Cwestiynau i'r Gweinidog Iechyd

Cymorth

Galwodd Aelodau Cynulliad i wahardd y defnydd di-angen o wrthfiotigau mewn anifeiliaid fferm.

Bu'r Gweinidog Iechyd Mark Drakeford yn ateb cwestiynau'r aelodau, ar 09 Gorffennaf 2014.

Yn ôl AC y Ceidwadwyr Antoinette Sandbach, mae'r defnydd o wrthfiotigau mewn anifeiliaid wedi cynyddu'n sylweddol dros y 40 mlynedd diwethaf.

Cododd Mrs Sandbach bryderon, pe bai hyn yn parhau, mae perygl y bydd gwrthfiotigau sy'n gwrthsefyll bacteria sydd yn y cyflenwad bwyd yn peryglu iechyd pobl.

Cytunodd AC Plaid Cymru Bethan Jenkins fod hynny'n bryderus iawn a galwodd am ddadl ar y mater.

Gofynnodd AC Llafur Lynne Neagle i'r gweinidog am fanylion drafodaethau a gafodd gyda Llywodraeth y DU mewn perthynas â mynd i'r afael â gwrthfiotigau sy'n gwrthsefyll bacteria.

Cytunwyd Mark Drakeford fod y sefyllfa yn bryderus a chytunodd i gyflwyno dadl ar y mater.

Bu'r gweinidog hefyd yn ateb cwestiynau ar brofiad y claf yng ngorllewin Cymru, Gwasanaeth Gwaed Cymru ac amseroedd aros am driniaeth yng Nghymru.

Read this in English

Copyright © 2017 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.