae’n monitro mwy na 3,000 o ffynonellau radio, teledu, y wasg, rhyngrwyd ac asiantaethau newyddion, gan gyfieithu hyd at 100 o ieithoedd, er mwyn darparu darlun awdurdodol o ddigwyddiadau’r byd, 24 awr y dydd.

Darparodd ddeunydd ffynhonnell allweddol i randdeiliaid gan gynnwys y Swyddfa Dramor, Swyddfa’r Cabinet, y Weinyddiaeth Amddiffyn a’r BBC. Ymatebodd i’r galw uchel am fonitro cyflym a chywir o’r cyfryngau byd-eang yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, a oedd yn arbennig o werthfawr wrth i ddigwyddiadau ddatblygu yn Irac, Affganistan, y Dwyrain Canol a’r byd Islamaidd cyfan. Ceir galw cynyddol am ddealltwriaeth o themâu byd-eang fel terfysgaeth a lluosogi arfau.

Cyflawnodd BBC Monitoring ei gyfraddau boddhad gorau erioed gan ei randdeiliaid gartref a thramor, fel y’u mesurwyd yn ei arolwg cwsmeriaid yn ystod hydref 2003. Ochr yn ochr â chyfraddau uchel ar gyfer defnyddioldeb, amrywiaeth a detholiad, gwelwyd cynnydd nodedig yn y cyfraddau ar gyfer amseroldeb ac ymatebolrwydd.

Yr her allweddol i BBC Monitoring yw cynnig amrywiaeth cynyddol o gynnyrch, gan gynnwys cynnwys aml-gyfrwng, i gwsmeriaid yn y DU a thramor. Rydym yn awyddus i sicrhau bod enw da BBC Monitoring yn parhau i ddatblygu ac y gall sicrhau canlyniad cadarn yn ei arolwg ariannol, a chynnal cyfraddau boddhad uchel gan randdeiliaid yn ystod 2004/2005.

279

miliwn o ymweliadau â thudalennau gwefannau newyddion rhyngwladol

3,000+

o allfeydd cyfryngau tramor wediu holrhain gan BBC Monitoring

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 57

Governors’ review of services

Performance Arolwg y Llywodraethwyr against Statements of Programme Policy commitments 2003/2004

o’r gwasanaethau Perfformiad yn erbyn ymrwymiadau’r Datganiadau o Bolisi Rhaglenni 2003/2004

Trosolwg

Yn unol â Deddf Cysylltiadau 2003, mae’n ofynnol i’r Llywodraethwyr gyhoeddi datganiadau o bolisi rhaglenni bob blwyddyn, gan nodi sut y bydd y BBC yn cyflawni ei gylch gwaith cyhoeddus, ac i gyflwyno adroddiad ar berfformiad yn eu herbyn yn yr Adroddiad Blynyddol. Er mwyn paratoi ar gyfer y cyfrifoldeb newydd hwn, cyhoeddwyd datganiadau peilot gennym yn 2002 a 2003. Nodir y datganiadau ar gyfer 2003/2004 yn yr adran hon, gyda data perfformiad.

Mae datganiadau’r BBC ar gyfer 2004/2005 a gyhoeddwyd ym mis Ebrill eleni yn cynrychioli cam sylweddol ymlaen wrth sicrhau atebolrwydd y BBC. Byddwn yn cyflwyno adroddiad ar berfformiad yn eu herbyn yn yr Adroddiad Blynyddol nesaf.

58

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Ymrwymiad Perfformiad

BBC One  
570 awr o newyddion, yn ogystal â’r gwasanaeth dros 1,556 awr o newyddion, yn ogystal â’r gwasanaeth dros
nos ar BBC News 24 nos ar BBC News 24

   
80 awr o faterion cyfoes 134 awr o faterion cyfoes

   
45 awr o gerddoriaeth a’r celfyddydau 66 awr o gerddoriaeth a’r celfyddydau

   
650 awr o raglenni ffeithiol newydd 945 awr o raglenni ffeithiol newydd

   
260 awr o chwaraeon 496 awr o chwaraeon

   
80 awr o raglenni crefyddol fel rhan o ymrwymiad 87 awr o raglenni crefyddol fel rhan o gyfanswm
i 112 awr ar draws BBC One a BBC Two o 124 awr o grefydd ar draws BBC One a BBC Two

   
400 awr o raglenni i blant 777 awr o raglenni i blant

   
Cadw nifer yr ailddarllediadau o dan 10% o’r oriau brig Roedd 9.99% o’r amserlen oriau brig yn ailddarllediadau

   
Cynnig tri bwletin cenedlaethol a rhyngwladol yn ystod Darparodd bwletinau newyddion am 1pm, 6pm a 10pm
yr wythnos, gyda newyddion am 10pm chwe diwrnod ddarllediadau o faterion cenedlaethol a rhyngwladol,
yr wythnos a newyddion rhanbarthol wedi’i integreiddio gyda newyddion rhanbarthol wedi’i integreiddio i’r prif
i bob prif fwletin rhwydwaith fwletinau

   
Bydd Panorama yn cael slot wythnosol reolaidd Mae gan Panorama slot reolaidd am 10.15pm ar ddydd
a phedair rhaglen arbennig yn ystod yr wythnos Sul; hefyd cafwyd pedair rhaglen arbennig yn ystod yr
yn ystod oriau brig wythnos am 9pm ar faterion llosg fel y rhyfel yn Irac a
  cheiswyr lloches

   
Tri diwrnod digwyddiadau yn dilyn patrwm diwrnod Tri diwrnod digwyddiadau yn canolbwyntio ar faterion
Cracking Crime yn ymwneud â dyled defnyddwyr, ceiswyr lloches
  a’r GIG

   
BBC Two  
100 awr o newyddion 516 awr o newyddion

   
230 awr o faterion cyfoes 311 awr o faterion cyfoes

   
500 awr o raglenni ffeithiol 1,293 awr o raglenni ffeithiol

   
200 awr o gerddoriaeth a’r celfyddydau 289 awr o gerddoriaeth a’r celfyddydau

   
430 awr o chwaraeon 863 awr o chwaraeon

   
100 awr o raglenni newydd i blant 177 awr o raglenni newydd i blant

   
20 awr o raglenni crefyddol fel rhan o ymrwymiad 37 awr o raglenni crefyddol fel rhan o gyfanswm
i 112 awr ar draws BBC One a BBC Two o 124 awr o grefydd ar draws BBC One a BBC Two

   
BBC Three  
O leiaf un bwletin newyddion 15 munud yn ystod Bwletin 15 munud yn ystod yr wythnos am 7pm,
yr wythnos yn ystod oriau brig, yn ogystal â bwletinau yn ogystal â bwletinau 60seconds bob awr
bob awr (tan ganol nos)  

   
O leiaf 30 awr o addysg 46 awr o addysg

   
O leiaf 15 awr o wyddoniaeth, crefydd/moeseg a busnes 29 awr o wyddoniaeth, crefydd/moeseg a busnes

   
O leiaf 50 awr o gerddoriaeth a’r celfyddydau 56 awr o gerddoriaeth a’r celfyddydau

   
O leiaf 15 awr o faterion cyfoes 16 awr o faterion cyfoes

   
Tua 15% o’r oriau darlledu i fod yn newyddion, materion Roedd tua 23% o’r oriau darlledu yn newyddion,
cyfoes, addysg, cerddoriaeth a’r celfyddydau materion cyfoes, addysg, cerddoriaeth a’r celfyddydau

   
25% o’r oriau cymwys i gael eu comisiynu gan y sector Roedd 47% o’r oriau cymwys gan gwmnïau annibynnol,
annibynnol, gan gyfrif am o leiaf 25% o’r gyllideb rhaglenni gan gyfrif am 41% o’r cyllidebau rhaglenni

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 59

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau

Perfformiad yn erbyn ymrwymiadau’r Datganiadau o Bolisi Rhaglenni 2003/2004

Ymrwymiad Perfformiad

   
Rhaid i 80% o’r darllediadau gynnwys rhaglenni Roedd 82.3% o’r rhaglennu yn ddeunydd a gomisiynwyd
a gomisiynwyd yn arbennig ar gyfer BBC Three* yn arbennig ar gyfer BBC Three

   
Rhaid i 90% o’r oriau rhaglenni a 90% o’r gwariant gael Gwnaed 93.9% o’r oriau rhaglenni yn yr UE/AEE i’w
eu dyrannu i raglenni a wneir yn yr UE/AEE i’w dangos dangos am y tro cyntaf yn y DU, gan gynrychioli 96.6%
am y tro cyntaf yn y DU* o’r gyllideb

   
Caiff 33% o gyllideb gymwys BBC Three ei chynhyrchu Bu bron i BBC Three gyflawni ei tharged cynhyrchu
o’r tu allan i’r M25 o 2004/2005 gyda chynnydd rhesymol rhanbarthol o 33% flwyddyn yn gynnar, gyda 32.2%
yn cael ei wneud tuag at y targed hwnnw yn y o’r gyllideb gymwys yn cael ei gwario y tu allan i’r M25
blynyddoedd cyn hynny* yn 2003/2004

   
Caiff chwe menter talent newydd eu lansio gan Chwe menter talent newydd yn 2003/2004: comedi,
BBC Three animeiddio, cerddoriaeth drefol, gwneuthurwyr ffilmiau,
  comedi sefyllfa, cyflwynwyr

   
Caiff 20% o’r darllediadau eu hategu gan ddeunydd Ategwyd tua 55% o raglenni BBC Three gan
rhyngweithiol wasanaethau rhyngweithiol, fel cynnwys penodol,
  gwasanaeth negeseuon a phleidleisio

   
BBC Four  
Tua 70% o’r cynyrchiadau i fod yn wreiddiol Roedd 74.5% o gynyrchiadau BBC Four yn wreiddiol

   
Tua 70% i gael eu gwneud yn yr UE/AEE Gwnaed 88.4% yn yr UE/AEE

   
Y prif fwletin newyddion i ddarparu persbectif byd-eang Ail-lansiwyd The World ym mis Ionawr 2004
ac adroddiadau manwl nas cynhwysir yn aml mewn a chynyddodd nifer yr eitemau nodwedd manwl ar
bwletinau prif ffrwd newyddion byd-eang

   
Y goreuon o blith ffilmiau rhyngwladol cyfoes a chlasurol 254 awr o sinema gan gynnwys ffilmiau clasurol ac
  ieithoedd tramor wythnosol

   
Cyflwyno’r theatr fwyaf diddorol ar y sgrîn Ymhlith y cynyrchiadau roeddRichard II Live at the
  Globe, a A Hotel in Amsterdam gan John Osborne
  o’r Donmar

   
Ategir BBC Four gan wasanaeth ar-lein, a bydd yn Mae tua 1,500 o dudalennau ar y we yn ategu
cynnal digwyddiadau arbennig gyda chyfleoedd BBC Four; mae’r gwasanaeth rhyngweithiol yn darparu
rhyngweithiol cynnwys testun yn ogystal â gwasanaethau ar gyfer
  rhaglenni penodol

   
Sianel CBBC  
Gwario mwy na thri chwarter ei chyllideb ar raglenni Gwariodd Sianel CBBC 92% o’i chyllideb ar raglenni
newydd a gwreiddiol gan gyfrif am tua chwarter yr holl gwreiddiol newydd, gan gyfrif am 24.3% o’r holl amser
amser ar yr awyr ar yr awyr

   
650 awr o ddrama 966 awr o ddrama

   
Dylai tua 20% o’r amserlen fod yn ddrama* Roedd 22.2% o’r darllediadau yn ddrama

   
O leiaf 85 awr o newyddion byw 75 awr o newyddion byw. Mae’r diffyg o ganlyniad
  i benderfyniad y sianel i gynnig nifer uwch o fwletinau
  byrrach yn 2003/2004 gan mai dyma oedd y ffordd
  fwyaf effeithiol o gyrraedd ac ennyn diddordeb ei
  chynulleidfa ifanc mewn darllediadau newyddion
  (gweler tudalen 30)

   
640 awr o raglenni i ysgolion ar draws y cwricwlwm 653 awr o raglenni i ysgolion ar draws y cwricwlwm,
  gan gynnwys darllediadau cyflwyno

   
700 awr o sioeau adloniant 1,078 awr o adloniant

   
Tua 75% o’r darllediadau i gael eu gwneud yn yr UE/AEE Gwnaed 82% o’r darllediadau yn yr UE/AEE

60

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Ymrwymiad

Perfformiad

CBeebies

Mwy na 4,500 awr o ddarllediadau ar draws y genres sy’n bwysig i’w chynulleidfa ifanc

4,717 awr o ddarllediadau, gan gynnwys cerddoriaeth a symud, adrodd straeon, gwneud a chreu, gwyddoniaeth syml, hanes naturiol, rhaglenni cwis, animeiddio a drama

80% o’r darllediadau i fod yn rhaglennu wedi’i gynhyrchu’n wreiddiol

Roedd 87% o’r darllediadau yn gynyrchiadau gwreiddiol

Tua 90% o’r darllediadau i gael eu cynhyrchu yn y DU/UE

Cynhyrchwyd 96% yn y DU/UE

Bydd ychydig dros dri chwarter buddsoddiad y sianel mewn rhaglennu newydd o Brydain*

Bu 89% o’r buddsoddiad mewn rhaglennu newydd o Brydain

Buddsoddi’n uniongyrchol mewn cydgynyrchiadau Bu’r ymrwymiad hwn yn anodd i’w gyflawni o ganlyniad
animeiddio yn llawer amlach, gan gynyddu nifer y i gostau uwch na’r disgwyl; yn lle hynny, rhagbrynodd
prosiectau yn y DU* CBeebies deitlau gyda thrydydd partïon (gweler
  tudalen 31)

Gwasanaeth teledu rhyngweithiol sy’n cynyddu wrth i’r dechnoleg ddatblygu

Mae’r gwasanaeth rhyngweithiol i blant wedi datblygu, ond mae cyfyngiadau lled band wedi atal gwasanaeth cyfatebol rhag cael ei ddatblygu i rieni a gofalwyr. Mae CBeebies yn ymrwymedig i ddatblygu hyn yn 2004/2005

BBC Radio 1

O leiaf 35% o’r rhestr chwarae i fod yn artistiaid o’r DU

Roedd 45% o’r rhestr chwarae yn artistiaid o’r DU

2,700 awr o’r darllediadau i fod yn gerddoriaeth

Roedd 2,778 awr o’r darllediadau yn gerddoriaeth

arbenigol sy’n cwmpasu’r holl genres priodol i ieuenctid arbenigol

270 awr o newyddion a materion cyfoes

305 awr o newyddion a materion cyfoes

Comisiynu rhaglenni nodwedd a dogfen ar amrywiaeth Ymhlith y darllediadau roedd rhaglenni gwybodaeth a

eang o bynciau sy’n bwysig i gynulleidfa ifanc

chynghori ac eitem ddogfen reolaidd ar Lamacq Live

Cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw o ansawdd uchel ymhob rhan o’r DU

Ymhlith y digwyddiadau roedd One Big Weekend ym Manceinion a Chaerdydd a One Big Sunday yng Nghaerlyr

BBC Radio 2

1,000 awr o gerddoriaeth arbenigol

1,004 awr o gerddoriaeth arbenigol, gan gynnwys

Bob Harris Country a The Organist Entertains

Mwy na 500 awr o newyddion a materion cyfoes

991 awr o newyddion a materion cyfoes; heb gynnwys The Jeremy Vine Show, darlledodd BBC Radio 2 693 awr o newyddion a materion cyfoes

150 awr o ddarllediadau crefyddol yn ystod oriau brig 163 awr o ddarllediadau crefyddol yn ystod oriau brig

75 awr o ddarllediadau celfyddydol

88 awr o ddarllediadau celfyddydol

Tua thraean o’r amser ar yr awyr i fod yn eitemau llafar Neilltuwyd 38% o’r amser ar yr awyr i eitemau llafar

Cefnogi talent gerddorol newydd drwy adlewyrchu artistiaid newydd o fewn cerddoriaeth boblogaidd

Mae Radio 2 wedi cefnogi artistiaid newydd o Brydain fel Jamie Cullum ac Amy Winehouse drwy ddarllediadau cerddoriaeth a pherfformiadau; mae hefyd wedi darlledu nifer o ddigwyddiadau sy’n cefnogi talent newydd, yn cynnwys Gwobrau Gwerin i’r Ifanc a Chorydd y Flwyddyn

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 61

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau

Perfformiad yn erbyn ymrwymiadau’r Datganiadau o Bolisi Rhaglenni 2003/2004

Ymrwymiad Perfformiad

   
BBC Radio 3  
Mwy na 50% o’r darllediadau i fod yn gerddoriaeth Roedd 54% o’r darllediadau yn gerddoriaeth fyw neu’n
fyw neu’n gerddoriaeth wedi’i recordio’n arbennig gerddoriaeth wedi’i recordio’n arbennig

   
Comisiynu o leiaf 60 o ddarnau newydd Comisiynwyd 60 o ddarnau newydd

   
Darlledu pob un o gyngherddau Proms y BBC yn fyw Darlledwyd 72 allan o’r 73 o gyngherddau yn Proms y
  BBC yn fyw (gohiriwyd un am ddeuddydd er mwyn
  cynnal gwaith ôl-gynhyrchu ychwanegol)

   
Buddsoddi’n sylweddol mewn gweithgareddau Mae BBC Radio 3 yn darlledu mwyafrif cynyrchiadau
diwylliannol yn y DU gan gynnwys pum cerddorfa’r pum cerddorfa’r BBC a Chantorion y BBC, ac yn
BBC a Chantorion y BBC buddsoddi tua £26.5miliwn yng ngrwpiau
  perfformio’r BBC

   
Parhau i gefnogi artistiaid ifanc newydd a datblygu Mae buddsoddi mewn cynlluniau fel Artistiaid
amrywiaeth newydd o leisiau ar gyfer swyddi cyflwyno Cenhedlaeth Newydd yn llwyddo i nodi a chefnogi
ar yr awyr talent newydd

   
BBC Radio 4  
700 awr o fwletinau newyddion 741 awr o fwletinau newyddion

   
1,300 awr o faterion cyfoes dyddiol 1,663 awr o faterion cyfoes dyddiol

   
440 awr o faterion cyfoes, busnes a gwleidyddiaeth 460 awr o faterion cyfoes, busnes a gwleidyddiaeth
wythnosol wythnosol

   
800 awr o ddrama a darlleniadau gwreiddiol 1,079 awr o ddrama a darlleniadau gwreiddiol

   
300 awr o gomedi gwreiddiol 333 awr o gomedi gwreiddiol

   
180 awr o raglennu crefyddol 182 awr o raglennu crefyddol

   
BBC Radio Five Live  
6,000 awr o newyddion gan gynnwys darllediadau treigl 6,486 awr o newyddion gan gynnwys darllediadau treigl
o straeon newyddion mawr wrth iddynt ddatblygu o straeon newyddion mawr wrth iddynt ddatblygu, er
  enghraifft dal Saddam Hussein

   
2,000 awr o chwaraeon gan gynnwys sylwebaeth fyw 2,106 awr o chwaraeon gan gynnwys sylwebaeth fyw o’r
  Uwch Gynghrair, Cwpan Rygbi’r Byd a Phencampwriaeth
  Athletau’r Byd, ymhlith eraill

   
50 awr y flwyddyn o raglenni dogfen 52 awr o raglenni dogfen, yn cynnwys Five Live Report a
  ail-lansiwyd

   
BBC Radio Five Live Sports Extra  
Cael gwell gwerth i dalwyr y drwydded o hawliau 1,089 awr o sylwebaeth chwaraeon ychwanegol
chwaraeon sydd eisoes yn eiddo i’r BBC  

62

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Ymrwymiad Perfformiad

   
IXtra  
Darlledu 20% o eitemau llafar – tua hanner y Eitemau llafar oedd 28.5% o’r darllediadau; newyddion,
darllediadau hyn yn newyddion, rhaglenni dogfen rhaglenni dogfen a gweithredu cymdeithasol oedd 8.2%
a rhaglennu gweithredu cymdeithasol o’r darllediadau. Bydd ymestyn TX Unlimited o un awr
  i ddwy awr (gweler tudalen 37) yn galluogi’r sianel i
  gyflawni’r ymrwymiad yn 2004/2005

   
Cynnig rhaglen drafod ddyddiol: 250 awr y flwyddyn Ymestynnwyd TX Unlimited o un awr i ddwy awr bob
o ddadleuon llosg perthnasol diwrnod yn ystod yr wythnos o fis Awst 2003;
  darparwyd 366 awr o ddadleuon llosg perthnasol

   
Cwmpasu’r holl genres ‘trefol’ poblogaidd, gan Dancehall, hip-hop, UK garage, RnB a drum & bass oedd
ganolbwyntio ar gerddoriaeth newydd ac artistiaid asgwrn cefn y darllediadau cerddorol; roedd
newydd cerddoriaeth newydd ac artistiaid newydd yn rhan bwysig

   
Cynnwys perfformiadau byw gan artistiaid enwog Darlledwyd perfformiadau byw wythnosol, ond bu’r nod
  o gyflwyno artistiaid rhyngwladol proffil uchel yn anos
  na’r disgwyl; disgwylir i hyn wella wrth i’r rhwydwaith
  ymsefydlu a chynyddu ei gynulleidfaoedd

   
Darlledu o ddigwyddiadau cerddoriaeth ddu pwysig Ymhlith y digwyddiadau roedd Carnifal Notting Hill a
  Southport Weekender

   
BBC 6 Music  
Cynnal gwasanaeth newyddion a newyddion Parhaodd BBC 6 Music i ddarparu gwasanaeth
cerddoriaeth 24 awr newyddion a cherddoriaeth rhwng 7.30am a 10pm yn
  ystod yr wythnos, 11.30am a 6.30pm ar ddydd Sadwrn
  ac 11.30am a 4.30pm ar ddydd Sul, ond nid yw wedi
  ei ymestyn i 24 awr am resymau ariannol

   
Rhoi cerddoriaeth yn ei chyd-destun drwy repertoire Roedd bron i 50% o’r gerddoriaeth o’r 1970au i’r
eang gan gynnwys cerddoriaeth boblogaidd o’r 1970au 1990au; ymhlith y cyflwynwyr roedd Phill Jupitus,
i’r 1990au, ynghyd â rhaglenni nodwedd dogfennol a Steve Lamacq a Tom Robinson
chyflwynwyr awdurdodol  

   
Darlledu adegau cerddorol unigryw o archifau sesiwn Defnyddiwyd deunydd sesiwn archif y BBC o fewn holl
y BBC ddarllediadau BBC 6 Music

   
Darlledu’r prif wyliau cerddorol Ymhlith y gwyliau a ddarlledwyd roedd Glastonbury,
  Reading, Leeds, Summer Sundae yng Nghaerlyr, a T
  in the Park o Perth

   
BBC 7  
Darlledu 6,500 awr o radio llafar gan fanteisio ar y Radio llafar oedd y 7,644 awr cyfan a
goreuon o blith rhaglenni cyfredol a rhaglenni archif ddarlledwyd ar BBC 7
  Mae’r gorgyflawniad yn adlewyrchu’r newid i ddarlledu
  24 awr ym mis Rhagfyr 2003

   
Cynnig tua 2,500 awr wedi’i neilltuo’n benodol i lyfrau Neilltuwyd 3,328 awr yn benodol i lyfrau a drama
a drama  

   
Sicrhau bod comedi yn parhau wrth wraidd yr amserlen 2,852 awr o gomedi
– dros 2,500 awr drwy gydol y flwyddyn  

   
Darparu tua 1,400 awr o raglennu i blant 1,464 awr o raglennu i blant

   
Comisiynu a darlledu amcangyfrif o 40 awr o 60 awr o ddarlleniadau llawn
ddarlleniadau llawn  

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 63

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau

Perfformiad yn erbyn ymrwymiadau’r Datganiadau o Bolisi Rhaglenni 2003/2004

Ymrwymiad Perfformiad

   
BBC Asian Network  
Darlledu tua 50% o gerddoriaeth a 50% o eitemau llafar Rhagorodd y rhwydwaith ar ei ymrwymiad gyda
  darllediadau llafar yn cyfrif am 66% o’r oriau

   
Parhau i ymdrin ag anghenion Asiaid cenhedlaeth 2,730 awr o ddarllediadau mewn ieithoedd o Dde Asia
gyntaf drwy raglenni gwreiddiol a gynhyrchir yn lleol  
mewn amrywiaeth o ieithoedd o Dde Asia, gan ddod  
i gyfanswm o fwy na 2,000 awr y flwyddyn  

   
Darlledu rhaglenni crefyddol yn gynnar yn y bore drwy Darlledwyd cyfanswm o 11 awr o raglennu crefyddol
gydol y flwyddyn a dathlu’r prif wyliau gyda rhaglenni rheolaidd yr wythnos gyda rhaglennu arbennig yn dathlu
wedi’u comisiynu’n arbennig prif wyliau

   
Rhoi ffocws cryf i newyddion a materion cyfoes Cafwyd newyddion ac adroddiadau materion cyfoes
  sylweddol ar raglenni amser brecwast, amser cinio ac
  oriau cymudo

