1. Traddodiad barddol Dylan Thomas
  2. Cynghanedd cerddi Dylan
  3. Oedd Dylan yn siarad Cymraeg?
  4. Sŵn a swyn y geiriau
  5. Nid ar chwarae bach
  6. Gwrandewch
  7. Beth ydych chi'n ei feddwl?
  8. Ble nesaf?

Mae angen JavaScript er mwyn gweld y fideo yma.

Traddodiad barddol Dylan Thomas

Dychmygwch. Mae hi’n 1950 ac mae’r Eisteddfod Genedlaethol yn cael ei chynnal yn Ystradgynlais, Cwm Tawe. Mae’r cyrn gwlad yn seinio, mae’r goleuadau yn chwilio ac mae dyn lleol yn codi ar ei draed. Dylan Marlais Thomas, un o feirdd enwoca’r cyfnod, yw enillydd y Gadair eleni.

Wnaeth hyn ddim digwydd. Wnaeth un o feirdd mawr Cymru, gyda'i enw o'r Mabinogi, a'i deulu Cymraeg, erioed ennill un o brif wobrau ei wlad am farddoni.

Pam? Wel doedd Dylan Thomas yn siarad prin ddim Cymraeg wrth gwrs. Ond, mae rhai'n credu fod ei gerddi'n perthyn i'r traddodiad barddol Cymraeg mewn popeth ond iaith. Felly, oedd y bardd o Abertawe yn cynganeddu?

Cynghanedd cerddi Dylan

Mae Dylan Thomas yn enwog am rythm ei farddoniaeth, ailadrodd cytseiniaid ac odli; dulliau cyffredin i feirdd ym mhob iaith. Ond mae Mererid Hopwood yn dangos fod rhai o’i linellau’n awgrymu dylanwad cynghanedd, traddodiad sy'n perthyn i'r Gymraeg.

Dychmygwch yr olygfa: llun ffug o Dylan Thomas fel pe bai wedi ennill cadair mewn Eisteddfod Genedlaethol.

Trawsgrifiad (PDF 261 Kb)

Y Prifardd Mererid Hopwood sy'n egluro beth yw cynghanedd ac yn dangos fod rhai o linellau Saesneg Dylan Thomas yn creu cynghanedd.

Oedd Dylan yn siarad Cymraeg?

Er fod Dylan ei hun wedi dweud na fedrai ddarllen Cymraeg, mae’n debygol ei fod yn deall, ac o bosib yn medru, rywfaint o’r iaith, o leiaf fel plentyn.

Florence a DJ

Cymraeg oedd iaith gyntaf ei rieni, DJ Thomas – athro Saesneg o Johnstown ger Gaerfyrddin – a Florence, capelwraig o Abertawe â gwreiddiau ei theulu yn ardal Llansteffan yng ngwaelod Sir Gâr.

Ond roedd y ddau, DJ yn arbennig, yn uchelgeisiol iawn dros eu plant ac am iddyn nhw wneud yn dda. Fel llawer o Gymry eraill yr oes fe wnaethon nhw benderfynu fod hynny’n golygu magu eu plant yn Saesneg, iaith byd addysg, iaith ‘dod ymlaen yn y byd'.

Fern Hill a Llansteffan

Cymraeg oedd iaith gyntaf gweddill teulu agos DJ a Florence hefyd ac roedd Dylan yn mynd i fwynhau hafau hir ar fferm laeth ei fodryb Annie yn Llansteffan – ardal wledig, Gymraeg ei hiaith. Mae un o’i gerddi mwyaf enwog, Fern Hill, yn sôn am yr hafau yma ar y fferm.

Rhoddodd Dylan a’i wraig, Caitlin, enwau Cymreig i’w plant - Llewelyn, Aeronwy a Colm Garan - a’u magu yn Nhalacharn, heb fod yn bell o Lansteffan.

Mae wyres Dylan Thomas, Hannah Ellis, wedi dweud bod ei thaid yn deall Cymraeg: “Roedd fy mam [Aeronwy] yn glir iawn ei fod yn deall Cymraeg," meddai. "Mae hi’n cofio bod mewn ystafell gyda Dylan a’i fodrybedd yn Llansteffan – mi fydden nhw’n siarad gydag e yn Gymraeg ac mi fyddai’n deall, ond yn ateb yn Saesneg.”

Gwilym Marles

Dewisodd DJ a Florence enw o chwedlau’r Mabinogi i’w mab - mae'n dod o Dylan Eil Ton - a chafodd ei ail enw, Marlais, ar ôl y bardd Gwilym Marles a oedd yn adnabyddus yn ei ddydd fel pregethwr radical, bardd ac addysgwr.

Roedd yn ewythr i dad Dylan Thomas, DJ. Roedd gan DJ Thomas freuddwyd i fod yn fardd ei hun ac roedd ei ewythr yn arwr iddo. Ai er mwyn ceisio gwireddu ei freuddwyd drwy ei fab y rhoddodd yr ail enw Marlais iddo?

Sŵn a swyn y geiriau

Athro Saesneg â safonau uchel oedd DJ Thomas ond roedd ganddo safonau uchel mewn Cymraeg hefyd. Yn eironig, roedd wedi bod yn rhoi dosbarthiadau dysgu Cymraeg yn ei gartref yn 5 Cwmdonkin Drive, Abertawe, er mwyn ennill ychydig o arian ychwanegol.

