Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cymorth

Rhybuddiodd nifer o arbenigwyr a meddygon bod rhaid i'r broses lle mae teuluoedd yn gallu gwrthwynebu i'w hanwyliaid roi organau fod yn glir.

Roedd y pwyllgor iechyd yn clywed mwy o dystiolaeth ar fesur arfaethedig y llywodraeth ar roi organau ar 30 Ionawr 2013.

Dywedodd Syr Peter Simpson, cadeirydd Pwyllgor Moeseg rhoi Organau y Deyrnas Unedig y byddai system lle bod rhaid gofyn caniatâd pob un aelod o deulu yn "hunllef ymarferol" i feddygol - a gallai gael effaith andwyol ar drawsblaniadau oherwydd oedi.

Yn ôl Dr Peter Matthews o Academi Colegau Brenhinol Cymru byddai rhaid i'r mesur wneud yn siŵr nad yw cleifion yn cael eu trosglwyddo i unedau gofal dwys dim ond er mwyn cynyddu'r tebygrwydd o gael organau i'w trawsblannu.

Dywedodd bod enghreifftiau o gleifion â dim gobaith o fyw yn cael eu cymeryd i unedau gofal dwys dim ond fel bod eu horganau yn parhau'n addas i gael eu defnyddio mewn trawsblaniad: "cynsail peryglus," meddai.

Ychwanegodd bod nifer o gleifion yn gweld rhoi organau fel rhywbeth positif, anhunanol a system o ganiatâd tybiedig fel y wladwriaeth yn "cymeryd" eu horganau wedi iddyn nhw farw.

Clywodd y pwyllgor bod rhoi organau yn un o'r meysydd mwyaf cymhleth i feddygon sydd eisiau gweithio o fewn i fframwaith gyfreithiol "gadarn".

Roedd pwyslais hefyd ar yr angen ariannu'r ymgyrch gyhoeddusrwydd ar y newidiadau yn llawn a'i bod yn ddealladwy i'r boblogaeth gyfan.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.