   
Arwain drwy esiampl wrth ddarlledu cerddoriaeth Chwaraewyd sbectrwm eang o gerddoriaeth boblogaidd
boblogaidd Asiaidd Brydeinig newydd, Bollywood a Asiaidd gan gynnwys artistiaid Asiaidd Prydeinig newydd
Lollywood, a hyrwyddo talent cartref  

   
bbc.co.uk  
Parhau i ddarparu gwefannau sy’n ategu amrywiaeth Cynhaliwyd yr amrywiaeth er gwaethaf y ffaith bod llai o
llawn darllediadau a rhaglenni’r BBC. Nid yw lleihau arian ar gael ar gyfer cynnwys ar y we; mae’r defnydd o
buddsoddiad yn golygu rhoi llai o ddewis i safleoedd sy’n ymwneud â rhaglenni fel radio, teledu,
gynulleidfaoedd o ran y ffyrdd y gallant fanteisio drama, adloniant a ffeithiol, wedi cynyddu 24% ar
ar gynnwys y BBC gyfartaledd yn ystod y flwyddyn ddiwethaf

   
Darparu cynnwys arbennig, gwreiddiol, o ansawdd uchel Newyddion a dadansoddiadau wedi’u diweddaru bob
mewn meysydd yn amrywio o’r newyddion i adolygu munud, ac amrywiaeth eang o ddarllediadau addysgol
TGAU i Teletubbies yn cynnwys GCSE Bitesize i bobl ifanc yn eu harddegau a
  Skillswise i oedolion, gan ategu natur arbennig bbc.co.uk

   
Darparu mynediad yn ôl y galw i raglenni radio a Mae’r defnydd o’r Radio Player wedi cynyddu
ddarlledwyd eisoes a chlipiau fideo dethol, yn ogystal 85% flwyddyn ar flwyddyn. Bellach mae gan wrandawyr
â ffyrdd o wrando ar wasanaethau radio digidol newydd y gwasanaethau radio digidol drwy Freeview fynediad
y BBC i ddarllediad testun byw sy’n darparu, er enghraifft,
  rhestr o’r traciau

   
Ei gwneud hi’n haws i ddefnyddwyr ddod o hyd i’r hyn y Lansiwyd hafan a bar offer cyffredinol newydd sydd
maent am ei gael. Bydd gwell hafan a bar offer cyffredinol wedi’i leoli ar ben holl dudalennau bbc.co.uk
yn helpu defnyddwyr i lywio drwy gynnwys BBCi  

   
Cynnal lefel uchel o safoni a rheoleiddio cynnwys ar bob Cyflwynwyd prosesau safoni adweithiol ar nifer o
adeg a chwiliadau gwe sy’n ddiogel i’r teulu cyfan eu negesfyrddau lle yr ystyriwyd bod y cymunedau a’r
defnyddio pynciau yn risg isel; rydym wedi gofyn i’r rheolwyr roi’r
  prosesau angenrheidiol ar waith i sicrhau y cynhelir
  safonau (gweler tudalen 41)

   
Gweithredu fel adnodd hanfodol yn cynnig cynnwys Ochr yn ochr â’i gynnwys ei hun, mae bbc.co.uk
eang ac unigryw, yn ogystal â darparu mynediad i yn darparu mynediad i gynnwys trydydd partïon drwy
safleoedd nad ydynt yn ymwneud â’r BBC, ac arweiniad gysylltiadau mewn cyd-destun yn y testun a’i
arnynt a dulliau llywio a chynllun safle sy’n canolbwyntio gymhwysiad chwilio ei hun
ar y defnyddiwr*  

64

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Ymrwymiad Perfformiad

   
Defnyddio’r rhyngrwyd i lunio cysylltiadau newydd gyda Mae bbc.co.uk yn rhoi gwybodaeth i dalwyr y drwydded
thalwyr ffi’r drwydded ac atgyfnerthu atebolrwydd* am y BBC a sut y caiff ei redeg, yn ogystal â’i raglenni
  a’i wasanaethau. Mae negesfyrddau a gwefannau
  gwasanaeth yn galluogi cynulleidfaoedd i gyfrannu’n
  uniongyrchol at ddarllediadau, neu roi sylwadau arnynt;
  mae’r defnydd a wneir o’r rhain wedi cynyddu 25% yn
  ystod y flwyddyn ddiwethaf

   
Darparu hafan i dalwyr ffi’r drwydded ar y rhyngrwyd Mae bbc.co.uk yn parhau i chwarae rhan sylweddol
a gweithredu fel arweinydd y gellir ymddiried ynddo wrth gynyddu nifer y bobl sy’n manteisio ar
i amgylchedd y cyfryngau newydd* wasanaethau ar-lein drwy fentrau fel Webwise (gweler
  tudalen 47). Mae diogelwch yn allweddol, yn arbennig ar
  safleoedd i blant lle mae CBBC wedi lansio cyfleuster
  chwilio penodol ar gyfer plant 6–12 oed sydd ond yn
  cynnig mynediad i wefannau’r BBC a gwefannau allanol
  a gymeradwywyd ymlaen llaw, ac mae’n cynnig
  negesfwrdd wedi’i safoni ymlaen llaw

   
BBCi  
Gwasanaeth newyddion a gwybodaeth rhyngweithiol Gellir cael mynediad i wasanaethau rhyngweithiol
ar draws pob llwyfan teledu digidol yn cynnig cynnwys erbyn hyn drwy fotwm unigol ar bob llwyfan teledu
manwl a chyfleoedd i ddefnyddwyr gyfrannu digidol. Ehangwyd amrywiaeth y cynnwys ar bob llwyfan,
  ond yn arbennig ar loeren ddigidol. Caiff gwasanaethau
  tebyg ar gyfer gwylwyr Freeview a chebl digidol eu
  lansio wrth i fwy o led band gael ei ryddhau

   
Creu estyniadau rhyngweithiol i raglenni teledu ymhob Mae nifer y gwasanaethau teledu estynedig (eTV) wedi
genre o chwaraeon i ffeithiol, newyddion i adloniant dyblu bron i 190 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, (gweler
  tudalen 41)

   
Newyddion y BBC  
Darlledu mwy o faterion cyfoes yn ystod oriau brig Cafodd materion cyfoes fwy o amlygrwydd ar BBC Two;
ar BBC Two lansiwyd If…, rhaglen materion cyfoes newydd yn ystod
  oriau brig ar BBC Two

   
Lansio rhaglen wleidyddol newydd ar gyfer pobl o dan Darlledwyd rhaglenni peilot ar gyfer dwy raglen
45 oed wleidyddol newydd ar gyfer pobl o dan 45 oed, ond ni
  lwyddwyd i ddenu’r gynulleidfa darged. Bellach gwneir
  ymdrech i ddenu cynulleidfaoedd iau drwy ddarllediadau
  prif ffrwd

   
Darlledu archwiliadau trwy’r dydd o bynciau o bwys Ymhlith darllediadau BBC One roedd Asylum Day
ar BBC One a Debt Day

   
Creu rhaglenni arloesol ac uchelgeisiol i egluro’r prif Ymhlith y darllediadau roedd The Day Britain Stopped,
faterion gwleidyddol sy’n wynebu cymdeithas a ddefnyddiodd ddrama i ddangos materion trafnidiaeth

   
Bydd Panorama yn cynnig ymchwiliadau treiddgar mewn Darlledwyd 32 o raglenni Panorama ar BBC One, yn
32 o raglenni bob blwyddyn cynnwys pedair rhaglen arbennig yn ystod yr wythnos

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 65

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gwasanaethau

Perfformiad yn erbyn ymrwymiadau’r Datganiadau o Bolisi Rhaglenni 2003/2004

Ymrwymiad Perfformiad

   
BBC News 24  
Ar BBC News 24 gwneud y sianel yn fwy dadansoddol, Ail-lansiwyd BBC News 24 gyda safbwynt mwy
yn fwy rhyngwladol ac yn ehangach ei safbwynt na dadansoddol, mwy rhyngwladol ac ehangach, a phwyslais
sianelau newyddion eraill y DU cryfach ar newyddion lleol a busnes (gweler tudalen 44)

   
Yn ystod oriau brig bydd y sianel yn darparu: cylch treigl Mae BBC News 24 yn darparu penawdau newyddion
o newyddion yn cynnwys darllediadau o newyddion bob chwarter awr drwy’r dydd a’r nos (nid yn ystod
sy’n digwydd ar y pryd a digwyddiadau pwysig wrth oriau brig yn unig). Mae gohebwyr busnes a chwaraeon
iddynt ddatblygu; penawdau bob chwarter awr a penodol yn rhoi’r newyddion diweddaraf yn rheolaidd
bwletinau cynhwysfawr bob awr; a’r newyddion manwl wedi’i deilwra at anghenion y gynulleidfa. Darlledir
diweddaraf ar fusnes a materion ariannol personol, newyddion sy’n digwydd ar y pryd wrth iddo ddatblygu,
chwaraeon a’r tywydd bob awr a rhoddwyd prosesau golygyddol newydd ar waith i
  helpu’r sianel i gyflawni hyn yn gyflym a chywir

   
Cynyddu ein darllediadau o newyddion treigl drwy: Adeiladwyd cysylltiadau agosach gyda gohebwyr y BBC
weithio gyda Gwledydd a Rhanbarthau’r BBC i ddarparu ar draws y DU er mwyn darparu darllediadau gwell
newyddion treigl sy’n fwy amrywiol; ategu straeon gyda o straeon sy’n digwydd y tu allan i Lundain; mae
mwy o enghreifftiau o’r tu allan i Dde Ddwyrain Lloegr; diwrnodau thema ar faterion cenedlaethol yn
darlledu o Gymru a’r Alban cyn etholiadau’r Cynulliad defnyddio amrywiaeth ehangach o enghreifftiau mwy
a’r Senedd; dangos yn fwy effeithiol pan fyddwn yn lleol. Darparwyd pecyn o ddarllediadau cyn yr
darlledu o leoliadau o amgylch y DU etholiadau yng Nghymru a’r Alban

   
Esbonio straeon rhyngwladol yn fanylach na sianelau Mae BBC News 24 wedi defnyddio gohebwyr
eraill y DU gydag adroddiadau o lygad y ffynnon a rhyngwladol y BBC fwyfwy i gynnig amrywiaeth
dadansoddiadau gan fwy na 200 o ohebwyr. Darlledu’r ehangach o straeon yn cynnwys diwrnodau thema
prif etholiadau cyffredinol ac uwchgynadleddau yn cwmpasu prif straeon rhyngwladol, fel Irac.
rhyngwladol a chynyddu ein buddsoddiad mewn Darlledwyd prif etholiadau’r UE, gyda phrif ohebydd
darllediadau byw o weddill Ewrop gwleidyddol BBC News 24 yn rhoi adroddiadau ar
  holl brif uwchgynadleddau’r UE

   
Darlledu amrywiaeth eang o straeon busnes yn Rhoddwyd mwy o sylw i newyddion busnes yn yr
fanwl, gan fanteisio ar arbenigedd y BBC mewn amserlen gydag amrywiaeth ehangach o straeon
newyddiaduraeth fusnes yn ystod y dydd, yn cynnwys adroddiad ar y farchnad
  stoc am 4.30pm. Mae World Business Report a Business
  Today wedi’u hanelu at gynulleidfa fwy arbenigol

   
Cynnig mwy o ffyrdd i wylwyr gymryd Cyflwynwyd cylch fideo o straeon busnes ar loeren
diddordeb yn y newyddion drwy gynnig rhyngweithedd ddigidol a Freeview yn ystod y flwyddyn, a bwriedir ei
cynyddol gyflwyno i wylwyr teledu cebl. Gwnaed mwy o
  ddefnydd o negeseuon ebost a negeseuon testun i
  alluogi cynulleidfaoedd i gyfrannu i ddarllediadau

   
Gwledydd a Rhanbarthau’r BBC: Newyddion a materion cyfoes
Rhanbarthau Lloegr y BBC: hyd at 3,470 awr o 3,408 awr o newyddion teledu dyddiol, 256 awr
newyddion teledu dyddiol, 240+ awr o raglennu eraill o raglennu eraill, gan gynnwys materion cyfoes
   
BBC Scotland: 530+ awr ar y teledu; 2,000+ awr ar 504 awr ar y teledu; 2,260 awr ar y radio
y radio  
   
BBC Cymru: o leiaf 750 awr ar y teledu** gan gynnwys 731 awr ar y teledu; 20 awr y dydd o
rhaglenni gwleidyddol; o leiaf 18 awr y dydd o newyddion ac eitemau llafar ar y radio
newyddion ac eitemau llafar ar y radio  
   
BBC Northern Ireland: hyd at 440 awr ar y teledu 382 awr ar y teledu
  Mae’r diffygion yn adlewyrchu’r ffaith y symudwyd y
  bwletin prynhawn o BBC Two i fformat byrrach ar BBC
  One gan gyflawni cynulleidfaoedd mwy, y cwtogwyd
  hyd y bwletinau amser cinio dros dro (wedi’u hadfer
  bellach), ac yng Ngogledd Iwerddon, y diddymwyd y
  Cynulliad gan arwain at lai o ddarllediadau

66

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Ymrwymiad Perfformiad

   
Rhanbarthau Lloegr y BBC  
Parhau i adeiladu ar gryfder ei arlwy aml-gyfrwng gan 228,033 awr o ddarllediadau radio lleol
ddefnyddio mwy na 225,600 awr o ddarllediadau radio  
lleol fel ei sail  

   
Cyflwyno mwy o straeon celfyddydol o gymunedau Llwyddodd y bartneriaeth Roots i ysgogi bron i 1,300
o leiafrifoedd ethnig ar yr awyr ar radio lleol drwy o straeon celfyddydol o gymunedau Affricanaidd, Asiaidd,
bartneriaeth â Chyngor Celfyddydau Lloegr Caribïaidd a Thsieineaidd ar radio, teledu ac ar-lein

   
BBC Scotland  
Mwy na 950 awr o deledu lleol ar draws amrywiaeth 976 awr o deledu lleol ar draws amrywiaeth o genres
o genres gyda mwy na 230 awr ohonynt yn chwaraeon gyda 256 ohonynt yn chwaraeon

   
BBC Radio Scotland a BBC Radio nan Gaidheal Darlledwyd 9,912 awr o raglenni ar BBC Radio Scotland
i ddarlledu mwy na 9,500 awr o raglenni a BBC Radio nan Gaidheal

   
BBC Cymru  
600 awr o ddarllediadau o’r Cynulliad ar S4C2 Darlledwyd 548 awr o’r Cynulliad ar S4C2 – mae’r
  diffyg yn adlewyrchu llai o gyfarfodydd yn y Cynulliad
  na’r disgwyl

   
Gwneud mwy na 300 awr o chwaraeon a mwy na Mwy na 322 awr o chwaraeon a 404 awr
370 awr o genres cymysg eraill o genres cymysg eraill

   
BBC Radio Wales a BBC Radio Cymru i ddarlledu Darlledwyd gwasanaeth newyddion a llafar cynhwysfawr
gwasanaeth newyddion a llafar cynhwysfawr o am 20 awr y dydd ar BBC Radio Wales a BBC Radio
18 awr o leiaf yr un y dydd Cymru

   
Cynhyrchu 640 awr o raglenni Cymraeg ar gyfer S4C 662 awr o raglenni Cymraeg ar gyfer S4C

   
BBC Northern Ireland  
Hyd at 75 awr o raglenni ffeithiol, rhaglenni dogfen, 90 awr o raglenni ffeithiol, rhaglenni dogfen,
cerddoriaeth a’r celfyddydau cerddoriaeth a’r celfyddydau

   
Hyd at 75 awr o adloniant ar y teledu 91 awr o adloniant ar y teledu

   
Hyd at 100 awr o chwaraeon ar y teledu 93 awr o chwaraeon ar y teledu – roedd y diffyg o
  ganlyniad i golli hawliau rygbi Cwpan Heineken

   
Bydd BBC Radio Ulster/BBC Radio Foyle yn darlledu hyd Darlledwyd 8,758 awr o raglenni gyda sioeau
at 8,500 awr o raglenni penwythnos newydd a rhaglenni unigol arbennig
*
  
Amodau’r cymeradwyaethau gwasanaeth newydd a bennwyd gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon yw’r ymrwymiadau hyn ond ni chawsant eu cynnwys yn Datganiadau o Bolisi Rhaglenni’r BBC 2003/2004
**
  
Mae’r cyfanswm yn cynnwys darllediadau ar S4C a’r rhwydwaith

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 67

Arolwg y Llywodraethwyr o’r gweithgareddau masnachol BBC Worldwide Limited

Trosolwg

Is-gwmni masnachol y BBC yw BBC Worldwide Limited sy’n anelu at gynyddu gwerth asedion cynnwys y BBC i’r eithaf er budd talwyr y drwydded, er mwyn ailfuddsoddi ei enillion mewn darlledu cyhoeddus a chynyddu mwynhad rhaglennu’r BBC ymhlith cynulleidfaoedd y DU a ledled y byd.

Gwna hyn, er enghraifft, drwy drwyddedu fformatau rhaglenni, gwerthu hawliau, cyhoeddi llyfrau, cylchgronau, DVDs a CD-Roms wedi’u cysylltu â rhaglenni’r BBC, a gweithredu sianelau teledu masnachol.

Gweithredodd BBC Worldwide o fewn amgylchedd masnachu anodd iawn yn 2003/2004, ond er gwaethaf anawsterau mewn rhai meysydd o’i fusnes, llwyddodd i ddarparu £141miliwn mewn arian parod i’r BBC (i fyny o £123miliwn yn 2002/2003).

Mae’r BBC yn lansio arolwg cynhwysfawr o’i weithgareddau masnachol a chyflwynir adroddiad ar y canlyniadau erbyn diwedd 2004.

Mae’r defnydd masnachol o asedion a grëwyd ar gyfer talwyr y drwydded yn rhan bwysig o ymateb y BBC i’r her a bennwyd gan lywodraethau olynol i’r BBC fanteisio i’r eithaf ar fesurau hunan-gymorth ariannol. Mae BBC Worldwide yn helpu i reoli brandiau’r BBC yn strategol, gan gynyddu eu gwerth i’r eithaf –yn ogystal ag ehangu mwynhad talwyr y drwydded drwy lyfrau, cylchgronau, cyfryngau digidol a sianelau teledu masnachol. Dramor, mae presenoldeb cynyddol BBC Worldwide yn codi ymwybyddiaeth o werthoedd diwylliannol y DU ac yn gweithredu fel llwyfan byd-eang ar gyfer talent – gan helpu i gyflawni gwerth cyhoeddus i gymuned greadigol y DU.

O dan amodau byd-eang llym, cynyddodd BBC Worldwide ei werthiannau o weithrediadau parhaus, gan gynnwys cyfran BBC Worldwide o gyd-fentrau, i £657miliwn – cynnydd o 3% ar y llynedd (£640miliwn). Gwrthbwyswyd yr amodau masnachu anodd gan lwyddiant strategaeth aml-fformat BBC Worldwide sy’n rhoi sail fusnes amrywiol iddo a rhywfaint o ddiogelwch yn erbyn ansefydlogrwydd y farchnad. Cynyddodd elw BBC Worldwide i £37miliwn, cynnydd o 13% ar y llynedd (£32miliwn). Gostyngodd elw ar weithrediadau parhaus i £37miliwn o £44miliwn, yn bennaf o ganlyniad i ddirywiad doler yr UD.

Dim ond gweithgareddau sy’n cydweddu â gwerthoedd y BBC y bydd BBC Worldwide yn ymgymryd â hwy. Eleni, er enghraifft, cyflwynodd BBC Worldwide bolisi bwyd moesegol gan gyfyngu’r defnydd o gymeriadau’r BBC i blant ar gynnyrch trwyddedig – roedd hyn yn ystyried pryder cynyddol y cyhoedd am ordewdra ymhlith plant.

Yn 2003/2004, gwerthodd BBC Worldwide 40,000 o oriau o raglennu teledu. Roedd y galw cryf yn amlwg yn BBC Showcase lle mae prynwyr rhaglenni yn cael cyfle i edrych ar

68

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

miliwn o gartrefi yn yr UD yn gallu gwylio BBC America

20

o wledydd yn prynu ac yn addasu fformat Great Britons

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Ochr yn ochr â chynnwys y BBC, mae BBC Worldwide yn hybu amrywiaeth eang o hawliau eiddo deallusol yn llwyddiannus ar ran cynhyrchwyr annibynnol. Yn 2002 lansiodd yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) arolwg o brosesau cynhyrchu rhaglenni teledu yn dilyn honiadau bod y sector annibynnol o dan anfantais. Cymerodd BBC Worldwide ran lawn yn yr arolwg ac, yn dilyn ymateb y DCMS i’r adroddiad ym mis Ionawr 2003, mae bellach wedi gwella’r rhaniad rhyngddo a’r BBC wrth ymdrin â’r sector annibynnol.

Mae BBC Worldwide yn arweinydd yn y farchnad gwerthu fformatau teledu – sef syniadau am raglenni a gaiff eu haddasu i’w defnyddio mewn marchnadoedd tramor. Llwyddiant mawr y llynedd oedd y fformat rhyngweithiol Great Britons. Fe’i hailwnaed yn llwyddiannus fel Great Germans ar gyfer rhwydwaith ZDF ac mae fersiynau wrthi’n cael eu creu mewn 20 o wledydd eraill.

Mae BBC Worldwide yn gweithredu sianelau teledu yn y DU a thramor. Dramor, mae gan dros 340 miliwn o gartrefi bellach fynediad i sianelau BBC Worldwide a gellir gweld y sianel ddigidol BBC America mewn 38 miliwn o gartrefi yn yr UD. Yn y DU, mae BBC Worldwide yn gweithredu UKTV fel cyd-fenter â Telewest. Eleni, lansiwyd UKTV Documentary, UKTV People a UKTV G2 fel rhwydweithiau niche ychwanegol. Prif bartneriaeth arall BBC Worldwide yw cyd-fenter â Discovery Communications Inc. Mae sianel y gyd-fenter, Animal Planet, bellach ar gael mewn 193 miliwn o gartrefi ac mae wedi ennill cytundeb i gael ei dosbarthu ym marchnad gystadleuol yr Almaen.

Gwerthodd BBC Worldwide Consumer Publishing 26 miliwn o lyfrau, fideos, DVDs a chynnyrch sain. Y llwyddiant DVD mawr oedd ail gyfres The Office a dorrodd y record am y DVD o gyfres deledu a werthodd gyflymaf erioed. Mae BBC Worldwide yn flaenllaw ym maes cyhoeddi llyfrau ffeithiol i oedolion yn y DU – gan gadw ei statws ar y brig ym maes coginio, garddio a hanes naturiol. BBC Audiobooks yw prif gyhoeddwr geiriau llafar y DU.

Bu’n flwyddyn anodd i eiddo plant, o ystyried y gystadleuaeth gynyddol yn y sector. Ond atgyfnerthodd BBC Worldwide ei statws fel prif ddosbarthwr fideo a DVD cyn oed ysgol y DU – gyda’r gyfres CBeebies i blant cyn oed ysgol Balamory yn llwyddiant ar DVD a CD-Rom, ac yn cael ei lansio’n ddiweddar fel cylchgrawn.

Prif ddatblygiad BBC Worldwide Learning oedd lansio TeachandLearn.net – partneriaeth gyda’r Brifysgol Agored i greu gwasanaeth datblygu ar-lein cyntaf y DU i athrawon.

Mae BBC Worldwide yn weithgar ym maes y cyfryngau digidol. Eleni lansiodd adran Newyddion y BBC ar wasanaeth SuperPass band eang RealNetworks. Roedd hefyd yn flwyddyn gryf i’r darparwr gwasanaeth rhyngrwyd beeb.net a welodd dwf blwyddyn ar flwyddyn o 31% mewn defnyddwyr.

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 69

Arolwg y Llywodraethwyr or gweithgareddau masnachol BBC Ventures Group Limited

 

Trosolwg

BBC Ventures Group Limited ywr cwmni ymbarél ar gyfer pedwar cwmni masnachol syn darparu gwasanaethau darlledu yn y DU ac yn rhyngwladol, gan gynnwys ir BBC. Gorchwyl gwreiddiol y grwp, sydd â thua 4,000 o aelodau o staff, oedd cyflawni arbedion arian parod ac arbedion cost gwerth £300miliwn ir BBC dros bum mlynedd fel rhan o raglen hunan-gymorth y gofynnwyd amdani gan y Llywodraeth fel rhan o setliad diwethaf ffi’r drwydded. Ar ôl cynnal arolwg strategol or busnes, penderfynodd y BBC y dylid gwerthu un or cwmnï au, BBC Technology, a fyddain galluogir BBC i gyflawni arbedion mwy nar hyn a gynlluniwyd, au gwireddu yn gynharach.

Mewn blwyddyn lle yr oedd marchnadoedd yn dal yn anodd, cyflwynodd BBC Ventures Group arian parod gwerth £7miliwn ir BBC (2002/2003 £6miliwn) a gostyngiadau cost cronnol gwerth £27miliwn (2002/2003 £23miliwn) wrth ddarparu cyfleusterau. Roedd refeniw yn £432miliwn (heb gynnwys masnachu gwerth £36miliwn rhwng cwmnï au BBC Ventures Group) ac roedd elw cyn llog a threth yn £15miliwn.

