Cyflwyno Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys

Cymorth

Mae gwasanaeth clinigol newydd yn cael ei gyflwyno i Gymru, sef Gwasanaeth Adalw a Throsglwyddo Meddygol Brys, meddai'r Dirprwy Weinidog Iechyd, Vaughan Gething ar 21 Ebrill 2015.

Ychwanegodd bod y gwasanaeth yn "sicrhau y caiff cleifion mewn ardaloedd anghysbell a gwledig fynediad cyflym i ymgynghorydd mewn meddygaeth gofal dwys neu ofal brys."

Dywedodd y Ceidwadwr Darren Millar ei fod yn "gresynu at y ffaith bod mynediad at wasanaethau brys yng Nghymru wedi dirywio dros y blynyddoedd diwethaf o ganlyniad i israddio ysbytai, perfformiad gwasanaeth ambiwlans gwael a'r toriadau mwyaf erioed i gyllideb y gwasanaeth iechyd."

Galwodd Elin Jones o Blaid Cymru ar lywodraeth Cymru i ehangu'r gronfa gofal canolraddol i atal galwadau diangen ar y system gofal brys.

Dywedodd William Powell o'r Democratiaid Rhyddfrydol ei fod yn croesawu'r cyhoeddiad yng Nghyllideb llywodraeth y DU ar gyfer 2015 y bydd Ymddiriedolaeth Ambiwlans Awyr Cymru yn cael cyllid gwerth £1.5 miliwn o ddirwyon LIBOR i helpu i ariannu cyfarpar newydd a hyfforddiant.

Read this in English

Copyright © 2019 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.