Dadl y Ceidwadwyr ar lywodraeth Cymru

Cymorth

Mewn siambr oedd ddwy draean yn wag, cafodd cynnig yn condemnio'r llywodraeth ei gymeradwyo ar 20 Mawrth 2013.

Doedd aelodau Llafur a Plaid Cymru ddim yn y siambr am nad oedden nhw am groesi llinell biced.

Mae aelodau undeb y PCS ar streic oherwydd dadl gyda llywodraeth y Deyrnas Unedig am gyflogau, pensiynau a swyddi.

Arweiniodd y Ceidwadwyr ddadl ar "fethiant llwyr a chyson" llywodraeth Cymru.

Tra'n agor y ddadl, rhestrodd arweinydd y Ceidwadwyr "fethiannau" y llywodraeth.

"Yn anffodus, dyw Cymru ddim wedi cyflawni ei photensial," meddai gan resynu at y ffigyrau diweithdra diweddaraf sy'n awgrymu cynnydd o 7,000 yn nifer y di-waith yng Nghymru.

Disgrifiodd y gostyngiad o 10% yn allforion Cymru fel "trychineb".

Honnodd bod y llywodraeth wedi methu â datblygu'r brand "cywir" i Gymru.

Ymosododd hefyd ar record addysg y llywodraeth.

"Mae cyfres o weinidogion addysg Llafur wedi methu â chyflawni unrhyw beth ers 1999, ac eithrio gostwng safonau," meddai.

Daeth iechyd dan y lach hefyd, gyda'r arweinydd yn beirniadu methiant y llywodraeth Lafur i gyrraedd ei thargedau ei hun.

Doedd dim gweinidog yno i amddiffyn record y llywodraeth.

Ymatebodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol ar ran ei phlaid.

Dywedodd Kirsty Williams nad oedd ganddi wrthwynebiad i egwyddor cynnig y Ceidwadwyr, ond ei bod am weld syniadau ar sut i wella'r sefyllfa.

Ymysg ei galwadau roedd cais am wneud mwy i helpu busnesau bach fenthyca ac i gael cyngor busnes.

Cafodd y cynnig heb ei ddiwygio ei gymeradwyo.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.