Is-bwyllgor ysmygu

Cymorth

Cyhuddodd aelodau'r is bwyllgor ysmygu undebau Equity a Bectu o alw am newid amgylchiadau gwaith eu haelodau er gwaeth wrth iddynt roi tystiolaeth ar 29 Ionawr 2013.

Mae'r Is-bwyllgor ar Reoliadau Mangreoedd Di-fwg yn trafod effaith y gwaharddiad ysmygu yn y gweithle ym myd y cyfryngau ac yn ystyried a ddylid gwneud eithriad i'r gyfraith a chaniatáu i actorion ysmygu mewn cynyrchiadau ffilm a theledu.

Cyflwynwyd y ddeddf yn 2007.

Eglurodd aelod Aberafon David Rees ei fod arfer bod yn gynrychiolydd undeb.

Dywedodd nad oedd "erioed wedi dadlau dros amgylchiadau gwaith gwaeth" i'w aelodau.

Dywedodd a bod y ddeddf heb eithriad i ganiatáu ysmygu ar setiau teledu yn golygu bod cwmnïau cynhyrchu'n dewis gweithio yn Lloegr, lle mae eithriad i'r ddeddf yno.

Yn ôl cadeirydd cangen gweithwyr annibynnol de Cymru BECTU Siân Gale, mae aelodau Bectu am i eiriad yr eithriad yn y ddeddf fod cyn gryfed â phosibl.

Maen nhw'n galw am ganiatáu ysmygu dim ond lle mae'n "hanfodol" ac nid "addas" fel yn y geiriad arfaethedig.

Nod aelodau Bectu meddai yw portreadu cymeriadau "credadwy" ond dim ond i "adlewyrchu realiti'n bywydau" nid i greu delwedd dda o ysmygu.

Galwodd Ms Gale hefyd am "asesiadau risg grymus" i sicrhau bod y posibilrwydd o niwed y lleiaf un.

Mynnodd Simon Curtis, trefnydd cenedlaethol Equity, bod y gwaharddiad yn colli gwaith i Gymru.

"Fe awn nhw a gwaith allan o Gymru," meddai am gwmnïau cynhyrchu.

"Rydym ni'n adlewyrchu bywyd go iawn, allwn ni ddim â chuddio oddi wrth y ffaith bod pobl yn arfer eistedd mewn ystafelloedd bach, chwech neu saith ohonyn nhw, a smygu; fe fydd y golygfeydd hynny'n cael eu saethu.

"Fe awn nhw â'u harbenigedd a'u profiad allan o'r wlad."

Hefyd yn rhoi tystiolaeth roedd cyfarwyddwr iechyd cyhoeddus Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro Dr Sharon Hopkins, a Dr Hugo Van Woerden o Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Dywedodd Dr Hopkins y byddai newid y ddeddf nawr yn anfon negeseuon cymysg i'r cyhoedd.

"Yng Nghymru, does dim eithriadau wedi eu cyflwyno i'r ddeddfwriaeth.

"Byddai ychwanegu eithriad nawr yn creu rhwystr arall i ni allu cyfleu neges gyson.

"Mae'n deddfwriaeth ar dybaco yn bolisi y dylem ni fod yn hynod o falch ohono a bydd yn gwneud gwahaniaeth anferth i iechyd pobl Cymru."

Dywedodd Dr van Woerden bod anadlu mwg ail law yn beryglus tu hwnt, ac y byddai anadlu mwg ail law am 30 munud yn unig yn cael "effaith ddifrifol" ar unigolyn.

Ychwanegodd bod 50-60% yn fwy o debygrwydd o gael trawiad ar y galon o anadlu mwy ail law.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.