Mae'r BBC yn ymdrechu i fod yn agored a thryloyw. Yn unol â'r ymrwymiad hwn rydym yn cyhoeddi gwybodaeth yn wirfoddol sy'n mynd y tu hwnt i'n rhwymedigaethau. Fodd bynnag, bydd rhai amgylchiadau'n codi lle nad oes modd i ni ddatgelu gwybodaeth am resymau golygyddol, moesegol, cyfreithiol neu fasnachol. Pan fo hyn yn digwydd byddwn yn egluro'r rheswm am hyn.
Yn y dudalen hon rydym yn disgrifio sut yr awn ati i fod yn agored a thryloyw, gan gynnwys y mathau o wybodaeth a gyhoeddwn, pwy yr ydym yn adrodd iddynt a sut i gael gafael ar y BBC.
Mae'r Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth yn rhoi hawl i'r cyhoedd gael gafael ar bob math o wybodaeth wedi'i chofnodi sydd gan awdurdodau cyhoeddus. I gael gwybod sut y mae'r Ddeddf yn berthnasol i'r BBC, sut i wneud cais am wybodaeth gennym ni ac i gael rhestr lawn o'r wybodaeth a gyhoeddwn fel rhan o Gynllun Cyhoeddiadau'r BBC, gweler Freedom of Information.
Bwrdd Gweithredol y BBC, dan gadeiryddiaeth y Cyfarwyddwr Cyffredinol, Mark Thompson, sy'n rheoli gweithrediadau'r gorfforaeth o ddydd i ddydd. Mae'r Bwrdd yn cyfarfod bob mis a chyhoeddir cofnodion cryno. Gweler Executive Board.
Sefydlir y BBC gan Siarter Frenhinol y mae'r Llywodraeth yn ei hadolygu bob 10 mlynedd ar ôl cynnal ymgynghoriad cyhoeddus agored ac eang. Mae Siarter bresennol y BBC a'r Cytundeb ategol rhwng yr Ysgrifennydd Gwladol a'r BBC yn pennu cylch gwaith cyffredinol y BBC ar sail chwe diben cyhoeddus. Sefydlwyd Ymddiriedolaeth y BBC trwyddynt hefyd, i lywodraethu'r BBC. Gweler Siarter Frenhinol a Chytundeb.
Mae Ymddiriedolaeth y BBC yn cynrychioli buddiannau talwyr ffi'r drwydded ac yn pennu'r strategaeth gyffredinol. Mae'r BBC yn adrodd i'r Ymddiriedolaeth ar faterion sy'n ymwneud â chydymffurfiaeth, cyllid, annibyniaeth a darlledu diduedd, yn ogystal â chwynion golygyddol. Gweler Ymddiriedolaeth y BBC.
Yn ogystal ag ymgynghori'n eang â thalwyr ffi'r drwydded a rhanddeiliaid eraill, mae'r Ymddiriedolaeth hefyd yn dibynnu ar y Cynghorau Cynulleidfa a sefydlwyd ar gyfer pedair gwlad y DU er mwyn mynegi barn talwyr ffi'r drwydded. Gweler Cynghorau Cynulleidfa Cymru, England, Northern Ireland, a Scotland.
Ofcom sy'n rheoleiddio'r BBC o safbwynt materion sy'n gysylltiedig â Deddf Cyfathrebu 2003, Deddf Darlledu 1996 a Chytundeb a Siarter Frenhinol y BBC. Gweler Ofcom.
Mae'r BBC hefyd yn destun archwiliadau'r Swyddfa Archwilio Genedlaethol o dan drefniadau arbennig sy'n rhoi ystyriaeth i annibyniaeth y BBC. Gweler National Audit Office.
Bob mis Gorffennaf, mae'r BBC yn cyhoeddi adroddiad a chyfrifon blynyddol, sy'n adolygu gweithgareddau'r BBC yn ystod y flwyddyn flaenorol. Gweler Annual Report.
Bob gwanwyn mae'r BBC yn cyhoeddi datganiad o ymrwymiadau ar gyfer pob un o'i gwasanaethau. Rhoddir sylw i'r rhain yn Adroddiad Blynyddol y flwyddyn ganlynol. Gweler Statements of Programme Promises.
Ers lansio'r Radio Times ym 1923, mae'r BBC wedi ymgymryd â gweithgareddau masnachol y mae'n eu cyflawni o dan system masnach deg fanwl. Gweler Fair Trading guidelines.
Cyhoeddir cwynion ac ymatebion yn ymwneud â masnach deg mewn bwletin chwarterol. Gweler Fair Trading complaints bulletins.
Mae'r BBC yn cyhoeddi datganiadau i'r wasg, pecynnau'r wasg, gwybodaeth am raglenni, bywgraffiadau, areithiau a ffeithiau allweddol. Gweler Press Office website.
Mae sawl aelod staff a chyfranwyr at raglenni amrywiol y BBC yn ysgrifennu blogiau rheolaidd. Mae'r blogiau hyn hefyd yn rhoi cyfle i'r gynulleidfa ryngweithio gyda'r ysgrifenwyr gan ofyn cwestiynau a rhoi eu sylwadau am y rhaglenni. Gweler Blog Network.
I weld beth yw cynnwys archif y BBC a sut i gael gafael arno, gweler BBC Archive.
Gwybodaeth y BBC yw enw'r tîm sy'n ymdrin ag ymholiadau'r cyhoedd a gellir cysylltu â nhw 24 awr y dydd. Gweler Contact us.
Cyhoeddir manylion am broses gwyno golygyddol y BBC ar safle Cwynion y BBC. Ceir rhestr o ymatebion diweddar y BBC yno hefyd. Gweler Complaints.
Os oes gennych gŵyn am y drwydded deledu, gweler TV Licensing - Complaints.
Os byddai'n well gennych gwyno i gorff allanol, mae Ofcom yn ymdrin â phob mater heblaw ddarlledu diduedd, newyddion a materion cyfoes, a rhai materion masnachol. Ymddiriedolaeth y BBC sy'n gyfrifol am y rhain o hyd. Gweler Ofcom - Sut i gwyno.
I archebu taith o amgylch adeilad y BBC, cael gafael ar docynnau i sioeau a digwyddiadau'r BBC neu i wneud cais i fod ar un o sioeau'r BBC, gweler Shows, tours and live events.
Rydym yn agor ein drysau yn Llundain - yn ogystal â channoedd o adeiladau eraill - fel rhan o'r penwythnos blynyddol, 'Open House'. Gweler Open House.