Prif weinidog yn ymddiheuro am fethiannau gofal

Cymorth

Ymddiheurodd y Prif Weinidog, Carwyn Jones ar ran llywodraeth Cymru ar 13 Mai 2014 ar ôl i bryderon difrifol am ddiogelwch a safon gofal i gleifion mewn dau ysbyty yn ne Cymru gael eu hamlygu gan adroddiad newydd.

Yn ôl yr adroddiad Andrews, dan arweiniad yr Athro June Andrews o Brifysgol Stirling, mae rhai agweddau o ofal i bobl fregus a phobl hŷn yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ac ysbyty Castell-nedd Port Talbot yn "annerbyniol ac mae angen delio gyda nhw fel mater o frys".

Cafodd ei gomisiynu gan lywodraeth Cymru y llynedd wedi i deuluoedd cleifion godi pryderon am eu safon eu gofal.

Roedd Mr Jones yn ymateb i alwad arweinydd y Ceidwadwyr, Andrew RT Davies, am "ymddiheuriad diamod" am y methiannau, a ddisgrifiodd fel rhai "gwirioneddol syfrdanol " yn y ddau ysbyty.

Fe wnaeth arweinydd Plaid Cymru, Leanne Wood hefyd ganolbwyntio ar yr adroddiad damniol.

Dywedodd hithau bod, erbyn hynm "11 o ymchwiliadau ar y gweill" yn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru.

Gofynnodd "sut mae 11 o adroddiadau cydamserol yn well nag un arolwg cyffredinol?"

Dywedodd y prif weinidog bod y llywodraeth wedi derbyn yr holl argymhellion yn adroddiad Andrews, a'i fod ef hefyd yn hapus i drafod cynigion gan Blaid Cymru.

Ychwanegodd arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol, Kirsty Williams, ei phwysau i'r ddadl gan ofyn, "pryd fydd eich llywodraeth yn sicrhau bod pob bwrdd iechyd lleol yn cael y lefelau staffio cywir a hyfforddiant? "

Dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn disgwyl i bob bwrdd iechyd lleol i ddilyn argymhellion yn adroddiad Andrews.

Roedd cwestiynau eraill yn cynnwys pa asesiad a wnaed o gynnydd merched yn system addysg Cymru, band eang gwledig yng ngogledd Cymru, ac am Ardaloedd Menter yn ne Cymru.

Yna fe wnaeth Arweinydd y Tŷ Lesley Griffiths, ymateb i geisiadau am ddadleuon a datganiadau gan aelodau.

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.