£139.50 oedd ffi’r drwydded deledu ym mlwyddyn ariannol 2008/2009.
Mae’r £11.63 y mis, neu’r 39c y diwrnod a delir gan bob cartref yn darparu holl raglenni a gwasanaethau’r BBC ar y teledu, radio ac ar-lein.
Noder: cynyddodd ffi’r drwydded i £142.50 ar 1 Ebrill 2009.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Mae tri chwarter poblogaeth y DU yn gwylio neu’n gwrando ar wasanaeth newyddion y BBC mewn rhyw ffordd neu’i gilydd. Rydym yn arbennig o falch o’n newyddiadurwyr praff a threiddgar, o John Humphrys ar raglen Today i Jeremy Paxman ar Newsnight a rhaglenni ymchwiliol fel Donal MacIntyre ar Radio 5 Live.
Yn 2008/09, fe wnaethom ddarlledu sawl stori bwysig yn ystod argyfwng y banciau cyn pawb arall, a defnyddio ein rhaglenni materion cyfoes i drafod effaith yr argyfwng yn fanylach ar ein gwylwyr a’n gwrandawyr.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC News
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Yn ogystal â phennu’r agenda newyddion, rydym yn chwarae rhan bwysig wrth helpu pobl ledled y DU i ddeall sut mae’r newyddion yn effeithio ar eu bywydau bob dydd. Roedd ein rhaglenni materion cyfoes yn edrych y tu hwnt i’r newyddion, gan drin a thrafod materion fel amodau yng ngweithdai strydoedd cefn India lle mae rhai o’n dillad yn cael eu gwneud yn Blood, Sweat And T-Shirts ar BBC Three.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC Business News
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Mae pecyn dysgu’r BBC yn amrywio o gynorthwyo plant ysgol sy’n sefyll arholiadau TGAU i raglenni dogfen rhyfeddol, llawn gwybodaeth, fel Baroque a The Lost Land of the Jaguar, sy’n ehangu gorwelion pobl ac yn magu’r awydd i wybod mwy. Rydym yn manteisio i’r eithaf ar botensial anferthol y we, o becynnau adolygu ar-lein Bitesize a gwybodaeth gefndir ynghylch etholiadau hollbwysig America 2008, i bodlediadau rhaglen Melvyn Bragg ar hanes syniadau, In Our Time, ar Radio 4.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC Bitesize | BBC Learning
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Mae rhaglenni adloniant gwreiddiol ac arloesol wrth wraidd ein gwasanaeth. Er enghraifft, does neb yn buddsoddi cymaint â’r BBC mewn comedi gwreiddiol Prydeinig, a dyma un o’r meysydd lle mae ffi’r drwydded yn talu ar ei ganfed. Dim ond trwy fentro gyda doniau newydd y daeth hi’n bosibl inni gynhyrchu cyfresi cwlt llwyddiannus fel Little Britain, Gavin and Stacey a Beautiful People.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC Comedy
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
I lawer o bobl y byd, mae’r BBC yn gyfystyr â dramâu heb eu hail. Roedd dramâu newydd 2008/09 yn cynnwys Little Dorrit, The Diary Of Anne Frank, The No.1 Ladies’ Detective Agency, The House Of Saddam a Margaret Thatcher: The Long Walk To Finchley. Roedd yr addasiad teledu o nofelau Henning Mankell am Wallander, y ditectif o Sweden, yn llwyddiant ysgubol a enillodd wobrau lu, felly hefyd Ashes To Ashes, y dilyniant i Life On Mars.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC Drama
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Nid yw’r un darlledwr arall yn cynnig cymaint o amrywiaeth o gerddoriaeth fyw ac wedi’i recordio, o ganu gwlad i glasurol, roc i R&B. Rydyn ni’n darlledu oriau dirifedi o gerddoriaeth fyw yn 2008/2009, gan gynnwys 600 o gyngherddau cyflawn ar Radio 3 a sesiynau byw o Maida Vale gyda chantorion fel Adele a Paul Weller.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Un o gryfderau mwyaf y BBC yw’r rhwydwaith newyddion lleol a rhanbarthol, sy’n bosibl diolch i sicrwydd a sadrwydd ffi’r drwydded. Yn ogystal ag arlwy BBC Cymru, BBC Scotland a BBC Alba ar y teledu, mae gennym dros 40 o orsafoedd radio sy’n darlledu ledled y DU. Maent oll yn gwneud cyfraniad unigryw i’w bröydd, gan gynnig newyddion, gwybodaeth a’r cyfle i drin a thrafod pynciau a phryderon lleol.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC Local
