Dadl Democratiaid Rhyddfrydol

Cymorth

Cynhaliodd y Democratiaid Rhyddfrydol ddadl ar hawliau gofalwyr ar 11 Mehefin 2014.

Drwy agor y ddadl nododd yr aelod Democratiaid Rhyddfrydol, Aled Roberts gyfraniad "amhrisiadwy" gofalwyr di-dâl wrth ofalu am deuluoedd a ffrindiau.

Cododd yr aelod Plaid Cymru, Lyndsay Whittle y mater o'r dreth ystafell wely a gyflwynwyd gan lywodraeth y Deyrnas Unedig gan ddweud fod y diwygiad lles wedi achosi straen 'anferthol'.

Dywedodd Mr Whittle "yn lle gwobrwyo pobl sy'n gweithio'n galed ac sy'n dewis gofalu am y rheiny maent yn eu caru, yn aml o dan amgylchiadau o straen, yma mae gennym lywodraeth yn Llundain sy'n dewis gwneud hi'n anoddach i bobl."

Yn ei hymateb dywedodd y Dirprwy Weinidog ar Wasanaethau Cymdeithasol, Gwenda Thomas, "mae'r Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cryfhau hawliau gofalwyr yn sylweddol."

Nododd y ddadl Wythnos Gofalwyr 2014.

Read this in English

Copyright © 2015 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.