Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus

Cymorth

Mae 'na welliannu wedi bod i'r drefn o reoli grantiau gan Lywodraeth Cymru o ganlyniad i sgandal corff AWEMA, yn ôl pennaeth y gwasanaeth sifil.

Roedd Syr Derek Jones yn rhoi tystiolaeth i'r Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus ar y 12eg o Fehefin 2014.

Bu'r All Wales Ethnic Minority Association (AWEMA) yn dosbarthu arian cyhoeddus i hybu cyfartaledd, ond diddymwyd y corff ym mis Chwefror 2012 wedi honiadau o dwyll.

Derbyniwyd miliynau o bunnoedd gan Lywodraeth Cymru.

Wrth ateb cwestiwn gan yr Aelod Plaid Cymru Alun Ffred Jones ynglŷn â'r tebygrwydd y gallai sgandal tebyg godi eto, dywedodd Syr Derek: "Fe wnaethon ni ddysgu cryn dipyn ynglŷn â'r ffordd ry' ni'n gweithio a'r tebygrwydd y gallai risg tebyg godi yn y dyfodol, gyda mwy o arian yn y fantol.

"Mae rhan helaeth o waith y Rhaglen Rheoli Grantiau a'r uned arbenigedd ynghlwm â'r gwersi a ddysgwyd o'r achos penodol yma.

"Ni allaf i ddweud 'byth eto', ond dwi eisoes yn teimlo'n hyderus ein bod ni wedi lleihau'r risg o ail-adrodd."

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.