Gan ei dad y dysgodd Dylan am lenyddiaeth a barddoniaeth Saesneg; gan ei fam dywedodd ei fod wedi dysgu am sŵn a swyn geiriau yn yr hwiangerddi roedd hi'n eu canu iddo. Does dim rheswm yn y byd i gredu na chanodd hi hwiangerddi Cymraeg iddo hefyd ac na ddysgodd DJ ei fab am lenyddiaeth a barddoniaeth Gymraeg.

'Though I sang in my chains like the sea'

Mae 'To the burn and turn of time' a 'When the morning was walking over the war' yn enghreifftiau o gynghanedd sain.

Mae llinell olaf un o gerddi enwocaf Dylan Thomas, Fern Hill - 'Though I sang in my chains like the sea' - yn enghraifft o fath arall o gynghanedd.

Cynghanedd draws ydy hon. Mae'r 'th' a'r 's' yn rhan gyntaf y llinell yn cyfateb i'r 'th' a'r 's' yn ail ran y llinell. Mae'r toriad, neu'r acen, yn syrthio ar ôl 'sang'. Mae'r cytseiniaid eraill sydd dros ben ar ôl yr acen ('n', 'ch' 'n', 's', 'l', 'k') yn gallu cael eu hanwybyddu yn y math yma o gynghanedd.

(Daw 'To the burn and turn of time' o'r gerdd Vision and Prayer; 'When the morning was walking over the war' o Among Those Killed in the Dawn Raid Was a Man Aged a Hundred, a 'Though I sang in my chains like the sea' o Fern Hill. I gyd wedi eu cyhoeddi yn Deaths and Entrances gan J. M. Dent and Company).

Nid ar chwarae bach

Nid Dylan Thomas yw’r unig un i lunio cynghanedd yn Saesneg. Roedd wedi ei ddylanwadu gan feirdd eraill oedd wedi ceisio gwneud yr un peth - tipyn o gamp, fel mae Mererid Hopwood yn egluro.

Mererid Hopwood sy'n egluro pam ei bod hi'n anodd cynganeddu yn Saesneg ac yn trafod dylanwad beirdd eraill sydd wedi ceisio gwneud yr un peth.

Trawsgrifiad (PDF 223 Kb)

Gwrandewch

Efallai mai’r ffordd orau o werthfawrogi crefft Dylan Thomas yw gwrando arno’n darllen un o'i gerddi.

Mae After The Funeral, er cof am Ann Jones, y fodryb oedd yn byw yn Fern Hill, wedi ei galw'n ‘gerdd mawl’ sy’n "mawrygu Ann ... fel y byddai bardd canoloesol yn ei wneud” yn ôl Kate Crockett yn ei llyfr Mwy Na Bardd - awgrym arall fod Dylan yn gwybod am farddoniaeth Gymraeg.

Fe wnaeth Dylan ei hun wadu dylanwad y Gymraeg a'r canu caeth arno ond gwrandewch ar y rythm, y cyflythrennu, yr odlau mewnol a'r pwyslais mae Dylan yn ei roi yn ei linellau. Ydi o'n swnio fel un o'r hen bregethwyr 'tân a brwmstan' Cymreig?!

Dyna roedd bardd arall o'r un cyfnod, Pennar Davies, yn ei feddwl mae'n debyg: "I do think that the very fact that Dylan had heard the Welsh language spoken and preached in the old Welsh style, could have given him a feel for the glory of language as such, and I think this may have affected his whole approach to literature."

Beth ydych chi'n ei feddwl?

Ar sail y wybodaeth yma, ydych chi'n credu fod Dylan Thomas wedi ceisio mynd ati i gynganeddu neu ai cyd-ddigwyddiad yw'r enghreifftiau yn ei waith?

Do

Roedd wedi darllen a dysgu am gynghanedd.

Eich dewis

Mae'n cynganeddu'n fwriadol

Mae Twm Morys yn cytuno:

"Mae cynganeddu Dylan yn dilyn y rheolau, ac mae hynny yn gwneud imi amau bod llyfr am y canu caeth yn llyfrgell D.J. Thomas yn Cwmdonkin Drive."

Naddo

Roedd yn dilyn dulliau barddoni Saesneg nid rhai Cymraeg.

Eich dewis

Llên Saesneg yw'r dylanwad

Dyna farn Dylan Thomas ei hun - weithiau!

"I'm not influenced by Welsh bardic poetry. I can't read Welsh" meddai Dylan Thomas mewn llythyr at y bardd Stephen Spender yn 1952.

Heb yn wybod iddo

Roedd Dylan yn gwybod am rythmau'r Gymraeg a'i thraddodiadau - ond dylanwad heb iddo wybod oedd hi.

Eich dewis

Roedd yr iaith yn ddylanwad

Soniodd Pennar Davies am hyn

Dywedodd Pennar Davies fod y ffaith fod Dylan wedi clywed y Gymraeg yn cael ei siarad a'i phregethu wedi rhoi teimlad arbennig iddo tuag at iaith.