'Gweithio mewn partneriaeth gyda chymdeithasau tai'

Cymorth

Gwnaeth y Gweinidog Tai ac Adfywio, Carl Sargeant ddatganiad ar 'weithio mewn partneriaeth gyda chymdeithasau tai' ar 13 Mai 2014.

Yn ôl Mr Sargeant, Adolygiad Essex 2007-2008 roddodd y cyd-destun ar gyfer creu partneriaeth bositif newydd rhwng llywodraeth Cymru a mudiad cymdeithasau tai Cymru.

Yn ôl y llywodraeth "mae'r bartneriaeth lwyddiannus hon wedi bod yn dyst i gynnydd yng ngwaith cymdeithasau tai fel ymateb i'r cynnydd yn yr angen ac arloesi ym maes polisi."

Dywedodd y gweinidog, yn nwy flynedd gyntaf y llywodraeth Cymru hon, bod 4,474 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi'u darparu, gan gynnwys 1,652 ohonynt heb grant.

Ychwanegodd mai'r targed newydd yw 10,000 o dai.

Dywedodd y Ceidwadwr Mark Isherwood wrth y gweinidog y byddai'n hoffi gwybod ei "ddiffiniad ef o dai fforddiadwy."

Ymatebodd y gweinidog fod tai yn fforddiadwy yng Nghymru o'i gymharu â rheiny yn Lloegr.

Read this in English

BBC © 2014 Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.