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Mae’r BBC yn enwog ledled y byd am gynnig newyddion a dadansoddiadau annibynnol a gwrthrychol. Rydym yn darlledu’n fyd-eang, yn genedlaethol, rhanbarthol a lleol, gan gyflwyno’r byd i’r DU a’r DU i’r byd. Yn 2008/09, cyflwynodd ein gohebwyr tramor straeon pwysig fel ymosodiadau terfysgol Mumbai, y gwrthdaro rhwng Israel a Gaza, ac etholiadau arlywyddol yr Unol Daleithiau.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC World News
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Mae’r World Service yn cael ei ariannu’n uniongyrchol gan grant gan y Swyddfa Dramor, nid gan ffi’r drwydded. Ansawdd, annibyniaeth barn a chyrhaeddiad byd-eang y World Service yw un o’r prif resymau pam mai’r BBC yw o ddarlledwyr uchaf eu parch y byd. Mae bellach yn darlledu newyddion mewn 32 o ieithoedd. Cafodd y gwasanaeth Arabeg newydd ei lansio yn 2008, a hwn oedd rhan gyntaf gwasanaeth y World Service i weithredu’n llawn ar deledu, radio ac ar-lein.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC World Service
Mae’r iPlayer yn torri tir newydd wrth chwyldroi’r modd mae pobl yn rhyngweithio â’r BBC, ac mae’n denu 400,000 o ddefnyddwyr y dydd o dan y slogan ‘making the unmissable unmissable’. Yn 2008, fe wnaethom lansio fersiwn CBBC o iPlayer, sy’n cynnig cyfle hwylus a diogel i blant a phobl ifanc fwynhau eu hoff sioeau eto.
Gwefannau cysylltiedig:
CBBC iPlayer | BBC iPlayer
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Datblygu technolegau newydd yw un o’n ffyrdd pwysicaf o fuddsoddi ffi’r drwydded ar gyfer y dyfodol, fel bod ein cynulleidfaoedd yn gallu parhau i fwynhau’r profiad gorau y gall darlledu ei gynnig. Mae teledu manylder uwch (HD) yn enghraifft dda. Mae teledu HD yn chwyldroi’r ffordd yr ydym yn gwylio’r teledu, ac rydym yn cynhyrchu mwy a mwy o raglenni y gellir eu gwylio fel hyn – o Wimbledon i Wallander, Strictly Come Dancing i Nature’s Great Events.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC HD
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Y BBC yw’r unig fuddsoddwr sylweddol mewn rhaglenni newydd a gwreiddiol i blant. Yn 2008/2009 fe wnaethom gomisiynu 60 awr o ddramâu newydd i CBBC a CBeebies gan gynnwys The Sarah Jane Adventures ac In The Night Garden, un o blith nifer o raglenni newydd a gynhyrchwyd gan gwmnïau annibynnol i ni y llynedd.
In order to see this content you need to have both Javascript enabled and Flash installed. Visit BBC Webwise for full instructions
Y BBC yw un o’r darlledwyr chwaraeon mwyaf proffesiynol ac uchel eu parch yn y byd. Yn 2008 gwyliodd bron i 13 miliwn rownd derfynol cystadleuaeth y dynion yn Wimbledon, a dilynodd mwy na 42 miliwn ein darllediadau o Gemau Olympaidd Beijing. Yn y cyfamser, mae Radio 5 Live yn parhau i ddarlledu’r gemau criced yn ogystal â phencampwriaethau bocsio’r byd, rasio modur a thenis agored UDA.
Gwefannau cysylltiedig:
BBC Sport
Mae’r rhan fwyaf o’r arian ar gyfer teledu yn cael ei wario ar raglenni BBC One a BBC Two, ond mae hefyd yn talu am sianeli BBC News, CBBC, CBeebies, BBC Three, BBC Four, BBC Parliament, fersiynau rhanbarthol BBC One a BBC Two, BBC HD a’r gwasanaethau Botwm Coch rhyngweithiol.