Maer BBC yn lansio arolwg cynhwysfawr oi weithgareddau masnachol a chyflwynir adroddiad ar y canlyniadau erbyn diwedd 2004.

BBC Resources

BBC Resources yw’r busnes cyfleusterau cynhyrchu mwyaf yn Ewrop ac mae’n darparu darllediadau allanol, stiwdios a gwasanaethau ôl-gynhyrchu yn ogystal â gwisgoedd a wigiau.

Mae’r busnes yn dibynnu ar ddarparu cyfleusterau ar gyfer darllediadau chwaraeon, a’r llynedd oedd isafbwynt y cylch chwaraeon pedair blynedd. Arweiniodd hyn, ynghyd ag amodau llymach ymhob marchnad, at lai o waith a phwysau ar gyfraddau elw. Fodd bynnag, cyflawnodd BBC Resources refeniw gwerth £128miliwn, gan ddod â’r flwyddyn i ben mewn elw (elw cyn llog a threth £4miliwn), cynhyrchodd £7miliwn mewn arian parod i’r BBC a disgwylir iddo fanteisio ar y cynnydd cylchol mewn digwyddiadau yn ystod y flwyddyn nesaf.

Cafodd y cwmni rai llwyddiannau nodedig, gan gynnwys darparu’r cyfleusterau ar fyr rybudd ar gyfer darllediadau cofiadwy o ddathliadau Cwpan Rygbi’r Byd yng nghanol Llundain lle daeth hanner miliwn o bobl i’r strydoedd. Gyda llai nag wythnos i baratoi, darparodd BBC Resources 38 o gamerâu, 31 o gerbydau a hofrennydd. Ar gyfer Pencampwriaeth Rali’r Byd, darparodd y cwmni y darllediad byw cyntaf o’r tu mewn i’r ceir a oedd yn teithio ar gyflymder uchel dros dir anodd. Datblygwyd camerâu arbennig ac atebion diwifr hefyd er mwyn darparu darllediadau arloesol o Wimbledon a Marathon Llundain.

BBC Technology

Mae BBC Technology yn darparu cynnyrch a gwasanaethau ar gyfer rheoli a dosbarthu cynnwys cyfryngau cyfoethog ar draws llwyfannau niferus gan gynnwys cyfryngau digidol, telathrebu, darlledu a theledu rhyngweithiol.

70

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Cynnyrch newydd BBC

Technology yn helpu darlledwyr i reolir cyfryngau

750

o filoedd o wisgoedd ar gael gan BBC Resources

81%

o raglennu ar BBC One ag is-deitlau

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Yn 2003 lansiodd y cwmni ei gyfres Colledia o gynnyrch sy’n galluogi darlledwyr, cwmnïau ffilm a sefydliadau cyfryngau eraill o bob maint i gynhyrchu cynnwys o ansawdd uchel yn fwy effeithlon. Mae’r darlledwr chwaraeon o’r UD, ESPN, wedi prynu Colledia.

Gwnaed penderfyniad y Llywodraethwyr i gymeradwyo’r cynnig i werthu’r cwmni yn dilyn arolwg strategol mewnol o ofynion technoleg y BBC ar gyfer y degawd nesaf a nododd arbedion blynyddol posibl o rhwng £20miliwn a £30miliwn drwy ddefnyddio gwasanaethau technoleg allanol. Bydd y prynwr yn cadw’r staff presennol o 1,400 o aelodau, ac yn darparu cymorth technegol i’r BBC, gan gynnwys cynnal gwefannau, gwasanaethau technoleg ddarlledu a chymorth pen desg am gyfnod contract o ddeng mlynedd. Disgwylir i’r contract newydd ddechrau yn 2004/2005.

Mae’r gwerthiant yn dal yn amodol ar gymeradwyaeth gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS).

Cyflawnodd BBC Technology refeniw gwerth £230miliwn, gan ddod â’r flwyddyn i ben mewn elw (elw cyn llog a threth £10miliwn) ond roedd yn ddefnyddiwr arian parod net yn ystod y flwyddyn (all-lif £11miliwn). Trosglwyddodd y busnes arbedion cronnol gwerth £25miliwn i’r BBC.

BBC Broadcast

Nod BBC Broadcast yw darparu popeth sydd ei angen ar ddarlledwyr i lansio, hyrwyddo, rheoli a darlledu cynnwys ar gyfer teledu, y rhyngrwyd a dyfeisiau symudol. Mae amrywiaeth y gwasanaethau yn cynnwys lansio sianelau newydd, darlledu a rheoli sianelau, brandio a hyrwyddo sianelau, ac is-deitlo, disgrifiadau sain ac arwyddeg a darparu dulliau eraill o gael mynediad i’r cyfryngau.

Y datblygiad mwyaf arwyddocaol i’r cwmni yn 2003/2004 oedd cwblhau ei bencadlys newydd yn Llundain, y Ganolfan Ddarlledu, sef rhan o Bentref y Cyfryngau newydd a ddatblygwyd gerllaw’r Ganolfan Deledu y bwriedir iddo ddod yn gartref i nifer o gwmnïau eraill yn y cyfryngau. Yn ystod 2004/2005 bydd pob sianel a llif rhyngweithiol a ddarlledir o’r Ganolfan Deledu yn symud i’r Ganolfan Ddarlledu fel rhan o un o’r gweithrediadau mwyaf o’i fath yn hanes darlledu. Bydd y pencadlys newydd yn cynyddu capasiti BBC Broadcast i wasanaethu sianelau newydd yn sylweddol.

Er gwaethaf y buddsoddiad yn y Ganolfan Ddarlledu, cyflawnodd BBC Broadcast refeniw gwerth £109miliwn, gan ddod â’r flwyddyn i ben mewn elw (elw cyn llog a threth £7miliwn) a chynhyrchodd £15miliwn mewn arian parod i’r BBC. Yn ogystal, cyflawnodd arbedion cronnol gwerth £2filiwn i’r BBC.

BBC Vecta

Lansiwyd BBC Vecta yn 2003 i fanteisio ar y syniadau arloesol technegol fasnachol a gynhyrchir gan dîm Ymchwil a Datblygu’r BBC. Mae BBC Vecta yn cydweithio â thimau Ymchwil a Datblygu yn y BBC, gan gynnwys labordai ymchwil Kingswood Warren, a chyda phartneriaid strategol eraill.

Cyflawnodd BBC Vecta refeniw gwerth £1filiwn, gan ddod â’r flwyddyn i ben gan wneud colled (colled cyn llog a threth £3miliwn) a gwariodd £4miliwn o arian parod.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 71

Pobl a thalent y BBC

Trosolwg

Parhaodd prif fusnes strategol Pobl y BBC (yr enw newydd ar gyfer Adnoddau Dynol a Chysylltiadau Mewnol) i ddatblygu a gweithredur broses newid diwylliant Making it Happen sydd wedii chynllunio i drawsnewid y BBC i greu sefydliad mwyaf creadigol y byd. Bu mentrau newydd ar waith i wella ansawdd arweinyddiaeth, cynllunio dilyniant, recriwtio a sefydlu.

Yn ogystal â hyfforddi ei staff ei hun, maer BBC yn gweithredu fel hyfforddwr ir diwydiant darlledu ehangach ac mae wedi parhau i ddatblygu ei gyrsiau ar-lein am ddim.

Rhan bwysig o rôl y BBC yw canfod a datblygu talent newydd, ar yr awyr ac oddi ar yr awyr. BBC Talent ywr prosiect allweddol yn y maes hwn.

Arweinyddiaeth

Ym mis Ebrill 2003, cymeradwyodd y Llywodraethwyr fenter arwyddocaol newydd sef ‘Making it Happen’, Rhaglen Arweinyddiaeth y BBC, sydd wedi’i chynllunio i wella ansawdd arweinyddiaeth a rheolaeth yn y BBC. Cyflwynwyd y fenter yn dilyn ymgynghoriad eang â’r staff yn 2002 a ddatgelodd bod y staff yn awyddus iawn i weld “gwell cydberthynas gyda’n rheolwyr ac…arweinyddiaeth gyson ar bob lefel o’r BBC”. Datblygwyd Rhaglen Arweinyddiaeth y BBC, sydd wedi’i lleoli yn Ashridge, o ganlyniad ac fe’i lansiwyd ym mis Medi 2003. Yn ystod y pum mlynedd nesaf, bydd bron i 7,000 o reolwyr, yn amrywio o arweinwyr timau bach i uwch reolwyr, yn cwblhau’r rhaglen. Mae’r Llywodraethwyr wedi gofyn i lwyddiant yr hyfforddiant gael ei fesur.

Cynllunio dilyniant

Ochr yn ochr â Rhaglen Arweinyddiaeth y BBC datblygwyd fframwaith cynllunio dilyniant i nodi a datblygu cronfa o dalent sy’n barod ar gyfer uwch rolau arwain ymhob rhan o’r BBC – ac i helpu i nodi bylchau yn y gronfa dalent er mwyn llywio chwiliadau allanol. Fel un o’r canlyniadau gwerthfawr a fydd yn deillio o’r fframwaith hwn, dylem weld rhai o’r unigolion mwyaf talentog a hyfforddedig yn symud rhwng isadrannau’r BBC. Fodd bynnag, yn draddodiadol, bu’n anodd symud a rhannu talent rhwng gwahanol rannau o’r BBC. Bydd y Llywodraethwyr yn ystyried unrhyw lwyddiant yn y maes hwn fel tystiolaeth amlwg o agwedd fwy cadarnhaol tuag at gydweithredu rhwng isadrannau.

72

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

Adborth

Mae’r BBC yn cynnal arolwg staff bob blwyddyn fel ffordd o nodi meysydd lle y mae angen gweithredu. Un maes o’r fath yw’r ffaith na roddir digon o adborth i staff. Nododd arolwg 2003 mai dim ond 40% o’r staff sy’n derbyn adborth rheolaidd ar eu perfformiad ac mai dim ond 35% o’r rheolwyr sy’n cynnal sgyrsiau rheolaidd gyda’u staff am eu datblygiad. Mae camau ar waith i wella perfformiad drwy broses adborth a datblygu newydd.

Recriwtio

Cyflwynir ymagwedd newydd tuag at recriwtio, gydag arddull hysbysebu, gwefan a llenyddiaeth newydd – a chynhaliwyd arbrofion defnyddiol wrth osod hysbysebion yn fwy eang yn y wasg.

Sefydlu

Eleni oedd blwyddyn lawn gyntaf y rhaglen sefydlu newydd, ‘Upfront’. Disgwylir i bob aelod newydd o staff cymwys fynychu’r rhaglen pedwar diwrnod hon, waeth beth yw eu swyddogaeth yn y BBC. Yn ystod chwarter olaf 2003, gwelwyd lefelau presenoldeb o 97% ar draws y BBC gyda’r rhan fwyaf o’r isadrannau yn cyflawni presenoldeb llawn. Mae pob un o Lywodraethwyr newydd y BBC yn mynychu sesiynau ‘Upfront’.

Jaye Jacobs o Holby City cafodd gyfle, diolch i BBC Talent

Staff newydd y BBC yn cael blas ar wneud rhaglenni

Hyfforddir diwydiant

Yn ogystal â hyfforddi ei staff ei hun, mae’r BBC yn parhau â’i rôl bwysig fel hyfforddwr i’r diwydiant darlledu ehangach. Mae adran Hyfforddi a Datblygu’r BBC bellach yn darparu modiwlau hyfforddi ar-lein am ddim i weithwyr llawrydd sy’n cwmpasu agweddau ar gynhyrchu teledu a radio, golygu a newyddiaduraeth. Dyma’r cam cyntaf o’r broses o lunio porth dysgu i’r diwydiant darlledu a fydd yn darparu amrywiaeth o gyrsiau ar-lein am ddim.

BBC Talent

Lansiwyd BBC Talent yn 2000 ac mae’n parhau yn ffordd bwysig i’r BBC ganfod a meithrin talent newydd ledled y DU. Daethpwyd o hyd i bron i 600 o bobl hyd yma. Ymhlith y cynlluniau newydd yn 2003/2004 roedd dod o hyd i DJs radio ar gyfer 1Xtra, awduron ar gyfer BBC Cymru, awduron comedïau sefyllfa ar gyfer BBC Three, cyflwynwyr clasurol arbenigol ar gyfer BBC Radio 3 a chantorion ifanc ar gyfer opera i blant gan BBC Two, Little Prince. Llwyddodd Little Prince i ddenu tua 25,000 o ymgeiswyr i’r clyweliadau ar draws y wlad a gwelwyd 6,000 o’r ymgeiswyr hyn.

Gwobrau

Yn 2003/2004, derbyniodd y BBC dros 250 o wobrau a oedd yn gysylltiedig â rhaglenni ar draws teledu, radio a’r cyfryngau newydd. Yn eu plith roedd 28 gwobr BAFTA, dwy wobr Golden Globe, 22 gwobr Sony a 54 gwobr y Gymdeithas Deledu Frenhinol.

Yn ogystal ag am wneud rhaglenni, mae’r BBC wedi ennill gwobrau am amrywiaeth o weithgareddau eraill fel dylunio eiddo, cynlluniau amgylcheddol a gwasanaethau da i gwsmeriaid.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

73

Bod yn atebol ac yn gyfrifol

Trosolwg

Maer Llywodraethwyr yn gyfrifol am sicrhau bod rheolwyr y BBC yn atebol ac, fel ymddiriedolwyr budd y cyhoedd, maent yn gweithio i ddeall anghenion a phryderon talwyr y drwydded er mwyn iddynt allu eu hystyried wrth holir rheolwyr ynghylch ansawdd gwasanaethaur BBC. Ymhlith gweithgareddau atebolrwydd y Llywodraethwyr yn 2003/2004, lansiwyd a hwyluswyd gwaith ymchwil annibynnol i gael gwybod barn talwyr y drwydded am agweddau ar wasanaethaur BBC (gweler tudalennau 14 a 21), parhawyd i weithio gyda chyrff ymgynghorol y BBC, ac adolygwyd prosesaur BBC ar gyfer ymdrin â chwynion.

Maer Llywodraethwyr hefyd yn cymryd cyfrifoldeb y BBC i fod yn ddinesydd corfforaethol da o ddifrif

dyma un or ffyrdd y maer BBC yn cyflawni gwerth cyhoeddus. Maer mentrau yn y maes hwn yn amrywio o godi arian i elusennau i gamau i leihau effaith negyddol y BBC ar yr amgylchedd. Maer BBC bellach yn cyflwyno ei hun ar gyfer prosesau dilysu allanol oi gynnydd yn y meysydd hyn a cheir adroddiad ar ganlyniadau eleni yn yr adran hon.

74

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Ymgynghoriad cyhoeddus ar ddyfodol y BBC

Bu’r BBC wrthi yn ymgynghori â’r cyhoedd a llunwyr barn ar ei ddyfodol yng nghyd-destun proses yr Arolwg o’r Siarter a lansiwyd gan yr Adran Diwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon (DCMS) ym mis Rhagfyr 2003.

Nododd y DCMS wyth cwestiwn allweddol am rôl a strwythur y BBC. Yn eu plith roedd: “Beth rydych yn ei werthfawrogi am y BBC?”, “Sut y dylem dalu am y BBC?” a “Sut dylai’r BBC gael ei lywodraethu a’i reoleiddio?” Anogodd y DCMS ymatebion drwy daflenni, gwefannau a chyfarfodydd cyhoeddus.

Hyrwyddodd y BBC yr ymgynghoriad hwn a chomisiynodd ei waith ymchwil i’r gynulleidfa ei hun gan ddefnyddio grwpiau ffocws ac arolygon. Cynhaliodd y BBC hefyd waith ymchwil ymhlith defnyddwyr gwasanaethau’r BBC ar y rhyngrwyd a radio lleol. Denodd holiadur a osodwyd ar hafan bbc.co.uk 3,200 o ymatebion. Cynhaliwyd cyfres o 32 o raglenni ffonio i mewn ar radio lleol ledled y wlad.

Ym mis Chwefror 2004, noddodd y BBC seminar Fforwm Cyfryngau San Steffan ar ddyfodol y BBC, a fynychwyd gan gynrychiolwyr o’r diwydiant darlledu, rheoleiddwyr a gwneuthurwyr polisi. Ym mis Mawrth 2004 cynhaliwyd dadl am ddyfodol y BBC ar rifyn o Panorama.

Trosglwyddwyd canfyddiadau’r holl ymarferion ymgynghori hyn a gynhaliwyd gan y BBC i’r DCMS i helpu i lywio eu trafodaethau. Nodir rhai o’r canfyddiadau isod.

O ran yr hyn yr oedd pobl yn ei werthfawrogi am y BBC, roedd y safbwyntiau a fynegwyd yn gadarnhaol ar y cyfan. Yn arbennig, roedd pobl yn gwerthfawrogi ansawdd rhaglennu’r BBC – gydag ‘ansawdd’ yn cael ei ddiffinio fel pennu safonau uchel a

£9.67

cost ffi’r drwydded fesul mis yn 2003/2004

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

 

Rhifyn arbennig o Panorama: ‘Whats the point of the BBC?

Un o Lywodraethwyr y BBC, Ranjit Sondhi, yn gwrando ar gynulleidfaoedd yn Birmingham

chynrychioli gallu amlwg i fod yn ddiduedd ac annibyniaeth mewn adroddiadau newyddion. Y genres a ganmolwyd amlaf oedd newyddion a materion cyfoes, a rhaglennu ffeithiol eraill fel rhaglenni dogfen a rhaglennu hanes naturiol. Soniodd sawl un am adloniant hefyd, er y beirniadwyd rhai enghreifftiau am eu bod yn rhy boblyddol.

Roedd llawer o bobl o’r farn mai’r BBC oedd yn cyflwyno chwaraeon yn y ffordd orau ac heb hysbysebion yn torri ar draws – ond roedd siom bod y BBC wedi colli rhai o’r prif ddigwyddiadau o’r byd chwaraeon ar y teledu. Teimlwyd bod diffyg comedi ar y teledu, wedi’i waethygu gan nifer yr ailddarllediadau o gyfresi hyn – er y gallai pobl, o gael proc i’r cof, feddwl am gomedïau newydd gan y BBC a oedd yn dda, yn gyfoes ac yn berthnasol.

O ran sut y dylid ariannu’r BBC, credai’r mwyafrif fod ffi’r drwydded yn ffordd bwysig a derbyniol o ariannu’r sefydliad a oedd yn cynnig gwerth am arian – ond roedd grwp a nododd yn gryf nad oeddent o blaid ffi’r drwydded a oedd, yn eu barn hwy, yn dreth orfodol.

O ran sut y dylid rheoleiddio’r BBC, prin oedd ymwybyddiaeth y cyhoedd o strwythur presennol y BBC. Yn y trafodaethau gyda chynrychiolwyr y diwydiant, y prif bryder oedd yr anawsterau canfyddedig mewn perthynas â rôl y Llywodraethwyr. Ystyriwyd bod eu tasgau wedi’u rhannu mewn ffordd a oedd yn ei gwneud yn anos iddynt weithredu’n effeithlon.

Cyrff ymgynghorol, Cynghorau Darlledu a Fforwm Cenedlaethol Lloegr y BBC

Mae’r BBC yn dibynnu ar rwydwaith o fwy na 500 o dalwyr y drwydded ledled y DU i gael cyngor ar raglenni a gwasanaethau. Mae Cynghorau Darlledu Cymru, yr Alban a

Gogledd Iwerddon yn cynrychioli buddiannau pobl yn y gwledydd. Yn Lloegr, mae’r Cynghorau Ymgynghorol Rhanbarthol yn cynghori’r Llywodraethwyr drwy Fforwm Cenedlaethol Lloegr (ENF) ac fe’u cynghorir hwy, yn eu tro, gan rwydwaith o Gynghorau Ymgynghorol Lleol.

Tasg bwysicaf y Cynghorau yw cynghori’r Llywodraethwyr ar amcanion rhaglenni a gwasanaethau ar gyfer Gwledydd a Rhanbarthau’r BBC a monitro, drwy broses adolygu reolaidd, i ba raddau y mae’r BBC yn eu cyflawni. Ar y cyfan, teimlwyd bod cynnydd sylweddol wedi’i wneud yn erbyn amcanion y flwyddyn. Fodd bynnag, roedd nifer o faterion allweddol a oedd yn peri pryder.

Nododd Cyngor Darlledu’r Alban fod yr arolwg o newyddiaduraeth newyddion BBC Scotland wedi codi dau fater allweddol: roedd cynulleidfaoedd yn awyddus i weld gwasanaethau newyddion mwy lleol ac roedd angen archwilio ffyrdd newydd o gynnwys cynulleidfaoedd mewn materion gwleidyddol. Fodd bynnag, er bod lleiafrif sylweddol am gael rhaglen newyddion min nos integredig ar gyfer yr Alban (y ‘Scottish Six’) nid oedd digon o gefnogaeth i newid yr amserlen bresennol. Roedd colli hawliau teledu gemau pêl-droed Uwch Gynghrair yr Alban yn destun pryder gan fod darllediadau pêl-droed yn helpu i gynyddu cymeradwyaeth ymhlith y gwylwyr. Dylai BBC Scotland fanteisio ar ddarlledu gemau nad ydynt yn gemau’r Uwch Gynghrair gan geisio darparu rhaglennu sy’n apelio at yr un grwp demograffig. Cododd y Cyngor bryder hefyd am y ffordd yr oedd yr Alban a phobl yr Alban yn cael eu portreadu o fewn rhaglennu’r rhwydwaith.

Roedd portreadu yn peri pryder i bob Cyngor. Teimlwyd bod comisiynau’r rhwydwaith yn dal yn canolbwyntio’n ormodol ar Lundain, gan arwain at raglenni

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 75

Bod yn atebol ac yn gyfrifol

Partneriaethau cymunedol

All Together Now

Mae All Together Now yn brosiect cyfryngau cymunedol wedii leoli yn Leeds. Maen addysgu pobl yn un o ardaloedd mwyaf amrywiol a chymdeithasol-ddifreintiedig Prydain sut i wneud cynyrchiadau radio, fideo a thudalennau ar-lein. Maen meithrin eu sgiliau, ond hefyd yn magu eu hyder drwy roi cyfle iddynt hwy benderfynu beth syn bwysig a chyflwynor pethau y maent hwy am eu dathlu.

Caiff eu gwaith ei ddarlledu ar BBC Radio Leeds, Look North, ac ar wefan Lleol i Mi Leeds, gan gyflwyno straeon personol y byddai newyddiadurwyr yn ei chael yn anodd cael gafael arnynt drwy ddulliau traddodiadol. Maer prosiect yn galluogi cyfranwyr i ddod o hyd i lais y tu hwnt iw cymunedau eu hunain - ac maen helpu i feithrin ymddiriedaeth rhwng pobl leol ar BBC.

Maer prosiect yn bartneriaeth rhwng y BBC, yr adran Addysg yn Leeds, Cyngor Dinas Leeds a Chyngor Celfyddydau Lloegr, Swydd Efrog. Ers mis Mawrth 2003 bu mwy na 100 o oedolion yn cynhyrchu deunydd ar gyfer All Together Now. Mae ysgolion lleol, gan gynnwys rhieni, yn cymryd rhan hefyd. Yn y tymor hwy, y gobaith yw creu canolfan cyfryngau mewn academi newydd a fydd yn gweithredu fel canolfan ragoriaeth lle y gellir datblygur cysyniad mewn rhannau eraill or wlad.

nad ydynt yn adlewyrchu amrywiaeth bywyd yn y gwledydd ac yn rhanbarthau Lloegr yn llawn. Nododd Cyngor Darlledu Gogledd Iwerddon, yn arbennig, ostyngiad sylweddol o ran comisiynau rhwydwaith a mynegodd bryder am hynny.

Teimlai Cyngor Darlledu Gogledd

Iwerddon hefyd y byddai’r galw cynyddol am ddarllediadau iaith cynyddol ar gyfer Albanwyr Gwyddeleg ac Albanwyr Ulster yn fater allweddol i’r BBC yng Ngogledd Iwerddon yn ystod y flwyddyn nesaf. Amlygodd y Cyngor hefyd mai nifer isel o bobl sy’n gallu derbyn Darlledu Sain Digidol, ar gyfer y radio, a Freeview, ar gyfer y teledu. O ganlyniad, mae’r Llywodraethwyr wedi gofyn i’r rheolwyr ymchwilio i oblygiadau cynyddu derbyniad gwasanaethau digidol yng Ngogledd Iwerddon.

Nododd Cyngor Darlledu Cymru lwyddiant dwy strategaeth barhaus. O ganlyniad i’r strategaeth i gael llai o frandiau ond brandiau cryfach, atgyfnerthwyd rhaglenni a gwasanaethau. Bu’r strategaeth gymunedol yn ffordd lwyddiannus iawn o gydweithio’n agos â chynulleidfaoedd ledled Cymru gan arwain at ymdeimlad gwirioneddol o berchenogaeth a chyfranogiad i dalwyr y drwydded. Fodd bynnag, roedd pryderon am y ffaith bod rhai hawliau chwaraeon wedi’u colli.

