Cymunedau a Threchu Tlodi

Cymorth

Mae Banciau Bwyd yn enghraifft o bolisi gwael gan San Steffan yn ôl yr aelod Llafur Mike Hedges, ar 09 Gorffennaf 2014.

Roedd Mr Hedges yn holi'r Dirprwy Weinidog Trechu Tlodi, Vaughan Gething ar y defnydd o Banciau Bwyd yng Nghymru pan fynegodd bryder am faint o bobl yn yr 21ain Ganrif sydd yn ddibynnol arnynt.

Dywedodd Mr Gething fod dadansoddiad yr aelodau yn llygad ei le.

Dywedodd y Dirprwy Weinidog, fod 29 o Fanciau Bwyd yn gweithredu yng Nghymru ac eraill sy'n gweithredu fel prosiectau cymunedol.

Ychwanegodd y dylai "pob plaid gael barn ar dlodi bwyd" a bod y Ceidwadwyr yn gyfrifol am y ffaith fod dros 1 miliwn o bobl yn ddibynnol ar fanciau bwyd.

Holwyd y Gweinidog dros Gymunedau a Trechu Tlodi, Jeff Cuthbert hefyd ar y targedau Cynllun Cyflawni Cynhwysiant Digidol a gwirfoddoli o fewn cymunedau.

Yn dilyn y cwestiynau ar Gymunedau a Threchu Tlodi, gofynnwyd i'r Cwnsler Cyffredinol am unrhyw sylwadau y mae wedi'u gwneud mewn perthynas ag achosion sydd gerbron y Goruchaf Lys.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.