Mae’r BBC yn darlledu rhaglenni cerddoriaeth, llefaru, chwaraeon, adloniant a newyddion ar Radio 1, 2, 3, 4 a 5 Live, ac ar orsafoedd digidol 1Xtra, 5 Live Sports Extra, 6 Music, Radio 7 ac Asian Network. Mae hefyd yn gwasanaethu cymunedau ledled y DU gyda gorsafoedd radio cenedlaethol i Gymru, Gogledd Iwerddon a’r Alban, a 39 o orsafoedd radio lleol yn Lloegr.
Mae ffi’r drwydded yn talu am wefan y BBC, un o wefannau mwyaf poblogaidd y DU ac un y mae pobl yn ymddiried fwyaf ynddi – yn ogystal â gwasanaeth hynod boblogaidd iPlayer sy’n ei gwneud hi’n haws nag erioed i wylio a gwrando.
Nid deunydd i’w darlledu yw’r unig beth y mae ffi’r drwydded yn talu amdano; mae hefyd yn talu am ein buddsoddiad mewn technoleg newydd, ein costau cynnal a chadw, a chostau casglu ffi’r drwydded. Rydym hefyd yn neilltuo arian i gynorthwyo gyda’r broses o drosglwyddo i ddigidol yn y DU. Mae hyn o fudd i’r sector darlledu cyfan, nid y BBC yn unig.
Rydym yn gweithio’n galed i wneud y BBC yn fwy effeithlon. Rhwng 2000 a 2008 fe wnaethom arbed ymhell dros £2 biliwn ac rydym yn bwriadu parhau i ostwng ein costau 3% bob blwyddyn tan 2013, a fydd yn golygu arbedion ychwanegol o £1.9 biliwn.
Daw’r rhan fwyaf o’r arbedion newydd trwy gynnal a chadw’r BBC yn fwy gofalus a chlyfar. Rydym yn ail-fuddsoddi’r arian a arbedwyd mewn cynnwys o safon uchel a thechnoleg newydd ar gyfer y dyfodol.
Mae traean o ffi’r drwydded yn cael ei wario y tu allan i’r BBC, gan gefnogi’r diwydiant darlledu yn gyffredinol - tua £1.1 biliwn y flwyddyn.
Mae cynhyrchwyr annibynnol, cynhyrchwyr rhaglenni ac artistiaid yn rhan o’r ‘economi greadigol’, sy’n amrywio o deledu a cherddoriaeth i ffilm, digidol a gemau cyfrifiadurol. Mae’n ddiwydiant hollbwysig i economi’r DU, ac mae ffi’r drwydded rydyn ni’n ei fuddsoddi yn bwysig tu hwnt yn ystod y dirwasgiad.
Hefyd, rydyn ni’n symud mwy a mwy o’n gwaith allan o Lundain a de-ddwyrain Lloegr, sy’n lledaenu manteision ffi’r drwydded yn ehangach i bob cwr o’r DU
Gallwn sicrhau mwy o elw o’r arian a geir gan y sawl sy’n talu ffi’r drwydded os gallwn ni werthu’n rhaglenni a’n nwyddau i ddarlledwyr eraill ledled y byd, sef yr hyn y mae BBC Worldwide yn ei wneud. Mae cyfresi poblogaidd fel Top Gear a Doctor Who yn gwerthu’n dda ym mhedwar ban byd, ac mae gennym enw da yn rhyngwladol am gyfresi dramâu cyfnod fel Bleak House a Cranford.
Mae hon yn ffordd bwysig o gadw’r costau’n isel ar gyfer pobl sy’n talu ffi’r drwydded yn y DU – mae ffi’r drwydded yn rhatach nag y byddai fel arall, diolch i’r holl elw a gawn gan ein busnesau masnachol eraill.
Mae ffi’r drwydded yn y newyddion yn aml ac mae trefn ariannu’r BBC yn destun trafod erioed.
Sut ydym ni’n ymateb i’r cwestiynau a ofynnir yn aml.