Nododd yr ENF, yn ogystal â mynegi pryderon am lefel y cynyrchiadau rhwydwaith a oedd wedi’u lleoli o gwmpas rhanbarthau Lloegr, fod galw am fwy o ddarllediadau teledu rhanbarthol heblaw newyddion. Byddai hyn yn galluogi’r BBC i ddenu cynulleidfa leol a rhanbarthol ehangach na’r gynulleidfa bresennol ac i sicrhau bod bywyd yn rhanbarthau Lloegr yn cael ei gynrychioli’n briodol. Awgrymodd yr ENF hefyd y gallai gwneuthurwyr a chomisiynwyr rhaglenni rhwydwaith wneud gwell defnydd o’r

fframwaith atebolrwydd presennol yn rhanbarthau Lloegr. O ganlyniad, mae’r Llywodraethwyr wedi gofyn i’r rheolwyr godi ymwybyddiaeth ymhlith comisiynwyr a rheolwyr o rôl y Cynghorau Darlledu a’r ENF.

Roedd yr ENF yn falch o nodi bod y pryderon a godwyd ganddynt y llynedd ynghylch darllediadau llywodraeth leol wedi arwain at arolwg llawn gan y BBC. Ym mis Mawrth 2004, cyflwynwyd y canlyniadau i’r Llywodraethwyr a gymeradwyodd raglen o well hyfforddiant i newyddiadurwyr y BBC sy’n darlledu ym maes llywodraeth leol, yn ogystal â chamau i atgyfnerthu cysylltiadau â chynghorau lleol. Cymeradwyodd y Llywodraethwyr hefyd astudiaeth ddilynol i archwilio a gwella sut y caiff cyrff nas etholwyd neu gwangos lleol eu cynnwys.

Cyhoeddir safbwyntiau’r Cynghorau Darlledu a’r ENF yn fanylach o fewn Arolygon Blynyddol BBC Cymru, BBC Scotland, BBC Northern Ireland a Rhanbarthau Lloegr y BBC. Maent ar gael yn bbc.co.uk/annualreport.

Y Pwyllgor Ymgynghorol Canolog ar Grefydd

Mae’r Pwyllgor Ymgynghorol Canolog ar Grefydd yn cynghori’r BBC ar bolisi darlledu a rhaglenni crefyddol.

Eleni canmolodd y Pwyllgor y radio am amrywiaeth, ansawdd a bywiogrwydd ei raglennu crefyddol. Cymeradwywyd Beyond Belief ar BBC Radio 4 yn arbennig am ddeallusrwydd ei hymagwedd a’i hymrwymiad i amrywiaeth, nid yn unig rhwng credoau, ond o’u mewn. Nododd y Pwyllgor hefyd ei fod yn gwerthfawrogi amrywiaeth y rhaglennu crefyddol o ansawdd uchel ar BBC Radio 2 a BBC World Service.

76

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

O ran y teledu, roedd y darlun yn fwy cymysg. Canfu’r Pwyllgor lawer o raglennu da gyda chanmoliaeth i raglenni dogfen arsylwadol fel When the God Squad Came to Town, am y ffordd y cyflwynwyd themâu a phynciau crefyddol mewn ffordd hygyrch a diddorol. Fodd bynnag, roedd pryder am yr hyn a ystyriwyd gan y Pwyllgor fel diffyg dealltwriaeth o ffydd grefyddol ar ran rhai gwneuthurwyr rhaglenni. Roedd barn gyffredinol, er enghraifft, bod Noah’s Ark wedi datblygu yn unol â’r dybiaeth anghywir bod y rhan fwyaf o Gristnogion yn credu’n llythrennol yn y stori am y llifogydd a bod tybiaethau amhriodol o’r fath i’w gweld yn rhy aml.

Cododd y Pwyllgor bryderon eraill hefyd, gan gynnwys amserlennu hwyr ac amrywiol rhaglennu crefyddol ar y teledu, ac nid yw’n argyhoeddedig eto bod y cydbwysedd priodol wedi’i daro rhwng yr ymrwymiad i gyfresi rheolaidd, parhaus a rhaglenni dogfen unigol. Bydd y Pwyllgor yn ystyried y cwestiynau hyn yn ystod y flwyddyn nesaf tra’n adolygu hefyd ei rôl a’i weithrediadau ei hun gyda’r bwriad o chwarae rhan fwy rhagweithiol a chynhaliol wrth ymwneud â gwneuthurwyr rhaglenni.

Fel yr amlinellwyd yn yr arolwg o BBC One (tudalennau 25 i 26) bydd y Llywodraethwyr yn gwneud gwaith yn ystod y flwyddyn nesaf i asesu effeithiolrwydd y strategaeth grefyddol a gymeradwywyd ganddynt yn 2002.

Grwp Ymgynghorol BBC World Service a Global News

Mae Grwp Ymgynghorol BBC World Service a Global News y Llywodraethwyr yn rhoi asesiad allanol annibynnol i’r Llywodraethwyr o amrywiaeth ac ansawdd darllediadau BBC World Service.

Y prosiect yn Leeds syn addysgu sgiliaur cyfryngau i bobl leol

BBC World Service

Jihan El Alayly yn ymchwilio i bryderon teuluoedd yn Irac

Safonau golygyddol yng nghyd-destun rhyfel Irac

Yn 2003/2004 penderfynodd y Grwp asesu ansawdd ac integredd parhaus rheolaeth a phrosesau golygyddol BBC World Service, ar adeg lle ceir digwyddiadau eithriadol yn y byd sy’n hollti barn yn y DU ac yn rhyngwladol. Roedd y Grwp hefyd am asesu dibynadwyedd, cydbwysedd, gwrthrychedd a natur ddiduedd rhaglenni’r BBC yn ystod adeg o ryfela, yn cynnwys cymariaethau â chystadleuwyr.

Ar ôl ystyried amrywiaeth o ffynonellau a thystiolaeth, mae’n hyderus bod y broses olygyddol yn World Service a Global News yn gadarn, ac y caiff y cynnwys ei archwilio yn gyson.

Ar ôl gwrando ar ddetholiad o raglenni ar y rhwydweithiau radio Saesneg ac Arabeg a gwylio sianel deledu BBC World yn ystod 2003, daw i’r casgliad bod darllediadau’r BBC, mewn perthynas â rhyfel Irac a materion yn y Dwyrain Canol, yn ddiduedd.

Roedd y Grwp yn falch o nodi bod asesiad annibynnol gan arbenigwyr, y Sefydliad Brenhinol dros Faterion Rhyngwladol (Chatham House), yn cefnogi’r farn bod darllediadau’r BBC i’r Dwyrain Canol yn gywir, yn gytbwys ac yn wrthrychol. Roedd hefyd yn falch o nodi canlyniadau cadarnhaol gan astudiaeth grwp ffocws a gomisiynwyd yn arbennig a gynhaliwyd yn y Dwyrain Canol, sy’n nodi bod gan y byd Arabaidd feddwl uchel o ddarllediadau’r BBC o ran ymddiriedaeth, dibynadwyedd, gwrthrychedd a’u natur ddiduedd.

Arolwg o ddarllediadau gwasanaethau iaith

Hefyd adolygodd y Grwp Ymgynghorol ddarllediadau yn Saesneg, Arabeg, Rwsieg, Wcreineg, Tsieceg a Serbeg.

Mae’n fodlon i holl ddarllediadau BBC World Service a adolygwyd eleni ddenu sgoriau uchel gan aseswyr annibynnol am awdurdod a chywirdeb. Er bod lle i wella rhai agweddau, fel arddull a chlywadwyedd, mae’r darlun cyffredinol yn galonogol o gadarnhaol.

Ymateb i gwynion

Pwyllgor Cwynion am Raglenni’r

Llywodraethwyr (GPCC) sy’n gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn ymdrin â chwynion yn briodol.

Ym mis Mehefin 2003, cytunodd y Pwyllgor â’r rheolwyr ar gylch gorchwyl ar gyfer archwiliad allanol o brosesau ymdrin â chwynion y BBC gan y Swyddfa dros Reolaeth Gyhoeddus. Cyflwynwyd adroddiad ar y canlyniadau i’r Pwyllgor ym mis Medi a phan benodwyd Mark Byford yn Ddirprwy Gyfarwyddwr Cyffredinol ym mis Rhagfyr gofynnwyd iddo ddatblygu’r gwaith hwn. Derbyniwyd cynigion ar gyfer newid gan y Llywodraethwyr ym mis Mehefin 2004 ac maent yn cael eu gweithredu ar hyn o bryd. Fe’u cynlluniwyd i sicrhau bod y system yn hygyrch, yn glir, yn gyflym, yn deg ac yn annibynnol. Byddwn yn cyflwyno adroddiad ar y canlyniadau y flwyddyn nesaf.

Yn yr Adroddiad Blynyddol hwn rydym yn cyflwyno adroddiad ar y system sy’n bodoli yn 2003/2004. Yn ystod y cyfnod hwn, roedd BBC Gwybodaeth yn gyfrwng allweddol ar gyfer pobl sy’n dymuno gwneud cwyn. Mae’r gwasanaeth yn gweithredu 24 awr y dydd a gellir cysylltu â’r gwasanaeth dros y ffôn, drwy anfon neges ebost neu lythyr. Yn 2003/2004 derbyniodd tua 2.5 miliwn o gysylltiadau ac roedd 8% o’r rhain yn gwynion. Galluogodd cofnod dyddiol, a gyhoeddwyd ar safle mewnrwyd y BBC, i wneuthurwyr rhaglenni gael gwybod beth oedd y gynulleidfa’n ei

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 77

Bod yn atebol ac yn gyfrifol

Partneriaethau cymunedol

The Community Channel

Mae The Community Channel yn orsaf deledu ddigidol nad ywn gwneud elw syn eiddo ir Media Trust, sef elusen syn helpu pob elusen i gyfathrebun well. Maer BBC wedi datblygu cydberthynas strategol gyda The Community Channel.

Maer BBC yn darparu cymorth mewn sawl ffordd. Un ffordd yw darparu deunydd archif am ddim er enghraifft, maer sianel wedi ailddarlledu rhaglenni a wnaed gan Ymddiriedolaeth BBC World Service am HIV/Aids ac am y gwahanglwyf.

Cynhaliwyd nifer o fentrau hyfforddi. Gwnaeth adran Hyfforddi a Datblygur BBC, mewn partneriaeth â The Community Channel a Phrifysgol Westminster, raglen ddogfen am Wobrau Charity Times. Mae cynllun yn cael ei ddatblygu i alluogi hyfforddeion y BBC i helpu prosiectau cymunedol er enghraifft, drwy helpu elusennau i greu cynnwys ar gyfer The Community Channel.

Maer BBC yn rhoi mynediad i The Community Channel i dair awr y dydd oi wasanaeth amlneges ar Freeview er mwyn sicrhau y gellir gweld y sianel mewn cartrefi sydd

â  theledu daearol digidol.

Mae BBC Broadcast, sydd â chytundeb masnachol i ddarlledur sianel, wrthin datblygu mentrau cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol gan gynnwys cymorth is-deitlo a chynhyrchu hyrwyddiadau ar yr awyr.

ddweud am eu gwaith. Dosbarthwyd crynhoad o’r wybodaeth i’r rheolwyr a’r Llywodraethwyr hefyd.

Lle roedd pobl yn credu bod y ‘BBC

Producers’ Guidelines’ wedi’u torri’n ddifrifol, gallent gyflwyno eu hachos i’r Uned Cwynion am Raglenni (PCU). Byddai’r Uned yn ymchwilio i gwynion yn ddiduedd gan argymell camau cywiro priodol.

Yn 2003/2004, ymdriniodd yr Uned â 1,640 o gwynion (1,596 yn 2002/2003) mewn perthynas â 875 o eitemau. O’u plith, cadarnhawyd 389 o gwynion unigol yn llwyr neu’n rhannol mewn perthynas â 102 o eitemau – 11.6% o gyfanswm nifer yr eitemau yr ymchwiliwyd iddynt. Cyhoeddwyd canfyddiadau a gadarnhawyd yn chwarterol, ynghyd â nodyn o’r camau gweithredu a gymerwyd ymhob achos.

Yn 2003/2004 cafwyd dirywiad difrifol yn yr amser ymateb ar gyfer ymdrin â chwynion gan yr Uned. Dim ond 35.5% o’r cwynion a atebwyd o fewn yr amserau targed (20 diwrnod, neu 35 diwrnod ar gyfer achosion mwy cymhleth) o’i gymharu â 49.5% yn 2002/2003. Mae’r dirywiad hwn yn adlewyrchu effaith barhaus y cyfleuster cwyno dros yr ebost – a gyflwynwyd yn 2002 gan ddyblu nifer y cwynion.

Cynhaliodd y Pwyllgor Cwynion am Raglenni ei drydydd arolwg blynyddol o brosesau ymdrin â chwynion y BBC ym mis Ebrill 2004, gan asesu gweithrediadau BBC Gwybodaeth a’r Uned Cwynion am Raglenni yn erbyn meini prawf arfer gorau. Daeth i’r casgliad bod BBC Gwybodaeth yn darparu gwasanaeth ardderchog i gynulleidfaoedd. Nododd y Pwyllgor bod gan yr Uned ran allweddol i’w chwarae wrth ymchwilio i gwynion difrifol,

ond bod angen gweithredu ar frys i wella ei hamserau ymateb.

Ystyriodd y Pwyllgor hefyd apeliadau gan bobl a oedd wedi gwneud cwyn olygyddol ddifrifol i reolwyr y BBC ac nad oeddent yn fodlon ar yr ymateb.

Ystyriodd y Pwyllgor 27 o apeliadau eleni, a chadarnhaodd 11 ohonynt yn llwyr neu’n rhannol. Derbyniodd adroddiadau ar gwynion bob chwarter gan y rheolwyr, a pharhaodd â’i waith o oruchwylio ymagwedd strategol y BBC tuag at ymdrin â chwynion.

Bu’r Uned Cwynion am Raglenni hefyd yn cydgysylltu ag Ofcom (a chyda’r Comisiwn Safonau Darlledu (BSC) cyn hynny) ar gwynion am raglenni’r BBC. Yn ystod y flwyddyn hyd at 31 Mawrth 2004, cadarnhaodd y BSC/Ofcom 12 o gwynion am driniaeth annheg neu ymyrraeth ddiangen i breifatrwydd, yn llwyr neu’n rhannol.

Yn ystod yr un cyfnod, cadarnhaodd y BSC/Ofcom gwynion o ran safonau am 25 o eitemau darlledu yn rhannol neu’n llwyr. Cydymffurfiodd y BBC â’r holl gyfarwyddiadau statudol a roddwyd gan y BSC/Ofcom.

Cyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol

Nod y BBC yw cyflawni gwerth cyhoeddus yn bennaf drwy ei raglenni a’i wasanaethau. Ond mae’r BBC hefyd yn ehangu ei werth cyhoeddus drwy weithgareddau sy’n ymestyn allan yn uniongyrchol i gymdeithas drwy ymrwymiad i gyfrifoldeb cymdeithasol corfforaethol (CSR).

I’r BBC, ystyr CSR yw gweithredu er budd y cyhoedd i atgyfnerthu a chyfoethogi cymunedau ledled y DU a thrwy gamau gweithredu elusennol rhyngwladol. Mae’n golygu ymddwyn gydag integredd a chysondeb moesegol tuag at ei staff, ei

78

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

2.5

miliwn o bobl yn cysylltu â BBC Gwybodaeth y llynedd

£30m

wedii godi gan Apêl Plant mewn Angen

Ceir rhagor o ffeithiau a ffigurau darlledu ar dudalennau 58 i 67 a 136 i 146

Gweithdy cyfryngau newydd, prosiect mentora cymunedol yn Llundain

Cododd apêl 2003 Blue Peter arian ar gyfer Mencap

gynulleidfaoedd a’i gyflenwyr, a thuag at y cymunedau y mae’r BBC yn gweithredu o’u mewn, er mwyn cadw eu ffydd yn y BBC fel sefydliad creadigol yr ymddiriedir ynddo.

Mae Busnes yn y Gymuned, y sefydliad sy’n gweithio i wella effaith gadarnhaol busnesau o fewn y gymdeithas, yn cyhoeddi mynegai CSR bob blwyddyn. Yn 2004, sgôr y BBC oedd 87% (71% yn 2003) gan ei roi yn rhif 42 yn y 100 cwmni gorau yn y DU ar gyfer CSR. Mae disgwyliadau’r cyhoedd o’r BBC yn briodol o uchel yn y maes hwn ac yn 2003, sefydlodd y BBC ganolfan CSR benodedig i dywys a chydlynu gweithgareddau. Yn ddiweddarach eleni, bydd yn cyhoeddi adroddiad CSR llawn cyntaf y BBC.

Bydd yr adroddiad hwnnw yn rhoi darlun cynhwysfawr. Mae’r themâu a nodwyd hyd yn hyn o weithgareddau CSR y BBC yn 2003/2004 fel a ganlyn.

Apeliadau elusennol y BBC

Mae apeliadau darlledu’r BBC yn wasanaeth cyhoeddus pwysig sy’n galluogi amrywiaeth eang o elusennau i godi arian – ac ymwybyddiaeth o’u gwaith. Mae’r BBC yn olrhain agweddau’r cyhoedd tuag at apeliadau codi arian mawr a noda 86% o’r ymatebwyr fod apeliadau darlledu yn ffordd dda o godi arian a mynegodd 76% lefelau uchel o ymddiriedaeth yn y BBC i sicrhau y caiff yr arian a godir ei wario’n ddoeth.

Caiff Llywodraethwyr y BBC eu hysbysu am apeliadau darlledu gan y Pwyllgor Ymgynghorol ar Apeliadau (AAC), 12 o ymgynghorwyr allanol arbenigol sy’n cynrychioli amrywiaeth eang o fuddiannau yn y maes elusennol. Penodwyd Stuart Etherington (Cadeirydd Cyngor Cenedlaethol y Sefydliadau Gwirfoddol) yn Gadeirydd ym mis Gorffennaf 2003.

Mae’r AAC yn rhoi cyngor ar bolisi apeliadau’r BBC ac mae wedi cynnal arolwg strategol o apeliadau darlledu a chyflwynir adroddiad cysylltiedig i’r Llywodraethwyr yn yr hydref. Mae’r AAC hefyd yn cynorthwyo’r Llywodraethwyr wrth iddynt oruchwylio prosiectau codi arian mawr fel Apêl Plant mewn Angen y BBC, ac ar ddyrannu apeliadau Lifeline BBC Radio 4 a BBC One. Y llynedd cododd yr apêl wythnosol ar BBC Radio 4 fwy na £970,000 a chododd y Lifeline misol ar BBC One fwy na £204,000.

Ym mis Tachwedd 2003 cododd Apêl Plant mewn Angen y BBC fwy na £15miliwn ar y noson – a mwy na £30miliwn i gyd. Dyma’r swm uchaf a godwyd erioed, a chaiff ei ddosbarthu mewn grantiau i helpu plant ledled y DU. Yn ystod yr un mis, lansiodd Blue Peter ei hapêl ‘Get Together’ gyda Mencap, ac mae wedi codi £530,000 hyd yn hyn.

Bwrsariau BBC Fame Academy

Cododd y sioe dalent Fame Academy £2.7miliwn drwy bleidleisiau ffôn a gwerthiannau record. Defnyddiwyd yr arian i sefydlu bwrsariau Fame Academy y BBC i gefnogi talent gerddorol ifanc. Dyfarnwyd grantiau o £37,500 yr un i bum cerddor ifanc i helpu tuag at eu haddysg gerddorol a dyfarnwyd cannoedd o grantiau i blant ysgol i’w helpu i brynu offerynnau neu offer cerddorol.

Ymddiriedolaeth BBC World Service

Nod Ymddiriedolaeth BBC World Service, elusen ddatblygu ryngwladol y BBC, yw hyrwyddo datblygiad drwy ddefnydd arloesol o’r cyfryngau yn y byd datblygol. Mae’n elusen gofrestredig, na thelir amdani gan y BBC, ac mae’n codi arian gan lywodraethau, asiantaethau rhyngwladol a sefydliadau partner eraill. Yn 2003/2004 cododd y swm uchaf erioed, sef £10.2miliwn.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 79

Bod yn atebol ac yn gyfrifol

Partneriaethau cymunedol

Media on the Park

Partneriaeth rhwng BBC South a chymuned Leigh Park ger Havant yn Hampshire yw Media on the Park. Maer ardal yn ddifreintiedig iawn ac nid oes gan y gymuned lawer o hyder yn y cyfryngau.

Ysgol leol yw Park Community School a oedd yn methu yn academaidd tan yn ddiweddar. Dyfarnwyd Statws Celfyddydol swyddogol ir ysgol yn 2003, a defnyddiodd ran or arian yn deillio o hyn i gynllunio Ystafell y Cyfryngau Darlledu iw defnyddio gan ysgolion yn yr ardal ar gymuned ehangach.

Cysylltodd yr ysgol â BBC South i gael cyngor technegol. Ymatebodd BBC South gan ddarparu llawer mwy na hynny. Trefnwyd i BBC Technology ddarparu offer ir ystafell am gost wirioneddol yr offer; anfonwyd dau gynhyrchydd radio i weithio yn yr ysgol a chynigiwyd cymorth ac amser ar yr awyr ir prosiect.

Maer manteision ir plant yn amrywio o well sgiliau llafar a llythrennedd i gymhelliant a hyder cynyddol. A cheir manteision ir BBC hefyd. Maer staff wedi dod i adnabod y garfan hon ou cynulleidfa yn well - a heriodd weithiau eu syniadau or hyn syn gwneud newyddion perthnasol. Ac maer canfyddiad or BBC yn newid yn araf hefyd - yn raddol caiff ei ystyried yn fwy hygyrch ac ymddiriedir ynddo fwy.

Mae prosiectau’r Ymddiriedolaeth yn cynnwys cynyddu capasiti cyfryngau lleol a chenedlaethol, darparu hyfforddiant yn sgiliau’r cyfryngau, a datblygu ymgyrchoedd iechyd ac addysg o fewn sawl un o wledydd tlotaf y byd.

Bellach mae gan yr Ymddiriedolaeth 400 o aelodau o staff sy’n gweithio ar brosiectau mewn 23 o wledydd mewn partneriaeth â sefydliadau anllywodraethol, darlledwyr a llywodraethau.

Cysylltu â Chymunedau

Lansiwyd Cysylltu â Chymunedau ym mis Hydref 2003 i hyrwyddo a chydlynu cyfleoedd gwirfoddoli i staff y BBC. Mae’r BBC wedi llunio partneriaethau â 30 o sefydliadau elusennol cenedlaethol sy’n cynnig mwy na 200 o fathau o brofiadau gwirfoddoli ar draws amrywiaeth o sectorau gan gynnwys addysg, y celfyddydau, anabledd ac amrywiaeth. Yn ystod y chwe mis cyntaf cofrestrodd mwy na 400 o aelodau o staff eu diddordeb.

Rhoi or gyflogres yn y BBC

Mae rhoi o’r gyflogres yn galluogi cyflogeion i wneud rhoddion elusennol yn syth o’u cyflog. Yn ystod 2003/2004 lansiwyd menter i gynyddu nifer y staff a oedd yn gwneud hynny ac o ganlyniad, bu i nifer y staff sy’n rhoi o’r gyflogres fwy na dyblu i 9%. Maent yn cyfrannu cyfanswm o fwy na £500,000 y flwyddyn, sy’n golygu bod y BBC ymhlith y 25 cwmni uchaf o ran rhoi o’r gyflogres.

Partneriaethau cymunedol

Mae’r BBC yn gweithredu nifer o bartneriaethau cymunedol, gan chwilio am gyfleoedd i ymuno â sefydliadau lleol eraill i wella amodau yn y cymunedau y maent yn gweithredu o’u mewn. Nodir tair astudiaeth achos yn y blychau yn yr adran hon.

Canolfannau Agored a bysys y BBC

Lansiwyd Canolfan Agored gyntaf y BBC yn 2001 yn Blackburn i atgyfnerthu ac ehangu cysylltedd BBC Radio Lancashire â’i gynulleidfa leol drwy gynnig cyfleoedd i ddysgu am y cyfryngau, meithrin sgiliau TG a chymryd rhan mewn darllediadau cymunedol. Roedd y prosiect yn llwyddiannus iawn a cheir canolfannau tebyg bellach yn Stoke, Sheffield a Lerpwl. Mae gan BBC Cymru hefyd bedair stiwdio gymunedol sy’n cyflawni swyddogaeth debyg.

Cynhaliwyd cynllun peilot gyda bws y BBC hefyd yn 2001 i fynd â’r orsaf radio leol allan ar y ffordd, i ddarlledu gwrandawyr ar yr awyr, ac eto i greu cyfleoedd ar gyfer hyfforddi yn y cyfryngau a TG. Bu’r cynllun yn llwyddiant a bellach mae bysys tebyg sy’n gweithredu yn Swydd Gaerhirfryn, Glannau Humber, Sheffield, Swydd Derby, Swydd Lincoln, Cleveland, Newcastle, Manceinion, Cumbria, Glannau Merswy, Dyfnaint a Chaerefrog. Lansiwyd bysys ar gyfer BBC Cymru a BBC Northern Ireland yn 2003.

