Galw am ddileu'r 'Dreth Llofftydd'

Cymorth

Galwodd llefarydd Plaid Cymru ar dai, Jocelyn Davies, ar 7 Mai 2014 am ddileu'r 'Dreth Llofftydd'.

Wrth ddadlau ei hachos, amlygodd ffigyrau sydd, meddai, yn dangos fod nifer y bobl mewn dyledion wedi "saethu i'r entrychion" tra bod nifer yr eiddo gwag ar hyd a lled Cymru wedi cynyddu'n sylweddol.

Dywedodd Jocelyn Davies: "Mae Plaid Cymru wastad wedi gwrthod y Dreth Llofftydd filain, a buom yn ymgyrchu'n ddiflino ers ei chyflwyno am ei dileu".

Fe wnaeth y Gweinidog Tai ac Adfwyio, Carl Sargeant, hefyd alw am ddileu'r dreth, gan ddweud ei bod wedi achosi "caledi diangen mewn 40,000 o gartrefi yng Nghymru".

Galwodd Peter Black am gydnabod gwaith y Democratiaid Rhyddfrydol yn Llywodraeth y DU o ran sicrhau Taliadau Tai yn ôl Disgresiwn i awdurdodau lleol "er mwyn helpu i liniaru effaith diwygiadau mewn achosion teilwng unigol".

Croesawodd ef gyhoeddiad diweddar y bydd y cap ar y swm y gall cynghorau ei wario ar Daliadau Tai yn ôl Disgresiwn yn cael ei godi i roi mwy o hyblygrwydd i awdurdodau lleol.

Dywedodd y Ceidwadwr Mark Isherwood bod prinder tai cymdeithasol ledled y DU, ac yng Nghymru'n arbennig, a bod cael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr "yn ymateb dilynol i'r cynnydd mewn rhestrau aros, gorlenwi a digartrefedd cudd sy'n mynd ochr yn ochr â phroblem tanfeddiannu mewn tai cymdeithasol".

Ychwanegodd mai Llywodraeth Lafur y DU, ym mis Ebrill 2008, aeth ati i gael gwared ar y cymhorthdal ystafell sbâr am y tro cyntaf ar gyfer y rheini a oedd yn derbyn budd-dal tai yn y sector rhentu preifat.

Read this in English

Copyright © 2016 BBC. Nid yw'r BBC yn gyfrifol am gynnwys safleoedd allanol.

Mae'r dudalen hon yn ymddangos ar ei gorau mewn porwr cyfoes sy'n defnyddio dalennau arddull (CSS). Er y byddwch yn gallu gweld cynnwys y dudalen hon yn eich porwr presennol, fyddwch chi ddim yn cael profiad gweledol cyflawn. Ystyriwch ddiweddaru'r porwr os gwelwch yn dda, neu alluogi dalennau arddull (CSS) os yw'n bosib i chi wneud hynny.