O Gwmpas y Gwyliau 2014-15 Gŵyl Gregynog Gŵyl Gregynog

Gŵyl Gregynog

Wedi chwarae

19:00 27 Meh 2014 Neuadd FawrCanolfan y Celfyddydau Aberystwyth

  • Butterworth
  • Rhapsody: A Shropshire Lad
  • Van de Woestijne
  • Symffoni
  • Jongen
  • Concerto Telyn
  • Owen
  • Morfa Rhuddlan
  • Kelly
  • Elegy for strings, in memoriam Rupert Brooke
    In memoriam Rupert Brooke
  • Parrott
  • Luxor

Gŵyl Gregynog 2014

Y Gerddorfa’n perfformio yn rhan o Ŵyl Gregynog 2014.

Swyddfa Docynnau: 01970 623 232

Dalgylch Gŵyl Gregynog, gŵyl fwyaf hir-sefydlog Cymru, yw Aberystwyth hyd at ororau Sir Amwythig. Mae’r cyngerdd hwn, sy’n rhan o dymor Rhyfel yr Ŵyl yn 2014, yn cyfuno Rhapsody: A Shropshire Lad gan George Butterworth, a ysbrydolwyd gan farddoniaeth A. E. Housman, gyda darnau gan dau gyfansoddwr Cymreig blaenllaw o’r ugeinfed ganrif, Morfa Rhuddlan gan Morfydd Owen (gwraig gyntaf y seicdreiddiwr Freudaidd Ernest Jones, a farwodd ddau fis cyn y Cadoediad yn 26 oed) a Luxor gan Ian Parrott (Athro Cerddoriaeth Gregynog ym Mhrifysgol Aberystwyth, 1950-83, a wasanaethodd yn yr Aifft yn ystod yr Ail Ryfel Byd).

Cafwyd derbyniad brwd i’r Farwnad er cof am Rupert Brooke gan F. S. Kelly pan y’i darlledwyd ar BBC Radio 3 ar Ddydd y Cadoediad yn 2010. Dyma waith gorau’r cyfansoddwr o Awstralia, a ysgrifennwyd mewn ymateb i gladdu’r bardd ar Skyros blwyddyn cyn iddo ef ei hun gael ei ladd ar y Somme.

Cwblheir y rhaglen gan ddau gyfansoddwr o wlad Belg sydd â chysylltiadau Cymreig: Joseph Jongen, a fu ar ei wyliau ym Methesda fel alltud o’r Rhyfel Byd Cyntaf ym 1916, a David van de Woestijne, a anwyd yn Llandinam ym 1915 yn fab i ffoaduriaid a ddaeth i Ganolbarth Cymru yn sgili haelioni Gwendoline a Margaret Davies, sefydlwyr yr Ŵyl.

Darllediad Cyntaf y Perfformiad

Digwyddiadau Cerddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC Arall

Diweddaraf

Added. Check out your playlist Dismiss