Mae’r Canolfannau Agored a bysys y BBC yn gwbl ddibynnol ar bartneriaethau i ddarparu arbenigedd, arian ac adnoddau nad oes gan y BBC ar ei ben ei hun. Sefydlwyd y prosiectau gyda Chyngor Blackburn a Darwen fel prif bartner y Ganolfan Agored a Chyngor Swydd Gaerhirfryn fel y prif bartner ar brosiect y bws, ynghyd â nifer o sefydliadau celfyddydol, canolfannau gwaith a sefydliadau cyswllt busnes lleol fel partneriaid eilaidd. Dilynwyd y model hwn ymhob un o’r prosiectau dilynol.

Gellir mesur llwyddiant y fenter mewn sawl ffordd. Rhagorwyd ar y targed a bennwyd ar gyfer cofrestru ar gyfer hyfforddiant TG sylfaenol yng Nghanolfan Agored Blackburn ar gyfer y flwyddyn gyntaf – sef 600 o bobl –o fewn chwe mis. Mae’r ganolfan hefyd yn

80

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

 

denu cynulleidfa sy’n amlwg yn iau ac yn fwy amrywiol o ran ethnigrwydd na gwrandawyr cyffredin yr orsaf radio leol, gan gyflwyno cynulleidfaoedd newydd posibl i wefannau a thonfeddi’r BBC.

Y BBC ar amgylchedd

Mae’r BBC yn gweithredu i sicrhau ei fod yn cydymffurfio â deddfwriaeth amgylcheddol, ond mae ganddo gyfrifoldeb i wneud mwy na hyn – i leihau ei effeithiau amgylcheddol ac i reoli ei risgiau busnes. Cynhaliwyd arolwg cynhwysfawr o’r ddeddfwriaeth, gan ystyried deddfwriaeth newydd ym meysydd gwastraff ac ynni. Caiff systemau rheoli’r BBC eu hatgyfnerthu er mwyn sicrhau y caiff cyfrifoldebau priodol a risgiau eu nodi ac y caiff gweithdrefnau eu rhoi ar waith.

Bu polisi amgylcheddol corfforaethol ar waith gan y BBC ers 2001, wedi’i ategu gan system o fonitro perfformiad a thargedau ar gyfer gwastraff, allyriadau nwyon ty gwydr, ynni, trafnidiaeth ac adeiladau cynaliadwy.

Meincnodir perfformiad amgylcheddol yn erbyn prif gwmnïau’r DU a chwmnïau sy’n ymwneud â’r cyfryngau. Mae’r BBC wedi’i leoli’n 2il yn sector y cyfryngau ac adloniant o fewn y Mynegai Busnes yn yr Amgylchedd, ac yn rhif 77 yn gyffredinol o’i gymharu â 176 o brif gwmnïau’r FTSE350.

Yn ystod 2003 casglodd y BBC fwy na 520 o dunelli o bapur yn Llundain a’r Alban i’w ailgylchu.

Nod y BBC yw lleihau allyriadau nwyon ty gwydr fesul awr ddarlledu 8% rhwng 2002 a 2010. Cyflawnir y gostyngiad mewn nwyon

ty gwydr (a fesurir fel carbon deuocsid CO2)

drwy brynu trydan gwyrdd, gweithredu cynlluniau effeithlonrwydd ynni, newid i gerbydau allyriadau isel, a thrwy brosesau cynhyrchu pwer ar y safle gan ddefnyddio cynllun gwres a phwer cyfun.

Darparu hyfforddiant TG ar cyfryngau yn y gymuned

Pudsey ai ffrindiau yn Belfast

Mae cyfran y trydan ‘gwyrdd’ a ddefnyddir gan y BBC bellach wedi cyrraedd 88%. Daw’r trydan o ffynonellau adnewyddadwy fel gorsafoedd pwer hydrodrydanol, ffermydd gwynt a nwyon o safleoedd tirlenwi wedi’u lleoli yn y DU.

Mae gan y BBC amrywiaeth o gynlluniau i hyrwyddo teithio busnes sy’n ynni-effeithlon ac i helpu i leihau tagfeydd ar y ffyrdd a’r llygredd cysylltiedig. Mae’r BBC wedi pennu targedau gyda’i gyflenwyr yn Llundain i newid 40% o’r fflyd tacsis busnes i danwydd amgen/deuol fel LPG, disel LPG a thrydan.

Cyhoeddir data perfformiad ar allyriadau nwyon ty gwydr ac ailgylchu gwastraff yn yr adroddiad ar CSR yn yr hydref.

Mae cynaliadwyedd yn un o flaenoriaethau allweddol rhaglen y BBC o adeiladu ac adnewyddu. Dyfarnwyd gradd amgylcheddol ‘ardderchog’ i Bentref y Cyfryngau, sef datblygiad newydd sylweddol y BBC yn White City, Llundain, o dan Ddull Asesu Amgylcheddol y Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BREEAM). Mae’r dull hwn yn mesur yr effaith amgylcheddol sy’n gysylltiedig ag adeiladau, wedi’i hasesu yn erbyn meini prawf perfformiad fel effeithlonrwydd ynni, allyriadau trafnidiaeth ac effaith ecolegol.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 81

Cydymffurfiad

Mae gan Fwrdd y Llywodraethwyr gyfrifoldebau clir o dan Siarter y BBC i sicrhau bod y BBC yn ymddwyn yn gyfrifol ac yn dilyn pob rheoliad a chod ymarfer cymwys.

Rhaid iddynt fodloni eu hunain bod: y BBC yn cydymffurfio â phob ymrwymiad cyfreithiol gan y BBC strwythur rheoli priodol gan y BBC reolaethau synhwyrol i ddiogelu ei asedion y BBC yn glynu wrth ei ganllawiau a’i godau ymarfer ei hun

1 Masnachu teg

Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg y Llywodraethwyr

Yn ystod y flwyddyn, roedd y Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg yn cynnwys Llywodraethwyr canlynol y BBC yn unig: Y Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Ryder (Cadeirydd), Yr Athro Fabian Monds, Y Fonesig Ruth Deech a’r Farwnes Hogg (a ymddeolodd ym mis Chwefror 2004).

Prif gyfrifoldebau’r Pwyllgor yw: cytuno ar Ymrwymiad Masnachu Teg y BBC a’i adolygu’n rheolaidd cytuno ar Ganllawiau Masnachu Teg y BBC a’u hadolygu’n rheolaidd drwy’r adran Llywodraethedd ac Atebolrwydd, penodi archwilwyr annibynnol i brofi cydymffurfiad y BBC â’i Ymrwymiad Masnachu Teg ystyried adroddiadau gan yr archwilwyr annibynnol neu arbenigwyr annibynnol eraill fel y bo’n briodol, y Pennaeth Masnachu Teg, y Pennaeth Sicrwydd Busnes a’r Uwch Swyddogion Gweithredol am faterion sy’n ymwneud â chydymffurfiad ag Ymrwymiad Masnachu Teg y BBC ystyried heriau allanol arwyddocaol i Ymrwymiad Masnachu Teg y BBC ystyried adroddiadau blynyddol a barnau’r Llywodraethwyr a’r archwilwyr annibynnol ar Fasnachu Teg ystyried adroddiad blynyddol y Llywodraethwyr a barn yr archwilwyr annibynnol o ran Protocolau Masnachu’r World Service cyflwyno adroddiad i Fwrdd y Llywodraethwyr am waith y Pwyllgor

Datganiad y Llywodraethwyr ar fasnachu teg

Gweithgareddau masnachol a masnachu teg

Diben craidd y BBC yw darparu darlledu cyhoeddus a ariennir gan ffi’r drwydded. Mae buddsoddiadau talwyr y drwydded, sydd wedi cronni dros lawer o flynyddoedd, wedi cynhyrchu màs critigol o dalent a gallu cynhyrchu ar gyfer y BBC, ynghyd ag archif heb ei hail o raglennu’r gorffennol. Mae gan yr asedion hyn werth arall yn ychwanegol at eu defnydd ar sianelau ac allfeydd cyhoeddus. Mae gan y BBC gyfrifoldeb i sicrhau bod y gwerth hwn yn cael ei ddatblygu’n gywir yn fasnachol, a’i ddefnyddio er budd talwyr y drwydded.

Wrth ymdrin â gweithgareddau masnachol, mae’r BBC, fel sefydliadau eraill, yn llwyr agored i gyfraith cystadleuaeth ddomestig ac Ewropeaidd. Fodd bynnag, yn wahanol i sefydliadau eraill, adlewyrchir cyfrifoldeb y BBC i fasnachu’n deg mewn gofynion pellach a mwy ymestynnol sy’n deillio o’i Siarter Frenhinol. Yn benodol, mae’r Siarter yn ei gwneud yn ofynnol i osgoi croesgymhorthdal rhwng gweithgareddau’r BBC a ariennir gan y cyhoedd a’i weithgareddau masnachol.

Gweithdrefnau cydymffurfio â masnachu teg

Ymgorfforir ymrwymiadau masnachu teg y BBC yn ei Ymrwymiad Masnachu Teg y caiff ei gydymffurfiad ag ef ei archwilio drwy gydol y flwyddyn gan un o bwyllgorau sefydlog Bwrdd y Llywodraethwyr, sef y Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg. Ategir y broses o gydymffurfio â’r Ymrwymiad Masnachu Teg gan Ganllawiau Masnachu Teg y BBC a gafodd eu hadolygu a’u diweddaru yn ystod y flwyddyn, ac a adwaenwyd fel y Canllawiau Polisi Masnachol yn flaenorol.

Cynghorir y Pwyllgor yn uniongyrchol gan archwilwyr annibynnol a gomisiynir ac a reolir gan yr adran Llywodraethedd ac Atebolrwydd a chan Bennaeth Masnachu Teg a Phennaeth Sicrwydd Busnes y BBC, os bydd angen, heb gyfryngdod rheolwyr y BBC. Mae pob is-gwmni a gweithrediad masnachol yn cyflwyno adroddiad i’r Pwyllgor ar eu gweithgareddau ac mae’r Pwyllgor yn ei gwneud yn ofynnol i aelodau perthnasol o’r staff â chyfrifoldebau masnachol dderbyn hyfforddiant ym mholisïau masnachu teg y BBC.

82

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Mae’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg yn adolygu annibyniaeth ei archwilwyr allanol yn rheolaidd gyda chyngor y Pennaeth Sicrwydd Ansawdd. Mae’r Pwyllgor yn cynnal trafodaethau gyda’r archwilwyr allanol, PricewaterhouseCoopers LLP, heb fod y rheolwyr yn bresennol ac yn adolygu lefel ffioedd nad ydynt yn gysylltiedig ag archwilio a delir i’w archwilwyr allanol. Cynhelir proses dendro gystadleuol ar gyfer unrhyw waith sylweddol.

Profir rheolaeth y BBC dros drefniadau masnachu teg yn rheolaidd gan y Sefydliad Safonau Prydeinig ac achredwyd y trefniadau hyn â safon ansawdd ISO 9001:2000. Cadarnhaodd yr asesiad diwethaf, a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2003, fod y gweithdrefnau yn parhau i weithredu’n effeithiol.

Wrth eu natur, mae dyfarniadau masnachu teg yn gymhleth, gan adlewyrchu’r amgylchedd sy’n gyson ddatblygu y mae diwydiannau’r cyfryngau yn gweithredu ynddo. Drwy’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg, mae Bwrdd Llywodraethwyr y BBC yn craffu’n ddeallus ac yn gwneud dyfarniadau cytbwys ar faterion polisi pwysig sy’n deillio o ymrwymiad y BBC â mentrau masnachol.

Yn ei ymateb i Arolwg Richard Lambert o BBC News 24 yn erbyn amodau ei gymeradwyaeth, cynigiodd y BBC ystyried y berthynas rhwng BBC News a BBC World bob blwyddyn yn benodol ar sail masnachu teg. Byddai hyn yn cynnwys comisiynu ymarfer meincnodi bob tair blynedd ar gyfer ymgynghorwyr annibynnol i gadarnhau bod prisio cost ymylol yn parhau i gael ei arfer yn y farchnad a gwiriad blynyddol gan archwilwyr allanol bod yr egwyddor cost ymylol yn cael ei chymhwyso’n briodol yn ystod trafodion rhwng BBC News a BBC World. Cwblhawyd ymarfer meincnodi ym mis Ebrill 2004 gan ymgynghorwyr annibynnol a gadarnhaodd fod prisio cost ymylol yn parhau i gael ei arfer yn y farchnad. Yn ogystal, yn dilyn adroddiad gan archwilwyr allanol, mae Bwrdd y Llywodraethwyr yn fodlon bod yr egwyddor cost ymylol wedi’i chymhwyso’n briodol.

Cwynion masnachu teg

Un o gyfrifoldebau’r Pennaeth Masnachu Teg yw cynghori’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg a’r Pwyllgor Gweithredol ar unrhyw gwynion masnachu teg a wnaed yn erbyn y BBC. Gellir cysylltu â’r Pennaeth Masnachu Teg yn BBC, Media Centre, 201 Wood Lane, London W12 7TQ. Mae’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg yn cyhoeddi bwletin chwarterol o ymateb y BBC i unrhyw honiadau o dorri’r Ymrwymiad Masnachu Teg.

Digwyddiadau’r flwyddyn

Heriau allanol

Yn ystod y flwyddyn, ni chynhaliwyd unrhyw ymchwiliadau ffurfiol i weithgareddau masnachol y BBC gan gyrff allanol e.e. y Swyddfa Masnachu Teg (OFT) neu’r Comisiwn Ewropeaidd. Fodd bynnag, gwnaed nifer o gwynion i Fwrdd y Llywodraethwyr neu i’r Pennaeth Masnachu Teg yn honni bod y BBC yn torri ei ganllawiau. Ymhlith y rhain roedd y canlynol: Ysgrifennodd Faces Casting Agency, sy’n cyflenwi artistiaid, actorion ychwanegol a rhannau eraill i gynyrchiadau, yn honni bod y BBC yn ymddangos fel petai’n gweithredu “system heb gyfleoedd o ran nifer yr artistiaid sy’n llwyddo i gael swyddi”.

Ymatebodd y BBC drwy egluro bod y broses o ddewis wedi’i mireinio er mwyn ei gwneud yn fwy eglur a’i bod yn cael ei goruchwylio gan adran Gaffael y BBC. Mae’r meini prawf ar gyfer dewis ar gael i’r cyhoedd edrych arnynt a byddant yn destun arolygon rheolaidd. Ar yr amod bod asiantau yn bodloni’r meini prawf, gallant wneud cais i gael eu cynnwys ar y rhestr o asiantau y gallai’r BBC eu defnyddio.

Ysgrifennodd BAB Copying, sy’n cyflenwi deunydd ysgrifennu a dodrefn swyddfa i un o swyddfeydd lleol y BBC, at Fwrdd y Llywodraethwyr yn codi pryderon ynghylch dull y BBC o ddewis cyflenwr deunydd ysgrifennu ar gyfer y DU gyfan.

Honnodd BAB Copying iddo gyflenwi deunydd ysgrifennu yn lleol drwy swyddfa’r BBC yn Birmingham am dros 30 blynedd ond roedd bellach yn ymwybodol na fyddai ei gontract yn cael ei adnewyddu am fod contract cenedlaethol wedi’i ddyfarnu i gwmni arall yn dilyn ymarfer caffael.

Ymatebodd y BBC drwy egluro bod y BBC, fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus, yn atebol i Reoliadau Caffael Cyhoeddus yr UE. Cydymffurfiodd y BBC â’r Rheoliadau hyn ac, yn unol â gofyniad y Rheoliadau, rhoddwyd hysbyseb yng Nghyfnodolyn Swyddogol y Cymunedau Ewropeaidd (OJEC). Nid oes gofyniad i hysbysu cwmnïau bod hysbyseb wedi’i roi.

Cadarnhaodd y llythyr hefyd y byddai contractau a oedd yn bodoli gynt gyda BAB Copying, wrth gwrs, yn cael eu hanrhydeddu.

Derbyniodd Cadeirydd y Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg lythyr gan IPC tx Limited yn herio penderfyniad y BBC i beidio â chytuno i gais IPC a oedd yn gofyn i’r BBC ddarlledu rhagflas ar gyfer dau o’i gylchgronau.

Ar ôl i’r Pwyllgor ystyried y mater, anfonwyd ymateb i IPC yn cadarnhau bod rheolwyr y BBC, ym marn y Pwyllgor, wedi gwneud y peth cywir drwy wrthod darlledu rhagflas ar gyfer y ddau gylchgrawn hyn am nad oeddent yn cydymffurfio â chanllawiau’r BBC.

Fodd bynnag, cydnabu’r Pwyllgor y byddai’r canllawiau yn elwa ar eu hadolygu i sicrhau eglurder, a chomisiynwyd arolwg mewnol yn sgîl hynny gyda chyngor yr archwilwyr Masnachu Teg. Erbyn hyn mae’r arolwg wedi’i gwblhau ac mae’r canllawiau wedi’u diweddaru.

Derbyniodd y Pennaeth Masnachu Teg lythyr gan ntl:Broadcast a gododd nifer o bryderon yn ymwneud â’r broses dendro gan adran Chwaraeon y BBC ar gyfer cynhyrchu darllediadau rasio ceffylau ar gyfer Grandstand. Mynegodd y llythyr bryder ynghylch amlygrwydd costau BBC Resources a’i lefel o brisio wrth wneud cynnig am y tendr hwn. Honnodd y llythyr hefyd fod BBC Resources yn awgrymu i gynhyrchwyr annibynnol y byddai unrhyw gynigion a oedd yn cynnwys BBC Resources yn cael eu trin yn fwy ffafriol gan adran Chwaraeon y BBC.

Ysgrifennodd y Pennaeth Masnachu Teg at ntl:Broadcast yn cadarnhau ei fod yn fodlon bod adran Chwaraeon y BBC a BBC Resources wedi ymddwyn yn deg ac mewn dull sy’n gyson â gofynion masnachu teg y BBC. Roedd y broses o ddewis partner gan adran Chwaraeon y BBC yn seiliedig ar feini prawf teg a gwrthrychol. Cadarnhaodd yr ymchwiliad hefyd fod prisiau BBC Resources wedi’u seilio’n deg ac yn gyson â Chanllawiau Polisi Masnachol y BBC.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 83

Cydymffurfiad

Yn dilyn hyn, ysgrifennodd ntl:Broadcast eto yn honni, ymhlith pethau eraill, nad yw’r BBC yn ymddangos fel petai’n cynnig cyfle cyfartal o ran tendrau ac ymddengys fod polisi o gadw refeniw yn fewnol yn y BBC. Nododd y llythyr hefyd nifer o achosion penodol a oedd yn cefnogi hyn, yn ôl pob sôn.

Cynhaliodd y Pennaeth Masnachu Teg ymchwiliad manwl i’r holl bwyntiau a godwyd a chadarnhaodd, ymhlith pethau eraill, nad oes gan y BBC bolisi o gadw refeniw “yn fewnol”, ac nad yw wedi manteisio ar gyfleoedd nas cynigiwyd i gwmnïau eraill, gan beri niwed i ntl:Broadcast fel yr honnir.

Cofnodir pob her allanol yn y BBC Fair Trading Bulletin sydd ar gael ar-lein yn www.bbc.co.uk/info.

Barn y Llywodraethwyr

Mae’r Llywodraethwyr o’r farn bod y polisïau a geir yn Ymrwymiad Masnachu Teg y BBC yn gyson â gofynion y Siarter Frenhinol a’r Cytundeb atodol. Drwy’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg, cawsant sicrwydd rhesymol bod y fframwaith o reolaethau a gweithdrefnau a gynlluniwyd i sicrhau y caiff y polisïau hyn eu defnyddio ar draws y BBC wedi bod yn gweithredu’n effeithiol drwy gydol y flwyddyn.

Adroddiad gan yr Archwilwyr Masnachu Teg Annibynnol i

Lywodraethwyr y BBC am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2004

Rydym wedi archwilio, yn ein rôl fel Archwilwyr Masnachu Teg y BBC, y system o reolaethau mewnol a sefydlwyd o fewn y BBC i roi sicrwydd rhesymol i’r Llywodraethwyr bod y BBC wedi cydymffurfio â’i Ymrwymiad Masnachu Teg a gyhoeddwyd am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2004.

Cytunwyd ar ein cyfarwyddiadau ar gyfer yr archwiliad hwn, a chwmpas ein gwaith, gyda’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg. Roedd y cyfarwyddiadau hyn yn cynnwys cytundeb y dylid cynnal ein harchwiliad yn unol â safonau archwilio perthnasol, cytundeb ar derfyn ein hatebolrwydd mewn perthynas â’r gwaith hwn a chytundeb mai ar gyfer y BBC yn unig y mae ein dyletswydd gofal mewn perthynas â’r gwaith hwn. Rydym yn fodlon bod y cwmpas y cytunwyd arno ar gyfer ein harchwiliad yn ddigonol i’n galluogi i fynegi’r farn a nodir isod.

Priod gyfrifoldebau’r Llywodraethwyr, y rheolwyr a’r archwilwyr

Mae’r Llywodraethwyr yn gyfrifol am sicrhau bod y BBC yn bodloni holl ofynion deddfau cystadleuaeth a’i fod yn masnachu’n deg. Maent wedi sefydlu ei Ymrwymiad Masnachu Teg, wedi pennu amcanion y system o reolaethau mewnol a gynlluniwyd i sicrhau cydymffurfiad â’r Ymrwymiad hwn ac wedi monitro canlyniadau’r rheolaethau hynny. Maent hefyd yn gyfrifol am baratoi datganiad y Llywodraethwyr ar gydymffurfiad â masnachu teg a gynhwysir yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon, sy’n cynnwys datganiad ar fasnachu teg.

Mae’r Llywodraethwyr yn ymddiried y gwaith o weithredu system o reolaethau mewnol a gynlluniwyd i sicrhau cydymffurfiad â’r Ymrwymiad Masnachu Teg i reolwyr y BBC, gan gynnwys nodi ac asesu risgiau a allai fygwth masnachu teg, a chynllunio a gweithredu ymatebion i risgiau o’r fath.

Fel Archwilwyr Masnachu Teg y BBC, ein cyfrifoldeb ni yw llunio barn annibynnol, yn seiliedig ar ein gwaith archwilio, ar y graddau y mae’r BBC wedi sefydlu ac wedi defnyddio system o reolaethau mewnol sy’n darparu sicrwydd rhesymol ei fod wedi cydymffurfio â’i Ymrwymiad Masnachu Teg yn ystod y flwyddyn. Rydym wedi adolygu penderfyniadau penodol y daethpwyd iddynt gan y BBC ar faterion

masnachu teg i’r graddau sy’n angenrheidiol er mwyn llunio barn ar y system o reolaethau mewnol. Ni chynlluniwyd ein harchwiliad i fynegi barn ar ansawdd y penderfyniadau penodol a gymerwyd gan y BBC mewn perthynas â masnachu teg. Rydym hefyd wedi adolygu a yw datganiad y Llywodraethwyr ar fasnachu teg yn adlewyrchu ein canfyddiadau o gydymffurfiad y BBC â’i system o reolaethau mewnol, a nodwn os nad yw’n gwneud hynny.

Paratowyd y farn hon ar gyfer y BBC yn unig yn unol â’n cyfarwyddiadau y cytunwyd arnynt gydag Ysgrifennydd y BBC ar ran y Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg. Wrth fynegi’r farn hon, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb dros unrhyw ddiben arall nac i unrhyw berson arall y dangosir yr adroddiad hwn iddynt neu y daw’r adroddiad hwn i’w dwylo, ac eithrio pan gytunir yn benodol i hyn ymlaen llaw drwy ein caniatâd ysgrifenedig.

Sail y farn archwilio

Cynhaliwyd rhaglen o weithdrefnau a phrofion gennym a gynlluniwyd i roi’r sicrwydd yr oeddem yn ei geisio. Roedd ein gwaith yn cynnwys ymchwilio ac asesu er mwyn ein galluogi i lunio barn ar pa un a oedd system briodol o reolaethau mewnol ar waith. Adolygwyd hefyd y gwaith o brosesu sampl o drafodion perthnasol er mwyn cael sicrwydd rhesymol bod y system o reolaethau mewnol wedi ei defnyddio.

Fel gydag unrhyw system reoli, waeth pa mor effeithiol ydyw, nid yw’n ymarferol sicrhau nad oes unrhyw wallau neu afreoleidd-dra wedi digwydd heb iddynt gael eu canfod. Cynlluniwyd ein gwaith archwilio felly i roi sicrwydd rhesymol i’r Llywodraethwyr, ond nid sicrwydd pendant, fod y system o reolaethau mewnol sydd mewn grym yn ddigonol a’i bod yn cael ei defnyddio i gydymffurfio â’r Ymrwymiad Masnachu Teg yn ystod y flwyddyn. At hynny, gan fod materion masnachu teg yn galw am ddyfarniadau a allai gael eu profi mewn llys barn, awdurdod cystadlu neu rywle arall yn y pen draw, mae risg bob amser y cânt eu herio hyd yn oed pan fydd y system o reolaethau mewnol wedi ei dilyn a phenderfyniadau wedi eu cymryd gyda’r gofal mwyaf.

Barn

Yn ein barn ni, mae’r BBC wedi sefydlu ac wedi defnyddio system o reolaethau mewnol sy’n rhoi sicrwydd rhesymol ei fod wedi cydymffurfio â’i Ymrwymiad Masnachu Teg am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2004.

