Y BBC yw corfforaeth ddarlledu fwya'r byd. Ei nod yw cyfoethogi bywydau pobl gyda rhaglenni sy'n hysbysu, addysgu a diddanu.
Gweler Cenhadaeth a gwerthoedd.
Mae'n ddarlledwr gwasanaeth cyhoeddus a sefydlwyd gan Siarter Frenhinol ac a ariennir gan ffi trwydded a delir gan aelwydydd y DU.
Gweler Siarter Frenhinol a Chytundeb, Ffi'r drwydded.
Mae'r BBC yn defnyddio'r incwm o ffi'r drwydded i ddarparu gwasanaethau gan gynnwys 8 sianel deledu genedlaethol yn ogystal รข rhaglenni rhanbarthol, 10 gorsaf radio genedlaethol, 40 gorsaf radio leol a gwefan gynhwysfawr, bbc.co.uk.
Gweler
BBC services on TV, radio and online.
Mae'r BBC World Service yn darlledu i bedwar ban byd ar y radio, y teledu ac ar-lein, gan ddarparu newyddion a gwybodaeth mewn 32 iaith. Fe'i hariennir gan grant y llywodraeth, nid trwy ffi'r drwydded.
Gweler BBC World Service.
Mae gan y BBC gangen fasnachol, BBC Worldwide, sy'n cynnal busnesau amrywiol, gan gynnwys gwerthu rhaglenni ym mhob cwr o'r byd a chyhoeddi llyfrau, DVDs a nwyddau. Dychwelir yr elw i'r BBC i'w fuddsoddi mewn rhaglenni a gwasanaethau newydd.
Gweler BBC Worldwide.
Llywodraethir y BBC gan Ymddiriedolaeth y BBC, sy'n cynrychioli buddiannau talwyr ffi'r drwydded ac yn pennu'r strategaeth gyffredinol. Cadeirydd yr Ymddiriedolaeth yw Syr Michael Lyons.
Gweler Ymddiriedolaeth y BBC.
Bwrdd Gweithredol y BBC, dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Mark Thompson, sy'n rheoli gweithrediadau'r gorfforaeth o ddydd i ddydd.
Gweler How the BBC is run.