PricewaterhouseCoopers LLP Llundain
Cyfrifwyr Siartredig 17 Mehefin 2004
   
Adroddiad y Llywodraethwyr ar Brotocolau Masnachu
BBC World Service  

Mae BBC World Service yn gyfrifol am gomisiynu ac amserlennu ei raglenni ei hun ac am wneud rhaglenni ar gyfer ei wasanaethau ieithoedd, ond mae’n prynu gwasanaethau gwneud rhaglenni Saesneg a gwasanaethau technegol ac ategol oddi wrth isadrannau eraill y BBC (yr Isadrannau Cyflenwi). Mae BBC World Service hefyd yn derbyn gwasanaethau oddi wrth is-gwmnïau masnachol y BBC (yr Is-gwmnïau), ac yn cyflenwi gwasanaethau iddynt.

Cytunodd Cyd-Weithgor y Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad (FCO)/BBC World Service y byddai’r BBC yn llunio canllawiau i reoli’r berthynas fasnachu rhwng BBC World Service a rhannau eraill o’r BBC, er mwyn sicrhau bod BBC World Service yn parhau i fod yn llais arbennig ac er mwyn cynnal y gwahaniaeth clir rhwng Grant-mewn-Cymorth ac incwm ffi’r drwydded. Cymeradwywyd y Protocolau Masnachu hyn gan y Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu

84

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Teg ym 1997. Yna lluniodd pob un o’r Isadrannau Cyflenwi gytundebau manwl gyda BBC World Service, gan nodi: y gwasanaethau i’w darparu meini prawf er mwyn sicrhau ansawdd y gwasanaethau cost y gwasanaethau

Mae’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg yn gyfrifol am fonitro ac adolygu cydymffurfiad â’r Protocolau Masnachu. Mae’r Pwyllgor yn derbyn adroddiadau rheolaidd gan y rheolwyr ar effeithiolrwydd y systemau a’r gweithdrefnau sydd ar waith er mwyn sicrhau cydymffurfiad â’r Protocolau Masnachu.

Mae KPMG LLP (yr archwilwyr allanol) wedi adolygu crynodeb o werth trafodion a’r llifau arian cysylltiedig a fu yn ystod y flwyddyn rhwng BBC World Service a’r Isadrannau Cyflenwi a’r Is-gwmnïau. Mae KPMG LLP wedi cyflwyno adroddiad i’r Llywodraethwyr yn nodi, yn eu barn hwy, bod y wybodaeth a gafwyd yng nghrynodeb y trafodion ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2004 wedi ei chasglu’n gywir o lyfrau a chofnodion BBC World Service a’r Isadrannau Cyflenwi a’r Is-gwmnïau, ac wedi’i pharatoi’n gywir ar seiliau’r dulliau dyrannu a dosrannu cost a nodwyd yn y cytundebau rhwng BBC World Service a’r Isadrannau Cyflenwi a’r Is-gwmnïau ac na fu, ar y sail hon, unrhyw groes-gymorthdaliadau perthnasol rhwng Grant-mewn-Cymorth ac arian ffi’r drwydded na rhwng Grant-mewn-Cymorth ac is-gwmnïau masnachol y BBC.

Datganiad y Llywodraethwyr ar Brotocolau Masnachu BBC World Service

Yn dilyn adroddiadau rheolaidd i’r Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg gan y Pennaeth Masnachu Teg ac archwilwyr mewnol ac allanol, mae’r Llywodraethwyr yn fodlon: bod y Protocolau Masnachu yn adlewyrchu gofynion Gweithgor yr FCO/BBC World Service bod cytundebau ar waith sy’n gyson â’r Protocolau Masnachu na fu unrhyw groes-gymorthdaliadau perthnasol rhwng arian Grant-mewn-Cymorth ac arian ffi’r drwydded na rhwng Grant-mewn-Cymorth ac is-gwmnïau masnachol y BBC

2 Datganiadau ariannol

Datganiad o gyfrifoldebau Bwrdd y Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol dros baratoi’r datganiadau ariannol

Mae’n ofynnol yn ôl Siarter y BBC i’r Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol baratoi datganiadau ariannol ar gyfer pob blwyddyn ariannol sy’n rhoi darlun gwir a theg o gyflwr materion y BBC a’i incwm a’i wariant ar gyfer y cyfnod hwnnw. Wrth baratoi’r datganiadau ariannol hynny, mae’n ofynnol i’r Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol: dethol polisïau cyfrifo addas ac yna eu defnyddio’n gyson dyfarnu ac amcangyfrif yn rhesymol ac yn ddarbodus datgan a ddilynwyd safonau cyfrifo perthnasol a datgelu ac egluro unrhyw wyriadau perthnasol yn y datganiadau ariannol paratoi’r datganiadau ariannol ar sail busnes gweithredol oni fydd yn amhriodol gwneud hynny

At hyn, mae’r Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol wedi penderfynu, o’u gwirfodd, i gydymffurfio â darpariaethau cyfrifo a datgelu Deddf Cwmnïau 1985 a, lle y bo’n briodol, Rheolau Rhestru’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol. Maent hefyd yn gyfrifol am gadw cofnodion cyfrifo digonol ac am gymryd y cyfryw gamau sy’n rhesymol agored iddynt i ddiogelu asedion y BBC ac atal a chanfod twyll ac unrhyw afreoleidd-dra arall.

Adroddiad yr archwilwyr annibynnol i Lywodraethwyr y Gorfforaeth Ddarlledu Brydeinig (BBC)

Rydym wedi archwilio’r datganiadau ariannol ar dudalennau 99 i 135. Yn ychwanegol at ein harchwiliad o’r datganiadau ariannol, fe’n cyfarwyddwyd gan y Llywodraethwyr i archwilio’r wybodaeth yn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr, a ddisgrifir fel adroddiad sydd wedi’i archwilio, a baratowyd gan y Llywodraethwyr fel petai’r BBC yn gwmni rhestredig ac sydd felly’n cydymffurfio ag Atodlen 7A i Ddeddf Cwmnïau 1985.

Dim ond i Lywodraethwyr y BBC, fel corff, y gwneir yr adroddiad hwn, a hynny’n unol â’r Siarter Frenhinol ar gyfer parhad y BBC a ddaeth i rym ar 1 Mai 1996 (y Siarter). Cynhaliwyd ein gwaith archwilio er mwyn i ni allu hysbysu Llywodraethwyr y BBC am y materion hynny y mae’n ofynnol i ni eu hysbysu yn eu cylch mewn adroddiad archwilydd, ac nid at unrhyw ddiben arall. I’r graddau eithaf a ganiateir gan y gyfraith, nid ydym yn derbyn nac yn cymryd cyfrifoldeb i unrhyw un ac eithrio’r BBC a Llywodraethwyr y BBC fel corff, am ein gwaith archwilio, am yr adroddiad hwn, nac am y farn a luniwyd gennym.

Priod gyfrifoldebau’r Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol a’r Archwilwyr

Y Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol sy’n gyfrifol am baratoi Adroddiad Blynyddol y BBC a’r adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr. Fel y disgrifiwyd yn gynharach ar y dudalen hon, mae hyn yn cynnwys y cyfrifoldeb dros baratoi’r datganiadau ariannol, yn unol â chyfraith a safonau cyfrifo perthnasol y Deyrnas Unedig. Sefydlwyd ein cyfrifoldebau, fel archwilwyr annibynnol, yn y Deyrnas Unedig drwy statud, gan y Bwrdd Arferion Archwilio, arweiniad moesegol ein proffesiwn ac, yn unol â thelerau ein penodiad, Ddeddf Cwmnïau 1985 a’r Siarter.

Byddwn yn rhoi ein barn i chi ar pa un a yw’r datganiadau ariannol yn rhoi darlun gwir a theg ac a yw’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr sydd i’w harchwilio wedi’u paratoi’n gywir yn unol â’r Ddeddf Cwmnïau, fel petai’r Ddeddf honno wedi bod yn berthnasol i’r datganiadau ariannol hyn. Byddwn hefyd yn dweud wrthych os nad yw’r BBC wedi cadw cofnodion cyfrifo cywir, yn ein barn ni, os na chawsom yr holl wybodaeth a’r esboniadau sydd eu hangen arnom ar gyfer ein harchwiliad, neu os na ddatgelwyd gwybodaeth a nodir gan y gyfraith o ran cydnabyddiaeth a thrafodion y Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol gyda’r BBC.

Yn ogystal â’n harchwiliad o’r datganiadau ariannol, fe’n cyfarwyddwyd gan y Llywodraethwyr i adolygu eu datganiad ar lywodraethu corfforaethol fel petai yn ofynnol i’r BBC gydymffurfio â Rheolau Rhestru’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol mewn perthynas â’r materion hyn. Rydym yn adolygu pa un a yw’r datganiad ar dudalennau 86 i 90 yn adlewyrchu cydymffurfiad y BBC â saith darpariaeth y Cod Cyfunol a nodir ar gyfer arolwg drwy archwiliad yn ôl y rheolau hynny, a byddwn yn nodi os na fydd yn gwneud hynny. Nid yw’n ofynnol i ni lunio barn ar effeithiolrwydd gweithdrefnau llywodraethu corfforaethol y BBC na’i reolaethau mewnol.

Rydym yn darllen y wybodaeth arall a geir yn Adroddiad Blynyddol y BBC, yn cynnwys y datganiad ar lywodraethu corfforaethol a’r rhan o’r adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr nas archwiliwyd, ac yn ystyried a yw’n gyson â’r datganiadau ariannol archwiliedig. Rydym yn ystyried y goblygiadau ar gyfer ein hadroddiad os down yn ymwybodol o unrhyw gamddatganiadau amlwg neu anghysondebau perthnasol yn y datganiadau ariannol.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 85

Cydymffurfiad

Sail y farn archwilio

Cynhaliwyd ein harchwiliad yn unol â’r Safonau Archwilio a gyhoeddir gan y Bwrdd Arferion Archwilio. Mae archwiliad yn cynnwys archwilio tystiolaeth, ar sail prawf, sy’n berthnasol i’r symiau a’r datgeliadau yn y datganiadau ariannol a’r rhan o’r adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr sydd i’w harchwilio. Mae hefyd yn cynnwys asesiad o’r amcangyfrifon a’r dyfarniadau arwyddocaol a wnaed gan y Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol, yn ogystal ag asesiad i ganfod a yw’r polisïau cyfrifo yn briodol i amgylchiadau’r BBC, ac a gânt eu defnyddio’n gyson a’u datgelu’n ddigonol.

Cafodd ein harchwiliad ei lunio a’i gyflawni gennym er mwyn cael yr holl wybodaeth a’r esboniadau a oedd yn angenrheidiol yn ein barn ni er mwyn rhoi digon o dystiolaeth i ni sicrhau’n rhesymol bod y datganiadau ariannol a’r rhan o’r adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr sydd i’w harchwilio yn rhydd o unrhyw gamddatganiad perthnasol, waeth a achoswyd hynny trwy dwyll neu drwy afreoleidd-dra neu gamgymeriad arall. Wrth lunio ein barn gwerthuswyd hefyd ddigonolrwydd cyffredinol y modd y cyflwynwyd y wybodaeth yn y datganiadau ariannol a’r rhan o’r adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr sydd i’w harchwilio.

Barn

Yn ein barn ni, mae’r datganiadau ariannol yn rhoi darlun gwir a theg o gyflwr materion UK Public Service Broadcasting (yr ‘Home Services’ yn y Siarter) a’r BBC ar 31 Mawrth 2004 ac o ddiffyg y BBC am y flwyddyn a ddaeth i ben bryd hynny, ac mae’r datganiadau ariannol a’r rhan o’r adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr sydd i’w harchwilio wedi’u paratoi’n gywir yn unol â darpariaethau Siarter y BBC a darpariaethau Deddf Cwmnïau 1985 fel petai’r Ddeddf honno yn berthnasol i’r datganiadau ariannol hyn.

â phenodi cyfarwyddwyr anweithredol yn amherthnasol gan fod y Llywodraethwyr yn cael eu penodi gan y Frenhines mewn Cyngor a phennir eu cydnabyddiaeth gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Yn ail, dim ond i’r cyhoedd sy’n talu’r drwydded, yn hytrach nag i gyfranddeiliaid, drwy stiwardiaeth Bwrdd y Llywodraethwyr, y gellir cymhwyso’r gofynion hynny sy’n ymwneud â chyfranddeiliaid.

Mae’r BBC yn glynu at saith egwyddor bywyd cyhoeddus fel y’u nodir yn adroddiadau Pwyllgor Nolan ar Safonau mewn Bywyd Cyhoeddus.

Ymdrinnir â’r modd y mae’r BBC wedi cymhwyso’r egwyddorion cydnabyddiaeth o fewn yr adroddiad ar gydnabyddiaeth ar dudalennau 91 i 93.

Strwythur y Bwrdd

Mae’r Llywodraethwyr yn aelodau o’r Gorfforaeth ac yn gweithredu fel ymddiriedolwyr er budd y cyhoedd tra bod y Pwyllgor Gweithredol yn gyfrifol am y gweithrediadau o ddydd i ddydd. Nodir yn gryno fanylion am Fwrdd y Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol ar dudalennau 8 i 9 a thudalennau 10 i 11. Cedwir cofrestr o fuddiannau’r Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol ac mae modd ei harchwilio drwy wneud cais ysgrifenedig i Ysgrifennydd y BBC, BBC Media Centre, 201 Wood Lane, London, W12 7TQ.

Mae Bwrdd y Llywodraethwyr yn cyfeirio rhai materion at is-bwyllgorau. Eglurir prif gyfrifoldebau’r is-bwyllgorau hyn ar dudalennau eraill yn yr Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon hwn fel a ganlyn:

Pwyllgor Cwynion am Raglenni’r Llywodraethwyr (tudalennau 77 i 78) Pwyllgor Cydymffurfio â Masnachu Teg y Llywodraethwyr (tudalennau 82 i 83) Pwyllgor Archwilio’r Llywodraethwyr (tudalennau 88 i 89) Pwyllgor Cydnabyddiaeth y Llywodraethwyr (tudalennau 91 i 92) Pwyllgor Eiddo’r Llywodraethwyr (tudalen 89)

Rhoddir manylion ar bresenoldeb Llywodraethwyr unigol yng nghyfarfodydd llawn y Bwrdd a chyfarfodydd is-bwyllgorau isod:

      Pwyllgor   Pwyllgor              
Bwrdd y   Cwynion am   Cydymffurfio â   Pwyllgor   Pwyllgor   Pwyllgor  
Llywodraethwyr   Raglenni   Masnachu Teg   Archwilio   Cydnabyddiaeth   Eiddo  

 
 
 
 
 
 
                         
Nifer y cyfarfodydd                        
yn y flwyddyn 10   11   5   5   5   7  


 
 
 
 
 
 
                         
Deborah Bull1 6*                      
Gavyn Davies2 8**               5   6*  
Y Fonesig Ruth Deech 9       5              
Dermot Gleeson 10           5       7  
Y Farwnes Hogg3 7**       1   3***   3      
Yr Athro Merfyn Jones 9                      
Yr Athro Fabian Monds 10   10   4              
Y Fonesig Pauline                        
Neville-Jones 10   9       5   5      
Y Gwir Anrh Yr                        
Arglwydd Ryder 10       5       4   6  
Angela Sarkis 8   9                  
Syr Robert Smith 7   9       4       3  
Ranjit Sondhi 10   10                  


 
                 

KPMG LLP

Cyfrifwyr Siartredig Archwilydd Cofrestredig

Llundain 17 Mehefin 2004

3 Prosesau risg a rheoli

Penodir y Llywodraethwyr fel ymddiriedolwyr er budd y cyhoedd, er mwyn sicrhau bod y BBC yn atebol i’r Senedd a’r cyhoedd, a hynny’n briodol. Fel rhan o’r rôl hon mae’n ofynnol i’r Llywodraethwyr fodloni eu hunain bod y BBC yn defnyddio’r safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol.

Drwy gydol y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2004, cydymffurfiodd y BBC â’r Cod Cyfunol, a gyhoeddwyd gan

Gyfnewidfa Stoc Llundain, ym mis Mehefin 1998, yn nodi egwyddorion llywodraethu da. Yn ystod 2003, diwygiwyd y Cod i gynnwys yr argymhellion a ddeilliodd o ddau arolwg a oedd yn ceisio gwella effeithiolrwydd ystafelloedd bwrdd ac atgyfnerthu’r fframwaith llywodraethu corfforaethol. Adolygodd Adroddiad Higgs rôl ac effeithiolrwydd cyfarwyddwyr anweithredol a datblygodd Adroddiad Smith, a sefydlwyd gan y Cyngor Adroddiadau Ariannol, y darpariaethau cod presennol ar gyfer pwyllgorau archwilio.

Mae’r BBC yn cydnabod pwysigrwydd cymhwyso’r safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol ac mae’n ymroddedig i hynny, ac mae’n cydymffurfio’n wirfoddol â’r Cod Cyfunol lle y bo’n berthnasol. Er nad yw’r Cod Diwygiedig yn berthnasol i’r flwyddyn ariannol dan sylw, mae’r BBC wedi gwneud cynnydd arwyddocaol wrth ffurfioli a diwygio polisïau, gweithdrefnau a dogfennaeth sy’n bodoli eisoes mewn ymateb i’r diwygiadau. Ar y cyfan, gellir cymhwyso gofynion y Cod Cyfunol i’r BBC gyda dau eithriad. Yn gyntaf, mae’r gofynion hynny sy’n ymwneud

1 Dechreuodd 1 Awst 2003 2 Ymddiswyddodd 28 Ionawr 2004 3 Ymddeolodd 9 Chwefror 2004

*
  
o 6 posibl
**
  
o 8 posibl *** o 4 posibl

  
o 3 posibl

o 5 posibl

86

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

Mae Bwrdd y Llywodraethwyr wedi parhau i werthuso eu heffeithiolrwydd ac wedi dechrau rhaglen o adolygu yn cynnwys ystyried agweddau gwahanol ar y Bwrdd a pherfformiad a gweinyddiaeth weithredol ei is-bwyllgorau.

Mae’r adran Llywodraethedd ac Atebolrwydd yn cefnogi ac yn datblygu perthynas Bwrdd y Llywodraethwyr gyda’r sefydliad. Prif gyfrifoldebau’r adran Llywodraethedd ac Atebolrwydd yn hyn o beth yw: darparu cyngor annibynnol i Fwrdd y Llywodraethwyr, gan ganolbwyntio ar berfformiad gwasanaethau cyhoeddus y BBC, yn cynnwys perfformiad yn erbyn amcanion a Datganiadau o Bolisi Rhaglenni’r BBC darparu cymorth gweinyddol i Fwrdd y Llywodraethwyr ar y cyd â’r Pwyllgor Gweithredol hyrwyddo atebolrwydd a chyfrifoldeb cyhoeddus Bwrdd y Llywodraethwyr

Y berthynas â’r Senedd a thalwyr y drwydded, a chyfathrebu â hwy

Mae’r BBC yn ceisio hysbysu’r cyhoedd yn llawn o’i wasanaethau a’r ffordd y mae’n gweithredu, a bod yn agored ac yn onest ynglyn â llwyddiannau a methiannau. Dim ond pan fydd yna fater gwirioneddol o gyfrinachedd hawlfraint neu gyfrinachedd cytundebol neu fasnachol yn y fantol, y bydd y BBC yn atal gwybodaeth, neu pan fydd ystyriaethau cyfiawn parthed preifatrwydd yn berthnasol.

Mae gwybodaeth ar gael, a cheir barn cynulleidfaoedd, mewn amrywiaeth o ffyrdd, a thrafodir llawer ohonynt ar dudalennau 74 i 81. Mae’r rhain yn cynnwys Datganiadau o Bolisi Rhaglenni’r BBC a chyhoeddiadau eraill, gwasanaethau rhyngrwyd a digwyddiadau cyhoeddus.

Cyflwyna’r BBC ei Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon gerbron y Senedd. Gellir galw ar Lywodraethwyr neu Swyddogion Gweithredol y BBC, ac fe gânt eu galw’n aml, i fynd gerbron Pwyllgor Dethol Seneddol i ateb cwestiynau ASau ynglyn â gweithgareddau a chynlluniau’r BBC. Mae’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon hefyd ar gael i unrhyw aelod o’r cyhoedd.

Mae’n rhaid gofyn i’r Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon am gymeradwyaeth ar gyfer sianelau a gwasanaethau newydd, boed yn gyhoeddus neu’n fasnachol.

Ariennir BBC World Service gan Grant-mewn-Cymorth ac mae’n atebol i’r Senedd drwy’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad (FCO). Er ei fod yn olygyddol annibynnol, mae’n rhaid i’r Swyddfa Dramor a’r Gymanwlad gytuno ar ei amcanion a’i flaenoriaethau.

Atebolrwydd a rheolaeth fewnol

Diffinnir y cyfrifoldebau mewn perthynas â rheolaeth fewnol yn glir. Bwrdd y Llywodraethwyr sy’n gyfrifol yn y pen draw am ddefnyddio arian cyhoeddus yn gywir, tra bod y Pwyllgor Gweithredol yn gyfrifol am gynnal system ddigonol o reolaeth fewnol ac am adolygu ei heffeithiolrwydd. Nodir priod gyfrifoldebau Bwrdd y Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol a’r archwilwyr allanol ar dudalen 85. Lluniwyd system o’r fath i reoli yn hytrach na dileu’r risg o fethu â chyflawni amcanion busnes a dim ond sicrwydd rhesymol, ac nid sicrwydd llwyr, y gall ei roi rhag camddatganiad neu golled berthnasol.

Mae Bwrdd y Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol o’r farn bod proses barhaus ar gyfer nodi, gwerthuso a rheoli’r risgiau sylweddol a wynebir gan y BBC. Bu’r broses ar waith am y flwyddyn a ddaeth i ben 31 Mawrth 2004 a hyd at ddyddiad cymeradwyo’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon ar gyfer y flwyddyn hon.

Adroddiadau ariannol a busnes gweithredol

Ceir arolwg o sefyllfa ariannol y BBC ar dudalennau 97 i 98. Mae hwn yn darparu asesiad o berfformiad a sefyllfa bresennol y BBC.

Mabwysiadwyd y sail busnes gweithredol wrth baratoi’r datganiadau ariannol gan fod y Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol yn credu bod gan y BBC ddigon o adnoddau i barhau i weithredu hyd y gellir rhagweld.

Disgrifir y prif agweddau ar yr amgylchedd rheoli a fu ar waith drwy gydol y flwyddyn isod o dan y penawdau canlynol:

Rheoli risg

Ystyrir mai drwy gyfranogiad y Pwyllgor Gweithredol cyfan y caiff y gwaith o reoli risg o fewn y BBC ei reoli’n fwyaf effeithiol. Am y rheswm hwnnw, ni ddirprwyir rheoli risg i is-bwyllgor.

Mae gan bob un o brif risgiau’r BBC aelod penodol o’r Pwyllgor Gweithredol sy’n gyfrifol am sicrhau bod y cynnydd o ran rheoli eu risg benodol yn cael ei gyflwyno ar ffurf adroddiad i’r Pwyllgor Gweithredol cyfan. Adolygwyd prif risgiau a chynlluniau gweithredu cysylltiedig y BBC yn ystod y flwyddyn. Rhoddir diweddariad blynyddol o bob un o’r risgiau allweddol hyn i’r Pwyllgor Gweithredol gydag adroddiad cynnydd bob chwe mis. Y Pwyllgor Archwilio, ar ran Bwrdd y Llywodraethwyr, sy’n ystyried y dull y gweithredir y broses rheoli risg, gan gynnwys y broses o reoli prif risgiau’r BBC.

Mae gan gyfarwyddwr pob isadran gyfrifoldeb clir dros nodi a rheoli’r risgiau a wynebir gan eu busnes. Mae rheolwyr yr isadrannau wedi adolygu’r risgiau sy’n gysylltiedig â chyflawni amcanion eu hisadran. Mae ystyriaeth o’r risgiau hyn yn cynnwys cynnal arolwg ym mhob isadran o effaith prif risgiau’r BBC a nodi’r broses o reoli’r risgiau hynny drwy gyflwyno adroddiadau i’r Pwyllgor Gweithredol. Cedwir y risgiau a nodwyd, a’r camau y bwriedir eu cymryd mewn ymateb iddynt, mewn cofrestr risgiau ym mhob isadran a gaiff ei gwirio gan y Rheolwyr Risg a Rheolaeth Fewnol.

Archwiliad Mewnol

Mae gan y BBC adran Archwiliad Mewnol sy’n cynnwys 27 aelod o staff sy’n ymgorffori Archwiliad Gweithredol, Archwiliad Systemau ac Archwiliad Risg Galwedigaethol. Daw awdurdod yr adran Archwiliad Mewnol o’i pherthynas cyflwyno adroddiadau annibynnol ar y cyd â’r Pwyllgor Archwilio a’r Cyfarwyddwr Cyffredinol. Mae cwmpas yr adran Archwiliad Mewnol yn cynnwys archwiliad a gwerthusiad o ddigonolrwydd ac effeithiolrwydd systemau’r BBC o reolaeth fewnol ac ansawdd ei berfformiad wrth gyflawni cyfrifoldebau a bennwyd. Mae rhaglen waith yr adran Archwiliad Mewnol yn anghyfyngedig, gan gwmpasu holl weithgareddau gwasanaeth cyhoeddus y BBC ac, yn ychwanegol at hynny, Busnesau Masnachol y BBC, BBC World Service & Global News, cynlluniau pensiwn y BBC ac elusennau’r BBC. Mae’r adran Archwiliad Mewnol yn arfer hawl y BBC i gynnal archwiliad, lle y bydd contract yn darparu ar gyfer hawl o’r fath, dros bartïon allanol, yn cynnwys cwmnïau cynhyrchu annibynnol a chwmnïau allweddol eraill sy’n cyflenwi gwasanaethau a osodir ar gontract.

Mae’r adran Archwiliad Mewnol yn profi’r systemau rheoli a phrosesau busnes craidd yn rheolaidd yn unol â chynllun y mae’r Pwyllgor Archwilio wedi cytuno arno. Mae’r cynllun archwilio, y cyflwynir adroddiad arno ddwywaith y flwyddyn, yn seiliedig ar asesiad parhaus o’r risgiau allweddol, monitro cydymffurfiad systemau a phrosesau allweddol, a sicrhau gwerth am arian i dalwyr y drwydded. Cyflwynir canlyniadau’r profi ar ffurf adroddiad i’r Pwyllgor Archwilio

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 87

Cydymffurfiad

ym mhob cyfarfod, sy’n craffu ar y modd y caiff rheolaethau’r BBC eu gweithredu drwy gydol y flwyddyn.

Rheolaethau isadrannol

Mae gan reolwyr yr isadrannau gyfrifoldeb dros sicrhau y dilynir y rheolaethau a’r gweithdrefnau presennol. Mae rheolaethau allweddol dros risgiau busnes o bwys yn cynnwys cadw cofrestrau risgiau a’u diweddaru’n gyson, ynghyd ag adolygu perfformiad a chyflwyno adroddiadau eithrio. Mae arolygon gan yr adran Archwiliad Mewnol yn monitro’r modd y caiff rheolaethau isadrannau ac is-gwmnïau y BBC eu gweithredu er mwyn sicrhau y cânt eu cymhwyso’n gyson, a’u bod o leiaf yn bodloni polisi rheoli’r BBC yn gyffredinol.

Parhad busnes a darlledu’r BBC

Mae tîm Parhad Busnes a Darlledu’r BBC yn gweithio gydag isadrannau’r BBC a chwmnïau partner i liniaru risgiau i feysydd busnes amrywiol y BBC, a’u diogelu rhag y risgiau hynny. Cyflawnir hyn drwy weithredu system gadarn o gynllunio parhad busnes, ymarferiad a pharatoi am adfer trychinebau. Mewn rhai achosion, caiff prosiectau penodol eu dechrau i wella cryfder gweithredol lle y tybir bod y risg yn uchel. Mae natur busnes y BBC yn golygu bod yn rhaid iddo sicrhau ei fod mewn sefyllfa, nid yn unig i ddarlledu a hysbysu o dan unrhyw fath o amgylchiadau, ond bod elfennau eraill o’i fusnes yn parhau gyda chyn lleied o ymyrraeth â phosibl hefyd. Mae hyn yn arbennig o bwysig yng ngoleuni digwyddiadau geowleidyddol cyfredol. Diogelwch pobl ac asedion y BBC yw’r flaenoriaeth o hyd wrth gynllunio ar gyfer digwyddiadau annisgwyl.

Systemau cyfrifiadurol

Mae’r BBC wedi sefydlu rheolaethau a gweithdrefnau i ddiogelu’r data a ddelir ar systemau cyfrifiadurol. Mae trefniadau ar waith i barhau i brosesu ar gyfrifiadur ac i ddiogelu data a’i gadw petai systemau’r BBC ei hun yn methu am ba reswm bynnag. Mae swyddogaeth yr adran Archwiliad Mewnol yn cynnwys tîm Archwilio Systemau arbenigol sy’n adolygu integredd parhaus yr holl systemau o fewn y BBC, yn cynnwys systemau critigol cyfrifiadurol a darlledu.

Rheolaethau dros brosesu trafodion a osodir ar gontract

Caiff y mwyafrif o waith prosesu trafodion ariannol y BBC ei osod ar gontract i gwmni gwasanaethau, sef Media Accounting Services Limited (Medas), un o is-gwmnïau EDS o dan berchenogaeth lawn sy’n annibynnol ar y BBC.

Caiff y gwaith o gasglu ffi’r drwydded ei osod ar gontract i Capita. Mae’r BBC yn monitro darpariaethau a roddwyd ar waith gan Capita er mwyn sicrhau bod ffi’r drwydded yn cael ei chasglu hyd yn oed os amherir ar y busnes.

Mae camau diogelwch ar waith i sicrhau integredd dulliau prosesu trafodion a data casglu’r BBC, a nodwyd prosesau casglu eraill y gellir eu mabwysiadu petai’r broses casglu graidd yn methu.

Mae’r Cyfarwyddwr Cyllid, Eiddo a Materion Busnes wedi sefydlu gweithdrefnau monitro i adolygu’n rheolaidd berfformiad cwmnïau allweddol sy’n cyflenwi gwasanaethau a osodir ar gontract. Mae’r rhain yn cynnwys arolygon gan yr adran Archwiliad Mewnol drwy raglen waith a gaiff ei llywio gan asesiad parhaus o’r risgiau a’r materion allweddol. Cyflwynir data perfformiad, adroddiadau ariannol ac ystadegau cydymffurfio ar ffurf adroddiad i’r BBC yn fisol.

Datgelu cyfrinachau

Mae gan y BBC bolisi datgelu cyfrinachau neu ddatgeliad a ddiogelir. Mae’r polisi yn ei gwneud yn bosibl i hysbysu’r BBC yn ddienw o

unrhyw ddigwyddiad lle yr amheuir bod codau’r BBC wedi’u torri. Gweinyddir y broses gan gwmni allanol annibynnol er mwyn sicrhau anhysbysrwydd. Hysbysir y Pennaeth Sicrwydd Busnes am bob achos a nodwyd, a fydd yn sicrhau yr ymchwilir i bob achos, bod ymateb yn cael ei gyfathrebu a bod camau wedi’u cymryd fel y bo’n briodol.

Adroddiadau ariannol a pherfformiad busnes

Mae isadrannau unigol yn gyfrifol am sicrhau eu bod yn cydymffurfio â system adroddiadau ariannol y BBC.

Mae gan y BBC system gynhwysfawr ar gyfer cofnodi canlyniadau ariannol a pherfformiad busnes. Yn ystod y flwyddyn mae pob isadran yn paratoi adroddiadau a chyfrifon misol. Adolygir y canlyniadau hyn yn lleol ac mae’r Grwp Rheolaeth Ariannol yn craffu arnynt. Adolygir canlyniadau cyfunol y BBC yng nghyfarfodydd y Pwyllgor Gweithredol a Bwrdd y Llywodraethwyr bob mis.

Bob blwyddyn ariannol bydd yr isadrannau yn paratoi cyllidebau manwl ar gyfer y flwyddyn ariannol ganlynol ac yn diweddaru cynlluniau hirdymor. Adolygir cyllideb flynyddol pob isadran gan y Cyfarwyddwr Cyllid, Eiddo a Materion Busnes. Cymeradwyir cyllideb gyffredinol y BBC gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol, y Pwyllgor Gweithredol a Bwrdd y Llywodraethwyr. Mae perfformiad pob isadran yn agored i fonitro misol parhaus ac ar ddiwedd y flwyddyn, mae pob isadran yn agored i arolwg trylwyr o’u perfformiad er mwyn cadarnhau pa mor effeithiol y buont wrth fodloni eu hamcanion.

Ymwybyddiaeth o dwyll

Er bod yr achosion o dwyll yn brin, mae’r BBC yn cymryd ei gyfrifoldebau dros leihau’r risg o dwyll, a’r golled i dalwyr y drwydded yn sgîl hynny, o ddifrif. Yn ystod y flwyddyn, mae’r BBC wedi cwblhau arolwg allanol sylweddol o’i fesurau gwrth-dwyll. Diweddarwyd y polisi gwrth-dwyll, sy’n egluro cyfrifoldeb cyffredinol a therfynol dros sicrhau bod y rheolaethau priodol ar waith i leihau’r risg o weithgaredd twyllodrus, a’r cynllun ymateb i dwyll.

Sefydlwyd grwp gwrth-dwyll, a gadeiriwyd gan y Pennaeth Sicrwydd Busnes ac mae’n cynnwys cynrychiolwyr o’r adran Polisi a’r Gyfraith, adran Pobl y BBC a gwybodaeth weithredol ac ariannol o bob isadran. Amcanion allweddol y grwp yw ymgorffori mesurau i leihau’r risg o dwyll a chodi ymwybyddiaeth gyffredinol o dwyll ar draws y BBC. Mae’r isadrannau yn gyfrifol am hysbysu’r Uned Ymchwiliadau, a’r Pennaeth Sicrwydd Busnes yn y pen draw, o unrhyw amheuon o weithgaredd twyllodrus.

Pwyllgor Archwilio’r Llywodraethwyr

Yn ystod y flwyddyn, roedd y Pwyllgor Archwilio yn cynnwys y Llywodraethwyr canlynol yn unig: Y Fonesig Pauline Neville-Jones (Cadeirydd), Dermot Gleeson, Syr Robert Smith a’r Farwnes Hogg (a ymddeolodd Chwefror 2004). Mae’r Pwyllgor Archwilio yn cydymffurfio â’r argymhellion o fewn Adroddiad Smith sef bod o leiaf un aelod o’r Pwyllgor Archwilio yn meddu ar brofiad ariannol diweddar a pherthnasol helaeth. Mae aelodau o’r tîm rheoli gweithredol yn mynychu cyfarfodydd ar gais y Pwyllgor Archwilio.

Cyfrifoldebau allweddol y Pwyllgor Archwilio yw: adolygu adroddiadau gan y rheolwyr a’r adran Archwiliad Mewnol ar effeithiolrwydd y systemau o reolaeth ariannol fewnol, adroddiadau ariannol a rheoli risg adolygu rhaglen waith yr adran Archwiliad Mewnol a sicrhau bod digon o adnoddau gan y swyddogaeth archwilio mewnol a rheoli risg, ac y telir sylw priodol iddi cymeradwyo penodi neu ddiswyddo’r Pennaeth Sicrwydd Busnes

88

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

ystyried ymateb y rheolwyr i unrhyw argymhellion pwysig i archwiliad allanol neu fewnol ystyried penodi archwilwyr allanol ac asesu annibyniaeth, gan sicrhau y caiff partneriaid allweddol eu cylchdroi yn rheolaidd goruchwylio’r broses o ddewis archwilwyr allanol argymell y ffi archwilio i’r Bwrdd a chymeradwyo unrhyw ffioedd ar gyfer gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig ag archwilio a ddarperir gan archwilwyr allanol a sicrhau nad yw darparu gwasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig ag archwilio yn amharu ar annibyniaeth neu wrthrychedd yr archwilwyr allanol trafod natur a chwmpas yr archwiliad gyda’r archwilwyr allanol ac adolygu gweithdrefnau rheoli ansawdd yr archwilwyr a’r camau a gymerwyd ganddynt i ymateb i newidiadau mewn gofynion rheoliadol a gofynion eraill adolygu llythyr rheoli’r archwilwyr allanol ac ymateb y rheolwyr adolygu perfformiad ac effeithiolrwydd yr archwilwyr allanol adolygu a herio, lle y bo angen, gweithredoedd a dyfarniadau’r rheolwyr mewn perthynas â’r datganiadau ariannol a’r arolwg ariannol blynyddol bodloni ei hun bod pob mater yn ymwneud â chydymffurfiad rheoliadol wedi’i ystyried wrth baratoi’r Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon adolygu gweithdrefnau’r BBC ar gyfer ymdrin â honiadau gan ddatgelwyr cyfrinachau adolygu cylch gorchwyl ac effeithiolrwydd y Pwyllgor Archwilio yn flynyddol

Wrth adolygu datganiadau ariannol y BBC, mae’r Pwyllgor Archwilio yn ystyried unrhyw faterion arwyddocaol, a pha mor briodol y mae’r polisïau cyfrifo a fabwysiadwyd mewn perthynas â thrafodion sylweddol neu anarferol pan allai mwy nag un polisi fod yn berthnasol.

Mae Cadeirydd y Pwyllgor Archwilio yn cyflwyno adroddiadau i Fwrdd llawn y Llywodraethwyr ar ôl pob cyfarfod a gynhelir gan y Pwyllgor.

Annibyniaeth archwilwyr allanol

Mae’r BBC yn cydymffurfio â’r arweiniad sy’n llywodraethu ymddygiad yr archwilwyr allanol a nodir yn y Cod Cyfunol ac argymhellion ar gyfer pwyllgorau archwilio a geir yn Adroddiad Smith. Yr archwilwyr allanol a benodir gan y BBC yw KPMG LLP fel archwilwyr ariannol a PricewaterhouseCoopers LLP fel archwilwyr masnachu teg (gweler tudalennau 82 i 86). Mae gan y Pwyllgor Archwilio a KPMG LLP eu hunain gamau diogelwch ar waith er mwyn osgoi’r posibilrwydd o gyfaddawdu gwrthrychedd ac annibyniaeth yr archwilwyr.

Mae’r Pwyllgor Archwilio yn adolygu annibyniaeth ei archwilwyr allanol yn rheolaidd, gan sicrhau y caiff partneriaid allweddol eu newid yn rheolaidd. Mae’r Pwyllgor Archwilio yn cynnal trafodaethau gyda’r archwilwyr allanol heb fod y rheolwyr yn bresennol. Mae’r Pwyllgor Archwilio yn adolygu lefel ffioedd nad ydynt yn gysylltiedig ag archwilio a delir i KPMG LLP. Cynhelir proses dendro gystadleuol ar gyfer unrhyw waith ymgynghori sylweddol. Mae’n rhaid cael cymeradwyaeth y Pwyllgor Archwilio cyn recriwtio o KPMG LLP i unrhyw swydd uwch reolwr.

Polisïau’r BBC mewn perthynas â gwasanaethau a gaffaelwyd gan yr archwilwyr allanol yw: bod yn rhaid hysbysu’r Pwyllgor Archwilio am yr holl wasanaethau nad ydynt yn gysylltiedig ag archwilio y bwriedir eu comisiynu gan yr archwilwyr allanol a rhaid i’r Pwyllgor Archwilio eu cymeradwyo bod yn rhaid cyflwyno’r gwaith arfaethedig uwchlaw isafswm lefel i dendr cystadleuol a, phetai’r contract yn cael ei ddyfarnu i’r archwilwyr allanol, bod yn rhaid cael cymeradwyaeth y Pwyllgor Archwilio ymlaen llaw

eithrir yr archwilwyr allanol yn benodol rhag cael eu hystyried ar gyfer mathau penodol o waith, lle gallai hynny effeithio ar eu gallu i fynegi barn annibynnol a gwrthrychol

Arolygon gwerth am arian

Yn ystod y flwyddyn, mae’r BBC wedi ymestyn ei raglen o arolygon i gynnwys mwy o ganolbwyntio ar arolygon gwerth am arian ar draws y BBC. Mae’r arolygon hyn yn canolbwyntio’n bennaf ar werth am arian ac archwilio i wariant cyhoeddus. Mae’r Pwyllgor Archwilio wedi rhoi rhaglen dreigl o arolygon gwerth am arian ar waith i’w chynnal gan yr adran Archwiliad Mewnol ac asiantaethau allanol eraill gan gynnwys y Swyddfa Archwilio Genedlaethol. Yr arolygon gwerth am arian cyntaf a gomisiynwyd o asiantaethau allanol gan y Pwyllgor Archwilio yw arolwg y Swyddfa Archwilio Genedlaethol o fuddsoddiad y BBC mewn Freeview. Bydd Bwrdd y Llywodraethwyr yn cyflwyno canfyddiadau’r Swyddfa Archwilio Genedlaethol ac ymateb y BBC iddynt ger bron y Senedd yn ystod yr haf eleni.

Pwyllgor Eiddo’r Llywodraethwyr

Sefydlwyd Pwyllgor Eiddo’r Llywodraethwyr yn ffurfiol fel is-bwyllgor o Fwrdd y Llywodraethwyr ym mis Hydref 2003.

Mae’r Pwyllgor Eiddo yn goruchwylio’r modd y mae’r rheolwyr yn gweithredu strategaeth eiddo’r BBC gan gynnwys monitro’r cynnydd yn y gwaith o ailddatblygu’r Ganolfan Ddarlledu, Llundain. Fodd bynnag, y Pwyllgor Archwilio yw’r pwyllgor awdurdodol y mae’r Gorfforaeth yn troi ato wrth bennu cydymffurfiad boddhaol â rheolaethau mewnol ac allanol, gan gynnwys prosiectau eiddo.

Yn ystod y flwyddyn, roedd y Pwyllgor Eiddo yn cynnwys

Llywodraethwyr y BBC yn unig: Gavyn Davies (a ymddiswyddodd Ionawr 2004), Y Gwir Anrh Yr Arglwydd Ryder, Syr Robert Smith a Dermot Gleeson. Mae’r Pwyllgor Eiddo yn cyfarfod yn ôl y galw.

Cyfrifoldebau allweddol y Pwyllgor Eiddo yw: bodloni ei hun bod prosiectau eiddo pwysig o fewn y strategaeth eiddo y cytunwyd arni yn gwneud cynnydd yn unol â’r cynllun a’r gyllideb cael ei hysbysu am unrhyw amrywiadau neu newidiadau arwyddocaol cyn i’r rheolwyr ofyn i Fwrdd llawn y Llywodraethwyr gymeradwyo gwariant cynyddol (yn unol â’r canllawiau buddsoddi sy’n cwmpasu lefelau cymeradwyaeth) cael ei hysbysu ymlaen llaw am unrhyw gynnig gan y rheolwyr i waredu asedion eiddo cael ei hysbysu am unrhyw faterion arwyddocaol a sicrhau, lle y bo angen, y cânt eu cyfeirio at y Pwyllgor Archwilio er mwyn archwilio ymhellach iddynt

Trefniadau llywodraethu ar gyfer Busnesau Masnachol

Ym mis Gorffennaf 2002, cymeradwyodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon y broses o sefydlu is-gwmni newydd, BBC Commercial Holdings Limited, er mwyn cydlynu a rheoli gweithgareddau ac anghenion ariannu’r prif is-gwmnïau masnachol. Ategir nodau gwasanaeth cyhoeddus y BBC ym Memorandwm Cyweithio’r cwmni a gellir arfer llawer o’i bwerau, gan gynnwys y pwer i benodi cyfarwyddwyr, yn amodol ar gymeradwyaeth Bwrdd y Llywodraethwyr ymlaen llaw.

Sefydlwyd Pwyllgor Archwilio Bwrdd Commercial Holdings Limited (CHAC) ym mis Medi 2003 ac mae’n gyfrifol am ystyried holl bapurau’r Pwyllgor Archwilio yn ymwneud â’r Busnesau Masnachol. Mae aelodau CHAC yn annibynnol ar y gwaith o reoli’r Busnesau Masnachol yn weithredol. Caiff materion o bwys eu hystyried a’u trafod gan Bwyllgor Archwilio’r Llywodraethwyr.

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 89

Cydymffurfiad

Amcan CHAC yw sicrhau bod Busnesau Masnachol y BBC yn cyrraedd y safonau uchaf o lywodraethu corfforaethol, yn arbennig o ran rheolaeth fewnol a rheoli risg a’u bod yn gweithredu o fewn fframwaith Pwyllgor Archwilio’r Llywodraethwyr. Mae Cadeirydd CHAC yn cyflwyno adroddiad ym mhob un o gyfarfodydd Pwyllgor Archwilio’r Llywodraethwyr.

Digwyddiadau’r flwyddyn

Bwriedir i system o reolaethau’r BBC, fel y nodwyd uchod, reoli risgiau yn hytrach na’u dileu yn llwyr. Yn ystod y flwyddyn, mae’r BBC wedi adolygu’r gwersi a ddysgwyd o’r digwyddiadau canlynol ac wedi diweddaru rheolaethau lle yr ystyriwyd bod hynny’n briodol.

Ymchwiliad Hutton

Trafodir ymateb y BBC i Ymchwiliad Hutton yn fanwl ar dudalennau 4-5.

4 Cyfrifoldebau llywodraethu corfforaethol eraill Adnoddau dynol

Mae’r BBC yn parhau i ddal yr achrediad Buddsoddwyr mewn Pobl (BmP) ar draws y BBC cyfan, ac mae’n ystyried mai hwn yw un o’r prosesau allweddol ar gyfer gwerthuso’r cynnydd yn y gwaith o reoli a datblygu pobl. Mae’n cymryd camau gweithredol tuag at wella ei berfformiad ym mhob maes drwy raglen o hunan-asesu llym bob blwyddyn. Mae’r BBC yn buddsoddi swm sylweddol o arian a llawer o amser er mwyn hyfforddi a datblygu ei staff fel y manylir ar dudalennau 72 i 73.

Mae’r BBC yn monitro barn ei staff drwy arolwg staff blynyddol. Mae ganddo ddulliau ymgynghori amrywiol hefyd, gan gynnwys, ar lefel gorfforaethol, Fforwm y BBC. Yn ogystal, cynhelir cyfarfodydd rheolaidd ag undebau cydnabyddedig: BECTU (Undeb Darlledu, Adloniant, Sinematograff a Theatr), NUJ (Undeb Cenedlaethol y Newyddiadurwyr) ac AMICUS (AEEU yn flaenorol).

Cyfathrebu mewnol

Caiff y cynnydd o ran gwella cyfathrebu mewnol ei fesur drwy arolwg blynyddol o farn y staff a gynhelir gan MORI. Dangosodd yr arolwg diweddaraf, a gynhaliwyd ym mis Rhagfyr 2003, fod y BBC yn parhau i wneud cynnydd mewn meysydd allweddol o drafodaeth fewnol, dealltwriaeth, agwedd ac ymddygiad. Mae’r BBC bellach ymhlith deg sefydliad gorau MORI yn y DU am gyfathrebu mewnol ac mae arferion y BBC wedi denu diddordeb rhyngwladol yn y maes hwn yn ystod 2003/2004.

Rheoli risg galwedigaethol

Mae’r BBC wedi parhau i geisio gwelliant parhaus wrth gyflawni perfformiad rheoli risg, gan gynnwys iechyd a diogelwch, ac mae wedi atgyfnerthu ei strwythur cymorth proffesiynol a’i alluoedd i adlewyrchu rôl ehangach rheoli risg galwedigaethol. Bydd uned Rheoli Risg Galwedigaethol y BBC yn canolbwyntio mwy ar gyflawni polisi ac arweiniad cysylltiedig, cyflawni prosiectau galluogi a monitro’r gwaith o reoli cydymffurfiad â deddfwriaeth a pholisi’r BBC.

Mae egwyddorion rheoli risg da a’r mesurau iechyd a diogelwch a ddatblygwyd i’w cyflawni wedi arwain at duedd ystadegol sy’n gwella ym mherfformiad iechyd a diogelwch. Gostyngodd nifer y damweiniau a gofnodwyd yn y DU ar gyfer y 12 mis diwethaf o 47 i 38 fel y diffinnir gan Reoliadau Cofnodi Anafiadau, Afiechydon a Digwyddiadau Peryglus y DU 1995 – RIDDOR. Yn anffodus, ym mis Ebrill 2003, yn ystod darlledu’r rhyfel yn Irac, lle y defnyddiwyd 329 o bobl gan y BBC yn ystod ei anterth, bu farw dau aelod o staff ac anafwyd un yn ddifrifol mewn dau ddigwyddiad mawr. Yn dilyn y gwrthdaro ac o

ganlyniad i’r cynnydd yn y bygythiad gan derfysgwyr, mae’r BBC wedi rhoi mesurau ychwanegol ar waith i ategu ei bolisïau iechyd a diogelwch, gan gynnwys tîm cymorth proffesiynol a phenodol ar gyfer ardaloedd risg uchel, gweithdrefnau gweithredu safonol ar gyfer swyddfeydd dramor mewn amgylcheddau anghyfeillgar, cyngor diogelwch ar gyfer prosiectau adeiladu newydd a chomisiynu arolwg o strategaeth ddiogelwch y Gorfforaeth.

O’r digwyddiadau uchod y mae’n ofynnol eu cofnodi o dan RIDDOR, nododd y BBC un farwolaeth o ganlyniad i afiechyd galwedigaethol yn gysylltiedig ag asbestos a dau anaf difrifol. Gan ystyried y damweiniau a ddigwyddodd i gyflogeion y BBC yn y DU, 134 oedd cyfradd y damweiniau ar gyfer pob 100,000 o gyflogeion ar gyfer 2003/2004, sef gostyngiad o 29% o gyfradd y damweiniau yn y flwyddyn flaenorol, sef 188.

Parhaodd yr achosion tybiedig o salwch yn gysylltiedig â galwedigaeth a welwyd gan swyddogion meddygol y BBC i ostwng hefyd o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol. Yn 2003/2004, 17.51 oedd y gyfradd o achosion tybiedig o salwch galwedigaethol (o bob math) ar gyfer pob 1,000 o gyflogeion y flwyddyn. Mae hyn o’i gymharu â 17.78 ar gyfer pob 1,000 o gyflogeion y flwyddyn yn 2002/2003.

Cyflwynodd Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch (HSE) y DU Hysbysiad Gwella o ran trefniadau corfforaethol annigonol o dan Reoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 1994. O ganlyniad, cafodd y rhan hon o bolisi a threfniadau’r Gorfforaeth ei gwella i gydymffurfio â’r hysbysiad gorfodi. Ni chafwyd y BBC yn euog o unrhyw droseddau yn ymwneud ag iechyd a diogelwch.

Sefydlwyd is-bwyllgor Gweithredol i adolygu cynnydd ar sicrhau cysondeb a chydymffurfiad ym mhob maes yn ymwneud â risg galwedigaethol ac i fynd i’r afael â materion ar draws y BBC. Yn ogystal, sefydlwyd tîm Archwiliad Risg Galwedigaethol annibynnol o fewn Archwiliad Mewnol.

Fel rhan o raglen gydymffurfio’r BBC, cynhaliwyd nifer o arolygon ac archwiliadau gan gynnwys arolwg o bolisi, sefydliad a threfniadau ar gyfer prosesau eiddo (yr endid cyfreithlon sy’n darparu dull o reoli Partneriaeth y BBC/Land Securities Trillium) i sicrhau eglurder cyfrifoldebau, a bod prosesau monitro ac adolygu ar waith a’u bod yn ddigonol ar gyfer y risgiau. Bydd y rhain yn parhau i fod yn rhan o’r ymrwymiad i wella iechyd a diogelwch ac mae’n sicrhau bod y BBC yn adolygu cynnydd yn barhaus yn erbyn yr argymhellion sy’n deillio o weithgareddau monitro ac archwilio.

Cynhaliodd yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch gyfres o ymweliadau arolygu wedi’u trefnu i weithgareddau cynhyrchu a darlledu teledu’r BBC yn Llundain, gan ganolbwyntio ar strategaeth Adfywio Iechyd a Diogelwch y Llywodraeth. Cyflwynwyd adroddiad yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch yn cadarnhau eu harsylwadau a’u hargymhellion yn ffurfiol i’r BBC ddiwedd mis Mai 2004.

Lansiwyd sawl menter bwysig yn ystod y flwyddyn, yn cynnwys defnyddio dulliau hyfforddi ac asesu Offer Sgrîn Arddangos sy’n seiliedig ar y we, system rheoli digwyddiadau, integreiddio cynnwys iechyd a diogelwch a phresenoldeb Ymgynghorwyr Diogelwch o fewn y Rhaglen Arweinyddiaeth ar draws y BBC a sefydlu Bwrdd Dysgu ar gyfer iechyd a diogelwch. Rhoddwyd mwy o bwyslais ar geisio gwelliannau i’r prosesau caffael, er enghraifft yn y gwaith o reoli contractwyr a rag-archwiliwyd a datblygu canllawiau a chyngor ergonomig i adran Eiddo’r BBC a rheolwyr yr adrannau ar ddewis a chaffael dodrefn. Mae gwaith hefyd yn parhau ar brosiectau i wella effeithiolrwydd dulliau o fonitro

90

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

mewnol drwy wneud mwy o ddefnydd o dechnoleg cronfeydd data a thechnoleg y we.

Gwnaed cynnydd da ar y cynlluniau gweithredu yn dilyn cwblhau asesiadau o risg tân ar gyfer holl adeiladau’r BBC ac, fel rhan o brosiect mawr i leihau risg ar gyfer ein heiddo allweddol, ar gyfer dulliau o ddianc i bobl anabl. Mae gwaith eisoes yn mynd rhagddo i baratoi ar gyfer y newidiadau i’r Rheoliadau Swn yn y Gwaith. Er y daw’r newidiadau i rym yn 2006, bydd gan y diwydiant darlledu ac adloniant hyd 2008 i gydymffurfio â hyn. Parhaodd y Prosiect Diogelwch Trydanol a chyhoeddwyd pump o’r 21 o Nodiadau Canllaw ar Ddiogelwch Trydanol (mae wyth arall yn y cyfnod drafft) yn cwmpasu pob agwedd ar ddiogelwch trydanol yn y BBC.

Mae’r BBC yn parhau i hyrwyddo gwybodaeth am ddatblygu arferion diogel o fewn y diwydiannau darlledu a chynhyrchu, ac yn cyfrannu at y broses honno, drwy gyd-gyrff y diwydiant yn ogystal â chyhoeddi deunydd iechyd a diogelwch ar y rhyngrwyd.

5 Adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr

Mae’r adroddiad hwn yn nodi polisi’r BBC ar gydnabyddiaeth Bwrdd y Llywodraethwyr ac aelodau o’r Pwyllgor Gweithredol. Er bod y BBC wedi’i eithrio rhag y gofynion a gyflwynwyd gan Reoliadau Adroddiadau ar Gydnabyddiaeth Cyfarwyddwyr 2002 a rheoliadau’r Awdurdod Gwasanaethau Ariannol, paratowyd yr adroddiad fel petai’r gofynion hynny yn berthnasol lle bynnag y mae’r darpariaethau datgelu yn berthnasol ac yn gymwys. Dim ond yr adrannau canlynol o’r adroddiad ar gydnabyddiaeth y Llywodraethwyr sy’n agored i’w harchwilio: Cydnabyddiaeth a dderbyniwyd a phensiynau’r Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol.

Pwyllgor Cydnabyddiaeth y Llywodraethwyr: cyfansoddiad a gweithrediad

Caiff y polisi cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Gweithredol ei lunio gan y Pwyllgor Cydnabyddiaeth, is-bwyllgor o Fwrdd y Llywodraethwyr. Mae’r Pwyllgor hwn yn ymdrin â’r holl faterion sy’n ymwneud â chydnabyddiaeth aelodau o’r Pwyllgor Gweithredol ac mae’n atebol i Fwrdd y Llywodraethwyr o ran pennu a chadw at y polisi cydnabyddiaeth cyfan ac o ran adolygu cyflogau sylfaenol, taliadau bonws a buddiannau’r Pwyllgor Gweithredol, gan gynnwys trefniadau pensiwn, a chytuno arnynt. Mae’r Pwyllgor yn ystyried perfformiad aelodau unigol y Pwyllgor Gweithredol cyn argymell eu cydnabyddiaeth a’u taliadau bonws blynyddol i Fwrdd llawn y Llywodraethwyr.

Aelodau’r Pwyllgor yn ystod y flwyddyn oedd Gavyn Davies

(Cadeirydd, a ymddiswddodd ym mis Ionawr 2004), Y Farwnes Hogg (a ymddeolodd ym mis Chwefror 2004), y Fonesig Pauline Neville-Jones a’r Gwir Anrhydeddus Yr Arglwydd Ryder. Mae Michael Grade wedi bod yn aelod o’r Pwyllgor ers ei benodi fel Cadeirydd y BBC. Daeth Syr Robert Smith yn aelod o’r Pwyllgor hefyd ym mis Mai 2004. Yn ogystal, mynychir cyfarfodydd gan y Cyfarwyddwr Cyffredinol sy’n cynghori ar faterion yn ymwneud ag aelodau eraill o’r Pwyllgor Gweithredol a pherfformiad cyffredinol y BBC a chan Gyfarwyddwr adran Pobl y BBC. Ni fydd y naill na’r llall yn bresennol pan ystyrir materion yn ymwneud â’u cydnabyddiaeth hwy.

Yn ei gyfansoddiad a’i weithrediad mae’r Pwyllgor yn cydymffurfio â’r ‘Combined Code on Corporate Governance’. Mae’r Pwyllgor yn ystyried bod annibyniaeth ei brosesau gwneud penderfyniadau yn hollbwysig. Gan ymgynghori â Chyfarwyddwr adran Pobl y BBC, mae’r Pwyllgor yn derbyn cyngor arbenigol gan ymgynghorwyr proffesiynol allanol ar faterion penodol yn ymwneud â chydnabyddiaeth, yn arbennig o ran ystyried arfer yn y farchnad allanol. Yn ystod y

flwyddyn, enwebodd a derbyniodd y Pwyllgor gyngor annibynnol gan Grwp Hay ar ddata cymharol yn y farchnad er mwyn cynorthwyo gyda’r broses o bennu cyflogau a buddiannau’r Pwyllgor Gweithredol.

Llywodraethwyr: polisi cydnabyddiaeth

Caiff y Llywodraethwyr ffi a bennir gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ddiwylliant, y Cyfryngau a Chwaraeon. Cânt eu had-dalu hefyd am dreuliau yr eir iddynt wrth ymwneud â busnes y BBC. Caiff treuliau a ystyrir gan Gyllid y Wlad yn rhai trethadwy eu setlo’n llawn gan y BBC, yn cynnwys unrhyw daliadau treth cysylltiedig, ac fe’u cofnodir fel buddiannau yn y tabl ar dudalen 93. Y cynnydd yn y gydnabyddiaeth flynyddol a gofnodwyd ar gyfer 2003/2004 oedd 2.25% (2002/2003 2.5%).

Pwyllgor Gweithredol: polisi cydnabyddiaeth

Mae’r polisi cydnabyddiaeth ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Gweithredol yn ceisio sicrhau cydbwysedd rhwng statws y BBC fel corfforaeth gyhoeddus (a’r disgwyliad bod yn rhaid i bob maes gwario, gan gynnwys cydnabyddiaeth swyddogion gweithredol, ddarparu gwerth i dalwyr y drwydded) a’r ffaith bod y BBC yn gweithredu mewn amgylchedd cystadleuol a masnachol a bod angen iddo gynnig cydnabyddiaeth sy’n galluogi iddo ddenu, cadw a chymell unigolion o safon sy’n meddu ar y sgiliau a’r gallu i arwain y BBC.

Wrth wneud hynny, mae’r polisi cydnabyddiaeth yn ceisio: talu cydnabyddiaeth deg i unigolion am eu cyfrifoldeb a’u cyfraniad unigol, tra’n darparu elfen o gyflog yn seiliedig ar berfformiad, yn adlewyrchu perfformiad sylfaenol y BBC ystyried polisi cyflogau ac amodau cyflogaeth ehangach o fewn gweddill y BBC a’r berthynas a ddylai fodoli rhwng cydnabyddiaeth aelodau’r Pwyllgor Gweithredol a chyflogeion eraill ystyried lefelau canolig y farchnad mewn perthynas â chyfanswm gwobrau ariannol sefydliadau tebyg perthnasol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat

Bydd ymagwedd y Pwyllgor tuag at ddatblygu polisi yn parhau i adlewyrchu’r egwyddorion hyn, wedi’i ategu gan broses reolaidd o adolygu a monitro polisi ac arfer o ran cydnabyddiaeth mewn sefydliadau y tu allan i’r BBC.

Dengys data allanol a adolygir gan y Pwyllgor fod cyflogau a dalwyd ar brif lefel bwrdd ar draws y sector preifat cyfan, ac yn y diwydiant cyfryngau yn arbennig, yn sylweddol uwch nag yn y BBC ar gyfer sefydliadau o faint a chymhlethdod tebyg, tra bod y cyfleoedd ar gyfer taliadau bonws blynyddol a hirdymor yn fwy o lawer hefyd. I’r gwrthwyneb, mae’r lefelau cyflog ar gyfer uwch weision sifil a rheolwyr eraill yn y sector cyhoeddus yn is. Mae’r lefelau cydnabyddiaeth a bennir gan y Llywodraethwyr yn disgyn rhwng cyflogau’r uwch reolwyr mwyaf profiadol sy’n gweithio yn y sector cyhoeddus a’r rhai mewn busnesau masnachol tebyg er mwyn adlewyrchu statws unigryw’r BBC fel sefydliad a ariennir yn gyhoeddus sy’n gweithredu ac yn cystadlu mewn diwydiant masnachol.

Elfennau o gydnabyddiaeth

Cyflog sylfaenol

Adolygir cyflogau sylfaenol bob mis Awst, gan ystyried lefelau’r farchnad allanol a chymariaethau mewnol yn ogystal â chyfrifoldebau a pherfformiad yr unigolyn. Telir y cyflog sylfaenol fel swm misol sefydlog mewn arian parod.

Bonws blynyddol

Mae’r Pwyllgor yn cydnabod pwysigrwydd cynnal cydbwysedd rhwng cyflog sylfaenol a chynllun bonws blynyddol sy’n adlewyrchu

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004 91

Cydymffurfiad

perfformiad a chyfraniad unigolion. Mae bonysau blynyddol yn parhau i gael eu pennu ar uchafswm lefel o 30% o’r cyflog sylfaenol ac mae’r dyfarniadau unigol yn seiliedig ar gymysgedd o dargedau a mesurau ansoddol a meintiol.

Mae cyflawni amcanion ar draws y BBC yn dylanwadu ar hyd at 30% o’r uchafswm bonws, gyda’r un lefel o ddyfarniad yn berthnasol i bob aelod o’r Pwyllgor Gweithredol, gan atgyfnerthu gwerth a phwysigrwydd perfformiad cyfunol. Mae cyflawni amcanion isadrannol yn cyfrif am hyd at 40%, a pherfformiad a chyfraniad unigol am y 30% o’r dyfarniad sy’n weddill. Ar gyfer y flwyddyn dan sylw roedd y targedau’n ymwneud yn bennaf ag amcanion a bennwyd gan Fwrdd y Llywodraethwyr ac a gyhoeddwyd yn Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2002/2003.

Yn achos y Busnesau Masnachol (BBC Worldwide Limited a BBC Ventures Group Limited), mae’r cynllun bonws blynyddol wedi’i gysylltu’n uniongyrchol â chyflawni targedau perfformiad ariannol penodol sy’n ymwneud â gwerthiannau, llif arian ac elw cyn llog a threth (PBIT). Er bod uchafswm y bonws blynyddol yn 30%, sy’n gyffredin ag aelodau eraill y Pwyllgor Gweithredol, mae’r fframwaith yn seiliedig ar: ar gyfer Prif Weithredwr BBC Ventures Group Limited, hyd at 80% o unrhyw ddyfarniad ar gyfer cyflawni targedau PBIT a llif arian a hyd at 20% ar gyfer perfformiad unigol ar gyfer Prif Weithredwr BBC Worldwide Limited, hyd at 67% o unrhyw ddyfarniad ar gyfer cyflawni targedau gwerthiannau, arian parod, a PBIT a hyd at 33% ar gyfer perfformiad unigol

Adlewyrchir taliadau bonws yn y datganiadau ariannol ar sail gronnol ar gyfer y cyfnod perfformiad dan sylw. Gwneir taliadau gwirioneddol ym mis Gorffennaf bob blwyddyn.

Mae cynllun cymhelliant hirdymor hefyd ar waith ar gyfer Prif Weithredwr BBC Worldwide Limited sy’n darparu ar gyfer bonws o hyd at uchafswm o 20% o gyflog yn seiliedig ar gyflawni prif dargedau llif arian y BBC dros gyfnod o dair blynedd. Daeth y cyfnod tair blynedd cyntaf yn y cynllun, a ddechreuodd ym mis Ebrill 2001, i ben ar 31 Mawrth 2004 a chynhyrchodd daliad i Rupert Gavin o 13.53% o’i gyflog. Adlewyrchir unrhyw ddyfarniadau o dan y cynllun yn y datganiadau ariannol ar sail gronnol.

Buddiannau

Yn ogystal â chyflog a bonws, y prif fuddiannau cytundebol a ddarperir yw car a lwfans tanwydd, yswiriant iechyd preifat, pensiwn ac yswiriant bywyd. Ac eithrio swydd Cyfarwyddwr y Gwledydd a’r Rhanbarthau, bu’n bolisi ers rhai blynyddoedd nad yw aelodau newydd a benodir i’r Pwyllgor Gweithredol yn gymwys i gael car â gyrrwr. Mae contract y Cyfarwyddwr Cyffredinol yn darparu ar gyfer car â gyrrwr ond nid oes ganddo’r hawl ychwanegol i gael car personol na lwfans tanwydd.

Pensiynau

Mae pob aelod o’r Pwyllgor Gweithredol yn gymwys i gymryd rhan yng Nghynllun Pensiwn y BBC, sy’n darparu buddiannau pensiwn sy’n gysylltiedig â chyflog ar sail buddiannau diffiniedig, gyda chyfradd gronni o 1/60fed o’r cyflog terfynol am bob blwyddyn o wasanaeth, yn amodol ar derfyn enillion Cyllid y Wlad lle y bo’n briodol. Dim ond cyflog sylfaenol sy’n bensiynadwy. Mae’r Cynllun yn darparu ar gyfer ymddeoliad cynnar ar sail feddygol ac yswiriant bywyd o bedair gwaith y cyflog.

Gwnaed amrywiaeth o drefniadau arbennig ar gyfer yr unigolion hynny sydd wedi ymuno â’r BBC yn hwyr yn eu gyrfaoedd, y mae eu henillion dros derfynau Cyllid y Wlad, gan gynnwys trefniadau wedi’u hariannu a heb eu hariannu y tu allan i Gynllun Pensiwn y BBC.

Contractau cyflogaeth

Yn ôl polisi’r Pwyllgor Cydnabyddiaeth, dylai contractau cyflogaeth aelodau’r Pwyllgor Gweithredol gynnwys uchafswm cyfnod rhybudd gadael o flwyddyn. Mae pob contract yn dod i ben ar ben-blwydd y cyfarwyddwr yn 60 oed, sef oedran ymddeol arferol y BBC, ond mae’n agored i’w derfynu’n gynt am reswm penodol neu os rhoddir rhybudd gadael o dan y contract. Nid oes hawl i unrhyw gydnabyddiaeth ychwanegol yn achos terfyniad cynnar heblaw mewn achos terfynu ar sail diswyddiad.

Buddiannau allanol

Pan nad oes potensial ar gyfer buddiannau sy’n gwrthdaro a thrwy gytundeb ymlaen llaw gyda Bwrdd y Llywodraethwyr, gall aelodau’r Pwyllgor Gweithredol ddal swyddi cyfarwyddwyr allanol. O ran egwyddor, ni ellir dal mwy na dwy swydd cyfarwyddwr allanol ar yr un pryd, a dim ond un o’r rhain ddylai fod mewn sefydliad masnachol. Mae’r Llywodraethwyr yn asesu ceisiadau o’r fath yn erbyn meini prawf llym er mwyn sicrhau na fydd buddiannau yn gwrthdaro. Telir cydnabyddiaeth sy’n deillio o swyddi cyfarwyddwyr y cytunwyd arnynt ers cyflwyno’r polisi hwn ym 1997, neu yn dilyn penodiad, i’r BBC. Yn ystod y flwyddyn, dim ond dau aelod o’r Pwyllgor Gweithredol a oedd yn dal swydd fel cyfarwyddwr gweithredol sefydliad allanol.

Cydnabyddiaeth a dderbyniwyd

Caiff cydnabyddiaeth Bwrdd y Llywodraethwyr neu aelodau’r Pwyllgor Gweithredol a benodir neu sy’n gadael yn ystod y flwyddyn ei chynnwys mewn perthynas â chyfnod eu haelodaeth yn unig.

Cyfanswm Cyfanswm

  Ffioedd  
Llywodraethwyr £000  


 
     
Deborah Bull (a benodwyd 1 Awst 2003) 10  
Gavyn Davies (a ymddiswyddodd 28 Ionawr 2004) 68  
Y Fonesig Ruth Deech 16  
Syr Richard Eyre (a ymddeolodd 31 Mai 2003) 3  
Dermot Gleeson 16  
Y Farwnes Hogg (a ymddeolodd 9 Chwefror 2004) 13  
Yr Athro Merfyn Jones 28  
Yr Athro Fabian Monds 28  
Y Fonesig Pauline Neville-Jones 28  
Y Gwir Anrh Yr Arglwydd Ryder 37  
Angela Sarkis 16  
Syr Robert Smith 28  
Ranjit Sondhi 24  


 
     
  315  
Llywodraethwyr a ymddeolodd yn ystod 2002/2003  


 
     
  315  
 
 

 

Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon y BBC 2003/2004

      Bonws   Buddiannau   Cyfanswm   Cyfanswm  
  Cyflog   blynyddol   trethadwy   2004   2003  
Pwyllgor Gweithredol £000   £000   £000   £000   £000  


 
 
 
 
 
                     
Jenny Abramsky 218   40   18   276   274  
Jana Bennett1 235   43   27   305   444*  
Glenwyn Benson                    
(a ymddiswyddodd 8 Mehefin 2003) 36     3   39   238  
Mark Byford 270   100   14   384   306  
Stephen Dando 231   61   2   294   272  
Andy Duncan2 239   55   15   309   301  
Greg Dyke                    


 
 
 
 
 
(a ymddiswyddodd 29 Ionawr 2004) 316     5   321   464  
Carolyn Fairbairn2,3 202   53   16   271   169  
Roger Flynn                    
(a ymddiswyddodd 31 Mawrth 2004) 239   61   15   315   314  
Rupert Gavin 287   59   27   373   362  
Ashley Highfield 238   53   17   308   294  
Pat Loughrey 205   46   36   287   280  
Peter Salmon 212   49   28   289   279  
Richard Sambrook 235   43   14   292   287  
John Smith 238   63   26   327   300  
Caroline Thomson 187   48   15   250   236  
John Willis4                    
(a benodwyd 9 Mehefin 2003) 183   47   91   321    
Alan Yentob5 235   45   21   301   321  


 
 
 
 
 
                     
  4,006   866   390   5,262   5,141  
Taliadau o dan gynlluniau                    
cymhelliant hirdymor6             39   45  
Aelodau a ymddiswyddodd                    


 
 
 
 
 
yn ystod 2002/2003               175  


 
 
 
 
 
                     
              5,301   5,361  


 
 
 
 
 
                     
Taliadau i gyn gyfarwyddwyr7,8             910   130  

           
 
 

* Penodwyd i’r Pwyllgor yn ystod 2002/2003

1) Cynhwysir £11,887 yn y gydnabyddiaeth ar gyfer Jana Bennett ar gyfer costau a dalwyd mewn cysylltiad â’i hadleoli yn ystod y flwyddyn (2003 £167,000) 2) Mae’r ffigurau bonws yn 2003 ar gyfer Andy Duncan a Carolyn Fairbairn yn cynnwys taliad ychwanegol o £5,000 yr un sy’n adlewyrchu eu cyfraniad tuag at sicrhau’r trwyddedau Teledu Daearol Digidol 3) Cymerodd Carolyn Fairbairn gyfnod o wyliau heb dâl yn ystod 2003 4) Cynhwysir £72,440 yn y buddiannau ar gyfer John Willis ar gyfer taliadau a wnaed mewn cysylltiad â’i adleoli o UDA er mwyn dechrau ar ei swydd gyda’r BBC

5) Mae’r ffigur bonws yn 2003 ar gyfer Alan Yentob yn cynnwys taliad ychwanegol o £20,000 mewn cysylltiad â’i weithgaredd cyflwyno ar y sgrîn yn ystod y flwyddyn 6) Mae’r cymhelliant hirdymor yn gynllun ar gyfer Rupert Gavin 7) Ymddiswyddodd Greg Dyke o’r Pwyllgor Gweithredol ar 29 Ionawr 2004 ond parhaodd yn aelod o staff y BBC hyd at 29 Chwefror 2004. Talwyd £488,416 iddo yn unol â’i hawl gytundebol, yn cynnwys £384,000 yn lle rhybudd 8) Ymddiswyddodd Roger Flynn o’r Pwyllgor Gweithredol ar 31 Mawrth 2004. Daw ei gontract cyfredol i ben ar 30 Medi 2004 pan fydd £301,625 yn ddyledus iddo yn unol â’i hawl gytundebol, yn cynnwys £241,325 yn lle rhybudd

Pensiynau’r Llywodraethwyr a’r Pwyllgor Gweithredol

Mae’r BBC yn darparu buddiannau pensiwn i Gadeirydd y

Llywodraethwyr ac aelodau’r Pwyllgor Gweithredol. Dangosir manylion yr hawliadau buddiannau diffiniedig i aelodau’r Pwyllgor Gweithredol a wasanaethodd yn ystod y flwyddyn ym mhum colofn gyntaf y tabl canlynol. Mae’r BBC hefyd yn gwneud cyfraniadau i gynlluniau prynu arian mewn perthynas â rhai aelodau, fel y dangosir yn y ddwy golofn olaf. Ildiodd Gavyn Davies ei hawl i fuddiannau pensiwn.

      Cynlluniau buddiannau diffiniedig       Cynlluniau  
     
         
                      cyfraniadau  
  Gwerthoedd blynyddol   Gwerthoedd trosglwyddo   5   diffiniedig  


 
 
 
 
                  Cynnydd          
                  mewn          
      Cynnydd   Gwerth   Gwerth   gwerth   Cyfraniadau’r  
  Pensiwn   mewn   trosglwyddo’r   trosglwyddo’r   trosglwyddo   BBC i  
  cronedig   pensiwn   pensiwn   pensiwn   llai   gynlluniau  
Aelodau’r ar 31   cronedig   cronedig   cronedig   cyfraniadau’r   prynu arian  
Pwyllgor Mawrth   yn ystod y   ar 31   ar 31   cyfarwyddwyr          
Gweithredol 2004   flwyddyn   Mawrth   Mawrth